Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
PETH O'R CYNNWYS.I
PETH O'R CYNNWYS. Byd y Bardd a'r Lienor 2 0 Lannau Cynon 2 Ddyffryn Ceri 2 Lloffion y Brawd Llwyd 2 ,O'r Gogledd 3 Y Beirdd 3 Ein Senedd a'n Seneddwyr. 4 Priodi Gol. y Darian a Moelona 5 Llythyrau at y Golygydd 5 Llith y Cobler. 6 Pererindod i Gefn Brith 6 Undeb y Cymdelthasau Cymreig 7 Dyled y Byd i'r Cymro 7 Mynydd Cynffig 8 Pen Moriah, Birchgrove. 8
Advertising
• 5 ■" "Y DARIAN" IFEL rJYFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFODAU. YR ydym wedi derbyn Llythyrau yn ddiweddar oddlwrth Ysgrifen- fddion Eisteddfodau a roddasent Eyebysiad yn y Darian 6leni, am y 4ro cyntaf, yn tystio eu bod yn synnu at y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- ,d ym mhoblogrwydd a llwyddiant eu SCeieteddfodau.
Advertising
"BUGAIL Y BRYN," I NOFEL GYMRAEC NEWYDD, GAN MISS L. M. OWEN (MOELONA). ?Athrawes mewn Cymraeg yng Nghaerdydd. Awdures "Dwy Ramant o'r De," "Teulu Bach Nantoer," etc., etc. I flod yn ba-rod yn fuan. PR I S-2s. 6c. Wedi ei rhwymo'n hardd mewn llian. Anfoner archebion i "Moelona," Swyddfa'r "Darian," Aberdar. Y telerau arferol i Lyfrwerthwyr.
Advertising
MAP Y RHYFEL YNG NCWLEDYDD Y BEIBL. -0-, GAN BERIAH GWYNFE EVANS. -?:- jCyhoeddedig gan Gwmnl'r Darian, ac i'w gael o'r Swyddfa. Pris 6c.; trwy'r post, Gie. Anfoner y Tal naill ai mewn postal orders neu stamps dimai.
mCWRS Y RHYFEL. I
m CWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. HEDDWCH YR ARLYWYDD. ERGYD I'R CAISAR. I El GYHOEDD! YN AETH-WLAD. I BWYD Y BOBL. I ANIFEiLI AID YN El FWYT A— LLYGOD YN El DDIFA. RHAGOLYGON TYWYLL. BRWYDRAU'R BRYNIAU. GAN BERIAH. Un o'r wythnosau pwysicaf yn hot! banes y rhyfel o'r dechreu oedd' yr wythnos ddiweddaf: Cafwyd ynddi un o'r buddugoliaethau mwyaf, datgudd- iwyd ynddi un o'r peryglon mwyat,' amlygwyd ynddi un o'r dedfrydau cospawl trymaf, a phrofwyd ynddi un o'r pryderon dyfnaf y clywyd son am danynt er dechreu y rhyfel dros dair blynedd yn ol. HEDDWCH YR ARLYWYDD. Darluniwyd eisoes yn y."Darian" natur heddwch y Caisar, a thelerau Heddwch y Pab. Yr wythnos ddi- vyeddaf cafodd y byd gyfle i amgyffred gWerth y ddau yngwyneb tywyniadau llachar Heddwch yr Arlywydd. Seiliai'r Caisar obaith cryf ar y der- byniad y disgwylid a gawsai Heddwch y Pab. Lladdwyd pob cyfryw obaith pan hysbyswyd amodau Heddwch yr Arlywydd. Dyma yn ddios fynegiad awdurdodol pwysicaf yr holl ryfel. Dengys fod y Lleygwr sydd yn Arlywydd America yn amgyffred rheidiau dynoliaeth a gwir hawliau Cristionogaeth yn llawer gwell nag a wna v Pab, Pen yr Egb^s. Ni bu gwrthgyferbyniad mwy tarawiadol erioed nag a welir rhwng Heddwch y Pab a Heddwch yr Arlywydd. COLLFARNU'R CAISAR. Rhyw geisio cysgodi y Caisar rhag cosp haeddiannol ei luaws troseddau yn erbyn pob deddf o eiddo' dyn a Duw oedd cenadwri y Pab. Rhwyga'r Arlywydd y fantell 0 hunan-gyfiawn- der y Pab a'r Caisar ymaith gan ddangos ysgelerder pechodau'r Caisar yn noeth yngwydd y byd. Mynnai'r Pab fel petae adfer pethau i'r hyn oeddent cyn dechreu y rhyfel, pan lethid gweirin pob gwlad yn Ewrop gan faich Byddin a Llynges a pharato- adau rhyfel, ac y delid dwrn haearn Germani filitaraidd bvth a beunydd yngwyneb pob cenedl. Dengys yr Arlywydd na fedr byd na gwerin fforddio caniatau i'r hunllef ofnadwy hwn barhau yn hwy. Rhaid, meddai, ryddhim (tynbr .b .,ddiwrth lyffeth- eiriau ofn a dychryn militariaeth bellach. Taflu mantell dros y drwg a wnaeth y Pab; myned i lawr at gyn- seiliau y drwg a wna'r Arlywydd. Anogai'r Pab lywodraethwyr y gwledydd i gymodi a'u gilydd. Gofynna'r Arlywydd :— "Pa faint gwell a fyddem o gymodi a'r Caisar a Militariaeth Germani? Pa adduned o'u heiddo a fedrem gredu ynddi? Pa addewid o eiddo'r Caisar y gellir teimlo, yn sicr a gyflawnid gan- ddo? Oni thorrodd efe a'i griw militar- aidd bob addewid, pob adduned, pob cytundeb, pob llw, pob deddf ? Ac os torrwyd y rhai hyn gan y Caisar a'i Lys, oni thorrir eto yn y dyfodol bob cytundeb a wnant yn awr yn nydd eu cyfyngder? Ofer, a gwaeth nag ofer, a fyddai cymodi a'r Caisar. Ofer gwaeddi 'Heddwch' pan nad oes heddwch. Ni *bu erioed ddynoethiad gonestach o. dwyll a rhagrith nag a geir yng nghenadwri yr Arlywydd i'r Pab. UNIG WIR SAIL HEDDWCH. Wedi gwneuthur y Caisar felly yn aeth-wlad, yn outlaw, yn ysgymun- beth gwrthodedig gan holl gen- hedloedd daear, a yr Arlywydd ymlaen i ddangos mai unig wir sail a sicwydd heddwch y dyfodol yw cydnabod yn gyffredinol ac mewn modd ymarferoi egwyddor hanfodol Brawdoliaeth Dyn ymhob gwlad. Pregeth Crist ar y Mynydd wedi ei chymhwyso at bolisi'r byd yw cenadwri yr Ar- lywydd. 11 Gesyd i lawr dri anhebgor heddwch, sef i. Heddwch gwerin ac nid hedd- wch teyrn ydyw i fod. 2. Heddwch parhapl. drwv ddiar fogiad cyffredinol—troi y cleddyfau yn sychau a'r gwaewffyn yn bladur- iau ymhob gwlad, a hynny yn awr. 3. Heddwch masnachol yn ogystal a heddwch milwrol, fel na bo achos cweryl mwyach rhwng y naill wlad a'r llall. Golyga hyn, yn ymarferol, Fasnach Rydd dros yr holl ddaear i bob gwlad a chenedl. Wrth fyned heibio gellir adgofio darllenwyr "Y Darian" fod myn- egiad yr Arlywydd ar wir seiliau heddwch yn aralleiriad o'r hyn a gyhoeddwyd fisoedd yn ol gan Gymro craff ei olwg a chlir ei ragwelediad, Mr. E. T. John, A.S., yr hwn dro ar ol tro a ddyrchafodd ei lais i gymell i sylw awdurdodau'r gwledydd yr un peth yn hollol ag a gymhellir yn awr gan Arlywydd yr America. Lief un yn llefain yn y diffaethwch oedd eiddo yr Aelod dros Ddwyrain Dinbych; llef a glywir ym mhedwar ban y byd yw eiddo'r Arlywydd Wilson, ond yr un yw cenadwriyr Arlywydd ag eiddo yr Aelod Cymreig. Sylwer eto fod yr Arlywydd yn mynnu gosod diarfogiad cyffredinot yn amod cyntaf heddwch, ac nid rhywbeth i gytuno arno ar ol gwneud heddwch. Nid cwestiwn o ennill neu ildio tiriogaeth y naill wlad na'r Hall, nid cwestiwn hyd yn oed o dalu iawn gan y naill wlad i'r llall yw hanfod heddwch, eithr yn hytrach gosod i lawr gynseiliau cedyrn «sicrhant hedd- wch parhaol drwy yr holl ddaear, fel na ddysgo neb ryfel mwyach. Os ceir y cyfryw gyd-ddealltwriaeth rhwng cenhedloedd y byd, materion cymharol ddibwys a rhwydd eu setlo fydd manylion amodau heddwch. Symuder oddiar ysgwyddau'r gwledydd gostau aruthrol cynnal byddin a llynges, gan droi y miliynau dynion sydd yn difa cyfoeth yn lie ei gynhyrchu yn ol at, ahvedigaethau cyffredin bywyd, a chymharol ddibwys fydd y dranl o. ail- adeiladu Belgium a Gogledd Ffrainc. Tafler drysau marchnadoedd y byd yn agored didoll i bob cenedl yn ddi- wahaniaeh, a diflaftna i raddau pell bwysigrwydd llinell cyffindir rhwng y naill wlad a'r llall. Rhodder i werin pob gwlad, yr hawl i benderfyriu drosti ei hun o dan ba fath lywodraeth y myn fyw, a chwelir i'r pedwar gwynt hanner gorthrwm byd. A dyna yn ymarferol yw Heddwch yr Arlywydd. BWYD Y BOBL. DygOopdyr wythnos ddiweddaf ni yn y wlad hon yn agosach wyneb yn wyneb a pherygl neMTyn nag a fuom eriofed o'r blaen. Mae cnydau drwy r wlad hon yn drymach nag y buont Erioed—ond mae'r hin anffafriol yn bygwth pydru llawer 00 hono cyn ei fedi a'i gynhaeafu. Lie yr oedd addewid am lawnder, ymddengys heddyw y posibilrwydd am brinder bwyd cartref. j A phan edrychir i wledydd eraill arferent ein cyflenwi a defnyddiau bwyd, gwelir perygl na ddychmygwyd erioed am dano. Yn Awstralia mae cannoedd o filoedd o dunelli 01 wenith wedi eu hystorio yn barod i'w danfon dros y mor i ddiwallu angen Prydain. Ond nid yn unig y mae prinder llongau i'w gludo, ond bygythir ei ddifa yn yr ystordai. Mae byddin anferth o elynion eisoes wedi rmosod ar yr ystordai yn Awstralia, ac yn prysur ddifetha yr holl ystor yno. Mae miliynau o lygod wedi meddiannu yr ystordai hyn, ac os na cheir yn fuan ymwared, bydd pla y llygod yn Aws- tralia yn dwyn canlyniadau mwy alaethus na phla locustiaid yr Aifft eynt. LLAI 0 GIG. MWY 0 FARA. Un o ganlyniadau annisgwyliadwy y rhyfel fydd gwneud i ddyn ddibynnu llai ar gigfwyd a mwy ar lysieufwyci. Gyda phrinder bara yn ein bygwth try gwyddonwyr sylw at y modd i'w gynhilo. Danghoswyd yr wythnos ddi- weddaf fod magu anifeiliaid er mwyn cael eu cig yn fwyd vn afradloni def- nydd bwyd y bobl. Dengys y Proffeswr Wood fod mochyn yn bwvta deuddeg pwys o rawn i gynhyrchu un pwys o gig; fod pob giar yn difa 14 pwys am bob pwys o gig a geir arni; fod y ddafad yn bwyta 24 pwys am bob pwys o gig, a bod yr eidion pasgedig yn gofyn cael 64 pwys o fwyd am bob pwys o gig a geir arno. Mae'r eidion, a'r ddafad, a'r moch- yn yn bwyta naw miliwn o dunelli o yd rawn bob blwyddyn yn y wlad hon, tra nad yw'r bobl yn bwyta ond pum miliwn o dunelli o yd yn y flwyddyn. Cymhellir felly fwyta llai a gig er mwyn cael mwy 0 fara. BUDDUGOLIAETH FAWR YR EIDAL. Pa fanylaf yr astudir y peth, amlycaf oil y gwelir fod buddugoliaeth yr Eidal ar yr Awstriaid y tu hwnt i'r Izonzo yn un o'r rhai pwysicaf yn holl hanes y Rhyfel. Brwydr ofnadwy mewn lie ofnadwy ydoedd. Ymleddid hi .ar fyn- ydd-dir nid anhebyg i'r Eryri, ond ei fod yn llawer eangach mynydd-dir, yn ymestyn am filltiroedd lawer o'r gog- ledd i'r de, ac o'r dwyrain i'r gorllewin. Anhawdd, heb gymhorth Map da, yw cael syniad cywir o natur a phwysig- rwydd y brwydro a'r fuddugoliaeth. Mae enw yr Afon Izonzo yn adna-, byddus i ddarllenwyr y Darian am y brwydro caled a fu gan Fyddin yr Eidal i'w chroesi. Yn nhiriogaeth Awstria yn awr (ond tir yr Eidal gynt), y mae Dyffryn yr Izonzo. 0 chwech i wyth milltir i'r gorllewin i'r afon y rhed llinell ffin yr Eidal. Tu hwnt i'r, afon, ar ochr Awstria, y saif amddiffynfa fawr Goritsa. Rhaid oedd ennill hon cyn y gallai Byddin yr Eidal symud ymlaen i ymosod ar Trieste, porthladd mawr Awstria ar For yr Adriatic, tua'r de, a, Tolmino, y gyffordd fawr a phwys- ig tua'r gogledd ar y rheilffordd tua Vienna, prifddinas Awstria. Enillwyd Goritsa flwyddyn yn o Croeswyd yr afon a gwynebwyr y myn- ydd-dir yr ochr draw. Yn agor 1 Ddyffryn yr Izonzo i'r de o Goritsa mae Dyffryn- Vipacso, afon bwysig arall; yn agor i Ddyffryn yr Izonzo i'r gogledd o Goritsa mae Dyffryn Chapovano. Rhwng y Vipacso a'r Chapovano mae Fforest Fawr Ternova, tuag 20 milltir o hyd, ac o 10 i 15 milltir ar draws. Yng ngenau Dyffryn Chapovano dyrch- afa Monte Santo, Mynydd y Saint, ei ben i'r cymylau. Amhosibl symud i'r gogledd, tua Tolmino, nac i Ddyffryn y Chapovano, heb yn gyntaf ennill Mynydd y Saint. I'r de, rhwng yr Afon Vipacso a phorthladd Trieste, saif Ucheldir y Carso, rhyw ugain milltir o hyd, ac o 10 i 12 milltir ar draws; ac ar lan y mor yn cloi y ffordd tua Trieste, saif Myn- ydd Hermada. Ar y Carso y bu yr ymladd er's misoedd, mewn ymdrech i ennill Mynydd Hermada, ac agor y ffordd tua Trieste. Bu llongau rhyfel Prydain yn tanbelennu'r Mynydd o'r mor, a Byddin Awstria o'r tir, ond heb wneud llawer o effaith. Pe y gellid ennill Fforest Fawr Tern- ova, gellid myned o'r tu ol i Fyddin Awstria ar y Carso a Trieste. Trwy Ddyffryn Chapovano y gellid yn oreu ennill y Fforest Fawr,—ond rhaid en- nill Mynydd y Saint cyn gellid eyrraedd y Dyffryn., Gwelir felly mai math o allwedd x ddrws y cefn yn y Carso a Trieste yw Mynydd y Saint. Enillwyd ef ar ol wythnos o frwydro caled, ddydd a nos, gan yr Eidalwyr. Cymerasant yn agos i 30,000 o'r Awstriaid.yn garcharorion, ac yspail rhyfel difesur ymron. Erbyn hyn mae'r Awstriaid yn galw milwyr o bob man i gadw'r Fforest Fawr. Os collir hon, collir y Carso a phorthladd Trieste, a bydd y ffordd fawr tua Vienna, y brifddinas, yn agored. Gyrrodd Ymerawdwr Awstria at y Caisar yn deisyf am gymorth mil- wyr Germani. Atebodd y Caisar yn ddigon swta fod gan filwyr Germani fwy na llond eu dwylaw o waith eisoes yn Fflanders ac yn Verdun. RHAGOLYGON TYWYLL RWSIA. Parhau yn dywyll mae awyrgylch Rwsia. Ceir adrannau cyfain o'r Fyddin yn gwrthod ymladd, gan gilio yn ol yn barhaus o flaen y gelyn. Teyrnasa annhrefn yn y wlad. Ym- ranna'r arweinwyr yn ddwy a thair plaid wrthwynebol, yn cystadlu a'u gil- ydd pa un o honynt gaiff fod yn fwyaf. Aeth Korniloff, y Prif Faeslywydd, i'r Gynhadledd Genedlaethol gan ddweyd gwirioneddau hallt wrth gynrychiolwyr y bobl. Dywedodd fod y Fyddin wedi ei hollti yn ddwy, ac os na osodid awdurdod yn nwylaw'r swyddogion ar fywyd pob milwr y buasai'r miliynau milwyr yn llifo yn ol drwy'r wlad gan anrheithio y ffordd yr elent. Hysbys- wyd fod yr annhrefn ym myd llafur y cyfryw fel, os na adsefydlid disgyblaeth na buasai y rheilffordd ymhen deufis eto yn gallu cludo bwyd i'r milwyr na shels i'r magnelau. Ar yr hyn a gymer le o fewn y pythefnos nesaf, o bosibl, y dibynna holl ddyfodol Rwsia.
Eisteddfod Elim, Cralgeefnparc.…
Eisteddfod Elim, Cralgeefn- parc. Medi 8fed. 1917. Derbyniwyd yr ffug-enwau canlynol: Pryddest: Carolus, Macwyr Mor, Gelyn Galanas, Lef o'r Dyfnder, Marin, Plentyn y Don, Orpheus, Dafydd o'r Gors, Murmur Pell, Pedrylew, Rhwydd i for e ddiferyn, Clusteiniwr, Bardd y Traeth, Gwymon y Mor, Mab y Cyn- for, Meudwyr Don, Cor y mor i mi, Gwynfor, Gwlan y Gilfach, Pryderus, Fred o Ffrainc. Englyn: Fidei Defensor, Ty Dymestl, Dan ei faich, Ar y Traeth, Goreu arf Dyngarwch, Yn y Glyn, Edmygydd, Negro, Elusengarwch, Dyn ar gariad yn goron, Dyngarwr dan ei goron, T. H., Amicus, Samaritan, Dyma fe. Tri Phenill: Ap Tangnefedd, Salm- ydd bach, Eiddil, B. T., Hen Walch, Tan Hiraeth, Caradog, Ap Tangnef, Tangnef, Gwyn ap Nudd, Dan ei Hud, Pax Fecum, Un o'r Bryn, Pax, Eidiol. Traithawd Casawr Rhyfel, Gwerin- wr, Senex, Ymgeisydd, Yule, Gwlad- garwr. Ysgrif i Blant yr Ysgol: Gorynys gwyr neu Owain Glyndwr": (1) Eliza- beth (2) Don nobus. Yr eiddoeb.-I. L. Jones, H. J. Evans, Y sgrifenyddian.
[No title]
Daeth y newydd fod y milwr Cyril J. Griffiths, mab y Parch, a Mrs. J. Grif- fiths, Calfaria, Aberdar, wedi ei ghvyfo yn Ffrainc, a'i fod yn Ysbyty Milwrol Canterbury yn y wlad hon. Yn Canada yr oedd efe, ac mewn safle gyfrifol mewn ariandy, pan dorodd y rhyfel allan. Wedi i'r rhyfel dorri allan ymunodd a'r Bataliwn 46 o'r Canad- wyr. Yn ei forddwyd y clwyfwyd ef yn yr ymosod mawr a fu'n ddiweddar. Cydymdeimlir a'i rieni yn eu prvder. Dydd Sadwrn, cynhaliwyd arddang- osfa, ym Mhontyberem, ynghyd a "Fancy Fair, yr elw i fyned i Drysorfa Milwyr a Morwyr Pontyberem. Man- ylion eto.