Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

iHYN A'R LLALL 0 BABILON iFAWR.

News
Cite
Share

i HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. Unwaith yn y mis y daw Celt Llundain allan yn bresennol, ond y mae'r rhifyn am Awst mor fyw ag erioed. Y mae'n llawdrwm anghyffredin ar yr Aelodau Cymreig. Nid oes man glan na chyfan ar yr un ohonynt' Geilw un erthygl am clean sweep. Tipyn yn eithafol yw hyn hefyd. Mae'n reit wir mai diddylanwad iawn fel parti yw'r Blaid Gymreig, ond y mae hynny i'w briodoli i,r ffaith fod yna ddiffyg undeb yn eu plith. Awgrym yr ysgrifennydd uchod yw fod pawb yn edrych am toffy. Ond y mae yna gryn hanner dwsin o Biwritaniaid yn y Blaid nad ydynt yn hidio am wg na gwen yr un dyn dan haul Ironsides o'r iawn ryw. Ond y mae yna hefyd liaws nad ydynt yn werth dimai bren fel Aelodau Cymreig. Cyfeir- iais y dydd o'r blaen at y ffaith mai pur anaml y gwelir enw Cymro yn cael ei ddewis ar y gwahanol Bwyllgorau Seneddol hynny ydynt yn gwneud cymaint i roddi ffnrf ar ddeddfwriaeth yr amseroedd. Bydd ambell un a clianddo asgwrn cefn yn gallu gwneud llawer mwy o wasanaeth niewn Pwyllgor nag a ellir wneud mewn araith ymfflamychol ar lawr y Ty. Ond sut bynnag am hynny, y mae'n ddiddadl fod Cymru yn disgwyl mwy o wasanaeth gan ei chynrychiolwyr Seneddol. Da gan bawb ohonom weled Syr Garrod Thomas wedi cyrraedd llawr St. Stephens. Ceisiwyd ganddo dro ar ol tro i anelu at aelod- aeth Seneddol, ond methwyd ei berswadio hyd yr awron a chan ei fod bellach wedi gorffen meddyga, gall roddi ei holl fryd a'i feddwl ar politics. Nid oes neb sydd yn adwaen Syr Garrod yn holi a yw yn hollol iach yn y ffydd. Cafodd yr oruchel fraint-fel llawer ohonom— o gael ei eni yn sir Aberteifi, gerllaw Llanarth, ac y mae rhywbeth yn awyrgylch Llanarth erioed sydd yn ffafriol i godi cewri. Y mae'r meddyg enwog yn falch o'i wehelyth, ac y mae'r hen sir yn. falch ohono yntau, ac yn dymuno lwc dda ganwaith iddo fel Aelod Seneddol. Dylasai fod yn cynrychioli Cardiland ymhell cyn hyn. Mae Mr. Ellis Griffith yn lied awgrymu y gall Deddf Datgysylltiad yng Nghymru fyned o dan beth cyfnewidiad yn herwydd y rhyfel. Hynny yw, os yw'r rhyfel wedi gwaethygu'r fargen i'r Eglwys, gwneir iawn am hynny. Ond y peth ffolaf yn y byd fuasai i'r blaid eglwysig giesio ail-agor y cwestiwn eto ar ol yr holl frwydro yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf. Ar faes y gAd mae'n syn mor frawdol y mae'r enwadau crefyddol oil, ac ofer fydd codi'r hen fanerau enwadol eto i'r gwynt fel yn y dyddiau a fu. Mae Eglwys Loegr eisoes yn rhagweled y bydd raid iddi hithau symud gyda'r amseroedd, neu gael ei gadael ar ol. Rhaid iddi symleiddio ei gwasanaeth, a dod yn agosach at y bobl. Rhaid i ninnau hefyd yn yr Eglwysi Rhyddion gadw llygaid yn agored a deall arwyddion yr amserau. Bu Conference y Wesleaid yn eistedd yn y Brifddinas yn ddiweddar, a bu dan esgob yno yn siarad brawdgarwch. Y ddau esgob oeddynt Esgob Llundain ac Esgob Chelmsford. Hen Weslead yw Esgob Chelmsford, ac yr oedd yn adnabyddus gynt i bawb ohonom fel Mr. Watts Ditchfield o Bethnal Green. Enillodd ei swydd esgobol yn onest drwy lafur ardderchog, ac yr oedd yn gymydog braf i bob capel Ymneilltuol yn yr ardal. Addefodd ei fod ef yn ddyled dros ei ben i Ymneilltuaeth nid fel Mr. R. J. Camp- bell, yr hwn ar ei ymadawiad a'i hen gorlan, gyffesai nad oedd arno ddyled yn y byd. Druan ohono Onid pulpud Joseph Parker roddodd gyhoeddusrwydd iddo ? Ond i ddychwelyd at yr esgobion, siaradodd y ddau yn nice anghyff- redin, ac awgrymodd y brawd o Lundain ryw- beth am undeb rhwng y Wesleaid a'r Hen Fam, gan nad oedd fawr o wahaniaeth rhyngddynt. Atebwyd yn foesgar ac yn briodol iawn gan y Cadeirydd. Yr unig undeb posibl rhwng y pleidiau hyn ydyw undeb ar dir cydraddoldeb. A yw'r Esgob yn foddlon i'r telerau ? Ysgrifennais dro yn ol yn y colofnau hyn ar bwnc y living wage i weinidogion. Gwnes hynny ar gais amryw ohonynt, gan lwyr obeithio buasai'r brodyr hynny, beth bynnag, yn cadw'r pwnc yn fyw drwy ysgrifennu arno. Ond nid oedd llef, 11a neb yn ateb nac yn ystyried, ac felly syrthiodd y mater i'r llawr. Rhoddais brofion anwadadwy o'r dull shabby y telid ambell weinidog tlawd oedd yn byw ar fin newyn drwy'r blynyddoedd. Erbyn hyn y mae'r wasg Seisnig yn codi'r mater i fyny. Mae'r glowr a'r mwnwr a'r ffermwr wedi cael amser braf yn ddiweddar, ond er fod war bonus i bawb-dim i'r pregethwr, druan. Na chauer safn yr ych sydd yn dyrnu,' meddai'r Hen Lyfr. Diffyg ystyriaeth sydd wrth wraidd hyn oil. Dim ond eisiau cyhoeddus- rwydd sydd, a daw'r eglwysi i weled creulondeb y peth, ac fe svmudir ymlaen gyda'r mudiad ardderchog i sicrhau ei fara beunyddiol i'r hwn sydd yn torri i ni o fara'r bywyd. Cafodd Mr. Churchill fwyafrxf mawr yn Dundee y dydd o'r blaen. Nid oedd ganddo wrthwyneb- ydd cryf, ond yr oedd pob Tori yn y wlad yn galw ar yr holl dduwiau i gadw Churchill allan. Dywedir ei fod yn siarad mor fyw ag erioed, ac uid oes un fedr ddwevd pethau mwy llachar pan fydd hwyl ar bethau. Talent ar?ll yw ei fod yn ddyn go-aheci l, a chan mai gwneud cad- nwyddau fydd ei job, dyna ddigon o faes i bob talent sydd yn ei feddiant. Prawf arall yw dychweliad Churchill o hollalluowgrwydd y Prif1 weinidog. Braf yw efe am gofio hen ffrindiau, u'i deimlad, mi wn, ydyw ei bod yn bryd madden Antwerp a Galipoli. Rheswm arall dros ddych- welyd Churchill yw fod eisiau siaradwr da ar y Front Bench. Ac nid oes neb y dyddiau hyn yn medru dweyd y drefn yn well na'r gorch- fygwr o Dundee. Pob llwydd iddo roddi terfyn ar y rhyfel.

I Teilwng o Sylw.

IState Purchase.

[No title]

— — —, — -— | TROION YR YRFA.…