Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

BYD CREFYDDOL.

News
Cite
Share

BYD CREFYDDOL. Marwolaeth y Parch J. M. Hum- phreys (M.C.) Fore Sabbath, Medi 3ydd, yn ei gartref, ac efe yn ymbaratoi gogyfer a gwaith y dydd, bu farw y brawd cywir uchod yn hynod sydyn. Yr oedd ei briod hawddgar gerllaw iddo pan ymollyngodd, ond er iddi wneud a allai, yr oedd ei ysbryd pur wedi ehedeg lie nad oes angen cymhorth, heb air nac ochenaid yn ffarwel. Claddwyd ei weddillion yng Nghroesoswallt dydd Mercher: yno yn y flwyddyn 1901 yr ordein- iwyd ef, yno y Sabbath, Awst 27ain, y traddododd ei bregeth olaf, ac yno y rhoddir ei lwch i orwedd. Brawychwyd yr ardal gan y newydd. Yr oedd ei bregethau at y Sul yn barod ar fwrdd y Study. Yr oedd ein brawd yn un o'r cyf- eillion gore y gallai dyn ei gael, ac y mae gennym hiraeth mawr ar ei ol. Yr Aiglwydd a fyddo yn gym= horth i'w briod sydd wedi ei gadael yn weddw ac unig. Yr wythnos o'r blaen ym Mangor dywedodd Mr Higman, cynrych- iolydd Cymdeithas Gristionogol y Gwyr Ieuainc nad oedd gan y Gymdeithas ar ddechreu y rhyfel ond 250 o ganolfannau erbyn hyn yr oedd y nifer yn 1,500; a thra ar y dechreu y tybid y buasai 25,000p yn ddigon i gario y gwaith ymlaen yn ystod y rhyfel, yr oedd erbyn hyn wedi costio dros dri chwarter miliwn. Yn ol ystadegau Cymanfa y Methodistiaid Calfinaidd Ohio, America, pump o eglwysi bydd yno gyda mwy na 200 o aelodau, ac fe geir 15 yn rhifo dau gant. Y mae yr Athro T. A. Levi eisoes yn dechreu paratoi conant ei dad. Er hwylusod i'r merched sydd yn gweithio ar gyfer y rhyfel yn swydd Fflint, y mae cynllun ar droed gan Gymdeithas Gristionog- oi y Merched leuanc, a Chymdeith- as Gyfeillgar y genethod i sefydlu pabell arhosol a chlwb yn Queens- & A C' CL 3 -L icixy. III[ y uyuu y gosi tuag wyth gant o bunnau, a thuag at y swm hwn y mae'r Llywod. raeth wedi cyfranu pum cant. Yng Nghyfarfod Chwarterol An- nibynwyr Dwyrain Morgannwg, galwyd ar y Llywodraeth i ddedd- fu ynglyn a'r Iwerddon ar linellau'r cytundeb rhwng y Gwir Anrhyd- eddus D. Lloyd George. Syr Ed- ward Carson a Mr J. Redmond fel yr unig ffordd gyfiawn i ddelio a'r wlad honno. Protestiwyd yn gryf yn erbyn sefydlu Cadeiriau Diwin. yddol ym Mhrifysgol Cymru fel mudiad wnai niwed i grefydd ys- brydol, ac i ysbryd efengylaidd y pulpud; ac os bydd angen, fod y Par,ch D. R. Jones, M.A., Caerdydd, a'r Ysgrifennydd, i ymddangos o flaeny Comisiwn i'r perwyl hynny. Galwai y cyfarfod hefyd yn y modd mwyaf pendant ar y llywodraeth i ddarparu'n deilwng ar gyfer ein milwyr a'n morwyr sydd wedi cymryd rhan yn y rhyfel presennol, ynghyda'r rhai sy'n dibynnu ar- ilynt, a hynny ar wahan i bob cais am gymorth gan y cyhoedd. Teimlid mai cyfiawnder, ac nid cardod, sy'n gweddu i'r cyfryw rai. Wrth siarad yn St. Martin's-in- the-Fields, dywedodd Arglwydd Hugh Cecil nad oedd yn ddrwg ganddo am y Diwygiad Protestan- aidd. Gyda'r eithriad o ddych- weliad y byd at Gristionogaeth, credai ei fod y symudiad mwyaf bendithiol a fu. Ond ffolineb fyddai gwadu nad oedd wedi gwneud niwed hefyd. Er engraifft, chwalodd y delfryd o gael Cred Gristionogol Gatholig a Chyffred- inol Pe buasai cwrs y dygwydd- iadau wedi cael eu harwain, dyw- eder, gan Erasmus, yn lie Luther a Chalfin, ac unoliaeth Cred y Gor- llewin wed i ei gadw yn gyson a'i phureiddiad, buasai'r ennill i Grist- ionogion, ac i'r genedlaeth hon, yn ddirfawr. Nid yw'n ormod dweyd y buasai rhyfel erbyn hyn mor an- fynych, ac yn cael ei deimlo'n beth mor anaturiol, ag y teimlir fod rhyfel gartrefol yn awr ac y mae yn rhesymol meddwl y cawsem ein harbed rhag y trallodion a'r dyoddefiadau ag yr ydym heddyw heddyw yn eu cannol. Yng Nghymdeithasfa M.C. y Gogledd, a gynhaliwyd yn ddi- weddar ym Mangor, cyfeiriodd yr Ysgrifennydd at y ffaith ei bod y llynedd yn ben tri chwarter canrif ar y Genhadaeth, a rhoddodd ffig- yrrau am y cynnydd o adeg y jiw- bili yn 1890 hyd 1915. Yn 1890 rhif yr eglwysi oedd 81; yn 1915, 471. Yn 1890,rhif y cymunwyr oeddl,980; yn 1915, 14,113. Yr oedd rhif ael- odau yr Ysgol Sul yn 1890 yn 7,257 yn 1915 yr oedd yn 27,927. Yr oedd y gwrandawyr yn 1890 yn rhifo 8,926 yn 1915 yr oeddynt yn 42. 638. Deg cenhadwr ac un cenhad- es oedd ar y maes adeg y jiwbiii; erbyn hyn yr øedd 17 o genhadon a 15 o genhadesau. Yn 1890 yr oedd pedwar o weinidogion brod- orol ordeiniedig, yr oedd deuddeg ar hugain y llynedd, gyda 79 o efrydwyr, a 600 o athrawon ac o athrawesau. Addawa Mr John Hinds, A.S., gan' gini y flwyddyn am dymor amhenodol at Drysorfa Eglwysi Bychain Bedyddwyr Cymru. 1- Dyma air o'r Cymro :-— "Dengys Syr Owen M. Edwards ddau gamgymeriad pwysig yng nghyfundrefn addysg Cymru. Un yw peidio astudio achosion llwydd- iant rhyfedd yr Ysgol Sul. Y llall oedd dwyn i'r Ysgol Sul reolau a threfn beiriannol yr ysgolion elfen- nol. Yn ddiddadl y mae Syr Owen yndweydllawerowir. Ond ystyr y cwbl yw fod bywyd Cymru wedi torn fyny, a bod dyfodiad y coleg- au a'r Brifvsffol a'r nwvslai<? npw. .,¡ -0 r J ydd wedi dadsefydlu 'centre' ys- brydol enaid y genedl. Ni feddyl- iodd Thos. Charles Edwards er engrhaifft i Goleg Aberystwyth droi allan baganiaid graddedig, a chenedlaetholwyr hunangar ac uchelgeisiol, yn lie cenedlgarwyr dihunan, ond felly y bu yn ein holl golegau, ac oni fedyddir awdur- dodau y Brifysgol a'r Ysbryd Glan ac a than, ant rhagddynt mewn an§ ffaeledigrwydd diamheuaeth a di. bryder i ddamnio cenedl yn enw culture, Imegis Germany." Y mae y Parch H. Elvet Lewis, M.A., wedi cyhoeddi llyfr newydd Boreuau Gyda'r lesu" Gwyr pawb am ei fedr i siarad ac i ysgrif- ennu. Myfyrdodau a Gweddiau i ddechreu'r dydd ydyw, a'i deitl ydyw Boreuau Gyda'r Iesu Dech- reuir gyda'r "BoreNadolig Cyntaf," ac yn dilyn mae Bore yn y Demi yn ddeuddeg oed," Bore yng Ngweithdy'r Saer," "Bore yn y diffeithwch," "Bore Sabbath yn Nazareth," "Bore Mab y Dyn." I Mae'r Boreuau i gydyn wlithog.

Y RHAI A HUNASANT. I

RHIW, PWLLHELI. I

SHILOH, TREGARTH. I

LLWYNYRONEN. I

IPulpud y Dyfodol.

[No title]

[No title]