Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Lloffion y Brawd Llwyd. )

News
Cite
Share

Lloffion y Brawd Llwyd. ) Derbyniodd Mr. a Mrs. John Davies, Greenfield Terrace, Cwmbach, Aber- dar, y newydd trist fod eu mab Johnny wedi ei ladd ar faes y gad. Yr oedd yn aelod gweithgar yn Eglwys M. C. Ebenezer. Hefyd derbyniodd Mrs. Davies, Bethania Place, o'r un Ile, neges fod ei phriod, Driver Charles Davies, wedi ei ladd. Yr oedd yn aelod ymroddgar o Eglwys Bryn Seion. Merch o Ddolgellau yw Mrs. Davies, ac un o fechgyn Tywyn, Meirionydd, oedd Charlie. Clwyfwyd Cadben D. O. Jones, mab Mr. Edward Jones, M.E., Y.H., Tyny- wern, Ynysybwl, yn y frwydr fawr yn Ffrainc yr wythnos ddiweddaf. Mae y Parch. E. W. Evans, B.A., Warwick, wedi derbyn gal wad oddi- wrth Eglwys Fedyddiedig Seisnig Car- mel, Aberdar, i ddyfod yn fugail iddi. Genedigol o Fangor ydyw Mr. Evans. Gobeithiaf y bydd iddo ateb yn gadarn- haol. Dydd Mawrth diweddaf bu Dr. Horgan farw yn sydyn iawn yn ei gar- tref yn Ballinhassig, Cork, Iwerddon. Yr oedd wedi bod yn feddyg yn Aber- cwmboi am chwe mlynedd. Daeth yma yn olynydd i Dr. Tobin. Meddylia tri- golion Abercwmboi a'r cylch yn fawr "r cyleh yn fanvr am y meddyg, a phan gafodd ei alw i fyny gan yr awdurdodau milwrol, dan- fonodd y trigolion ddeiseb at yr awdur- dodau i'w gadw, a buont yn llwyddian- nus. Ond wele awdurdod arall wedi ei alw, ac y mae y bobl yn teimlo yn drist ar ei ol. Dydd Sadwrn diweddaf anrhegwyd y Parch. Llewelyn Jenkins, Rheithor Penderyn, ar yr achlysur o'i briodas. Dydd Iau, yng Ngwm Nedd, cynhal- iwyd arddangosfa ffrwythau a blodau, etc., er mwyn rhoddi cefnogaeth i'r rhai sydd wedi bod yn gweithio mor egniol ar eu rhandiroedd.—Dydd Sadwrn cyn- haliwyd arddangosfa yng Nghwmdar er mwyn yr un pwrpas. Cafwyd dwy ar- ddangosfa dda, a gwelwyd ol llafur di- flino. Cymerodd teulu y Llewellyn, Bwllfa, ddiddordeb mawr yn Arddang- osfa Cwmdar. Tra yn ysgrifennu ar arddangosfeydd ffrwythau, etc., da gennyf sylwi y rhydd y pwyllgorau bob chwarae teg i weith- wyr y rhandiroedd! Dylid rhoddi pob cefnogaeth, am fod y gwaith yn ystod y flwyddyn gyntaf wedi bod ynl galed dros ben. Cynhaliwyd arddangosfeydd yn Aberpennar, Aberdar, a Aberaman yn ddiweddar. Hai ati, boys, erbyn y flwyddyn nesaf etc. Anrhegwyd y Parch. A. Wynne Thomas, L.D., a'i briod ar eu hym- adawiad o'r Old Grammar, School, Bridgnorth, i Bishopwood, ger Ross. Mab ydyw y gwr parehedig i Mr. Griffith Thomas (Gutyn Hydref) a Mrs. Thomas, Cwmdar. Yr wythnos hon daeth y newydd fod y bardd enwog Private Ellis' H. Evans (Hedd Wyn, Trawsfynnydd) wedi ei ladd yn Ffrainc.- Yr oedd wedi ennill pump o gadeiriau yn y Gogledd a'r De, » ac efe oedd yn ail yn Eisteddfod Gen-, edlaethol Aberystwyth, a'r goreu yn ol J.J. Dydd Llun bu farw Mr. David Terry Thomas, ysgolfeistr, Stacey Road, Caerdydd. Bu yn dal y swydd am 16 mlynedd. Gwasanaethodd Bwyllgor Addysg Caerdydd am dros 35 mlynedd. Gorfu i Mr. D. W. Prosser, ysgol* feistr yn Sciwen, dalu X2 10s. yn Llys Ynadon Chepstow, dydd Mawrth, am lanw i fyny bapur o dan yr Aliens' Re- striction Act a manylion anghywir. Dywedodd taw "Hyam Dryasell" oedd ei enw. Mewn atebiad i'r ynadon dy- weriodd taw mewn ysbryd chwareugar y" oedd wedi ei lanw, ac nad oedd yn meddwl fod y peth yn bwysig. Mewn cyfarfod dirwestol yn Aber- dar yr wythnos ddiweddaf, gofynnodd brawd i'r plant beth a feddylid wrth y llythrennau "S.O.S." mewn wireless telegraphy. Heb un os3 atebodd un llanc, "Short of Sugar." Yn wir, yr oedd yn deilwng o wobr. Dadleuir yn frwd mewn rh-8,1 papurau ynghylch y teitl "Ich Dien" sydd gan Pywysog Cymru, a cheisia rhai ddweyd y dylai fod "Eich dyn." Paham y gwastreffir amser a gofod ar y fath deitl. Nid yw yn perthyn i Gymru, ac nid oes fawr gwahaniaeth gan y Tywysog pa un a newidir ef o gwbl, go debyg. Dywedodd Esgob Tyddewi mewn araith a draddododd yn Llangrannog, yr wythnos diweddaf, nad oedd yn credu y delai y rhyfel i derfyn hyd nes y byddai i drigolion yr Ynys hon ym- ostwng mewn gweddi o flaen Duw. Pa fodd y gall gysoni hyn gyda'r ffaith fod offeiriaid yr eglwys yn gofyn am fendith ar arfau y wlad hon, ac yn gofyn am fendith yr lor ar waith y milwyr 1 Y mae offeiriaid Germani, Awstria, a'r gwledydd ereill, yn gofyn am yr un fen- dith, ond nid oes atebiad wedi dyfod i'w cais hunangar a phechadurus. Pe buasai yr Esgob yn ceisio cael cariad a chyfxawnder i deyrnasu yn y gwahanol wledydd, cawsai weled terfyn buan ar yr alanas fawr. Y mae eisieu gwneud, gyda gweddio, ac yna cawn fendith yr Ion.

Advertising

Y FERCH HONO. II

Llythyr.

Advertising

Byd y Bardd a'r Lienor. ]

0 Lannau Cynon i Ddyffryn…