Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
\71 i Y DARIAN" FEL GYFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFODAU. Y-R ydym wedi derbyn Llythyrau yn ddiweddar oddiwrth Ysgrifsn- ledion Eisteddfodau a roddasent r jtbysiad yn y Darian eleni, am y '0 cyntaf, yn tystio eu bod yn synnu »» y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- ym mhoblogrwydd a llwyddiant eu dS eisteddfodau.
Advertising
MAP Y RHYFEL I YNG NCWLEDYDD Y BEIBL. I FN DANGOS SAFLE A SYMUDIADAU T GWAHANOL FYDDINOEDD YN EUI PERTHYNAS A Theithiau Hanesyddol y Beibl. o GAN BERIAH GWYNFE EVANS. o £ yhoeddedig gan Gwmnrr Darian, ac I ,i'w gael o'r Swyddfa. Pris 6c.; trwy'r post, Glc. Anfoner y Tal naill ai mewn postal ,orders neii stamps dimai.
"Chwilod y Baw." I
"Chwilod y Baw." I (COCKCHAFERS). I IDarn Adrodd a gyfansoddwyd ar ol darllen Ysgrif Beriah yn y Darian. -Gydwladwyr, blant y mynyddoedd, Colofnau hen Gymru wen, .Ar faes erchyllderau Ewrob, Am wrhydri y chwi sy'n ben; Ba wlad fel fy Nghymru annwyl Am fagu gwroniaid cryf, ,Oes filwyr yn ymladd heddyw Ar gochdir y gad yn fwy hyf ? Hwre i'r 'Welsh Fusiliers,' Ac i'r 'Fyddin Gymreig,' heb daw, Ar ucheldir Pilkem waedlyd Trechasant "Chwilod y Baw"! Hwre i fyddinoedd Gwalia, Hwre ddaw drwy Gymru'n fyw, Hwre i fy mrodyr gwladgar, 'Byddin y Chwilod' mwy nid yw! Y mffrost y Caisar hunanol 0 hyd oedd y fyddin hon, A Ilawer o'i 'Groesau Haearn' Osododd ef ar eu bron. Canwyd aur glychau eu chlodydd Yn siriol drwy strydoedd Berlin; Ymladdwyr ardderchog ym mrwydrau'r gad Fu Chwilod y Baw cyn hyn. Byddinoedd Ffrainc er eu hymdrech Fu'n ochain o dan eu traed, Byddinoedd lliosog Rwsia fawr Dywalltodd i rhai'n eu gwaed. Byddin obeithiol Germani Oedd Byddin "Chwilod y Baw," Hyf arwyr-gwroniaid y Caisar, Hwy drechent ar bob llaw. Ar y cyntaf o Fai bob blwyddyn, Blwch bychan a yrrai o dref I'r gatrawd odidog garai, A "Chwilen y Baw" ynddo ef; Ond diwedd Gorffennaf eleni Atseinioddein Hutgorn Croch, Fod 'Chwilen y Baw' yn chwilen y baw Yn ewinedd llym y Ddraig Goch! Ar/eu hoi y Caisar wyla. Berlin syd^i^tdctagratfl gjd, Ond Cynirja a cnwifia ei baner yn lion, Gwrhydri ei milwyr a synnodd y byd! Hwre! unwaith eto floeddiaf, A Baner y Ddraig yn fy llaw, Byddinoedd fy ngwlad ym medd mawr y gad A gladdodd Fyddin 'Chwilod y Baw!' GWILYM CYNLAIS.
CWRS Y RHYFEL. t - - i
CWRS Y RHYFEL. BRWYDR FAWR YR EIDAL. I 14,000 0 GARCHAROR!ON. I. LENS AR SYRTHIG. j YMLADDFEYDD OFNADWY. TRECHU LLOFRUDDION YR AWYR! LLAFUR A'R LLYWODRAETH. GAN BERIAH. Unwaith eto rhaid rhybuddio'r darllenydd i beidio cymeryd golwg gyfyngedig ar Gwrs y Rhyfel nac ar ei faes. Gwahaniaetha y rhyfel hwn oddiwrth bob rhyfel o'i flaen mewn amryw bethau pwysig, n-iegys Rhifedi y rhai sydd yn ymladd. Eangder maes y brwydro. Rhyfel cenhedloedd ac nid rhyfel byddinoedd ydyw. Ceisied y d'arllenydd bob amser gadw o leiaf y tri pheth hwn mewn golwg pan yn astudio hanes y dat- blygiadau ar faes y gwaed. Un yw'r gelyn a'i allu. Un yw Prydain a'i Chynghreiriaid. Un yw Maes y Gwaed pe hwnnw led led y ddaear. BRWYDR FAWR YR EIDAL. Datblygiad pwysicaf yr wythnos yn .ddiameu yw brwydr fawr yr Eidal. Cvmharol ddigychwyn, yn ymddangosiadol, a fu byddin yr Eidai ers tro. Cael ei hariadl ati am ym- drech mawr ydoedd. Gwneud paratoaihiu ar gyfer ymosodiad ofna-i dwy y bu. Pan oedd y cwbl yn barod tarawodd Cadorna, Maeslywydd yr Eidal, ergyd mor nerthol ac mor effeithiol a dim ar a darawyd gan Syr Douglas Haig yn Fflanders. ( Gwahanol iawn yw anawsterau yr Eidalwyr i'n heiddo ni. Ymladda ein pobl ni yn ami mewn corsydd a llaid hyd eu gwregys. Boddwyd ami i ddewryn yn llaid Fflanders, wedi ei glwyfo ac yn rhy wan i vmlusgo, o'r gors. Ond ymhen y mynyddoedd cribog, rhwng pinaclau y creigiau yr ymladda'r Eidalwyr. Ymestyna llinell eu brwydr am 'ddeugain milltir o Tolmino, y gyffordd fawr a phwysig, hyd lannau'r Adriatic ac ar geulannau yr Afon Izonzo. Lie erchyll sydd yno. Rhaid dringo'r creigiau serth yn nannedd gwrthwynebiad ystyfnig y gelyn. Rhaid teithio llwybrau'r geifr mewn mannau lie y golygai llithro'r cerddediad gwymp o gantioedd o droedfeddi yn syth i lawr i gagendor ofnadwy. Rhaid codi magnelau trymion i fannau yr arswyd- ai dyn rhag meddwl am ddringo ei hun ar adeg arall. Ond dywedir nad oes yn y byd hafal i beirianwyr Byddin yr Eidal. Ni cheir y gair "amhosibl" yn eu geiriadur hwy. Mae cywreinrwydd eu dyfais i orchfygu anawsterau naturiol yn ddigyffelyb, a'u dewrder ymron yn ddigymar. Rhaid oedd yr wythnos ddiweddaf daflu pontydd dros yr Izonzo 0 geulan i geulan er croesi ymosod ar yr Awstriaid ary mynydd- dir vr ochr draw. Yr oedd v man i'w bontio yngolwg y gelyn, ac yntau a'i fagnelau yn barod i ysgubo'r bont i ddinystr pan ei codid hi. Yn y nos casglodd y peirianwyr Eidalaidd hbtl ddefnyddiau'r pontydd yn barod i lan yr afoii. Gvda'r wawr taniodd eu magnelwyr shels myglyd. Mwg a ddeuai allan o'r shels hyn yn lie angau. Yn y man yr oedd dyffryn yr Izonzo o bob tu i'r lie y gweithiai y peirianwyr yn guddiedig mewn mwg du, tew, fel na fedrai magnelwyr yr Awstriaid weled pa le i danio arno. 0 dan gysgod y cymylau mwg adeil- adwyd y pontydd, a chyn i'r Awstriaid ymron sylweddoli eu perygl yr oedd yr Eidalwyr ar eu gwarthaf. Fel rheol mewn brwydr un ochr yn unig sydd yn cymeryd carcharorion. Ond fel dangoseg o ansicrwydd y brwydro gellid dweyd fod yr Eidalwyr wedi cymeryd tua 14,000 o'r Awstriaid yn garcharorion mewn un man, a' r Awstriaid hwythau wedi cymeryd 5,000 o'r Eidalwyr yn garchar.)rion. mewn man arall—ond y ddau ar yr un dvddiau ac yn yr un frwydr Yn y frwydr hon profwyd gwcrth yr awyrennau. Bu ugeiniau o aeroplens yr Eidal yn bwrw tan o'r nef ar Fyddin Awstria, tra'r cyflegrau yn hyrddio mawolaeth o'r ddaear ar y gelyn. Cydweithrèdid hefyd o'r mor gan y Monitors, y llongau rhyfel fedrant nofio lie bo'r dwfr yn fas. Taniai y rhai hyn o ymyl y lann i fyny i lethrau'r mynyddoedd. Ie, brwydr ofnadwy yw hon, ac mae yn myned ymlaen tra yr ys- grifennir y desgrifiad amherffaith hyn o honi. Ac mae'n syn meddwl ein bod ni yng Nghymru yn gwybod mwy o hanes y brwydro yn yr Eidal hag a wyr pobl yr Eidal eu hunain. Ychydig ddyddiau yn ol ysgrifennai bachgen o Gymro sydd gyda'r mag- nelwyr Prydeinig yn yr Eidal, adref 1 ddweyd fod pawb yno yn credu fod y rhyfel ar ben- ac na cheid ymladd mwy Erbyn hyn gwyr yn dra gwa- hanol! I LENS AR SYRTHIO. Mae Lens, Merthyr Belgium, ar syrthio. Mae dau ddant mawr gefail Byddin Prydain yn dechreu gwasgu ar y gneuen, a'r masgl yn dechreu cracio. Wythnos cynt yr oedd Maes- lywydd Byddin Germani yn brolio fod y Canadwyr ym Myddin Prydain wedi dioddef y fath golledion ofnadwy fel na welid hwynt mwyach yn gatrawd ar ei phen ei hun. Cyn pen wythnos wedi ysgrifennu o hono y stori gelwyddog yr oedd y Canadwyr yn ymosod, ac wedi ennill rhan o ddinas Lens. Brwydro ofnadwy a fu yno, o dy i dy, o seler i seler. Yr oedd y gelyn wedi cysylltu seleri y tai a'u gilydd, fel y gallant pan eu trechid mewn un gilio yn ol i'r nesaf. Ac yno, tra y rhuai y magnelau uwch- ben, y ceid y Canadiwr a'r German yn ymladd, pob un am ei fywyd. DIGWYDDIAD HYNOD. Digwyddodd peth hynod iawn le ynglyn a'r brwydro hyn am Lens. Gelwir y tir rhwng ffosydd blaenaf y bvddinoe-dd gwrthwynebol yn "Dir Neb. Os gwelir German arno, saethir ef gan y Prydeinwyr. Os beiddia Prydeiniwr geisio, ei groesi, bydd yn nod bwledi y Germaniaid. Ni welir felly neb o'r naill ochr na'r llall ar "Dir Neb," ond pan fo ym- osodiad. A phan lama milwyr y Fyddin fo'n ymosod o'r ffosydd, daw cawodydd o fwledi o'r ffosydd gyfer- byn i'w hatal. Ond y tro hwn digwyddodd fod y Cadfridog Prydeinig a'r Cadfridog Germanaidd wedi penodi yr un awr a'r un foment i ruthro'r ffosydd gwrthwynebol yn yr un rhandir. Felly, pan ddaeth yr awr, llamodd y Canadwyr ar y naill law, a'r Ger- maniaid ar y llall, o'u ffosydd, gan ruthro ar draws "Tir Neb." Cyfar- fuasant ganol y ffordd, ac aeth yn ym- laddfa. Er fod y Germaniaid yn rhifo dau am bob un o'r Canadwyr, gwrth- wyd hwynt yn eu holau Fw ffosydd. Erbyn hyn yr oedd adgyfnerthion Germanaidd wedi dyfod i lenwi y ffos- ydd hynny yn barod i wneud ymosod- iad er cynorthwyo yr ymosodwyr cyntaf. Felly pan ruthrodd, yr haid gyntaf o Germaniaid yn ol i'w lloches, caent y ffosydd yn orlawn o filwyr newydd fel nad oedd le ymron i symud. Ynghanol yr annhrefn hwn daeth y Canadwyr i ymyl y ffosydd gan daflu boms i ganol y dyrfa Ger- manaidd, a'u lladd wrth yr ugeiniau. Ceisiai y Germaniaid na chlwyfwyd ddianc ar hyd y ffos a gysylltai a'r ffosvdd yn y cefn—ond yno yr oedd tod newydd o, filwyr eraill yn teithio tua'r ffrynt, ac aeth yn ddeu-for- gyfarfod rhwng y tonnau o filwyr Germanaidd, un haid am wthio ymlaen a 'r llall am ffoi tuag yn ol. Ac ynghanol y cythrwfl wele boms y Canadwyr eto yn gawodydd am eu pennau. Bu DIGWTYDDIAD MWY ERCHYLL i fvth. Yr oedd gorchymyn caeth ïr Germaniaid adennill rhai o'r safle- oedd a enillwyd gennym yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd bataliwn gyfan o Germaniaid yn teithio i ymosod at ffordd gul suddedig rhwng daear uchel o bob tu. Taniodd ein magnel- wyr arnynt. Rhedodd y rhai a deith- iant y caeau bob ochr i'r ffordd I gysgod y ffordd ddofn hon. A thra yno, rhai cannoedd o honynt, taniwyd y barilau olew llosgedig yn fflamau am eu pennau. Gwnaeth hyn gylch o dan o'u hamgylch, a chafodydd o fflamau am eu pennau fel nad oedd I iddynt ymwared. Llosgwyd hwynt oh. BRYN Y MEIRW. Glyn y meirw a fu y ffordd sudd- edig yn Fflanders. Tra'r truciiiiaid i hyn yn cael eu llosgi yno, yr oedd y Ffrancod yn ellnilJ buddugohaeth fawr ger Verdun. Fe gofia darllenwyr "V Darian" am Fryn y Meirw ger Verdun a gostiood i'r Germaniaid jlynedd liioedd o fywydau i'w ennill. Ademllwyd Bryr. y Meirw a Choed- wigoedd cyfagos gan y Ffrancod yr I wythnos ddiweddaf. Adenillasant mown un dyad saQeoedd y cvmerodd i'r Germaniaid wytlmosau i'w henni'l llynedd. Yn y brwydro hyn yr wyth- nos ddnveddaf cymcrodd y Ffrancod dros 5 000 yn garcharorion. Pwysigrwrydd yr enillion hyn yw fod meddiant o'r safleoedd a gollwyd ganddynt yr wythnos diweddaf yn h-anfodol i'r Germaniaid pe y ceisient ymosod eto ar Verdun. Newydd da yr wythnos i ni yw ein bod bellach fel pe wedi dechreu dysgu trechu LLOFRUDDION YR AWYR. Yr wythnos ddiweddaf gwnaed dau ymosodiad ar Loegr, un gan Zepelins, a'r llall gan Aeroplens. Credir fod un o'r Zepelins wedi ei ddinystrio, a thri allan o'r deg Aeroplen Germanaidd yn sicr wedi cael eu dinvstrio. Pwysicach na dinvstrio tri allan o'r deg ymosodwr oedd eu gorfodi i droi yn ol a ffoi heb fedru cyrraedd' o honynt y nod, sef dinas Llundain. Dengys hyn fod ein trefninn; amddi- ffynol ar hyd glannau Lloegr yn cael eu berffeithioi, a gellir edrych ymlaen at amser pan fydd yn amhosibl awyrennau y gelyn groesi uwchben trefi Lloegr. LLAFUR A'R LLYWODRAETH. to Gwelir hadab anghydfod fedrant ddwyn ffrwyth mewn helyntion chwerw ynghysylltiadau Llafur a'r Llywodraeth. Cynhadledd Gweith- wyr y Byd yn Stockholm sydd yn aros fel prif asgwrn y gjmnen, er nad yr unig achos anghydfod. Fe gofir ddarfod i Mr. Henderson ymddi- swyddo o'r Cabinet ac o'r Weinydd- iaeth ar ol Cynhadledd Fawr Llafur Prydain yn Llund'ain 15 nos yn ol. Cyhuddid ef gan y Prif-Weinidog o fod wedi celu ffeithiau hanfodol oddi- wrth y Gynhadledd ac o'i chamarwain. Ymhen ychydig ddyddiau profwyd tu hwnt i amheuaeth — i. Nad oedd Henderson wedi celu ffeithiau hanfodol. 2. Nad oedd wedi camarwain y Gynhadledd. 3. Fod: Mr. Lloyd George ei hun naill ai wedi ei, gamarwain gan rywun ynghylch safle a dymuniadau Llyw- odraeth Rwsia, neu ynte ei fod ef am i Henderson gamarwain byd llafur yn y mater. Canlyniad y goleuni pellach a gaf- wyd ar yr ymdrafodaeth yw hyn Cliriwyd cymeriad Mr. Henderson yn llwyr. Danghoswvd y Llywodraeth mewn goleuni amheus. Pwysleisiwyd, a chadarnhawyd ymhellach, y drwgdybiaeth a fodolai eisoes ym Myd Llafur am fwriadau y Llywodraeth. Nid yw'r cyfnewidiad yn y bleid- lais yr ail dro yn gwanhau dim ar y casgliadau uchod. Gwir fod y mwi afrif o blaid myned i Stockholm yn y Gynhadledd gyntaf dros filiwn a chwarter, ac nad oedd yn y Gyn- hadledd' ohiriedig ond tair mil. Es. bonnir hyn yn benaf drwy waith Cyn- rychiolwyr y Glowyr, a feddent chwe chan mil o bleidleisiau, yn newid, gan bleidleisio yr ail dro yn erbyn, tra y tro cyntaf dros ddanfon cynrychiol- (Parhad ar tudalen 8.)
Advertising
BUGAIL Y BRYN," NOFEL GYMRAEC NEWYDD. GAN MISS L. M. OWEN (MOELONA). Athrawes mewn Cymraeg yng Nghaerdydd. Awdures "Dwy Ramant o'r De," "Teulu Bach Nantoci," etc., etc. I fod yn barod yn fuan. P R I 8-25. Ge. Wedi ei rhwymo'n hardd mewn llian. Anfoner archebion i "Moelona," Swyddfa'r "Darian," Aberdar. Y telerau arferol i Lyfrwerthwyr. j
PETH O'R CYNNWYS. I
PETH O'R CYNNWYS. Colofn y Beirdd 2 Beirniadaeth Pentregwenlais 2 Byd y Bardd a'r Llenor Atebion Atwebyd 3 O Bell ac Agos 3 Ein Senedd a'n Seneddwyr a Pererindod i Gefnbrith 5 Hwnt ac Yma 6 Colofn y Plant 6 Deillion Abertawe 61 Nodion y Brawd Llwyd 6 Beth a wnaeth addysg 7 Y doll a'r gadair ? Marwnad y diweddar Barch. J. Rees 8 Blaen Cwm Tawe 8 Glannau Afan S