Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Nodion Min y Ffordd. I

News
Cite
Share

Nodion Min y Ffordd. I GAN EOS HAFOD. I Dywed y bardd: Mae'r haul eto'n gwenu Ar feusydd y nen, Boed gwenau y nefoedd Ar Gymru fach wen." Nis gwyddom ai ar y dydd cyntaf o fis Mawrth y dymunodd hyn, gan mai eithriad yw cael disgleirdeb Huan ar y mis y dywedir am dano Ei fod yn dyfod i mewn fel llew ac allan fel oen." Daeth i mewn eleni yn fwy serchog nag arfer, gan wasgar heulwen ar fryn a phant. Gwneir ymdrech mewn llawer ardal wledig i gadw hen lwybrau rhag myn'd i dir anghof. Hefyd gwneir yn gyfelyb & gwedd hen fwthynau sydd wedi estyn cymaint cysur i deuluoedd drwy yr oesau. Da iawn fod eynnifer yn teimlo sel dros hen bethau, gan tuedd yr oes hon yw pob peth newydd. Na, pwyll- wn, gan fod olion y dyddiau gynt yn fynych ddwyn i gof waith dwylaw a meddyliau ein mamau a'n tadau. Mae son am hen gamfa y cae, rhodfeydd y bugail, a Bwthyn bach melyn fy nhad," yn creu anwyldeb mor dyn am ein hoffder o honynt ag y gwna yr eiddew am furiau y "Bwthyn to gwellt." Lleddfnod fu absenoldeb yr Henadur E. H. Davies, Ynad Heddwch, Bryn- heulog, Pentre, o gyfarfod Gwyl Dewi y Cymreigyddion y cylchoedd hyn. Mae y boneddwr adnabyddus wedi bod yn ffyddlon i ledaeniad y Gymraeg ac i gyrfodydd sydd a'u hamcan at buro y chwaeth a'r ddeall. Arferem ei glywed yn siarad o'r gadair lywyddol yn fyn- ych pan yn mwynhau Cymdeithas y Cymrodorion. Cawn fod ei ferch siriol a pharchus yn fedrus ar chwareu y delyn. Yn anffodus, nid yw iechyd yr Henadur mor ffafriol ag y bu, a blin gan ei edmygwyr am hyn. Mae y 'Dar- ian' yn cael ei chroesawu ganddo. Bob boreu yn awr c&n beraidd yr aderyn du glywaf gyntaf. Mae fel pe'n llawenhau fod y canghennau yn ail wisgo a dail. Llona ei nodau y glyn a'r pant. Mae y Parch. R. B. Jones, Ynyshir, yn arwain cyfarfodydd cenhadol yn nglyn a Lamb Mission yr Ystrad. Cyn- hyddu mae y genhadaeth leol hon, a, hynny yn bennaf drwy weithgarwch Jboneddigesau. Mae amryw o weinidog- ion o bryd i'w gilydd wedi rhoddi eu gwasanaeth. Fe welir bran yn ddyddiol yn croesi o gwm i gwm yn y cylchoedd hyn. Mae ei chlywed yn beth naturiol iawn, gan na chafwyd hyn er's peth blynyddau o'r blaen. Pan ddechreuwyd tori coedydd llydan ddeiliog a deniadol ein llech- weddau a'n glynoedd ffodd y Uu asgell- «g fel na wyr llawer am y boddhad gaed gynt wrth wrando ar eu seiniau per pan ar frigyn llwyn neu goeden. Yn nghapel Jerusalem Seisnig (W.), Ystrad, Rhondda, nos Iau diweddaf, boddhaus i lawer oedd gwrando ar ber- fformiad o'r gan wasanaeth (service of song) gan gor. perthynol i'r addoldy. Arweiniwyd gan Mr Samuel England, a chyfeiliwyd gan Master Spencer Gold- ing. Darllenwyd y rhan lenyddol gan y Parch. T. Roberts, a llanwyd y gadair gan Mr Horace Thompson, M. E., Ys- trad. Enw y gan wasanaeth yw, Mathew Belton's Thanksgiving Ser- mon." Mwynhad i lawer fu gweled llu o helgwn yn myn'd drwy y dyffryn hwn y dydd o'r blaen. Yr oedd yn adgof i rai o'u swn greddfol pan ar ol llwynog y dyddiau gynt ar hyd llechwedd, mynydd a glyn. Pan glywid "tally ho" yn ad- seinio drwy y dyffryn byddai pawb yn effro i glywed llais yr helwr a'i ofal. Byddai yn dda gan ganoedd ail glywed y bryniau yn adfywio fel cynt. Cawd. helfa hwylus yn ddiweddar o gylch Llan- trisant. Blin deall fod gwaeledd iechyd yr Anrhydeddus W. Abraham (Mabon), A.S., yn parhau. Nid yw hyd yma wedi gallu myn'd i addoldy Nazareth, Pen- tre, lie mae wedi canu can y cysegr mor wresog lawer tro, a chymeryd rhan yn ordinhadau ereill yr eglw* ys gref a nod- wyd. Clywaf i'r Cyfarfod Dau Fisol basio pleidlais o gydymdeimlad ag ef yn ei gystudd, a chyfarchiad siriol iddo ar ei ddyfodiad yn ol i'r cylch o'r Fro. Mae i'w obeithio y caiff adferiad llwyr a buan. Sylwaf y neillduir prydnawn y Sul yma a thraw er annerch dynion ar fater- ion crefydd sydd yn bwysig i fywyd. Yn ddiau cyrhaedda hyn amcan da. Ni anghofir gwneud hyn yn y Fro, a theim- lir y lies deilliedig o hynny fel ymhojb man arall lie yr eir at y gorchwyl gyda'r difrifoldeb dyladwy. Y dydd o'r blaen awn heibio i ffyiion y mynydd. Meddyliais wrth ei gweled fod ei tharddiad o dan y lasfron. Bu edrych arni yn adfywiad i mi, gan iddi ddwyn adgof o'r hen ystraeon melys gaed gynt o'i chylch ac wrth gyrchu dwfr pur o honi i'n cartrefleoedd. Daeth i'm meddwl hefyd arwyddair ein Go- beithlu, Dim ond dwr i ni." Gwneir llawer o ymdrech i'n hadgofio o werth dwfr a'i diogelwch. Yr wyf yn gorfod cerdded o fan i fan yn ddyddiol, a synnaf fod cynifer o hen wynebau siriol wedi mya'd o'r golwg yn ystod y gaeaf hwn. Y llwydrew dro yn ol wnaeth niwed mawr gan iddo beri cystudd a marwolaeth. Mae ami i glaf, fel y gwyliedydd am y boreu, yn disgwyl yn hyderus am wenau y gwanwyn. Nid rhyfedd hyn wedi eu caethiwo am fis- oedd i'w hystafelloedd. I bob yli) ddangosiad fe wna cystudd a thylodi flino plant dynion tra pharhao byd. Trueni hyn, gan eu bod yn dwyn cymaint anghysur.

Nodion o Gylch Aberafon. I

I-IPenelawdd.

Gohebiaeth. I

Yn Fan ac yn Amal.-I

INodion o Frynaman. I

I_Bwrdd y Golygydd.I

Cymry Cymreig Abertridwr.…

Dewi Sant a'i Wyl. 2 Mb I

Colofn y Beirdd. I

Advertising