Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CYNGKHES LLAFUR. - I

News
Cite
Share

CYNGKHES LLAFUR. I Yr wythnos ddiweddaf cynhaliwyd i Cyngrhes Fiynyddol Liatur yn Birming- ham. Y Llywydd ydoedd Mr Harry Gosling, ac yn dilyn wele rhai pigion o'i araith agoriadol. Yr oedd y gweithwyr wedi rhoi popeth a feddant heddyw i amddiffyn eu gwlad, a hawliant ran helaethach o ffrwyth a chynyrch y wlad yn y dyfodol. Yr oeddynt wedi galw ar y Llywodraeth i gymeryd drosoJd y mwjafeydd, y ffyrdd haearn, y fasnach forawl, ac i reoli r ystorfeydd mawrion i gadw pethau wedi eu rhewi, yr ydfanoedd, ynghyda'u cynnwys, i rhoddi terfyn ar yr anturwyr oedd wedi gwneud cymaint i godipris- iau bwyd yn ystod y rhyfel. #. Cymerai y cyfrifoldeb llawnaf dros ddweyd fod llawer o'r clod am gyflen- wad digonol o gad-ddarpar yn ddyledus i Mr Arthur Henderson, am y gwaith a'r gwasanaeth a roddodd yn ddirwg- nach. Yr oedd ar hyn o bryd yn Gyf- arwyddwr Llafur i'r Llywodraeth, ond ni fyddent yn fodloii hyd nes y byddai'r Llywodraeth wedi addef rhesymeg an- atebadwy eu hachos yn hawlio creu Gweinidqg Llafur. Byddai'r problemau ar ol y rhyfel mor aruthrol o ran nod- wedd fel y byddai Gweinidog Llafur yn hollol orfodol. Ynglyn a diwygiadau y dyfodol, megis codi pensiwn yr hen, &c., gofynnai'r pesimistiaid o ba le'r oedd yr arian i ddod. Os oedd y genedl wedi llwyddo i fyned ymlaen gyda 5,000,000 o ddynion heb fod-gyda'u galwedigaeth a'u goruch- wylion cynhyrchiol, beth ellid wneud pan fyddai llafur y dynion hyn yn cael ei ddefnyddio at amcanion ag elw yn dod oddiwrthynt ? Nid oedd cyfoeth y gen- edl i gael ei fynegi mewn £ s. d. Yr oedd gwir gyfoeth y genedl i gael ei fyn egi mewn termau o egni adnoddau a I chynhyrch ei meibion a'i merched. Nid oeddynt i gael eu digaloni yn y dyfodol gydag unrhyw geisiadau a ystyrient yn l angenrheidiol ar y tir o economiaeth I gyfyngedig. Gwyddent yn awr yn llawer gwell nag o'r blaen fod yna ddig- on, a pheth i'w hepgor. Pan fyddai i'r Llywodraeth, ar ol i heddwch ddod oddiamgylch, leihau yn sydyn ei thaliadau aruthrol, ac atal ei barchebion arferth am bob math o ang- enrheidiau dirnadwy, pan ddadgorfforid miliynau o filwyr bron yr un pryd, ac y rhyddheid dwy neu dair miliwn o weith- wyr cad-ddarpar, yr oedd yn sicr y byddai tyrfaoedd o ddynion a merched yn chwilio am sefyllfaoedd newyddion. Os na wneid darpariadau ymlaen llaw, gwel yr Undebau Llafur eu cronfeydd yn cael eu difa'n gyflym, a'u haelodau wrth y miloedd allan o waith. Byddai hynny y foment bruddaf o berygl di- ,wydiannol. Nid oedd i'w dybio y metbai 'meistri weled y cyfle i ostwng safon y cyflog. Yr oedd rhai eisoes yn edrych ymlaen yn foddhaus am ostyngiadau mawr mewn cyflogau. Rhaid i Undebwyr Llafur wneud yn wybyddus nad ydynt yn ceisio rhyfel ddiwydiannol, ond nad ydynt yn bwr- iadu cymeryd yn dawel ynghanol gor- foledd heddwch unrhyw ymosodiad pellach ar eu safle a'u cyflogau. Parthed addysg y wlad, yr oedd toll- iadau eithafolamryw ohonynt yn ddi- alw am danynt-wedi cael eu gwneud i'n cynllun o addysg elfennol. Rhaid oecid i'r Gynhadledd ddatgan mewn tel- erau clir a phendant nad allai dim llai safon uchel a fodolai cyn y rhyfel eu bodloni pan gyhoeddid heddwch. Yn wir, yr oedd anghenraid cenedlaethol wedi profi'n fwy nag erioed fod ymen- ydd, gwybodaeth, a hunan-ddisgyblaeth ) yn llawer pwysicach nag hyd yn oed ) effeithiolrwydd corfforol. Yr oedd araith y Llywydd yn un gref iawn, rhesymol iawn, ac yn ol pob ar- wydd yn adlewyrchu ysbryd, a phen- derfyniad a delfrydau y Gyngrhes.

COKGL YR AWEN.I ?%????f Y'r,.…

CYFARCHIAD YMADAWOL I

.CLYDWYN, ,.1

EOS BACH I

Advertising