Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

TREDEGAR.

News
Cite
Share

TREDEGAR. Nos Fercher, Awst 16, cynhaliwyd cyfarfod lliosog a brwdfrydig yma i gyflwyno anrheg fechan ar ran yr eg- Iwys a'r gynhulleidfa i Mr J. L. Herbert, Y.H., a Mr Wm. Rees, i ddangos 8!1 gwerthfawrogiad o'u llafur maith fel Ysgrifennydd a Thrysorydd yr eglwys, y naill wedi bod yn ei swydd am 35 mlynedd a'r llall am ddwy flynedd a deagain, Arweiniwyd y cyfarfod gan y Parch Lewis Edwards. Cynhwysai yr anrheg- ion i'r ddau frawd ddarlun hardd ohon- YIlt eu hunain, a chyflwynwyd hwy iddynt gan y Cynghorwr David Morgan, a hynny mewn araith gampus. Dilyn- wyd hyn gan hanner dwsin o areithiau gan frodyr eraill, a'r oil yn cael hwyl a rhyngddynt daeth i'r golwg gymaint a wnaed gan y ddau frawd er llwydd- iant yr achos, ac fel y buoat yn ar- weinwyr doeth a diogel ynglyn a'r holl symudiadau, ac nid gyda'r achos yn Nhredegar yn unig, ond gyda holl eg lwysi y gylchdaith, oblegid buont bob un yn gwasanaethu fel goruchwylwyr y gylchdaith. Sylwyd gan amryw eu bod yn ddyn- ion o gymeriadau pur ac o ddylanwad yn y dref, ac fod cael dynion a'u dylan- wad &'u safle hwy yn swyddogion yr achos, wedi bod yn gymorth i gadw urddas yr eglwys. Llawenychai y cyf- arfod fod y ddau wedi cael cystal adfer- iad o gystudd blin a'u goddiweddodd yn ddiweddar bu Mr Herbert dan operat- ion beryglus flwyddyn yn ol, a chyfyng- wyd Mr Rees i'w gornel gartref am fisoedd, ond mae yntau bellach er mewn gwth o oedran wedi adnewyddu ei nerth, ac yn gallu mynd o gwmpas fel yn y dyddiau gynt. Dymunwyd iddynt hir oes eto i fwynhau bywyd ac i wasan- aethu Duw a dynion. Cydnabu Mr Herbert a Mr Bees yr anrhegion a'r areithiau mewn geiriau dwys. Sonient am y modd brawdol y buont yn cydweithio ynglyn a'r gwaith ar hyd y blynyddau, a thystiau y ddau iddynt gael llawer iawn o^bleser yn y gwaith, ac mai ynddo y dymunent aros. MMiiimiiiimH—infii inwiIllmWi Hfil i n Mm 11 in nmnm ■ i»n Datganwyd yn ystod y cyfarfod gan Miss Mabel Jenkins, a Mr George George.

FERNDALE.I

LLYSFAEN.I

:1PENTREDWR.'I

CAERDYDD. I

PENMAENRHOS (CONWY).

HOREB, MANCHESTER.