Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Gorseinon a'r Cylch. ,

News
Cite
Share

Gorseinon a'r Cylch. Anturiodd llu mawr o'n hardalwyr ar eu gwyliau eleni i wahanol gyfeiriadau, er nad oes son fod neb o honyiat wedi mynd yn bell, bell. Mwmblvls, Llan- stephan, Caerfyrddin, Llanwrtyd, a Llandrindod yw yr enwau a glywir gan y rhai fu ar eu hynt. Gwelwyd amryw hefyd o ymwelwyr yn ein hardal ninnau yn dod i geisio cyfnewidiad, a mwyn: hau awyr gwlad agored, o gymoedd y Rhondda, a'r rhai cyfagos, ac ambell un wedi dod o ardaloedd gwledig Caer- fyrddin, a Phenfro. Diau iddynt gael llawer o foddlonrwydd a hyfrydwch tra yn ein plith, ac y bydd yr adgofion yn felys mewn dyddiau i ddod. Sydyn iawn oedd marwolaeth Mr. J. G. Jenkins, Gowerton, y dydd o'r blaen. Dod i'r ty oddiwrth ei alwed- igaeth, a chwyno wrth y wraig nad oedd yn teimlo yn dda, gan ofyn am wydriad o ddwr. Aeth hithau i'w weini, ond cyn ei bod wedi cyrraedd yn ol, yr oedd ei gwr wedi huno yn yr angeu, yn ddwy a deugain oed, gan adael gweddw a dau fachgen, un-ar- ddeg a naw oed, ar ei ol. Yr oedd yn wr byw, gwasanaethgar iawn mewn eglwys a chymdeithas. Efe oedd ar- weinydd Parti Meibion Gowerton, ac yr oedd yn awyddus i'r cor i godi i safle anrhydeddus. Efe hefyd oedd ysgrif- ennydd Cymanfa^ Gerddorol Brynteg, a'r Cylch er's blynyddau. Dwy flyn- edd i Gymanfa y Pasc diweddaf cafodd ei anrhegu yn y Gymanfp, am ei sel a'i ffyddlondeb yn ei waith. Daeth llu mawr o wyr bucheddol a pharchus i'r angladd. Mae y Parch. R. W. Davies, gwein- idog Horeb, Casllwchwr, yn ymddeol o'i ofal gweinidogaethol ar gyngor ei feddyg. Nid yw wedi gallu pregethu dim er's blwyddyn. Bu ar ymweliadau ag Aberaeron, a Llanwrtyd, a Llan- brynmair (ei ardal enedigol), er ceisio adferiad iechyd, ond heb dderbyn fawr lies hyd yn hyn. Syrjquda yn awr i Aberaeron, gan obeithio y bydd hynny yn fantais iddo i ail-feddianu ei nerth. Mae yr eglwys a'r- ardal wrthi yn ddiwyd yn gwneud tysteb ioclo cyn ymadael, a chlywn fod swm anrhyd- eddus yn lied debyg o gael ei chyflwyno iddo. '?*?-?'

" SARZINE" BLOOD MIXTURE.…

Mynyddcerrig. I

Advertising

Pererindod i Gefn Brith.

IGemau Gwr o Gwmgarw.

I- Llith y Cobler. i

| Ar Dramp.,' I-

Advertising