Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Penegoes.
News
Cite
Share
Penegoes. Bydd yn ddymunol gan laweroedd o ddarllen- wyr y TYST gael gair bach ar ei ddalennau am yr hyn sydd wedi dod i ran yr eglwys hon yn ddiweddar. Saif y pentref o fewn dwy filltir i Fachynlleth, ac yma y bu Tkfolog yn swyddog am flynyddoedd. pryd y daliai Hirddol, sef y fferm a amaethyddai am hir amser ac yma y dywedir iddo gyfansoddi rhai o'i brif ddarnau barddonol. Yn y Ficerdy yma y ganwyd yr anfarwol Richard Wilson, un o brif baentwyr Prydain, yn ol Ruskin yn ei atodiad yn ei Two Paths. Yma hefyd y dywedir i Mrs. Hemans breswylio am rhyw gymaint o amser ac, yn ddios, mae yma ddwy ffynnon at wella anhwyl- derau corfforol, megis rheumatism, &c., ac y mae'r ysgrifennydd yn brofiadol o'u rhinweddau. Ond prif amcan fy ysgrif y tro hwn ydyw rhoi cyhoeddusrwydd am rodd haelfrydig un o ddiac- oniaid yr eglwys, sef Mr. William Davies, Ffridd, yr hwn hefyd fu'n ysgrifennydd iddi am flyn- yddoedd. Cyfiwynwyd ganddo set of individual cups, &c., a'r Saboth cyn y diweddaf oedd y tro cyntaf iddynt gael eu harfer yn y Cymun Sanctaidd. Pregethodd y Parch. W. Thomas, ei hannwyl weinidog, ar yr achlysur. LIe bach cymharol wledig ydyw Penegoes, ond ni fynnai Mr. Davies iddo beidio a bod yn up to modern times yn hyn o beth. Dyma rodd gwerth ei chyliwvno a gwerth ei derbyn. Mae'n ddios fod yr eglwys yn teimlo'n ddiolchgar iawn am dani. Efallai y geill rliywrai eraill allant fforddio, hyd yn oed yn y cylch yma, wneud yr un peth a Mr. Davies pan glywant am ei weith- red haelfrydig. Mae teulu'r Ffridd wedi bod ar hyd y blynyddoedd yn haelfrydig iawn i'r achos. Hir oes i Mr. Davies, a bendithied yr Arglwydd I y cwpanau er budd eneidiau i gofio am yr annwyl Iesu.
— — —, — -— | TROION YR YRFA.…
News
Cite
Share
— — —, — -— | TROION YR YRFA. T R 0 ION R v R FA. DYNA'R tro diweddaf yr ai Morgan Rees i Benuel i wrando pregethwr fel Mr. Meredyth. 'Siaradwr pigog,' meddai, ac mor erlidgar ac ymyrgar. Pwy rwymau oedd arno ef i fynd o flaen yr ynadon i ddadleu yn erbyn parhau trwydded gwestai anrhydeddus i werthu diod ? Mi at i'r Eglwys Wladol, at bobl wyr. beth yw gwerth meddiannau a safieoedd cymdeithasol, ac nid at rai fel pobl Penuel, sydd yn barod i chwalu popeth yn yfflon dan orchudd o sel dros les cyffredinol cymdeithas.' Ymddengys i Mr. Meredyth ddweyd yn rhydd ac yn gryf yn erbyn tafarn y Blue Bell, er nad oedd ond rhan o'r hyn ellid ei ddweyd, ac sydd yn wybyddus i bawb, am ganlyniad union- gyrchol gwerthu'r diodydd meddwol, nid yn unig yn y Blue Bell, ond hefyd ymhob man arall, sef am y gwegi sydd yn cynhyrchu cynnen ac yinrafaelion, a'r gwastraif sydd yn hyrddio teuluoedd i dlodi ac angen dygn. 'Doedd neb ym Mhenuel yn gweled dim o'i le yn yr hyn a wnaeth y gweinidog, a thebyg na fuasai Morgan Rees yn wahanol iddynt yn hynny, onibuasai am y ffaith mai ei frawd-yng- nghyfraith oedd perchennog y Blue Bell, yr hwn oedd wedi casglu swm mawr o arian yno, ac yn teimlo'n angherddol o eiddigeddus dros ei ffynnon gynhyrchiol. A gwyddai Morgan am ei ysbryd ymosodol a'i barodrwydd i daro yn ol, ac mai arno ef y disgynnai'r ergydion trymaf, os na ofalai mewn pryd. Ac nid arno ef a'i briod yn gymaint ag ar Madog eu mab, yr hwn oedd eu hunig blentyn, ac etifedd i ystad ei ewythr. Ei ewythr ymgymerai a thraul ei addysg, ac nid oedd prinder arian i'w atal rhag dod yn enwog ac amlwg. Bu ymcldygiad Morgan yn ond i Mr. Meredyth a'i briod, oblegid yr oedd y ddau mor ofalus i beidio rhoi tramgwydd i neb gwell oedd gan- ddynt oddef cam eu hunain na rhoi briw ac archoll i arall. Pan glywodd Mr. Meredyth gyntaf fel yr oedd gwr y Blue Bell a'i berthyn- asau wedi chwerwi, amheuai yn fawr ddoeth- ineb yr hyn a wnaethai; ond ni ragorai neb arno mewn ymresymu ar yr angenrheidrwydd i gymeriadau crefyddol fod yn wrol a chryf, yn ogystal a thyner a mwyn, ac nad oeddynt yn llai Crist-debyg pan yn gwrthsefyll ymosod iadau llid a brad na phau yn rhwymo archollion a briwiau'r clwyfedig. Er hynny gwyddai pobl Penuel yn dda beth oedd gwir achos y digio, ac nad oedd y drwydded yn ddim amgen nag esgus. Am beth' amser yr oeddynt wedi sylwi ar ymddygiad Madog tuagat Bronwen Meredyth, unig ferch y gweinidog. Deallasent fod y ddau yn fynych gyda'i gilydd, ac yn aros yn hir yng nghwmni'r naill y llall, a rhagfynegasant y canlyniad naturiol, yr hyn oedd ymhell o fod wrth fodd gwr a gwraig y Blue Bell, ac, o ganlyniad, yn anfoddhaol hefyd i Morgan a Marged Rees. Gofynnai teulu'r dafarn yn ysgornllyd Pwy latch fydd hon heb geiniog ganddi i Madog, bachgen fydd yn werth ei filoedd ? Ond merch ei rhieni oedd Bronwen, wedi cyfranogi'n helaeth o'u nodweddion, yn uchel ei h-vsbryd., ac yn eiddigus dros ei hunan- ddibyniaeth. Yr oedd cael ar ddeall fod perth- ynasau Madog yn ei chymharu'n anffafriol ag ef yn ddolurus i'w theimladau, canys yr oedd efe yn annwyl ganddi. Ond er ei hoffter mawr ohono, penderfynodd dorri pob cysylltiad ag ef y cyfle cyntaf gai. Haeddai ymddygiad Madog hyn o deyrnged gennym, sef, er gwaethaf egnlon gwrthwynebol rhieni Bronwen a bygythion cyson ei berthyn- asau gwych o'r Blue Bell, na amlygodd efe unrhyw duedd i ymwahanu oddiwrth wrthrych ei serch. Ond pan gydgyfarfuent a'i gilydd nesaf, sylwai Madog fod sirioldeb arferol Bron- wen wedi cilio, a'r cochni wedi ymadael o'i gruddiau, ac yr oedd y cryndod dieithr yn ei Uais yn brawf iddo o'r cynnwrf oedd yn ei mynwes. Ond cyn hir dygodd ei theimladau dan reolaeth, a chydag hunanfeddiant teilwng o'i thad dywedodd ei fod ef i'w edmygu am ei ymlyniad wrthi hi yn wyneb cymaint o wrth- wynebiadau, ond nas gallasai oddef iddo yn hwy osod ei hun o dan yr anfantais o gyfeill- achu a hi yn ei dim. Yn awr,' atebai Madog, ydyw hyn ddim heb ei erfyn, er nad wyf yn ei haecldu. Allaf fi ddim bod yn gyfrifol am bopeth wtia ac a ddywed fy mherthynasau, a diolch nad wyf hefyd, oherwydd y mae arnaf gywilydd ohonynt.' Hawdd yw i mi gredu hynny,' meddai Bron- wen. Gwn mai nid yr un yw eich safon chwi a'ch ewythr i'ni barnu. Er hynny, a chaniatau eich bod, er fy mwyn, yn barod i ymwrthod a thelerau gofynnol eich perthynasau, nid wyf fi yn disgwyl, nac ychwaith yn boddloni, i chwi wneud hynny. Gweithredwch yn ol fy awgrym i gan eich bod ar fynd i ffwrdd i'r coleg, gadawn bopeth i ddarfod; ac os bydd cefnu ar ein gilydd yn anodd, i ni y bydd y siomedigaeth. Ond bydd parhau i gymdeithasu a'n gilydd yn ofid a dolur i eraill.' Boddlonaf i wneud llawer o bethau celyd er eich !llwyn,' meddai Madog, ond sut mae gweithredu ar eich awgrym, heb gymaint a llygedyn o obaith dod yn nes at ein gilydd, nis gwn. Ond pwy eisiau i ni ymboeni am bethau fel hyn ? Onid hyn yw hanes a phrofiad gwir serch erioed ? Onid hen arfer rhieni a pherth- ynasau yw dwrdio a bychanu personau y dont, mewn ychydig amser, i feddwl a son am danynt fel angylion mewn cnawd ? Fydd ymadael a mi ddim yn galetach i chwi, Madog, nag a fydd i mi ymadael a chwi ond dal yr wyf i gredu mai gwell i ni ein dau fydd gwneud hynny.' Wei, dan orfod yr wyf fi yn addaw ceisio gwneud ond bydd rhaid unioni hyn. Chwi a atebwch lythyr oddiwrthyf yn awr ac yn y man, oni wnewch ? gofynnai Madog. Peidiwch ceisio gennyf addaw gwneud hynny, rhag i mi eich siomi trwy dorri fy addewid,' atebai hithau. Aeth Madog ymlaen a'i efrydiaeth, ac ynglyn a hynny symudodd i Eundain. Yr oedd yn feddiannol ar ddwbl uchelgais hyd yn oed ei ewythr o'r Blue Bell; ac i un o'i dymheredd ef nid hawdd oedd boddloni bod yn wrthodedig. Na,' meddai wrtho ei hun, a'i ben yn ddigwsg ar ei obennydd, mi wnaf i mi fy hun gymeriad bair i Bronwen deimlo mai hyfrydwch mwyaf ei chalon fydd bod yn briod i mi.' Ac am fisoedd wedyn clywid yn awr ac yn y man fod Madog yn gwneud cynnydd cyflym, ac fod argoelion amlwg y byddai'11 sicr o ddod yn feddyg enwog. Ac mor ddiddorol ydoedd clywed ar brydiau ymffrost ei dylwytli ynddo. Bu am dymor yn casglu gwybodaeth a phrofiad yn rhai o ysbytai mawr y Brifddinas ond wedi cymryd eu cwrs meddygol, gosododd ei fryd ar neilltuoliargylch- rediad y gwaed ac wedi peth amser pellach yn Llundain, ar gymhelliad cyfaill ieuanc o feddyg, aeth i Paris er ymberffeithio yn y gangen honno o wybodaeth feddygol. Un o'r dosbarth breiniol oedd Bronwen sydd yn berchen ar lawer o dalentau. Canai gan mor swynol a dymunol a'r mwyaf profiadol, ac ar yr ofierynnau cerdd nid oedd ei medrusach. Synnai genethod y cwm at ei deheurwydd mewn gwaith edau a gwlan. Nid oedd pall ar hwyl gerddorol cynulleidfa Penuel gan yr ysbryd fedrai Miss Meredyth roddi yn yr addoliad cy- hoeddus wrth chware.
0 FRYN I FRYN. -
News
Cite
Share
iadau cyhoeddus a'r cyfielyb, a symier i fyny eu cyfraniadau blynyddol at y weinidogaeth yn unig, a heriwn unrhyw un i ddangos dim sydd yn fwy clodfawr yng nghymeriad y genedl. O'r braidd inae'r peth yn deg, heb son am yn fon- eddigaidd, i son am gybydd-dod Ymneilitu- aeth.' Cybydd-dod Ymneilltuaeth yn wir Dichoti fod Eglwys Loegr yn talu'n well na hi am swyddogaeth neu i swyddogaeth, neu i bob un o'r ddau ond Ymneilltuaeth ydyw'r goreu o ddigon i dalu am wir wasanaeth. Pam y cwynir beunydd ar Ymneilltuaeth gan rai Ymneilltuwyr ? A phaham y senglir allan ei chasglu a'i chyfraniiu ? Onid ydyw yr un mor anrhydeddus, os nad yn fwy anrhydeddus, yn ei chasglu a'i chyfrannu nag yn amryw o'i chyflawniadau. eraill, megis ei ffyddloudeb i gad- wraeth y Saboth, a'i chyfarfodydd wythnosol, a'i brawdgarwch ? Cywilyddiwn yn wyneb Uawer o'r ddifriaeth sydd ar Ymneilltuaeth yn yr ystyr hon, a hynny gan Ymneilltuwyr o broffes a bost. Fel rheol, y mae pob un yn cael yn ol yr hyn a rydd. Onid yw'n hen bryd i Ymneilltuwyr siarad yn barchus am eu dos- barth a'u henwad ? Ar bob cyfrif, na feddylier fod tipyn o Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad yn ddiwedd i Ymneilltuaeth. Ymneilltuaeth a'i dydd trosodd Ychwanegu at ei gwerth a'i heffeithioldeb a wnaeth Datgysylltiad. Bellach y mae'n fwy rhydd i garlam Gweriniaeth nef- anedig byd ac Eglwys. Nid yn unig mae'n adfywio yn ei hen gartrefi, ond blagura'n ir ac yn addawol mewn cysylltiadau newyddion. Ceir hi yn y dyddiau hyn yn torri allan o fewn i Eglwys Loegr ei hun, ac fe welir yn y man mai dydd Esgobyddiaeth sydd drosodd, ac nid dydd Ymneilltuaeth. Hynny yw un o ganlyniadau amlycaf Cenhadaeth Edifeirwch a Gobaith,' a hynny a welid y dydd o'r blaen yn Queen's Hall, Llundain, yng nghyfarfodydd Bywyd a Rhyddid yr Eglwyswyr, a hynny a deimlir gan yr Esgobaeth ei hun, boddlon neu anfoddlon, sef fod Ymneilltuaeth erhyn hyn, nid yn unig yn allu anocheladwy o'r tuallan, ond ei bod yn lledu ac yn cryfhau o'r tufewn hefyd. Anadl einioes Ymneilltuaeth yw rhyddid cydwybod ac ysbrydolrwydd addoliad, a saif am hyn heddyw.