Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

COLOFN Y BOBL IEUAINC.I

News
Cite
Share

COLOFN Y BOBL IEUAINC.I [Dan Olygiaeth Dyfnallt.] I DEWI SANT. I Ar Ddydd Gwyl Dewi Sant-Sant gwarcheidiol Cymru benbaladr, y mae'r Cymry ym mhobman, gartref, ar was- gar, ac ar led, yn siarad iaith y Sant, ac yn gweddio am ddod yn fwy tebyg iddo yn eu buchedd a'u henw da. Pa- ham y mae cenedl mor ranedig, mor daleithiol ei hymffrost, ac mor enwadol ei chrefydd yn gallu anghofio'i gwahan- iaethau mawr a by chain, ac yn ym doddi i'w gilydd mor hapus ar y cyntaf ddydd o Fawrth 1 Beth sydd yn cyfrif fod enw Dewi, y traddodiad am dano, a'r ysprydoliaeth sydd yn ei hanes wedi suddo mor ddwfn i galon ein cenedl? Paham y mae Gwynedd—y rhanbarth hwnw nad oes yr un eglwys o'i fewn yn dwyn enw y Sant; paham y mae Ynys y Derwyddon-yr Ynys Dywell--Mon, Mam Cymru, y tir santaidcl nad oes awgrym i Dewi erioed roddi ei droed erioed ami, a phaham y mae llanciau'r Eryri, plant y bannau uchel, yn ymryson a'r Deheuwr am gadw yr Wyl Genhedl- aethol 1 Llawer ymgais a wnaed erioed i uno Cymru—drwy y cledd, drwy gerdd dant, drwy fesurau caeth, eithr methwyd chwalu'r rhugfuriau, ond llwyddodd bywyd duwiol Dewi Sant i gynhyrchu ymwybyddiaeth o undod ym mynwes y genedl. Oni roes Eifion Wyn gyweir- nod yr Wyl yn ei gerdd iach ?: Mae'n ddydd uchelwyl yn llawen ddydd, Mewn tre a phentref, pentref a thre', Ac er yn llawer, un enw sydd Ar fin y Gogledd, ar fin y De Ond nid gwladgarwch yw cynnal gwledd A dweyd, Fy nghenedl, fy iaith, fy ngwlad, Glenhewch y byrddau o'r gwin a'r medd, Ac na foed wehelyth i Drioedd Brad. Pan awn ati i dynnu portread cywir, manwl o Dewi Sant, nid oes dim yn ein taro yn fwy na'r ansicrwydd yn ei gylch. Yr ydym yn edrych arno trwy gaddug canrifoedd pell, ac nid yw Hanes gyda'i fflachiadau disglaer, beiddgar, wedi teneuo fawr ar y niwl. Gwlad yr Hud" oedd yr hen enw ar Dyddewi, a gellir dweud mor bell ac y mae ffeithiau pendant, di-droi-yn-ol, yn ein cyn- orthwyo fod Dewi yn ymsymud fel ys- pryd anweledig, neu ddrychiolaeth ramantus ym mroydd Hud a Lledrlth fel un arall o'i gyfoeswyr-Arthur Fawr. Prin y gall yr un gwladgarwr pybyr fforddio bwrw ei droed yn rhy drwm ar ddaear y cyfnod yma rhag iddi rhoi ffordd o dano. Ond er yr ansicrwydd yma gyda golwg ajrfteithiau' pendatif, y niBWe-traddod- iadau aneirif am dano y swyn dewinol sydd yn ei enw dylanwad ei berson anghyffyrddadwy ar ein cenedl; y gwe- adwaith chwedlonol yn ei gylch tystiol- aethau y croniclau a'r beirdd a'r Tri- oedd, ynghyd a'r ysprydiaeth sydd yn ei enw a'i hanes yn tystio yn ddigon an- ffaeledig ni gredwn mai nid breuddwyd gwrach neu ddychymyg ynfytyn yw'r gynhysgaeth ddaeth i fywyd Cymro drwy Dewi Sant. Y dyb gyffredin ym mysg yr haneswyr goreu yw fod Dewi Sant yn byw yn y rhan olaf o'r burned ganrif, ac yn rhan flaenaf y chwechfed ganrif. Dylem, cyn galw o honom ar Ddewi i'r llwyfan, adael i rai o olygfeydd Cymru yn y cyf- nod hwnw symud o flaen llvgaid ein meddwl. Mae'r cyfnod yn un o'r rhai mwyaf tywyll yn hanes Cymru. Ych- ydig yw'r ffeithiau dios sydd wrth law. Er mwyn clirio ychydig ar y niwl sydd o amgylch y Sant, fe daflwn gipdrem frysiog dros Gymru yn y Bumed Ganrif. Nodiad.-Y buddugol yng nghystadleu- aeth y bobl ieuainc oedd Mr Tywi Evans, Barri, ac iddo ef yr anfonir Rhyddiaith Ben Bowen.-Gol. Cj)

Briton Ferry.

Nodion o Abertawe.I

I-? -II Alltwen.

I Penderyn.

[No title]

IFerndale.I

I ¡ LlansamletI ?

Advertising