Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Y GOLOFN AMAETHYDDOLI

News
Cite
Share

Y GOLOFN AMAETHYDDOL I GAN BRYNFAB." I Fel yr awgrymodd y Gol. nid oes I dim i'w cnill trwy i Aronfa a minnau I ddadlu ar sefyllfit y gweithwyr j amaethyddol. Mac efe yn gwybod am feistri gwael, a minnau am feistri t gwvch. Lied debyg ein bod ein dau J yn iawn. Nid yw y rhai gwych heb ambell un gwael yn eu plith, er nas gallaf fi daro fy llygad arno yng nghylch fy adnabyddiaeth. Mi a gym- craf vn ganiataol hefyd fod rhai meistri gwael o fewn cylch adnabyddiaeth Aronfa, ond yn sicr fe ddylai liniaru y J cyhuddiad trwy nodi fod y meistri da yn y mwyafrif. Yr wyf wcdi derbyn amryw o lythyrau yn ameu iod sefyllfa y gwcithwyr amaethyddol cyn- drwg ag y dywed cf. Nid oes un o honynt yn nodi nad oes rhagor rhwng meistr a meistr ym mhob ardal. Ond gresyn fyddai pardduo meistr plwyf heb son am sir, oherwydd un neu ddau o hil Pharaoh. Yr wyf yn foddlon cymeryd gair Aronfa heb iddo fynd i'r drafferth o anfon rhestr o'r hiliogaeth galed i mi. Ond pe cawn yr enwau byddai yn ofynol gwneud ymchwiliad manwl cyn y gellid der- byn y tystiolaethau fel rhai terfynol ar y mater. Ceir rhai yn rhy barod i chwilio beiau, ac yn cael cam bob amser. Nid wyf heb wybod fod cyflogau v gweithwyr amaethyddol yn isel iawn mewn rhai siroedd; ond, fel rheol, nid yw y gyflog a delir yn y siroedd hynny mor fach ag yr ymddengys ar bapur. Mae 12S yr wythnos yn rnai o siroedd Cymru yn well na phunt ym Morgan- wg a Mynwy. Beth am y gwahaniaeth yn yr ardrethi a'r gost o fyw? Yn y parthau gwledig nid yw yr ardreth hanner y swm a delir ym Morganwg, ac ni wyr gweithwyr ein sir ni am y cyfryngau sydd mewn siroedd eraill i ysgafnhau traul cynaliaeth. Y geiniog uchaf am bobpeth yw hi yma, ond nid yw felly y tuallan i gylchoedd y tan a'r mwg. Ym mwyafrif Siroedd Cym- ru nis gall yr amaethwr gael y geiniog uchaf am ddim a gynhyrcha. Y "dyn canol" sydd yn myn'd a'i frasder. Mac ei dda a'i ddefaid, ei gaws a'i ymenvni ei ddofednod a'i wyau, yn myn'd trwy ddwylaw y "dyn canol." "Nis gall yr amaethwr unigol ddod a'i wahanol nwyddau bob wythnos i'r lie y caiff y geiniog uchaf am danynt. Rhaid iddo ef werthu i'r "dyn canol," a hynny yn ami am y pris a welo hwnnw yn dda ei roddi. Ond os yw y meistr o dan anfantais oherwydd gor- fod gwerthu i'r "dyn canol," mae y gweithiwr amaethyddol, fel pob gweithf^r arall, yn cael manteision dirfawr o dan gysgod hwnnw yn y siroedd He mae yn teyrnasu. Cym- harer prisoedd caws ac ymenyn, dofed- nod ac wyau ym marchnad Caer- fyrddin a'r hyn a delir am y cyfryw yn ardaloedd y gweithfevdd. Cyfrif- wch nifer y siopwyr o bob math sydd yn byw yn wveh ar y gwahaniaeth sydd rhwng pris cynhyrchydd y nwydd- au a'r pris a delir am danynt yn Aberdar a'r Rhondda, heb son am leoedd eraill, a chwi welwch nad yw y gyflog uchel yma yn myned yn llawer pellach na'r gyflog gymharol isel yn y lleoedd gwledig. Nid wyf yn ameu dim ar gywirdeb ystadegau cyflog y gweithwyr amaeth- yddol, ond ni roddir cyfrif am y gwa- haniaeth sydd rhwng swllt a swllt yn y gwahanol siroedd gyferbyn a chael deupen y llinyn yng nghyd. Nid yw y ffigyrau a gyhoeddir fel ffeithiau yn werth dibynnu arnynt yn amI. Mae y sawl fu yn eu casglu mor ddiwybodaeth ag Aronfa a minnau. Cymerant bethau yn ganiataol yn rhy ami, yn lie chwilio am ffynonellau y gwirionedd. Beth fu hanes y Ddir- prwyaeth Freninol fu yn chwilio i sefyllfa Amaethyddol Cymru dros ugain mlynedd yn o!? Yr oedd cym- aint o dda! ar y tystiolaethau a roddwyd o flaen honno ag sydd ar geiliogod y gwynt, a phrofwyd mai di- werth fu yr holl drafodaeth pan feth- odd y Dirprwywyr gytuno ar eu had- roddiad, a diweddodd y cyfan mewn mwg. Yr un peth yn union yw syl- wedd yr ystadegau a roddir mewn llyfrau ar sefyllfa meistri a gweithwyr amaethyddol. Nis gellir cymharu sefyllfa Cymru i gyd wrth sefyllfa sir neu ddwy, ond pan fydd eisiau rhoi hergwd i'r ffermwr druan dyna a wneir. Gellid meddwl fod amaethwyr Cymru yn gyfoethogion. Mae rhai o honynt yn ddigon siwr, ond beth am y gweddill a'r mwyafrif hefyd? Beth pe dywedwn nad oes un dosparth yng Nghymru yn byw dan fwy o an- teision na'r amaethwyr. Hyd y ddwy flynedd ddiweddaf ymladd o hyd ag anlwc fu hi arnvnt am dvmor hir. Pan oedd ffermwyr Cymru yn gorfod gwcrthu eu gwlân am bum ceiniog y pwys, eu bustych a'u defaid am chwecheiniog y pwys, yr oedd eu hardrethi yr un faint o hyd, a'r trethi yn codi y naill flwyddyn ar 01 y Hall, a disgwyliai eu gweithwyr gael y geiniog uwchaf am eu gwasanaeth. Pan byddai y gwair a'r yd ar y meusydd, a'r gweision yn hanner segur oherwydd yr hin wlyb, y tal uchaf oedd y gofyniad ar y ffermwr. Nid oes neb yn ddigon gonest i gyd- nabod yr anhawsder sydd gan y fferm- xvr i godymu ag ef. Os oes rhai yn medru gwenu yng ngwyneb anffodion nas gall neb oddiwrthynt, mae mwy o lawer yn gwneud dim amgenach na "dal y lygoden a'i bwyta," ac nid yw y rhai sydd yn bwyta y lygoden cyn el dal mor brinion ag y tybia llawer. Beth yw yr achos fod cymaint o amaethwyr yn "mynd yn fcthdalwyr ? Ai talu rhy fach o gyflog i'w gweith- wyr svdd yn achosi hynny? Nid oes ond ychydig wythnosau oddiar pan y gwelais hanes un o amaethwyr parch- usaf Bro Morganwg yn Ilys methdal- iad. Mae yn Gymro i'r earn, wedi llanw swyddi ar wahanol Fyrddau, ac wedi bod yn gadeirydd Cymanfa ei enwad, ond eto yn gorfod gwynebu y llys i gyfaddef nas gallai gael deu- pen y llinyn yng nghyd. Yr oedd yn cyHogi amryw weithwyr, ond ni chlyw- ais neb yn dweyd mai talu gormod o gyflogau iddynt fu yr achos o'i feth- iant. Beth yw yr achos fod codi yd yn y wlad hon yn myn'd yn Ilai llai bob blwyddyn? Onid y cyflogau sydd wedi codi byth ac hefyd pan oedd prisiau yr yd yn dod i lawr? Sut y gall y ffermwr dalu mwy o gyflog pan mae y tramorwr yn gwcrthu nwyddau wrth ei ddrws yn rhatach nag y gall ef eu cynyrchu. A raid i'r ffermwr ofalu mwy am craill nag am dano ef ei hun a'i deulu? Dangoser i mi sut mae sicr- hau Ilwyddiant i'r amaethwr, a minnau a sicrhaf lwyddiant i'r gweithiwr amaethyddol. Y boenedigaeth fwyaf i'r amaethwyr heddyw yw ceisio cadw gweithwyr, gan eu bod yn medru ennill gwell cyflogau a llai o oriau gweithio nag y gallant hwy fforddio dalu iddynt. Nis gellir gwasgu y gweithwyr amaethydol heddyw pan mae y byd mawr llydan yn agored iddynt, ond mae y ffermwyr yn gorfod gwasgu eu hunain yn ami i grynhoi eu cyflogau. Nid oes genny-f fi un amcan sut mae gwella sefyllfa pethau. Nid yw Aronfa yn ddigon ffyddiog ym Mesur Tir Lloyd George, ond os oes ganddo ef gynllun i hyrwyddo milflwyddiant meistri a gweithwyr amaethyddol, byddaf yn barod i gydweithio ag ef.

O Dir y Gogledd.I ù Dlr y…

O'r Wy i'r Dywi.

Cynllun Gweinidogaethol y…

.i Dim Cobaith, meddid, i'r…

Cwmgwrach. I

[No title]

Advertising