Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Undeb y Cymdeithasau Cymreig.I

News
Cite
Share

Undeb y Cymdeithasau Cymreig. EANGU MAES Y GENHADAETH. GAN BERIAH. Wrth annerch cyfarfod blynyddo1 Undeb y Cymdeithasau Cymreig ynglyn a'r Eisteddfod Genedlaethol prynhawn dydd Llun galwodd y Llywydd, Mr. E. T. John, A.S., sylw at faes cenhadaeth yr Undeb a'r'angen y sydd am ei eangu. Amcan yr Undeb a'r Cymdeithasau, eb efe, yw achlesu yr Iaith Gymraeg, llenyddiaeth, hanes, traddodiadau a dyheadau y Genedl Gymreig. Gwnaent hyn drwy'r wasg, cynadleddau, dar- lithiau, a thrwy ddylanwadu ar aw- durdodau lleol. Yn neillduol ym- drechid cael sylw helaethach i'r Gymraeg yn ysgolion a cholegau Cymru. Bwriedid hyd oedd modd ffurfio Cymdeithas cysylltiedig a'r Undeb ymhob ardal yng Nghymru. Sicrheid felly un corff cenedlaethol gweithgar a dylanwadol. Gwerthfawrogid gan yr Undeb y gwaith a wneir 0 dan lawer o an- fanteision gan Gymdeithasau Cymreig yn Lloegr. Da fyddai gan yr Undeb hyrwyddo gweithrediadau y rha; hyn., Mae yr Undeb wedi paratoi rhestr gyfoethog o ddarlithwyr a darlithiau ar faterion diddorol i Gymry. Gallai y Cymdeithasau gael y rhestr gan yr Ysgrifennydd, ond pan yn ceisio am wasanaeth darlithwyr dylai Cymdeith- asau gadw mewn cof fod gallu y dar- lithwyr i deithio vmhell oddicartref yn dibynnu ar amgylchiadau a chyfleusterau. Mewn lleoedd fel Liverpool, Man- chester, a Llundain gellir manteisio i raddau ar adnoddau y Llywodraeth i gynnal dosbarthiadau i astudio'r Gymraeg. Bwriada'r International Correspondence Schools, Ltd., symud ymlaen yn yr un cyfeiriad er cyn- orthvvyo y Cymrv sydd ar wasgar feistroli yr hen iaith. Mae'r Undeb hefyd yn ystyried y posibilrwydd o drefnu i Gymry ieuainc trefi Lloegr fonteisio, ar yr Ysgol Haf Gymreig. Cynhaliwyd hon am nifer o flvnyddoedd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Er fod yr Ysgol Haf wedi cael ei rhoi lieibio, ar hyn o bryd, diameu yr ail gychwvnir hi, naill ai gan Gymdeithas yr laith Gymraeg, neu gan Undeb y Cymdeithasau Cym- reig, neu gan y ddau mewn cyd- weithrediad a'u gilydd. Os cyfaddasir cyfarfodydd yr Ysgol Haf at anghenion mwy cyffredinol, bydd llawer O"r Cymry ieuainc sydd ar wasgar yn barod i dreulio, cyfran o'u gwyliau mewn ardal swynol yng ngwlad eu tadau, a gwrando yno, ar ddarlithiau ar iaith, lien a hanes Cymru-. i Yn ychwanegol at hyn gall y Cymry yn Lloegr gynorthwyo eu cydwladwyr yng Nghymru pan geisir sicrhau, dvweder, i Addysg Cymru sylw ac adnoddau helaethach; gallant wneud llawer i unioni cam Cymru. Er nad yw yr Undeb yn bwriadu ymyrryd a chwestiynnau gwleidyddol fel y cvfryw, mae am sicrhau i Gymru bob mantais a estynir i Loegr, yr Alban, neu yr Iwerddon. »

Dyled y Byd i'r Cymro.

Advertising