Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Athrofa Aberystwyth. (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru.) Pdfåthraw-T. F. ROBERTS, M.A., IA.D. DBCHRBUA'R ..6ain Tymor ar Ddydd Mercher, Hydref 3ydd, 1917. Parotoir yr etrydwyr ar gyfer Arholiadau Prilysgol Cymru. ynygir amryw o Ysgoloriaethau (thai ohonynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn kon. Cymer yr Arholiad le yn Aberystwyth ar y 18fed o fis Kedt, 1917 Am fanylion pellach ymofynner &— J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. Y Drysorfa fiynortliiyol. Taer erfynnlr ar eglwysi a phersonau unigol i wneud pob ymdrech i dalu EU CYFRANIAD BLYNYDDOL at y symudiad uchod o hyn i DDIWEDD MIS AWST. Gellir gwneud hynny trwy Drysorydd Cyfundebol y symudiad, neu yn uniortgyrchol i'r Trysorydd Cyffredinol- Mr. T. DAVIES, 56, St. Quintin Avenue, London, W. 10. PENNOD 0 GOFIANT (GYDA DARI.UN) YNGHYDA PHRYDDEST GOFFA (FUDDUGOI,) I'R DIWIJDDAR Barch. JOHN REES, Cwmllynfell, GAN EI OI/YNYDD, Y PARCH. D. JEREMY JONES. PRIS 4C.; TRWV'R POST 6C. j I'w gael oddiwrtk lvIr. J. Rees, Tegfan, Cwmllynfell; neu oddiwrth yr Awdur.
AT EIN GOHEBWYR. I
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.-J. R. Thomas—B. B.—T. lyloyd Jones Bethania, Dowlais Saron, Clydacli Vale—Arholiad I9I7-Abersoch--Lloyd Street, Llanelli-Whitland-Bodringallt, Ystrad Rhon- dda-Priodasau-Cyfarfodydd, &c.
CYNHADLEOD ADDYSG CYMRU I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYNHADLEOD ADDYSG CYMRU YN Ivlartdriridod, dyddiau Iau a Gwener diweddaf, cynhaliwyd un o'r cynadleddau pwysicaf ynglyn ag addysg Cymru a gaf- wyd ers llawer blwyddjna. Galwyd hi ynghyd gan Fwrdd Canol Cymru, ac yr oedd y trefniadau ar ei chyfer a'r drafod- aeth ynddi yn bopeth ellid ddymuno, ac y mae clod mawr yn ddyledus i swydd- ogion y Bwrdd am y gwaith a'r drafferth ryfeddol yr aethant iddo er dwyn o gwm- pas y fath gyfarfodydd llwyddiannus ac effeithiol. Yr oedd tua 180 o gynrycbiol- wyr yn bresennol, a llywyddwyd yn y gwahanol eisteddiadau gan yr Henadur y Parch. D. H. Williams, M.A., Barry, Mr. J. E. Powell, Gwrecsam, ac E. T. John, A.S. Nid ein bwriad yw manylu ar weith- rediadau'r Gynhadledd, na beirniadu rhai o'r pethau ynddi yr anghytunem a hwynt. Ond credwn y dylai Cymru fod yn falch fod y fath gynhadledd wedi ei chynnal, cyn i Fesur Addysg Mr. Fisher gael ei ddwyn i'r Senedd, er mViryn gwneud yn hollol glir rai o hawliau'r Dywysogaeth ynglyn a'r mater pwysig hwn. Gwnaed rlijrw bedwar peth yn bur eglur yuddi, a'n hunig bwrpas heddyw yw liodi'r rhai hyn. (1) Yr oedd y Gynhadledd yn frwd- frydig a bron yn unol dros gael Cyngor Addysg Cenedlaethol i Gymru rhag blaen. Mae'n hen bryd i wneud i ffwrdd a'r ffrwgwd a'r blinder a dardda o luosogi awdurdodau a chyfryngau llywodraethol addysg, ac unoli'r gwahanol alluoedd sy'n awr yn gweithredu bron yn benrhydd, ac weithiau ar draws ei gilydd. Ni cheir byth efEeithiolrwydd addysgol i Gymru heb rhyw fwrdd llywodraethol o'r fath, a phob awdurdod yn ei law ar bob adran o addysg, oddigerth y Brifysgol a'r Colegau Cenedl- aethol. Diau y tybia rhai y dylai'r rhai hynny hefyd fod yn ei law, ond anghyt- unwn yn bendant a hwy ar hyn, a da gennym 11.a wnaeth y Gynhadledd unrhyw gais at ddwyn y sefydliadau hyn dan reol- aeth y Cyngor. Rhaid i'r Brifysgol fod, yn annibynnol, ac felly mae ymhob gwlad ddemocrataidd dan haul. (2) Peth arall basiwyd yn unfrydol oedd hawlio fod y Senedd yn y mesur nesaf yn penodi Ysgrifennydd Seneddol dros Gymru i ofalu am ei buddiannau addysgol. Rhaid cael hyn cyhyd ag y bo Cymru heb hunan- lywodraeth, oblegid nis gall y Senedd gyf- rannu miliynau o bunnoedd i ni, na ninnau eu treulio yn y modd goreu, heb fod cyf- rhwng o'r fath rhwng Cymru a'r Senedd Ymerodrol. (3) Gwnaeth adran gref o'r Gynhadledd —a'r athrawon bron oil yn eu mysg— gynnyg taer at gael y Cyngor i'w ethol yn uniongyrchol gan y bobl, fel yr etholid yr hen Fyrddau Ysgol, ac yr oedd cyd- ymdeimlad cryf a'r cais ymysg bron holl aelodau'r Cynhadledd. Eithr teimlid fod yr anawsterau ar ffordd y cynllun mor fawr-t r w. y luosogi etholiadau, ac yn arbennig trwy godi gwrthwynebiad oddiar law y Cynghorau Sirol—fel y penderfyn- wyd wedi dadl boeth mai'r peth goreu oedd ffurfio'r Cyngor trwy gyfrwng yr Awdurdodau Addysg a'r Athrawon Elfen- nol. Ar hyn o bryd efallai mai dyna sydd oreu ond yn y pen draw bydd raid, debygem, 'gael dynion o brofiad a chym- hwyster addysgol arbennig i eistedd ar y Cyngor, ac etholiad gwerinol ydyw'r unig ffordd iach i'w sicrhau. (4) Penderfynwyd hefyd ceisio mwy o help ariannol gan y Llywodraeth at ddi- benion addysgol Cymru. Dioddefwn yn fawr yn y cyfeiriad hwn o'n cymharu a Iyloegr ac Ysgotland, ac yn enwedig a'r Iwerddon. Hyderwn y llwydda'r ddir- prwyaetli a a i fyny at y Ivlywodraeth yn enw'r Gynhadledd i'w hargyhoeddi o'i chamwri ynglyn a Chymru yn y mater hwn. Yr oedd holl ysbryd ac amcan y Gyn- hadledd yn ddyrchafol a phenderfynol, a chredwn y deillia lies mawr ohoni. Yn sicr, ni chvnhaliwyd hi foment yn rhy gynnar, cailys mae swn cyfnewid a diw- ygio ac adgyweirio yn y gwynt, ac mor fuan ag y bo y rhyfel drosodd daw cyfle Cymru i chware ei rhan yn y byd newydd sydd ar ddyfod. Ac addysg effeithiolach a chrefydd ddyfnach fydd ei phrif arfau a'i hofferynnait yn y gorchwyl pwysig sydd o'i blaen.
[No title]
News
Cite
Share
The Jesus of History, by T.> R. Glover, Fellow of St. John's College, Cambridge; Uni- versity Lecturer in Ancient History (The Student Christian Movement, 3/6 net).
IESU HANES.*
News
Cite
Share
IESU HANES.* DYMA un o'r llyfrau mwyaf swynol, bvw, newydd a meddylgar a ddarllenasom ers llawer dydd. Mae fel awel iach y bryniau ynghanol tawch a mwg y dclinas, yn adfywio, iachau ac ysbrydoli'r ffordd y cerdda. Mae rhyw ffresni hyfryd ar bob tudalen o'r llyfr, fel y bloom ar ffrwythau addfed. Hyd yn oed pan yn disgrifio ac yn trafod hen ffeithiau a phethau, gwna hynny mew n dull mor darawiadol a chydag ergyd mor annisgwyliadwy nes gwneud y cwbl yn newydd. Yn wir, dyna un o nodweddion y llyfr—gwisga hanes y Ceidwad yn newydd Ac nid newydd-deb y dieithr a'r synfawr mohonos yn gymaint a newydd-deb yr agos a'r syml a'r beunyddiol daii gyfaredd y meistr a all drawsnewid y cyffredin. Gwenwn a rhyfeddwn a wylwn bob yn ail gan mor naturiol ac annwyl ac agos y dwg ein Harglwydd atom, a synnwn ganwaith atom ein hunain na buasem wedi Bi weled fel hyn o'r blaen. Ac nis gallwn gyda llyfr o'r fath feirn- iadu nac adolygu yn ystyr gyffredin y gair—mae'r cyfan mor dlws a chryf a dwfn fel mai dyfynnu yw'r unig ffordd i ddelio ag ef. Yn ei bennod gyntaf gesyd Dr. Glover i lawr dri chanon nett safon i farnu ac efrydu unrhyw garitor, hen neu ddiweddar. A dyma hwynt—(1) Rhodder i eiriau'r dyn ei ystyr ef ei hun; (2) Gwneler yn sicr o'r profiad sydd tu ol i'r geiriau a'u meddwl; (3) Gofynner o ba fath type a maintioli raid fod natur y gwr sydd yn meddu'r fath brofiad ac iaith. Ac yn unol ar rheolau hyn portreadir yr Iesu ger ein bron fel yr oedd yn real a byw i'r tri Bfengylwr cyntaf. Deil vr awdur fod llawer o ddywediadau a damhegion a ffigyrau yr Iesu i'w hes- bonio yng ngoleu Ei gartref a'i fro a'i weithdy, ac yn wir rai o brif droion Ei hanes i'w hegluro yr un modd. Paham y gohiriodd yr Iesu gychwyniad Fi wein- idogaeth hyd nes yr oedd yn 3oain mlwydd oed ? Yr ateb cyffredin yw mai gwaith a chenadwri'r Bedyddiwr a ddeffrodd ynddo F,i ymwybyddiaeth o'i genhadaeth Ei Htin.. Ond ai nid symlach a chywirach tybio, fel y gwna Dr. Glover, mai hawliau cartref tlawd, a mam weddw a chwech neu saith o frodyr a chwiorydd bach heb eu magu, oedd yn Fi gadw yn ol ? A bywyd Ei fam a helyntion cyffredin cartref sydd yn Ei gyfeiriadau at lefain, ac wyau, ac adar tô, a cholomenod a physgod—ymborth y werin dlawd. A diau mai atgof am fysedd diwyd Ei fam yn rhoi llain o frethvii newydd at hen ddilledyn y bechgyn byw- iog oedd yn mynd trwy ddillad y rhai hýn-y naill ar ol y 11all-a awgrymodd y ddameg (Marc ii. 21). A daw a'r pryd-