Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

[No title]

IPriodas Golygydd y Darian…

News
Cite
Share

Priodas Golygydd y Darian a Moelona. Yng Nghapel Ebenezer, Caerdydd, ddydd Sadwrn diweddaf. unwyd Gol- ygydd y "Darian" (Parch. J. Tywi Jones) a Miss L. M. Owen (Moelona), Parch. J. TYWI JONES. Mrs. JONES (Moelona). I mewn priodas. Gwasanaethwyd ar yr aehlysur gan y Parch. H.' M. Hughes, B.A Miss Kate Owen, ehwaer Moel- ona, oedd y forwyn briodas, a chyflawn- wyd dyledswyddavi'r gwas priodas gan Mr. Howell T. Evans. M.A. Yr oedd hefyd yn bresennol, Mr. Owen, brawd y briodas-ferch; Dr. a Mrs. Abel J. Jones, Mrs. Howell T. Evans, Mr. a Mrs. D. Davies (Dewi Fychan), Mr. Ifano Jones, Cemlyn, ac eraill. Wedi'r briodas cafwyd gwledd yn nhy Mr. a Mrs. Thomas Evans. Westville Road, Caerdydd; ac wedi'r wyl aeth Mr a Mrs Tywi Jones i Birkenhead. Prin y mae eisieu inni bwysleisio dyled darllenwyr y "Darian" i Mr. a Mrs. Jones. Er pan ymgymerodd y Parch. Tywi Jones a golygu'r 'Darian,' cynhyddu a wnaeth yr wythnosoiyn hwn mewn cylchrediad. dylahwad, a bri. Y sawl a wyr fwyaf am y Golygydd galluog ac amryddawn sydd barotaf i gyclnabod ei ddiwydrwydd a'i aberth ynglyn a'r papur. Ac am Moelona, hithau, grfllir dweyd fod llwyddiant y "Darian" yn y blynyddau diweddaf hyn, yn enwedig ei boblogrwydd ymhlith ieuenctyd Cymru, wedi yrnddi- bynu i raddau pell arni hi fel golyg- yddes "Colofn y Plant. Saif "Moel- ona" heddyw ymhlith goreuon llenor- ion Cymru, ac fel nofelyddes nid oas neb yn fwy poblogaidd na hi yn ein plith. Adwaenir hi fel awdur Dwy Ramant o'r De,' 'Teulu Bach Nantoer,' ac arnryw straeon ardderchog eraill; tra y mae'r wlad heddyw'n hiraethu am "Fugail y Bryn," sydd ar fin ei gy- hoeddi. Eleni rhoes Pwyllgor Eistedd- fod Genedlaethol Castell Nedd ei set ar ei bri llenyddol trwy ei. dewis fel benniad. Dyjnunwn hir oes, iechyd, a hawddfycl iddynt ar eu vrfa "briodasol. I Moelona! Mae haul anian—yn ei rwysg Pan yr ai yn wreigan Tra'r "Tywi" fwyn lif yn lan, Dy wr fo iti'n "darian." "Rhamant" ddigymar imi—yw hanes Moelona'n priodi; Y mae fel "nofel" i ni AVyr "N antoer" yn ein torri. Gyda dymuniadau goreu BESS. ) I Tywi, y proffwyd tawel,—ddenwyd draw 0 ddwndwr erch rhyfel: 1 dalaith mad laeth sa, mel Dihengodd gyda'i angel. | Ba ryw angel a'i hebryngodd,—wr pur? I Pwy a'i llygad-dynnodd? Trwy ramant serch merch a'i modd, Ym Moelona ymlynodd. I frenin a brenhines-r-y "Darian," Rhown dair "H wre" gynnes; Duw yn rhwydd-pob llwydd a lies Nodo'u huniad a'u hanes. AP HEFIN. i Y fyw, luniaidd Foelona—gan Dywi Gu'n dawel mewn dalfa! j Wei, boed eich dydd ynTiirddydd ha', A bywyd neis i'r byd nesa'. TAFWYS. I'r tawel a'r hawddgar Tywi-deued Diwedd ar bob cynni; Daeth i'w ran, drwy fendith Rhi— Hardd ddynes gar ddaioni. Daioni dau a unir—a'u hynni Ddaw'n ennill i'w brodir Lladd ar y gau—llwyado'r gwir, O'u haelwyd beunydd welir. Y lienor yn awr ddaw'n llonnach—a'r Gol. 'Nawr gawn yn ddedwyddach; Ei gamrau oll-Gymro iach, A byw allu,—a'n bellach. A hithau'r Ion Foelona—ei thalent Goeth, hawliodd barch Gwalia; A all yr undyn heb wella— Efrydu un o'i llyfrau da? 0 rhodded yr lor iddynt—hyd eithaf Fendithion byd; drostynt Rhoed ei wen a'i rad i'w hynt, A daionus law danynt. DEWI FYCHAN. Clywch ar Ion clychau'r wlad—a'u hacen fyw Yn eco'n fawl cariad; 0 gwr i gwr y miwsig ad—hwyl a bri I'r werin loni drwy'r annwyl uniad. Iraidd heddyw yw'r wawr ddiddan-yn gamp, Ddaeth i Gol. y Darian; Fe wena efo'i hunan Dan naws a bri "Dinas Bran." Y m miri ei swydd fe lwydda^—^yn lion wr Fel Llenorydd Gwalia Ac uwch yn uwch diolch wna Am wawl enaid Moelona. Hawddamor ysgolores, Ban o wraig ar ben y rhes- Rhes Geltaidd o wraidd a rhyw- Llawn hud Afallon^ydyw A mwy hyhi ddaw, mi wn, A'i nofelau yn filiwn. Heulwen twf glannau Teifi,-ac awen Deg hoewaf Bro Tywi; A dawn gwlad—a gwen ei Duw hi Yn Eden iddynt i'w noddi. G W YN W A WR.

I Llythyrau at y (xoiygydd.…

BWRDD Y GOL. I

Abercraf. I

Advertising

Advertising