Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
HYSBYSIAD. YSCOL Y GWYNFRYN AMMANFORD. SefytUwyd 1880. PRIF ATWRO J. Gwili Jenkins, M.A. Anfoner am y Tolerau a'r Rhaglen a banse y Llwyddiant at y Prif Athro.
Advertising
W. Williams & Co. JEWELLERS, lie., 29 Castle St., Swansea. specialities: l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hofl, dewch at y Oymro Os am heirdd fodrwyau aor, Oriadaron fto awrleieiau, Gemau a ohadwynan olaer: YBpeotol gelfydd, hin-fynegydd, Gwres-fesurydd, owmpawd mot Geir gan Williams, Heol y Cartell Trowcb i mewn i wel'd ei stfir.
Y CYNHWYSIAD.I
Y CYNHWYSIAD. I ecolofn Llafur Tud. 1 Nodion o Abertawe 1 Y Stori-Llwybrau'r Sarff 2 Taith i Lydaw 2 Colofn y Plant 3 John Gower y Bardd 3 Oddiar Lechweddau Caerfyrddin 3 0 Dir y Gogledd 3 Nodiadau'r Golygydd 4 Pregeth Gwili „ 4 Colofn y Bcdbl leuainc 5 -Cadw Gwyl Ddewi 5. 55 "6 Ar y Twr yn Aberdar 7 "Gohebiaethau 7 Adolygiadau 7 'Colofn y Farddoniaeth 8
COLOFN LLAFUR. -I
COLOFN LLAFUR. GAN "PEREDUR." Traethawd Buddugol. Ychydig amser yn ol crybwyllwyd gennym am wobr roddedig gan Gyngor Celf a Llafur Aberdar am y traethawd goreu ar Y moddion goreu i wneyd i ffordd ag anundebiaeth." Nos Iau di- weddaf, yng nghyfarfod misol y Cyngor, darllenwyd beirniadaeth Mr Tom Jiolfti, M.A., Rhondda, ar y cyfansoddiadswi a gyflwynwyd i'r gystadleuaeth, y rhai oeddynt 28 mewn nifer. Y buddugol oedd Mr. Jack Thomas, ysgolfeistr cynorthwyol yn ysgol y dosbarthiadau uchaf yn Aberdar. Cyflwynwyd y wobr 0 ddwy gini iddo gan y llywydd, Mr John Davies. Gofynnwyd i Mr Thomas ddarllen ei gyfansoddiad. Hefyd dar- llenwyd dau gyfansoddiad arall oeddynt wedi eu rhestri yn y dosbarth blaenaf, Bef eiddo Mr E. Stonelake a Mr D. E. -Davies, Aiberaaaan. A i.-YAe yjtiLl*^on- nym vmled fod cyfansoddiadau y Meistri Evan Willam Davies, Hirwain Road. a W. J. Edwards, Cardiff Road, Aber- aman, wedi cyrraedd safle anrhydeddus yn y gystadleuaeth. Y mae gobaith am ddyfodol llwyddiannug i undebiaeth lafurol yn Aberdar tra bydd cynifer o ddynion ieuainc yn perffeithio eu hun- ain mewn gwybodaeth o'r egwyddorion ,sylfaenol hynny sydd mor hanfodol i lwyddiant gwirioneddol. LlongyfarcJi- wn Gynghor Celf a Llafur Aberdar ar eu gwaith mewn cysylltiad a'r gystad- leuaeth yma. Diolchwyd yn gynnes 1 Mr. Tom John am ei feirniadaeth feistrolgar a boddhaol. Y Naw Gwrthodedig. Parhau mewn diddordeb y mae hanes amgylchiadau y naw arweinydd llafur laniodd yma o'r Affrica. Ni welwyd -erioed yn Hyde Park, Llundain, y fath dyrfa o bobl a ddaethant yn nghyd i Brando ar annerchiadau y dynion hyn 8ul o'r blaen. Rhydd hyn brawf .-dlgnol fod meddwl gweithwyr a dinas- yddlOn y wlad hon wedi ei gynhyrfu yn fawr n yr amgylchiadau sydd wedi P r^ alltudiad y dynion hyn o'u gwlad. Mr* Tom Mann. Dydd Sadwrn diweddaf cychwynodd yr arwr llafurol Tom Mann ar ei daith 1 Ddeheudir Affrica. Y mae yn myned gyda'r bwriad o galonogi a chydgrynhoi yr Undebau Llafurol sydd wedi derbyn y fath driniaeth anghyfiawn oddiar law y Lywodraeth Gyfalafol. Rhoddwyd iddo fynediad ymaith brwdfrydig iawn Yr oedd tua 5,000 o gyfeillion a dymun- wyr da wedi dyfod i'r orsaf i'w hebrwng. Siaradwyd yn galonogol a brwdfrydig iawn gan Ben Tillett, Victor Grayson, a George Lansbury. Dywed- odd Ben Tillett, Os lladdent Tom Mann yn Affrica, yr oedd ereill a gymer- ent ei Ie." tCwys yn Erbyn Perchenogion v Llong. I .i p mae w^di ei ehodi yn erbyn ,? ?? gwys wedi ei chodi yn erbyn .CwlDni y LIong a ddaeth a'r naw dyn vrT ^1^ 1"0^011 0 Affrica. Gwneir ™h!r ajJ' -bosibl dwyn achwy„iaday^erjb™ ?j Dalaeth Unedig yn ? Affrica am ei gwaith yn alltudio a charcharu y dynion 'hyn heb yn gyntaf eu profi yn euog 0 fod yn ddrwg-weithredwyr. Streic Eto. I -deIh^1U/Wr gwledig yn awr yn ,dechreu cael ei lanw gan ysprydiaeth y streic. Yn N-yreinbarth Lloegr, ac ar dueddau vfjr; « nafur?yr tirl w,di mae v hYumridadu eng??" ?w??? ??? 10Br; huriau ei weithwyr  .y-ythn„8,yDg^rvn haddr d^ codi „ dt;" i es wyliau yn wythnosol. Gofynna y gweithwyr sydd yn y dosbarthiadiu cylchynol godiad o 2s. yr wythnos er eu codi i'r un safon a gweithwyr y brenin. Gwrthoda y ffarmwyr y cais, gyda'r canlyniad fod y gweithwyr wedi gwrth- od gweithio. Yn dilyn hyn, dialedda y ffarmwyr perchenogol, drwy orfodi y teuluoedd i fyned allan o'r tai. Ffordd y Cadw. Dywedir fod tua 1,000 o weithwyr yn fisol yn ymuno ag Undeb y Llafurwyr Tirol yn y cymydogaethau amaethyddol dwyreiniol hyn, peth na welwyd er ys canrifoedd o'r blaen. Y mae y ffaith fod ymwybyddiaeth o ormes ac anghyf- iawnder yn cymeryd meddiant o ddyn- ion yn y ffordd hyn yn arwydd sicr fod y gydwybod gymdeithasol yn raddol fywhau, ac y mae hyn yn achos o galon- did mawr i ni ac i bawb sydd yn awyddu am welliant cymdeithasol. Mr Ramsay Macdonald yng Nghaer- jj dydd. Bu y gwr enwog uchod yn annercn cyfarfod llawn yn Hall Cory nos Sul di- weddaf o dan nawdd Plaid Annibynol Llafur. Dywedodd fod y Blaid Lafur wedi gwneyd gwaith caled a phwysig yn y Senedd. Yr oedd Syr E. Carson ac Arglwydd Roberts yn bygwth gwrth- ryfel yn erbjTi "Home Rule," ond ni fydd ein gwrthryfel ni yn seiliedig ar wleidyddiaeth na rhagfarn grefyddol. Yn hytrach bydd yn orffwysedig ar hawliau a chyflwr y werin. Nod ein gwrthryfel ni fydd taflu oddiar ein cefna y bobl sydd, yn awr yn honni mynnu rhyddid i Ulster. Y mae gen ych chwi yn awr yng Nghaerdydd engraifft o'r hyn wyf yn feddwl. Y mae gennych Gastell Caerdydd, pob careg o hotio ei.-ch^wau ynghyd gan wt.ad dynol. Y mae lladrad oddiwrth y boM, tlodi y bobl, a'u dioddefaint yn ym- ddangos yn ardderchog yn yr adeilad hwn. Nid yw y teulu sydd yn ei berchenogi wedi gwneyd diwrnojd gon- est o waith erioed, nac wedi ychwanegu gwerth chwech cheiniog at gyfoeth y wlad o gwbl. Y mae ei enw yn destyn gwawd i'r efrydydd hanesyddol. Eto i gyd yr oedd mewn cyflwr i allu lladrata, ac yr oedd yn lladrata yn ddyddiol. Y mae miloedd o bobl yn cerdded yr ys- trydoedd yn cfeisio cael dau pen i'r llinyn yn nghyd, ac yn cael eu gwasgu i'r llawr drwy eu bod yn cae l eu hys- beilio i gadw y Castell hwn. Dyma, ynte, fydd ein gwrthfyfel ni, gwneyd i ffwrdd a'r gyfundrefn bwdr sydd yn noddi y pethau hyn.
IRhondda.I
I Rhondda. I Marwotaeth Boneddiges. I Gofid cofnodi marwolaeth. wedi byr gystudd, y chwaer deilwng Mrs. Eliza- beth Phillips, Pimer, ger Penygraig. Cymerodd yr amgylchiad pruddaidd le yn ei phreswylfod dydd Mawrth, y 17eg cynfisol. Gweddw ydoedd i'r diweddar Mr William Phillips, ac hyd ei blynydd- au fu 68. Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys Fethodistaidd y lie, a bydd yn golled i'r eglwys a chylchoedd ereill ei myned o'n plith. Rhwng ei hymadaw- iad a'i phriod rhai misoedd yn ol, mae yn ergyd calonrwygol i'w hunig ferch, sef Miss M. Phillips, R.A.M. Dydd Llun canlynol aed a'i gweddillion i or- phwys yn eu hir gartref i Gladdfa Addoldy M. C., Rhiwceiliog, ger Pen- coed. Ar yr achlysur gwasanaethwyd gan y Parchn. D. Overton (A.), Dinas Gwynfryn Evans (A.), Penygraig, a Ficer Llanfair-ar-y-Jbryn. Y galarwyr oeddent Miss M. Phillips (merch), Mr Henry Williams (brawd), Treherberfc; Mrs. 'loan Evans (chwaer), Cymer; Mrs. R. Richards (chwaer) Mr a Mrs, William Gabe, Treherbert: Mrs. Phil- lips a Mrs. D. Williams, v ddwy olaf o Benygraig. Collwyd dagrau gan berthynasau a chvfeillon wrth ystyried umgrwydd Miss Phillips ar ol rhieni fu [ mor feddylgar a thyner o honi. Gwnaethant eu goreu dros wrteithio ei meddwl i gylch defnyddiol, a gwelir yn amlwg oddiwrth y ilythyrennau sy'n nglyn a'i henw iddynt lwyddo yn eu hamcan. Mae y preawylwyr yn teimlo eisieu presenoldeb y ddau, gan eu bod yn gymydogion hawddgar a thangnef- eddus. EOS HAFOD.,
[No title]
Cyflwynir dydd-lyfl-all y diweddar Henadur Bird, Caerdydd, i Lyfrgell Caerdydd. Ynddynt hwy y eaed defn- yddiaii hanes Caerdydd a vmddaneos- odd yn ddiweddar yn y S.W.D.N.
Nodion o Abertawe
Nodion o Abertawe Rhaglen gerddorol oedd eiddo Cym- deithas Lenyddol y Trinity (T.C.) nos Fercher, Mawrth 4ydd, wedi ei threfnu gan y Bonwr W. J. Jenkins. Datgan- wyd unawdau gan y Fonesig Morfudd Williams, a'r Bonwyr Sydney Charles, J. Powell, J. Morgan, T. Jones, a W. J. Jenkins. Adroddwyd gan y Fonesig Eidwynne Bowen, a'r Bonwyr Wilfred Morgan a W. J. Jenkins, a chafwyd deuawdau gan y Boneddesau Morfudd a Ada Williams a'r Bonwyr W. J. Jenkins a T. Jones. Cafwyd unawd ar y berdoneg gan y Fonesig Gladys M. Jones. Cyfei!iwyd gan y Fonesig Miriam O. Jones, a'r Bonwr B. Watts Jones yn y gadair. Cymdeithas fyw iawn yw hon, a gwneir ganddi waith rdderch- og ymh'ith y bobl ieuainc. Dathlu Gwyl Dewi.-Fel yr aw- grymwyd yn y rhifyn blaenorol, hir gofir dathliad Gwyl Dewi eleni yn Abertawe. Pe rhoddid disgrifiad mari- wl o'r hyn gymerodd le yn mhob man yn y cylch yma, byddai yn ofynol cael holl ofod y "Darian i'r perwyl, a chan na ellir disgwyl hyny rhaid bodd- loni ar fras ddarluniad. Yn ddiameu yr argraph ddyfnaf adewir ar y meddwl fydd yr hyn wnawd ymhlith y plant yn yr ysgolion, a chyngerdd y plant nos Lun yn neuadd fawr y dref-yr Albert Hall. Cyn myned at honno teg ydyw cyfeirio at yr hyn gymerodd le yn Ysgol y Merched yn Manselton, sef trefnu cys- tadleuaeth farddol Yn agored i ysgol- orion y safonau uchaf am y penhillion goreu i "Wyl Ddewi," yn Saesneg neu Gymraeg, am yr hyn y cynhygiwyd dwy wobr. Cipiwyd y brif wobr gan benhillion Saesneg, a chafodd pen- hillion Cymraeg yr ail, sef eiddo i -&enetU ieuanc dalentog sydd yn cipio ami wobr y dyddiau hyn yn yr Eis- teddfodau Ileol am ganu, sef Beatrice M. Anthony, o Manselton. Ni chaf- I wyd ond diwrnod i gyfansoddi y pen- hillion, ac yn wyneb y ffaith yna, mae I ei ymdrech yn un lied ganmoladwy, a roddir hwy yma i'w chalonogi: Pob un sy'n cablu enw'r sant I Ac enwau pawb o'i blant, I A gaiff ei ladd fel Edwyn gynt Ar ddydd Gwyl Dewi Sant. I Mac pawb yn caru Megan fwyn, Ac Eos Dar o fri, J I Y maent yn dod ar delyn fad I swyno'n calon ni. Mae cyngherdd gyda ni y plant Ar nos Gwyl Dewi Sant, A disgwyl Megan yno'r y'm 1 chwareu ar y tant. Dymunol fyddai gweled rhagor o gvs- tadleuthau cyffelyb yn y gwahanol ¡ ysgolion er dihuno talentau y plant a I meithrin serch tuag at lenyddiaeth yn eu mynwesau. I Cyngerdd fyth-gofiadwy oedd hono yn yr Albert Hall nos Lun, cor o blant 500 mewn nifer yn canu hen alawon anwyl ein gwlad ac yn swyno y gyn- ulleidfa enfawr-dr ddwy fil 0' bobl wedi eu meddianu gan frwdfrydedd gwladgar. Na, ni fydd y Gymraeg farw tra y pery swyn yr hen alawon i ddenu cynifer o'n cydwladwyr i dreulio dwy awr i'w gwrando. ar: dafodau ac yn lleisiau ein plant bychain. Hon oedd y bedwaredd gyngerdd o'r fath drefnwyd gan bwyllgor yn cynrychioli Cymrodorion Abertawe ac athrawon yr ysgolion elfenol, a llywyddwytf y tro yma gan Oruchwyliwr Addysg y dref, y Bonwr T. J. Rees, B.A. Arweinydd y cor oedd y Bonwr W. Penfro Rowlands, Treforis, a'r organydd, y Bonwr D. J. Lloyd, L. T. S. C., Treforis, a Megan Glantawe yn canu'r delyn: Yr oedd y pwyllgor wedi trefnu rhaglen ddi- ddorol dros ben, a chafodd pob un groesaw gwresog gan y gynulleidfa. Cyfranwyd at y rhaglen gan Fech- gyn Treforis; dadl, Merched Bryn- hyfryd; Alawon Cymreig, Merched Manselton; Alawon gyda'r delyn, dau barti, a chan blant Pentrepoeth. Caf- wyd adroddiad medrus a galluog gan y Bonwr D. Clydach Thomas, sef Araeth Llewelyn." "Caneuon Gwer- in gan Fechgyn Hafod, dan ar- weiniad y Bonwr Arthur E. Jenkins. Alawon gan Fechgyn Brynhyfryd, hefyd canwyd unawd newydd, Mae Cvmru wedi deffro," gan y Bonwr G. Hill, Treforis, o gyfansoddiad y Bon- wr J. Rees, L.T.S.C., CwmbwTla, cyflwynedig trwy ganiatad i'r An- rhydeddus D. Lloyd George. Yr oedd nifer o'r merched wedi eu gwisgo yn yr hen ddull Cymreig, pais a betgwn, hetiau uchel, ac ereill mewn hetiau gwellt tebyg i wragedd Penclawdd. Cipiwyd y llawryf yn ddios yn y gyngerdd hon gan ferched lleiaf Manselton yn canu yr hen gan werin, "Y Glocsen Fach," gyda'r delyn. Dychmygwch o ddeuddeg i bymtheg o ferched bychain mewn pais a betgwn, a hetiau gwellt PeAclawdd, y mwyafrif o honynt yn rai bitw bach o bump i naw mlwydd oed yn canu yr hen gan ddigrif ddoniol mor naturiol ac hunanfeddianol a phe ar yr aelvryd gartref, a dwy fii o bobl a'u llygaid yn nghlwm arnynt, a dyna ddarlun heria bwyntil yr arlunydd mwyaf cel- fydd ac ysgrifbin y mwyaf cywrain i wneud cyfiawnder ag ef. Llwyddiant ellir ysgrifennu hefyd I uwchben gwledd y Cymrodorion nos Fawrth. Eisteddodd tua dau cant wrth [ y byrddau, y nifer mwyaf yn hanes y mudiad yn Abertawe. Llywyddwyd yn ddeheuig gan ein cymrawd doniol John Meredith, Treforis, cadeirydd y Cymrodorion. Gwestwyr y 'wledd oeddynt Maer Casnewydd ac Is-faer Abertawe, D. Davies, golygydd y "South Wales Daily Post." Gofod a balla i enwi y bonwyr adnabyddys oedd yn bresennol; rhaid boddloni ar ddweud fod pob cylch yn cael ei gyn- rychioli a phawb yn mwynhau y danteithion a'r areithiaii yn ddieithri- ad. Cyduna pawb yn unfarn mai hon oedd y wledd mwyaf llwyddiannus hyd yn hyn. Nodweddwyd yr amgylch- iad gan arawd o hyawdledd a choeth- der tuhwnt i'r cyffredin o eiddo y Parch. T. C. Evans, Ficer newydd Eglwys Sant Mathew. Datganwyd penhillion gyda'r delyn gan y Bonwyr D. Edgar Thomas, Pontardulais, a Arthur M. James, priod y delynores- Megan Glan Tawe, a chanodd y Bon- wr D. Morris Evans, Treforis. Dyma rai r penhillion ddatganodd y Bon- wr lM. James o waith Talnant- Mwyn yw can y fronfraith gu, A'r deryn du pigfelyn, Mwyn yw moli meinir ddel Ceridwen ffèl aurgudyn, A mwyn yw seinio Dewi Sant Ar swynol dant y delyn. Gwych yw gwedd y gwanwyn hardd Pan dardd y blodau i wenu, Gwych fydd cusan heulwen ha' 'Nol gaua fel eleni, Ac ar giniaw fe geir hwyl Fel hyn ar Noswyl Dewi. Dic Shon Dafyddion gwlad a thre Yn ddible a ddarogant, Na cheir un budd trwy gadw'r iaith Na maeth na dim gogoniant, Ond y Gymraeg a fydd mewn bri Tra rheiny'n ebargofiant. Dringo llethrau llithrig fryn A fyn rhai dynion mentrus, Ac ar wastadedd rhai gir fod Gwnant fyn'd a dod yn garcus, Ond can a thelyn fynnaf fi A chwmni dynion dawnus. Bu rhai'n pryderu darfu'r haul Ymadael a 'Bertawe, Ei fod ef wed: colli ei dro, Neu syrthio i lawr i'r gwagle, Ond wele'r gwalch yn newydd sbon A'i wenau Hon yn mhoblle. Tra gwyliedydd ar y twr A dwr yn Abertawe, Tra fo bydoedd maith diri' Yn'crogi yn y gwagle, A thra bo cnau yn dod ar gyll Ni chyll ein Dewi ei safle. Dywedodd ysgrifenydd y gyngherdd Gymraeg yn Eglwys Saesoneg y Wes- leaid nos Sadwrn, Chwefror 28ain, beth haedda ei gofnodi yma: The Welsh people have captured this Church, and we have already decided to hold an Eisteddfod in May." Dyw- edodd hyna yn gyhoeddus oddiar y llwvfan o flaen 700 o bob!. Awgrym- iadol, onite? TALNANT. I
Ystalyfera. - I
Ystalyfera. I Prydnawn a hwyr y Sabboth di- weddaf, y 7fed cyfisol, cynhaliwyd dwy "rehearsal" ganu yn Nghapel Gr^rsalem gogyfer a'r Gymanfa Ganu Llun y Pasc, pryd yr oedd yr arweinydd cyflogedig, Mr Dan Griffiths, Calfaria, Aberdar, yn bresennol. Dyma ymweliad cyntaf Mr Griffiths a'r cylch yma, ac mi gredaf y bydd yr ymweliad hwn yn fantais i ganiadaeth gysegredig yn y dyfodol. Mae profiad Mr Griffiths yn fantais fawr iddo fel arweinydd Cymanfaol. Cenid y tonau yn naturiol ac mewn gwir vsbryd addoliad. Yr ydym fel Bedyddwyr y cylch pwysig hwn yn edrych yn mlaen at Gymanfa fydd yn fendith ysbrydol i'r ardal. Ystalyfera. W. GEORGE. J i Ystalyfera. 1
Nodion o Gylch Aberafon.
Nodion o Gylch Aberafon. Dywedir fod tebygolrwydd y cych- wynir Glofa y Cynon ar fyrder. Nis gellir coelio pob sibrwd, ond daeth y newydd allan y cychwynir yr wythnos hon, ac y byddai lie i ryw bedwar cant o lowyr ar unwaith. Gobeithiwn y gwireddir hyn. Bu yn adeg bwysig yn Port Talibot ac Aberafon yr wythnos diweddaf, gan fod yma geisiadau am drwyddedau newydd- ion. Bu y mater o flaen Eglwysi Anghydffurfiol y Cylch, a phenderfyn- wyd anfon cynrychiolwyr i fyned ger. bron yr Ynadon i wrthwynebu y ceis- iadau. Bu holl weinidogion y cylch yn ymdrechol iawn yn eu gwrthwynebiad, a buont yn llwyddianuB, gan i'r Ynadon wrthod y ceisiadau newyddion. Bu yr hen chwaer hirhoedlog Mrs. Griffiths, Corlana, farw yr wythnos ddiweddaf wedi gweled 95 o flynyddau ar y ddaear. Perthynnai i rai o hen drigolion y cylch. Yn ddisyfyd iawn yr ymadawodd Mr John Thomas, I nysy- gwas, Cwmafon, a'r fuchedd hon. Yr oedd yn ei waith dydd Mercher yn Ngwaith Alcan Cwmafon, ond cyn dydd Iau, wedi cefnu ar y bywyd hwn. Yr oedd yn ddyn parchus iawn. Colled neillduol i gymdeithas yw ymadawiad cyfeillion o'i nodwedd ef. Yng Nglofa Baldwin, Bryn, dydJ Gwener, cafodd y gyrrwr ieuanc Evan Davies niweidiau brofasant yn angeuol iddo. Yr oedd wedi cwblhau ei waith am y dydd, ac yn barod i fyned allan, ond daeth trams i'w gyfarfod. Gedy weddw ieuanc ac un plentyn, a llu o berthynasau a chyfeillion i alaru ar ol. Cyfaill tawel a ffyddlon oedd efe. Nid oedd ond 25 oed, a chydymdeimlir yn fawr a'r weddw yn ei thywydd blin. Llwyddiant neillduol sydd ar Air y Cymod yn Ebenezer (B.), a gwedd lew- yrchus ar yr achos' yn y lie. Y Sab- both diweddaf bedyddiwyd 10 o chwior- ydd ieuainc gan y gweinidog, y Parch. J. J. Richards. Cynhelir cyrddau bob nos o'r wythnos, a rhoddir cyfleustraïr brodyr ieuainc i ddatblygu eu gallu- oedd yn y Gymdeithas Ymdrechol a gwahanol gyfarfodydd yr eglwys. MAB Y MYNYDD. I
Nodion o Rymni.I
Nodion o Rymni. I Tan gwladgar cofio Dewi Sant sydd i'w deimlo yma yr wythnos hon a'i effeithiau yn angherddol. Nos Lun yn Gosen mewn cysylltiad a'r Cymrodorion cafwyd noson hwyliog a melus. Arwres y cyfarfod oedd y Gymraes fyd-enwog Eluned Morgan, ei thestyn oedd "Arwyr Knyddid." Traethodd am dros awr i gynulleidfa luosog o oreugwyr y lie a'r cylch. Ac nid gormod dweyd fod coethder ei iaith tlysindeb ei thraddodiad, a'r diddordeb dwfn a gymerasai yn ei thestun wedi llwyr ennill y dorf. Cad- eiriwvd gan y Parch, Fred Jones, B. Do) yn ei ddull fraeth a gogleisiol arferol, a chafwyd ganddo anerchiad pwrpasol iawn ar ein Nawdd Sant. Canwyd y delyn gan Mr Samuel Powell, gynt Rhymni Boy, a chan- wyd penhillion yn hynod gymeradwy gan y Cyfaill R. W. Ellis, Maesy- cymer. Canwyd penhillion hefyd gan Dewi Carno, a'u llond o arabedd chwaethus. Wedi y diolchiadau arferol, terfynwyd yn ngwres yr An- them Genedlaethol, Dewi yn arwain. Nos Fawrth yn y Bryn (C.M.), cafwyd cyfarfod o'r un nodwedd, a llu mawr yn gwasanaethu, ond nid oedd Eluned yno, ac felly nid oedd y tan gwladgarol yn gymaint ag yn y cyfar- fod arall. Nos Sadwrn cawsom gyfarfod lluosog yn y Bryn o nodwedd arall, a dynion o fri yn gwasanaethu, sef mewn cysylltiad a Llyfrgell Fawr Genedlaethol Cymru. Mr D. Lleu- fer Thomas, Mr Henry Price, M.A., H.M., a Professor Joseph Jones. Aberhonddu, oedd y prif siaradwyr. Dangosasant werthfawredd y sefvd- liad tuag at ychwanegu addysg a gwybodaeth gyffredinol i Gymru. Amcan arbenig y cyfarfod ydoedd agor trysorfa gynorthwyol er gwneyd i fyny y swm gofynnol i glirio'r adeilad- waith. Pasiwyd yn unfrydol ein bod yn gosod ein ysgwyddau dan y baich. Cadeirydd medrus y cyfar- fod ydoedd y boneddwr enwog, Mr J. W. Price, M.E., yr hwn sydd yn orbarod, law a chalon, gyda'r SN'mt;d- iad hwn fel pob symudiad da arall yn ein tref.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID OOFALUm AM Y IIMAl NYN. Esgeulusdod 0 umlhyw niwsd Irtoi hyn drwy ddamwain "I" glefyd nlf Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddyginiaetll Etleitll.ll. Er mwvn ysgol Parysi rhalll at ymarlow mown pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIAMUi A SICR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn asel al gydnabod Si-KiKrv-SSS sicr a diogel ddarganfyddwyd erioed at Clwyfau, Aychollion, Tardd- lantau y Cnawd. Eczema, Craoh I Nldd yll Mhenau Plant. Liosgiad. au, Vllal. dlnlu, Scurvy, I L lug r ad Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, Cout, cymatau P"nus, Rhoumat- ????n „ oedd pen fy mlea- (?Sn KS! tyn '°?° -i.i ?,?' ?ed GwelIhaodd ?".r'. B.i. ??!h..t ?y?urfu?. at CLWYFAU ar COESAU. MUoedd yn tystlo I'w Effeithiau RhyfeddoL RHODDWGH BRAWF ARNO Gwellhad sydd sler Ar werth ?M' bob Chemi.t A Stor. 1/H. Gofyner am Comer* Balm. My? wch weled enw Jac? M?;' bot. blwch. Heb hyn vWir danfoner ei gwerth (; 0 °?Sttmp.) at Jacob Hughes, Mlnul..turln. ChHI. 18t, M.P.S., L.D.B., Panarth. ,cCSarJ3illRl». CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. F. Welch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare allowed to PurohaaefB upon mentioning this Paper. Telir Pris Teen prynwyr yma ac yn ol ond iddynt enwi TARIAN Y Qwbithiwb. YN AWR YN BAROD. 4Social Problems in Wales.' 183 Pages 1/- net; Post Free 1/3. Addresses delivered at the United School of Social Service for Wales." A book every Patriot should read. Send xoitlvout delay to the Publithert MORGAN & HIGGS, Publishers* Printops, sto., 18 Heatblleld, Street, SwantM.