Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
D A R I AN FXL CVFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFOD All. YR ydym wedi derbyn Llythyrau yn JL ddiweddar oddiwrth Ysgrifen- pillion Eisteddfodau a roddasent ttjrabysiad yn y Darian eleni, am y -tru cyntaf, yn tystio eu bod yn synnu t»3 y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- ,1, ym mhoblogrwydd a IIwyddiant eu ^eiefceddfodau. I
Advertising
"BUGAIL Y BRYN," NOFEL CYMRAEC NEWYDD. GAN MISS L. M. OWEN (MOELONA). Athrawes mewn Cymraeg yng Nghaerdydd. Awdures "Dwy Ramant o'r De," "Teulu Bach Nantoer," etc., etc. I fod yn barod yn fuan. PIS-2S. 6c. Wedi ei rhwymo'n hardd mewn Ilian. Anfoner archebion i "Moelona," Swyddfa'r "Darian," Aberdar. Y telerau arferol i Lyfrwerthwyr.
IIIPETH O'R CYNNWYS.
II PETH O'R CYNNWYS. O'r Gogledd 1 Araith Dr. Hartwell Jones ar wet- ydd a Chenedlaetholdeb" 2 Gorseinion a'r Cylch 2 Yr Eisteddfod Genedlaethol 3 Y Cymdeithasau Cymraeg 3 Ein Seneddwyr 4 Cynhadledd Heddwch yn Llandnndod 5 Byd y Bardd a'r Lienor 6 Awr yn Rhandiroedd Resolfen. 6 'Colofn y Mamau a r iqerched 7 Nodion o Abertawe 8
Advertising
MAP Y RHYFEL YNQ NGWLEDYDD Y DEIHL. -;07 GAN BERIAH GWYNFE EVANi £ —o— Oyhoeddedig gan Gwmni'r Darian, ac i'w gael o'r Swyddfa. Pris 6c.; trwy'r post, 6C. Anfoner y Till naill ai mewn postal c-roers neT stamps dimai. Bwrdd y Gol. Mewn Liaw.-Glyn Nedd, Abercraf, Llith y Cobler, Tolli'r Beirdd, Colofn y Plant, Penrhiwceibr, Cyfres y Beirdd a Meib y Gan, Y Gwrthwynebydd Cyd- wybodol, a digon i wneud cyfrol o gyf- .archiadau i'r Golygydd a Moelona. I
?! !"*———————'—— ! B CWRS…
?! !———————'—— B CWRS Y RHYFEL. I ADOLYGI AD YR WYTHNOS. I Y RHYFEL YN YR EISTEDDFOD. I CYFYNGDER MAWR RWSIA. I PA FODD llw HACHUB. I MYNYDD Y PROFFWYD A'R I II ARCHANGEL. GAN BERIAH. I Mae y Rhyfel wedi dod i'r Eistedd- fod ers tair blynedd bellach. Dair blynedd yn ol, ym Mangor, y peid- iodd yr Archdderwydd am y tro cyn- taf ynghof npb byw rhoi'r waedd a'r adwaedd, "A oes heddwch? Dyna'r amser y daeth y rhyfel gyntaf i'r Eisteddfod. Mae wedi aros yno ,hyd heddyw. Eleni, yn Birkenhead .daeth yn nes. Cysgod y rhyfel oedd ym Mangor. Y cysgod hwnnw yn dduach yn Aberystwyth. Ond y rhyfel ei hun yn ysgyrnygu ei ddanedd yngwydd y dorf a welwyd yn Birkenhead Dygwyd erchyllder y rhyfel mor agos i feddwl a chalon torf yr Eisteddfod ymron a phe bae Zepelin yn yr awyr uwchben yn bwrw tan a dinystr ar y babell. Ddeufis yn ol yr oedd bachgen o fugail ar fryniau Meirion yn gwau cynganeddion mewn awdl ar "Yr Arwr fel ymgeisydd am y Gadair. Daeth yr awdl yn ddiogel i law, a hi oedd y fudcfugol allan o bymtheg. Ond pan alwyd y buddugwr i'r llwyfan nid! oedd lais na lief yn ateb. Yr oedd Hedd Wyn (Ellis Evans, Trawsfynydd) yn rhy bell i ateb. Yr oedd yn gorwedd yn naear Ffrainc wedi ei ladd gan uchelgais wallgof y Caisar gwaedlyd. Cadair Ddu gafwyd yn Birkenhead am fod ei phrchen yn y bedd A dyma ganodd yr Archdderwydd Dyfed uwchben y Gadair Ddu eleOl BARDD COLL Y GADAIR DDU. I gylch yr Eisteddfod, o gynnwrf y byd, I gwrdd a'r awenydd, daeth cened! ynghyd; Fe yr utgorn, a threfnwyd y cledd— Ond gwag yw y Gadair—a'r Bardd yn ei fedd Anfonodd ei "Arwr" i brif wyl ei wlad, A syrthiodd yn Arvyr ei hun yn y gad; Oferedd yn awr yw blo-eddiadau o hedd, Mae'r Awen yn weddw—a'r Bardd yn ei fedd Hedd Wyn oedd ei enw, a gwynnu a fu, Does dim ar'ei ol—ond ei Gadair—yn ddu! Dichwerwedd ei galon, digwmwl ei wedd, A byw yw ei gan os yw'r Bardd yn ei fedd Bugeiliodd ei ddefaid heb rodres na ffug, Yn feudwy'r enciuon ynghanol y gAig; Fe groesodd y culfor, a'i law ar ci gledd, Mae'r praidd ar y mynydd—a'r Bardd yn ei fedd! O brudded y newydd; O lymed y saeth I'w geraint, o fwa'r dialydd, a ddaeth Y delyn a ddrylliwyd ar ganol y wledd, Mae'r Wyl yn ei dagrau,—a'r Bardd yn ei fedd —Dyfed. Ac yn y Gadair Ddu yn Birkenhead yr oedd angau du ei hun yn hylldremu ar y dorf, a hwythau'n gweled y Rhyfel yn agosach i'r Eisteddfod nag erioed o'r blaen Ond er tristed y Gadair Ddu, ac er agosed y dygodd hi y rhyfel i ym- wybyddiaeth tyrfa'r Eisteddfod, caf- wyd tristwch mwy, eangach fyth ei gylch, erchyllach fyth yr ysgyrnyg- odd duw rhyfel ym mhabell hedd yr Eisteddfod ynglyn ag amgylchiad arall. Yngwydd deng mil o bobl dacw fachgen ieuanc, milwr clwyfedig, yn dringo i'r llwyfan yn llesg, ac ar ei ol yntau y Cadfridog Cymreig, Syr Owen Thomas. Yna wele Lew Tegid yn egluro. Ddwy flynedd yn, ol, yn Eisteddfod- Bangor, yr oedd dau Gor Milwrol yn cystadlu ar y llwyfan-Corau Batal- iwn 16 a 17 o'r Royal Welsh Fusiliers. Y milwr ieuanc ar y llwyfan, Lance-Corporal Samuel Evans, Rhos, ger Wrecsam, oedd arweinydd Cor Bataliwn 17—y cor buddugol ym Mangor. 'Roedd yr ar- weinydd ddwy flynedd yn ol yn sefyll yn giwyfedig ar y llwyfan yn Birken- head eleni. Ble 'roedd ei gor? Wedi mynd! Bob un! Efe yn unig a adawyd', ac yntau yn anafus dros ei oes! Y bechgyn dewr, y cantorion gwych oedd ar y llwyfan ym Mangor ddwy flynedd yn ol, oil ond yr ar- weinydd, yn gorwedd yn naear Ffrainc, wedi rhoi eu bywyd yn aberth dros eu gwlad a'u cartrefi! Nid oedd lygad sych yn yr holl dorf enfawr. Yn y dorf yr oedd cannoedd wedi colli eu hanwyliaid yn y rhyfel. Ond hyd yn oed iddynt hwy yn eu galar yr oedd ofnadwyaeth y rhyfel yn dod yn fwy byw ger bron eu Hygaid wrth weled yr arweinydd ar y llwyfan heb ei gor. Ar gais teulu- oedd rhai o'r bechgyn laddwyd ar- wisgwyd yr arweinydd a rosette, du a gwyn gan ei hen Gadfridog, Syr I Owen Thomas. Nid agorodd yr at- wisgydd ia r arwisgedig ei enau. Nt tedrent. Yr oedd y teimlad yn rhy ddwys. Yr oedd Syr Owen Thomas ei hun wedi colli dau o'i feibion yn y rhyfel—ac mae'r trydydd, a:'r olaf, yno eto yn wynebu ei beryglon beun- ydd. Ac am yr arweinydd gwelai ei gor annwyl yn lledrithio o flaen ei lygaid ar y llwyfan fel y gwelodd hwynt ym Mangor. A'u lie nid edwyn ddim mo honynt mwy Ac ar gefn hyn daeth Arglwydd Leverhulme a gwedd arall o erchyii- dra y rhyfel yn fyw i galon ac ym- wybyddiaeth y d'orf. Yn ei anerchiad o'r Gadair dywedodd y byddai costau y rhyfel i'r wlad hon yn unig yn ddeng mil o filiynau o bunnau (^10,000,000,000), ac y byddai y dreth flynyddol a osodir gan y Llyw- odraeth arnom ar ol y rhyfel yn un cant ar ddeg o filiynau o bunnau y flwyddyn (^1,100,000,000). Mae y ffigiwr yn rhy fawr i feddwl dyn ei amgyffred Cymerer y lleiaf o'r ddau, y dreth flynyddol. Golyga dreth o un filiwn ar hugain bob wythnos, neu dair miliwn o bunnau y dydd, neu chwech ugain a phump o filoedd o bunnau bob awr, neu dros ddwy fil o bunnau bob munud, neu bymtheg punt ar hugain bob eiliad! Bob "tic" o'r cloc ddydd a nos, o ddechreu blwyddyn i'w diwedd hi, bydd treth gasglydd y Llyodraeth yn galw am 35p. a dreth Dyna sut y daeth y rhyfel i Eis- teddfod Birkenhead. CYFYNGDER MAWR RWSIA. Ond er mor amlwg y daeth y rhyfel i'r Eisteddfod, daeth yn gan- waith amlycach, erchyllach i'r gwledydd lie mae'r brwydro yn mynd ymlaen. Ac o'r gwledydd hynny Rwsia sy'n dwyn y baich y dyddiau hyn. Eglurwyd mewn ysgrifau blaen- rol yn "Y Darian" gyflwr cartrefol gresynus Rwsia. Manteisiodd Ger- mani ar yr anhrefn cartrefol hwnnw yr wythnos ddiweddaf drwy grynhoi ei lluoedd i ymosod ar Riga, y porth- ladd mawr yn y Baltic. Mae hwnnw bellach yn nwylaw'r gelyn, a'r Rwsiaid yn encilio yn gyflym. Dywedodd Kerensky, y Prif Weinidog, yn y Gynhadledd yn Moscow bythefnos yn ol, pe syrthiai Riga, y byddai'r drws I yn agored led y pen i'r Caisar a'i fyddin i ymdaith i Petrograd, y brifddinas. Mae rhyw 350 milltir rhwng y ddau le, ond mae'r Germaniaid eisoes yn agos i hanner can milltir y tu hwnt i Riga yn erlyn ar ol y Rwsiaid. Sonir eisoes am symud y Llywodraeth o Petrograd i Moscow-megys ag y symudodd Llyw- odraeth Ffrainc o Paris i Bordeaux. Mater o ragofal yn unig yw peth felly, ond mae'r ffaith fod y symud mewn bwriad yn dangos mor fawr yw y perygl. Er mai canlyniad cyflwr cartrefol an- nhrefnus a gresynus Rwsia sydd yn gyfrifol am yr anffawd, am fod Riga wedi syrthio mewn wythnos wedi dal ohoni yn ddewr am ddwy flynedd o ym- osod, ceir cysur yn y. ffaith fod Byddin Rwsia yn Riga wedi dal yn ffyddlon, ac wedi ymladd yn ddewr hyd y munud olaf. Nid brad yn y Fyddin ei hun, fel yn Galicia dro yn ol, sy'n cyfrif am yr anffawd, ond diffyg cyfarpar a rheidiau rhyfel a'i gwnaeth yn amhosibl i'r fyddin ddal ei thir yn erbyn gallu gorth- rechol magnelau mawr Germani. Ac yn hyn y mae gobaith, canys os medr y wlad gyflenwi'r Fyddin a'i rheidiau ym- ladd, ac os erys y Fyddin ei hun yn ffyddlon, mae'n bosibl y ca'r Caisar dalu'n ddrudeto am gymeryd Riga. Dywedir fod Japan. a'r Unol Daleith- iau yn dod i gynorthwyo Rwsia yn nydd ei chyfyngder. Gallant eu chynorthwyo ag arfau ac a milwyr. Gwir fod tair mil o filldiroedd i'w teithio cyn dod o fewn cyrraedd ergyd i'r gelyn, ac y cymer amser i'r magnelau a'r dynion gyrraedd pen y daith. Gwir hefyd fod digon o filwyr gan Rwsia. Ond bydd presenoldeb hyd yn oed un Gatrawd o America neu Japan mewn Byddin fo'n ymladd yn Rwsia, yn rhoi asgwrn cefn ac yspryd ymladd newydd yn y Rwsiaid eu hun. MYNYDD Y PROFFWYD A'R ARCHANGEL. Bythefnos yn ol soniwyd yn y Darian am frwydr ac ennill Mynydd y Sant gan Fyddin yr Eidal ar gyffiniau Awstria. Gerllaw yr oedd dau fynydd arall y rhaid eu hennill cyn symud ymlaen. Gelwid y naill yn Fynydd y Proffwyd Daniel, a'r Hall yn Fynydd yr Arch- angel Gabriel. Ar bob un o'r ddau yr oedd yr Awstriaid wedi trefnu amddi- ffynfeydd cedyrn, wedi plannu magnel- au yn y creigiau, wedi gwneud rhwyd- waith o wifrau pigog ar lethrau y bryn i faglu a rhwystro pob ymosodydd. Dywedir mai lie ofnadwy oedd yno, a thybid ei fod mor gadarn fel na buT asai modd ei ennill. Eithr enillwyd Mynydd yr Archangel gan yr Eidalwyr yr wythnos ddiweddaf ar waethaff y gelyn, a thra yr wyf yn ysgrifennu hyn ymddengys yn debyg y daw Mynydd Daniel hefyd yn eiddo yr Eidal yn fuan. Yn Flanders, Lens yw nod ein hym- drech o hyd, ond mae'r tywydd, hyd yr wythnos hon, wedi bod yn anffafriol. i TAN O'R AWYR ETO. Mae ymosodiadau Germani o'r awyr ar y wlad hon yn amlhau. Llwyddodd llynges awyr y gelyn i gyrraedd uwch dinas Llundain yn y nos gan achosi difrod. Teimlir yn drq, chwerw at feth- iant yr awdurdodau yn y wlad hon i rwystro'r ymosodiadau beiddgar hyn nac i ddial yn effeithiol ar yr ymosod- wyr.
[No title]
Bu Eglwys Llangelynin, Llwyngwril, Meirion, dan glo am gryn 50 mlynedd, ond fe'i hail-agorwyd y dydd o'r blaen. Llwydd a fo yno! j
I O'r Gogledd.'-
I O'r Gogledd. GAN CASNODYN. I Cofia ateb hyn, os clywi, Yn y nesaf, dirion Dywi,— Pam na ddwedaist wrth Casnodyn Mai Moelona oedd dy Flodyn? Er na feddaf aur nac arian, Medraf adrodd yny Darian, ,J.J.ae'n hen lanciau yn rhyfeddu, A'n hen fryniau'n gorfoleddu Am briodi dau mor llengar, Mor Gymroaidd ac awengar. A r Darian ni phrydera,—drwy Dywi A'r dawel Foelona; Ac o'r uniad cry yna Hedd a fydd, aeaf a ha'. Yr wyf yn ysgrifennu cyn gwybod nemor am hynt Eisteddfod Penybercyn, ac nid wyf am roddi i lawr yma hynny bach a glywais-bydd stori'r wyl yn llawn mewn colofn arall, mae'n dra thebig. Ac onid ym Mhenybercyn y mae Tywi a Moelona-dau o'r prifon am stori. Tybed y bydd "Sioned" ac Awen Mona, Tomi Sarah Jones, ac R. Hughes Williams hwythau yno Yn awr yw eu tymor hwy, a melys a fo'r wyl iddynt 1-Pwy a gaiff yr Englyn, y Gadair, a'r Goron, yw'r cwestiwn yma er's dyddiau. Hen gwestiwn blynydd- oedd yw ef, ond ni chlywais cyn lleied o ddyfalu atebion iddo erioed o'r blaen. Ac y mae arnaf ofn bod helynt y Gy- manfa Ganu yn diflasu'r bobl-a'r wyl. Gobeithio, sut bynnag, y ceir heddwch ar ei hyd-ac wedyn. Cafodd Pedrog le da yn Llandudno, ac yr ydym yn disgwyl y daw ef o gwm- pas ei bethau rhag-blaen. Rywsut, ni fedrwn feddwl am yr hen fyd yma heb- ddo ef. Ond marw yn y tren ar y fforckl i Landudno a orfu i Mr. W. H. Cunliffe, Rhiwabon, ac yntau'n meddwl treulio pythefnos ar y Prom a'r Go- garth. Ni phery dyn hoff araul, mwy na rhew ym min yr haul." Gwelsoch yn y Mabinogion son am y Felenryd ym Meirion Yn agos i honno saif Brynsaethon. Wel, Mr. William Roberts y Bryn hwnnw a apwyntiwyd yn glerc newydd Swyddfa y Town Plan- ning Association, Caerdydd, a gwiw gennyf ei longyfarch. Rhoddaf floedd lawen hefyd am Iwydd Capten Vulcan Williams, Caergybi—cafodd ef y Groes Filwrol, ac yr oedd yn ei haeddu rhag dieisiored ei wrhydri. Oni chlwyfwyd ef ar gychwyn ymosodiad ,a dal ati am bed air awr wedyn, nes ei glwyfo eil- chwyl, ac yntau'n gofalu am aden dde ei gatrawd"? Do, siwr; ond nid oes guro ar Vulcan! Marw a orttg i'r hen bererin y Parch. Ceidiog Roberts, Llanllyfni, wedi'r cwbl. Nid oes nemor er pan oeddis yn hel tysteb iddo a honno'n mynd yn werthfawrusach bob wythnos. Ond adref at ei Dad Nefol yr aeth ef, gan adael y fro, a'r M.C. yn arbennig mewn tristyd am dano. Ni chyll ef mo'l wobr. Cysured y Nef ei deulu drylliog Os ewch i Ruthyn, ac i'r Tloty yno, cewch Miss Hughes, matron y ty, gynt, yn Feistr yn lle'r diweddar Mr. J. E. Roberts. Go dda. Dyma fi'n clywed cyn postio hwn rwan mai Wil Ifan a gafodd y Goron ym Mhenybercyn. Bendith ar ei ben o, ebr fi, ac ni wn am neb arall a ddywed ddim v yn wahanol. Ond we le deligram yn dywedyd mai Hedd Wyn a gafodd y Gadair! Ac wylaf o waelod calon. Druan bach-is dwrn y bedd! CASNODYN.