Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
[No title]
Wyliedydd Newydd, aros ar y mur, 'I Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, Gwas'naetha grefydd,—seinia ar ein clyw I Os gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. I TALFARDD. I
.Y Rhyfel, y Nos, a'r Nile.
Y Rhyfel, y Nos, a'r Nile. (Gan y Caplan A. W. DAVIE S). I A yn nos yma ar unwaith, nid oes -dim gwyll gwerth son am dano. Y mae yma fachludiad godidog, gedy yr haul gochni eursidd iawn ar y wybr pan el i'w orwel. Weithiau, gallai dyn dybio fod rhyw storm o fellt a than fflamllyd ar dorri o grombil y ddaear, a bod gwawr ei doriad ar y wybr uwehben Yn fuan enciliai y cochni ffwrneisiol, a daw gloewder clir, grisialaidd, dros wyneb y nefoedd, a daw y ser afrifed i'r golwg. Clywais son am y Syrian Sky," credaf mai George Adam Smith soniai am dani wrth drin ar Esaia xl., 26, A ddwg eu lluoedd hwynt allan mewn rhifedi" in marshall order." A golygfa syfrdanol yw, gyr dyn i sylweddoli gogoniaht Duw-" dyfnder a eilw ar ddyfnder y myrddiynau afrif= ed ser, rhai yn glystyrau, ac eraill yn onglau, ac yn llwybrau o dan llychllyd, gloew, o orwel i orwel, a'r lleuad ganaid deg fel arian crai o'r ffwrn, ie, a distawrwydd teim- ladwy ymhob man, heb na Ilef na neb yn ateb." Ond yr wythnosau diweddaf y mae yma rhyw swn sial yn llanw y tir. Fe gyfyd o fan lleidog, Ilaith y Nile, ei chamlasau a'i ffosydd,—swn crawcian filoedd ar filoedd o lyffaint yw, sydd yno yn claddu eu grafft. A dyma swn rhyfedd, rhyw w, a, w, w, a, w, ddiball. Gall dyn yn hawdd ddeall a chredu pla llyffaint ofnad- wy Pharaoh. Yr adeg yma y mae gorlifiad y Nile, a thrwy eu gwasgariad ar wyneb y tir cyfyd tarth a wna yr awyr yn llaith y nos, ac ymffurfia cymylau mawr yn yF awyr, ond fe ymgilia y cyfan pan ddel y dydd, ac yn y tarth cyfyd yr haul fel cawr i redeg ei yrfa. Y Nile—dyma fendith bennaf yr Aifft fawrr ac anodd yw dych- mygu y disgwyl sydd am ei gorlif. iad, y mae bywyd ac anifail yn di bynnu ar hyn. Buasai y wlad drwyddi draw yn anialwch o dywod onibae am y gorlif- iad. Disgynna gwlawogydd trwm yn Abbysinia, ymdeithia yn llifeir- iant o ben, ac o geseiliau y myn- yddoedd, egyr ffynhonau y dyfn deroedd eu safnau o bwrlyma y dyfroedd allan, gan ruthro dros y clogwyni, trwy y cilfachau, a llaw er dibyn erch, ac yn ei gwrs rhydd- ha y creigiau, gan eu malu yn llwch, a'u troi yn wrtaith gwerth- fawr ym mynwes y dwr: Yn ei gorlifiad lleinw y Nile y tir am gannoedd o filltiroedd. Mewn mannau rhed i fyny y camlesi, a'r miloedd rhydwelyau, a pha4 sych y dwfr, gedy ar wyneb y tir haen- en o'r laidd gwrteithiol a chyn- hyrchiol. 0 bosibl mai hyn a gyf rifa am yr adnodhonno, Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd, canys ti a'i gei ymhen llawer o ddyddiau." Mewn mannau lluchir yr had ar wyneb y Hi, a phan gilia a llanw ymsodda yn y llaid ar wyneb y tywod, ac yn ei dymor tyr allan yn gynhaeaf toreithiog. Lie mae y tir yn .rhy uchel i'r Nile ei orlifo, y mae rhydwelyau wedi eu torri ar hyd a lied wyneb y tir, a gwelir rhywbeth ar gynllun peiriallnau corddi neu olwyn fawr a chafnau arni yn codi dwfr o'r Nile i'r ffosydd. Y maey peiriannau yn cael eu troi gan gwpl o ychain. Lie mae tyddynwyr bach yn thy dlawd i brynu olwyn ddwr a iau o ychain, y mae ganddynt bolyn mawr cryf, wedi ei roi ar ei ben uwchben y dwr, ac yna, ar ben y polyn hwnnw, ar ei draws y mae polyn mawr arall tua deg llath o hyd, yn un pen pwysau mawr o laith o wely y Nile, ar y pen arall y llestr yn grogedig wrth rhaff, a chodir a disgynnir y llestr i ddyfr- oedd y Nile, gan dywallt ei gyn- nwys i'r rhydwely. Gwaith caled ac araf yw hwn. Anodd ydyw eu cael i gredu mewn pwmp. Y mae y peiriannau i gyd o goed, ac wedi eu gweithio yn arw ac afler. Gor- chwyl caled ydyw eu symud oddi- wrth arferion y dyddiau gynt, ac nid drwg hyn i gyd, oblegid y mae yn ddoJengydiol gyda'r gorffennol, ac yn gwneud llawer o arferion a hanes yr Hen Destament yn fyw iawn. Crybwyllion yw'r pethau uchod, y rhyfel blin erch ydyw y bwrn mawr creulawn. Rhyfel, son am rhyfel, ymberffeithio i ladd a difa bywyd sydd ar bob llaw yr awyr- fodwyr uwchben yn llu, swn cleg- ian cyflym y machine guns,' rhuad y gynau mawr, ac ergydion y bombs," a gwyddis am y ddifrod dianghenrhaid, pe byddai y bob! yn gall. Bydd fy nghalon yn gwaedu o'm mewn pan welaf y dynion ieuainc dymunol a llednais, llawer yn ddim ond hogiau,—mor glen, mor gar- edig, ac eto gyda'r fath waith creulawn a ffol. A pha nifer ohon- ynt fydd o dan y dywarchen ac ymhell o'u gwlad. Nid y rhain sydd eisiau rhyfel, ac nid y rhain a gred mewn rhyfel. Nid awyr iach i foesau yw awyrgylch rhyfel, ag er y son am ddisgyblaeth, a'i fan tais, awyr wenwynllyd yw awyr rhyfel, eto calonogir dyn, er y cyfan, am fod rhywbeth ymhob calon a etyb i'r goreu mewn bywyd. Ni fu fy nghwaith yn un esmwyth fel Ymneilltuwr. Am wn i na chred llawer mai yr Eglwys biar fyddin am mai hi ydyw Eglwys y wlad. Ceir eithriadau bendigedig. Y Sul o'r blaen anfonodd Padre per- thynol i'r Eglwys i ddweyd yr hoffai ddod i'm gwasanaeth: gadewais air iddo y carwn iddo ddod. Pabell eang y Y.M.C.A. oedd gennyf, ac fe ddaeth a chwareuodd y berdoneg a bendith arno, cawsom odfa wlithog. Paham, nis gwn, y mae llawer o gatrodau wedi eu nodi yn Church of England bron i gyd, a hwythau yn blant capeli Cymru. Modd bynnag, trwy wneud fy ngoreu i helpu y bechgyn enillwyd eu calon, ac y maent wedi dod adref yn llu, a'r un gynulleidfa wedi tyfu yn dair ar fore Sul. Rhaid i mi ofalu am hawliau crefydd a chydwybod yma. 'Roedd gennyf o un fataliwn boreu Sul tua 500 o gynulleidfa; a da y gwn fod y bechgyn yn hoffi Efengyl yn ei symulrwydd, hyd yn oedy gwaeth- af ohonynt. Ofnaf nad ydym fel Ymneilltuwyr wedi edrych, ar ol ein buddiannau fel y dylem; mi wn rhai pethau, a mi deimlais rhai pethau fel pe bawn ond esgymun- beth. Gallwn gau allan ragfarn, culni, ac ysbryd proselytio, ond dylem edrych ar ol ein buddiannau Y mae ein eisiau, ie, y mae mwy o eisiau ein cennadwri foesol ac efengylaidd heddyw nag erioed. Cawsom odfa Gymreig rios Sul diweddaf, a buom yn canu yr hen emynau, a chymerodd digwyddiad hynod le. Yr oedd dau Gymro, un o Ddinbych a'r Hall o Gaergybi, wedi clywed y canu, deallasant mae canu Cymraeg ydoedd-waeth am y cinio, allan a nhw i holi lie 'roedd y canu Cymreig. Daethant o hyd i ni yn y neuedd fwyta, ac er fod yr odfa bron ar ben rhaid oedd myned ati eilwaith yr oeddynt heb glywed odfa na chanu Cymreig ers deunaw mis. Dylifai dagrau i lawr wyneb un, a rhodd anerchiad bach o eigion calon cynnes Cymro am i'r bechgyn lynu wrth lesu Grist. Er yn lluddedig iawn ar ol pum I odfa yn y gwres mawr yma, aeth- ym i gysgu y noson honno gan ddiolch- am Ysgol Sul ac odfa Cymru ac Efengyl lesu Grist.. Cofion serchog, Yr Eiddoch, A. W. DAVIES,'C.F., 1/5 Welsh, 159 Infantry Brigade, E, E. F. [Anfonodd ,t Sympathiser 2/6 i mi i helpu Mr Davies gael papurau, a llyfrau, etc., i Llyfrgell y Mil- wyr.—GOL.]
COF-GOLOFN Y DIWEDDAR BARCH.…
COF-GOLOFN Y DIWEDDAR BARCH. RICE OWEN. TANYSGRIFIADAU. I V s c Mr James Owen (brawd) 10 0 0 Mr Henry Davies, Eerndale (mab-yng nghyfraith) 3 3 0 Cyfaill 3 3 0 Cyfailleto 3 3 0 Mrs Griffiths a'r merched, a'r mab yng nghyfraith 2 2 0 Mr John Davies (y diweddar), Pontardawe). 2 2 0 Mrs Mason (chwaer), South- sea 2 2 0 Parch Ebenezer H. Morgan (gynt Bwadrain) 1 1 0 Parch Thomas Jones, Fern- < dale 11 0 Mr Charles Bennetts, India 110 „ David Davies, Pontypool 110 „ Isaac Rees Davies, Not- tingham 1 1 0 „ Bees Davies, Garnant 1 0 0 „ W. N. Jones, U.H., Tir- ydail 1 0 0 „ W. Hopkins, U.H., Llan dilo 0 10 6 Edward Jones, Roman Road, Llundain 0 10 6 „ T. W. Davies, Builder, Caerdydd 0 10 6 Parch R. Emrys Jones, Poith 0 10 0 „ T. J. Pritchard, Caerdydd 0 10 0 Mr Charles Evans, Hanley. 0 10 0 Edward Roberts, Ferndale 0 10 0 Parch Ebenezer Morgan (y diweddar), gynt Aber- ystwyth 0 6 0 „ J. Humphreys, Merthyr 0 5 0 „ D. Tecwyn Evans, B.A. 0 5 0 „ J. Roger Jones, B.A. 0 5 0 Mr John Edwards, Treorky 0 5 0 „ John Price Powell, Caer- dydd 0 5 0 Wm. Savage, Trefeglwys 0 5 0 „ David Davies, Cennant. 0 5 0 Parch Ed. Davies, Lerpwl. 0 3 0 R. W Jones, Lerpwl 0 2 6 Mrs Roberts, Meirion Villa, Ferndale 0 2 6 Parch D. C. Griffiths (gynt Ystumtuen) 0 2 0 Mr Maddock, Printer, Fern- dale" 0 1 0 Mrs Barclay, Ferndale 0 1 0 £39 4 6 Diolch yn'fawr, drosof fy hun, a thros deulu y diweddar Barch Rice Owen, am y rhoddion uchod. Y mae eraill wedi addaw. Bydd y drws yn agored eto am ychydig amser. Cofiwch y cyf- eiriad- 11 THOMAAS JONES, Goleufryn, Ferndale.
[No title]
Cyhoeddwyd proclasiwn yn Cairo, y dydd o'r blaen, yn gwabardd gwerthu dim "absinthe'' (gwiryf ofnadwy) drwy holl wlad yr Aifft. Dyma ddecbreu Exodus arall yn Nhir y Caethiwed. Y mae yn bwysig fod pob dyn o oed- ran milwrol nad yw yn y fyddin yn cario gydag-ef ei gerdyn ymrestru a thystysgrif ei ryddhad, gan nas gwyrpa funud y daw syvyddog ato i ofyn rhes- wm pabam nad yw yn y fyddin. Os heb y papurau tangenrheidiol gall gael ei. anfon at yr awdurdodau milwrol. |
NODION CYFUNDEBOL.
NODION CYFUNDEBOL. (0. H.) Deallwn fod y Parch P. Jones Roberts wedi dychwelyd o Ffrainc, ac wedi ei apwyntio i wasanaeth gyda'r Fyddin yng Ngwersyll Kin- mel Park. Mae yn ddiameu fod y rewidtad hwn yn un boddhaol i Mr Roberts ei hunan, yn ogystal ag ¡'W deulu ym Mangor. Mae y Parch Abi Williams wedi cael ei symud o Kinmel Park i Ffrainc. Terfyna y Parch Arthur W. Davies iythyr dyddorol a dderbyn- lwyd oddiwrtho yr wythnos ddiw- eddaf,—o rywle yn yr Aifft, gyda'r geiriau a ganlyn—" Cofiwch fi a Ngwaith yn eich gweddiau. Ad- ferir fy ffydd yn fwy nag erioed mewn gweddi." Mae hyn—ffydd mewn gweddi—o'r pvsys mwyaf ymhob gwaith Cristionogol. Prayer," meddai Thomas Hookerj "is my chief work, and it is by means of it that I carry on the rest." Mae Dr. Tasker, Llywydd y Gyn- hadledd Wesleaidd eleni, wedi t anfon llythyr at Weinidogion y Cyfundeb, yn galw eu sylw at sef- yllfa bresennol yr Ysgolion Sul, ynghyda'u rhagolygon. Cyfeiria yn arbennig at'y lleihad yn rhifedi yr Ysgolorion, a ddengys y cyfrifon bob blwyddyn yn ddifwlch er's deng mlynedd. Y lleihad cyson hwn yn rhifedi ysgolorion yr Ysgol Sul, yn ol syniad ,y Llywydd, yw yr achos o'r lleihad blynyddol yn nifer yr Aelodau Eglwysig. yn y Cyfundeb. Argymella Dr. Tasker y Gweinidogion a'r Lleygwyr ymhob lie i wneud ymdrech neill- tuol i ddwyn oddiamgylch wellhad yn yr Ysgol a'r Eglwys. Fel pethau a effeithiai yn ddaionus, crybwylla ymweliadau rheolaidd, ffordd well o gyflwyno addysg, hyfforddiad athrawon, esbonio y Wers Sabbothol, yr wythnos flaen- orol, yng Nghyfarfodydd Wythnos- ol yr Eglwysi. Dylai argymhell- ion o'r fath yma gael sylw yng Nghyfarfodydd Blaenoriaid yr eg- lwysi, a Chyfarfodydd Chwar- terol y Cylchdeithiau, yn ogystal a'r Cyfarfodydd Taleithiol. Rhydd y ffeithiau a ganlyn olwg galonogolar yr ymdrechioD Cyfun- debol cysylltiol a'r Genhadaeth Dramor, yn ystod y chwe' blynedd diweddaf:— 1. Mae y derbyniadau cvffredin- ol tuagat y Genhadaeth, o ffynon- ellau cartrefol wedi codi o [126, 493, yn 1909, i £ 149,291 yn 1915. 2. Yn ystod yr adeg yma, cafwyd yr offrym-diolch canmlwyddol, yr hwn a gyrhaeddodd y swm o £284, 500, a defnyddir y swm yma i godi adeiladau, ac at bethau eraill han- fodol angenrheidiol. Mae yr hyn a elwir yn Symudiad Cenhadol y Lleygwyr-(" The Laymen's Mis- sionary Movement ") erbyn hyn yn allu mawr yn yr eglwys, ac ar Faes y Genhadaeth. Yn ystod y chwe' blynedd y rhoed cychwyniad i'r Symudiad llwyddiannus hwn. Yn 1911 y cychwynwyd yr Ysgol Haf Genhadol, ac mae hon yn foddion effeithiol i hyrwyddo y gwaith mawr ymlaen. Tri ugain oedd nifer yr Ysgol hon yn y dech reu, ond mae yn awr tua 300 o bobl ieuainc yn ymgynull yn flynyddol i Swanwick i dreulio wythnos i weddio, ac i ymgydnabyddu a hanes y Gymdeithas Genhadol. Mae yr Helper's Union a gych= wynwyd yn 1909, gyda 70 o gang- henau, a 1,700 o aelodau, yn awr yn rhifo 1,000 o ganghenau o 33,000 o aelodau- a'r rhai hyn oil yn ymuno mewn gweddiau ac ym- biliau, a'r ran y Gwaith Cenhadol.