Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CYFARFODYDD CHWARTEROL

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFARFODYDD CHWARTEROL CYFUNDEB GOGLEDD MORGANNWG. "Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol Gorffennaf, 1917, yn y Tabernacl, YnysyTswl, nos Felcher a dydd Iau, y 18fed a'r Igeg a thystiolaeth Linol yr ymwelwyr ydoedd mai da oedd i ni fod yno.' Er fod Ynysybwl yn un eithafbwynt ein Cyf- nndeb, daethai yno gynrychiolaeth gryno o wyr bucheddol yr eglwysi, a gallwn sicrhau fod y sawl a ymwelsant a'r Tabernacl y diwrnod hwnnw wedi dwyn offrwm peraidd i'r Arglwydd. Nid mewn aur, arian a phres, na sidan glas a phorphor ac ysgarlad, a llian main a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn daear-foch a choed Sittim ond pob un, yn ol ei allu, yn dwyn ychydig olew i'r goleuni, a llysiau olew yr enaint, ac arogl-darth peraidd.' Daethai pob un i'w byrth Ef a diolch, ac i'w gynteddau a mawl.' Cafwyd prawfion amlwg o gyflawniad yr addewid—' Mi a gyfarfyddaf a thi yno.' Yr oedd Ef yno o'n blaen ni. Efe ydoedd y cyntaf i ni ei weled a'i glywed wedi cyrraedd i'r lie. Ac yn wir, onid oedd ein calon ni yn llosgi yiiom tra yr ydoedd Efe yn ym- ddiddan a ni ar y tJordd dros y bryn o Mountain Ash ac wrth fynd yn ol dros yr un bryn i Ben- rhiwceibr ? Oedd, yr oedd Efe yno y noson cynt yn llefaru wrth y bobl oeddynt mor esgud i wrando trwy Ei gennad ufudd, y Parch. T. j E. Roberts, Ynysgau, Merthyr. Sylweddolwyd yn fyw iawn Ei bresenoldeb gyda ni yn y Gyn- hadledd ac ar hyd y dydd, a'n calon yn dweyd-- t 0 am aros Yn Ei gwmni ddyddiau f'oes.' Cael Fi gwmni sydd i ni yn felys wledd. Yn absenoldeb y Parch. D. Eeyshoii Evans, C.C., oherwydd rhwystr anorfod, buwyd yn ffodus iawn am berson cymwys i lanw ei le. Y mae'r Parch. J. Grawys Jones yn fedrus ryfeddol-fel pilot profiadol-i lywio cynhadledd yn ddiogel a hapus i'r porthladd a ddymuna. 'Ac wedi iddynt ganu hymn fu'n gyfrwng car- edig i roddi vent i foliant calon y pererinion gyr- haeddasant at y ffynnon, ac i Mr. T. G. Williams -y diacon-bregethwr cynovthwyol yng ngwiil ystyr y gair--o eglwys Minny-street, Caerdydd, arwain yn ddefosiynol mewn salm a gweddi, dechreuwyd ar waith trefniadol y Gynhadledd vn yr un ysbryd. Pasiwyd- 1. Fod cyfarfod Hydref i'w gynnal ym Moriah, Ystrad Mynach. 2. Fod y swm o £5 i'w estyn o Drysorfa'r Cyf- undeb-dros amser y rhyfel-er cynorthwyo eglwysi gwan i ddwyn traul cynhaliad y Cyfar- fod Chwarterol. 3. Fod y Parch. Arthur Jones, B.A., Ynys- ybwl, i bregethu ar y pwnc, L, lfenn au Heddwch,' a'r Parch. D. Eeyshon Evans, C.C., Bargoed, i draddodi ei anerchiad wrth adael y gadair. 4. Yn nesaf cafwyd a ganlyn am y milwyr a'r morwyr oddiwrth ein Hystadegydd gofalus a ffyddlon, a luddiwyd i fod yn y cyfarfod. Go- beithiwn y gwna'r esgeulus sylw neilltuol o frawddeg olaf Mr. Mathews. Cyfrif y Nhlwyr a'r Morwyr. Pa nifer o'r eglwys a'r gynulleidfa sydd wedi ymuno a'r ryddin a'r Llynges o ddechreu Awst, 1914, hyd Mehefin 30am, 1917 ? Mae 44 o eglwysi wedi dychwelyd y post card, ac y mae cyfrif yr eglwysi hynny fel y canlyn— Wedi ymuno a'r Fyddin 1182 Wedi ymuno a'r Elynges 31 Cyfanswm 1213 Mae' 130 eglwysi heb ddychwelyd y post card, sef Mynydd Seion, Abercynon Libanus, Craig- berthlwyd Salem a Siloh, Aberdar Bethesda, Abernaht Moriah, Bedlinog Bryn Seion, Cwm- bach Seion, Edwardsville Tabernacl, Gilfach- Fargoed Noddfa, Godreaman Salem, Merthyr Soar; Mountain Ash a Bethlehem, Taf-fechan. Wrth ychwanegu cyfrif diweddaf y rhai hyn at yr uchod darllena fel hyn-. Wredi ymuno a'r Fyddin 1356 Wedi ymuno a'r Llynges 34 Cyfanswm 1390 Mae 5 eglwys heb ddychwelyd taflen ystad- egaeth 1916, sef Saron, Aberaman Mynydd Seion, Abercynon Libanus, Craigberthlwyd Bethel, Aberdar a Bethlehem, Taf-fechan. Dymunir arnynt wneud yn ddioed. Yr eiddoch yn gywir, T. B. MATHEWS. 5. Darllenwyd goliebiaethau yn gofidio oher- wydd eu hanallu i fod yn breseunol oddiwrth y Parchn. Jacob Jones (Cadeirydd yr Undeb) a Gwilym Recs, B.A. Yn cydnabod y pender- fyniad ar Ewyrwaharddiad ac Anghysegriad y Saboth oddiwrth The Ministry of Labour, The Central Control Board (Liquor Traffic), The Board of Agriculture and Fisheries a Mr. Sidney Robin- eon, A.S. Hefyd, ar fater arall, oddiwrth ysgrif- ennydcl boueddigaidd Moriah, Ystrad Mynach, Mr. John Williams, ac oddiwrth y cenhadwr enwog, y Parch. T. Rowlands, Madagascar, yn cydnabod derbyniad y penderfyniad o gydym- deimlad ag ef yn ei drallod mawr ar ol cymar daearol ei fywyd, yr annwyl Mrs. Rowlands. Teimla Mr. Rowlands, ar adeg fel hon yn ei hanes, gysur mawr i gael ar ddeall fod cymaint o bobl yr Hen Wlad yn cofio am dano ac yn cydymdeimlo ag ef yn ei drallod a'i alar. Yr oedd cylch gwasanaeth Mrs. Rowlands yn llawer ehangach na'r teulu yr oedd ei gofal hi dros ddosbarth eang ym Madagascar, a bydd yn llefaru am amser hir yng nghalonnau a bywydau cannoedd o'r Malagasiaid. Er wedi marw, yn llefaru eto.' 16. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch Arthur Jones, B.A., yn ei hiraeth pur ar ol ei annwyl chwaer. Mor hyfryd coiio, wedi hyn, Cawn gwrddyd yn y nef.' Cymeraclwywyd gwaith yr Ysgrifennydd yn anfon mynegiant o gydymdeimlad y Cyfundeb a theuluoedd ac eglwysi y brodyr ymadawedig, y Parchn. R. Derfel Roberts a J. Bowen Davies. —dau frawd ieuanc o wasanaeth mawr yn eu cylchoedd, ac yn nodedig o ffyddlon i holl waith y Cyfundeb. Bu'r olaf yn golygu Adroddiad y Cyfundeb am flynyddoedd, ac yn amIwg iawn yn y Pwyllgorau gwahanol er trefnu i gario ymlaen yn y modd mwyaf llwyddiannus yr achos goreu. 'A'u lie nid edwyn ddim ohonynt mwy '—ar aelwyd na llwyfan, na phwyllgor na chynhadledd. O 'r Digyfnewid, aros gyda ni a chycla theuluoedd ac eglwysi'r brodyr da hyn. 7. Pasiwyd i'r Ysgrifennydd anfon llythyr trosglwyddiad i'r Parch. D. Huws Jones, Foch- riw, sydd bellach wedi ymsefydlu yn weinidog yn Siloa, ym mhrif dref yr aIcallwyr-Llanelli- gan ddymuno'n dda iawn iddo yn ein hiraeth o'i gdlli o'n plith, ac yn dda i eraill trwyddo. Pob llwydd a llawenydd iddo yn ei faes mawr. 8. Ar gynygiad y Parch. H. A. Davies, yn cael ei eilio gan y Parch. Daniel Davies, Penrhiw- ceibr, estynnwyd croeso cynnes iawn i'r Parch. R. Oswald Davies, gweinidog ieuanc Moriah, Ystrad Mynach, i fod yn aelod o'r Cyfundeb. Diolchodd Mr. Davies yn bwrpasol am y der- byniad calonnog roddwyd iddo. 9. Y Drysorfa Gynorthwyol.-Fel aelod o Bwyll- gor Gweithiol y Drysorfa hon, ymwelwyd a'r Gynhadledd. gan Mr. T. G. Williams, y cyfeir- iwyd ato eisoes—un sydd wedi gwneud ei ran yn dda iawn ynglyn a hon. Nid ar ddiffyg brwdfrydedd Mr. Williams ymhlaid y Drysorfa, na'i hyawdledd yinresymiadol, y bydd y bai os na chwydda'r casgliad yng Nghyfundeb Gogledd Morgannwg. Diolchwyd yn gynnes am gael gwasanaeth a chymaint ohono ef ei hun yn y gwaith-nid mewn show, ond mewn arian a theithio a siarad a phryderu. Bendith arno. I Canwyd emyn eto cyn i'r Cadeirydd alw ar y Parch. D. R. Williams, Penywern, i ddarllen papur ar y testyn roddwyd iddo, sef Ysgol Sul y Cyfnod Newydd.' Amlwg fod Mr. Williams, nid yn unig wedi gafael yn y pwnc, ond fod yr olaf wedi gafael ynddo yntau. Hyfryd iawn oedd cael ein harwain mewn dychymyg gan y dar- llenydd am dro i Ysgol Sul y cyfnod newydd sydd ar wawrio, pan y bydd yng Nghymru pob aelod yii ffyddlon i'w iaith, ei anianawd, ei deithi meddyliol, ei dueddiadau crefyddol ac i amser; pob athraw fel Moses-yii dyfod oddi- wrth Dduw at ei ddosbarth, a phob aelod o hwnnw, fel esgym gweledigaeth Ezeciel, yn dyfod at ei gilydd ac yn bywhau pob arolygwr wedi cyrraedd y safon ddelfrydol, a phawb perthynol i'r ysgol yn ffyddlon i'w hawliau cysegredicaf. Yr Ysgol Sul yn rhywbeth y gellir edrych arni fel the parliament of man, and the federation of the universe.' Diolchwyd yn wresog- iawn i Mr. Williams gan dri wyr o raddau—y Parchn. D. Adams, B.A., B.D., R. H. Davies, B.A., ac Arthur Jones, B.A.—a liyniiy yn y drefn uchod. Gofynnwyd bendith arhosol ar y Gynhadledd hyfryd hon gan y lleygwr-bregethwr, Mr. David Jones, 10 Elm Grove, Aberdar (Aberteifi gynt, ac Aberaman cyn hynny). Gerllaw dyfroedd taavel yr Aber-oedd hyn y treuliodd ei oes, yr hon a nodweddir yn amlwg iawn gan dawelwch a gwasanaeth tawel, distaw, ei fywyd. Am 2.30, dan lywyddiaeth y Parch. J. Grawys Jones eto, wedi i'r Parch. R. Oswlad Davies, Ystrad Mynach, yn effeithiol iawn arwain yn y rhannau dechreuol, gofynnodd y Cadeirydd—yn absenoldeb y pregethwr ar y pwnc—i'r Parch. R. H. Davies, B.A., Cwmbach, lanw'r adwy, yr hyn a wnaeth yn dra llwyddiannus, a hynny ar rybudd byr iawn. Ni pheidiwyd a diolch o galon i Mr. Davies, ac i Dduw yn arbennig, am arlwyo i ni y wledd annisgwyliadwy hon. Siaradwyd a diolchwyd gan y Parch. H. A. Davies, yr Ysgrifennydd, y Parch. J. Jenkins, Nelson, a'r Cadeirydd, bid sicr. Am 6.30 arweiniwyd gan y Parch. J. Sulgwyn Davies (ysgrifennydd yr Ysgol Sul yn y Cyf- undeb), ac amlwg yn y cyflwvniad o'r genadwri gan y ddau gennad, y Parchn. J. Seymour Rees, Cefn, a H. A. Davies (Cwmaman gynt), fod y weddi wedi ei hateb. Edrychid ymlaen yn hyderus gan y Parch. Arthur Jones a phobl ei ofal, ar ol trefnu eu ty a pharatoi luniaeth, am fetidithion ysbrydol fel math o ad-daliad, ac fel ysbrydiaeth i fyned rhagddynt i feddiaiuivi rhan o'r tir lawer sydd eto heb fod yn dir Emmanuel' i gyd. Dewisodd y Cadeirydd y ddau gymhwysaf y gallai feddwl am danynt i gyflwyno ein diolch fel ymwelwyr i'r eglwys a'i gweinidog am eu croeso dibrin a sylweddol, sef y Parch. J. W. Price i gynrychioli'r gw-einidogion, a Mr. J, Prosser Davies, Dowlais, ar ran y lleygwyr, a gwnaethant hynny mewn geiriau detholedig ac mewn ysbryd gynhyrchai donnau chwareus yn ein calonnau ac a dorrent allan yn wenau gwel- edig ar ein hwynebau. Da gennym ydoedd cael cvvmui ami i Aaron a Hur o'r Tabernacl gynhaliant freichiau Moses mor gryf, mor ddibaid, -ac eto mor dyner, yn enwedig Mr. James Evans, Pant-teg—un o ffydd- loniaid y Cyfarfod Chwarterol. Ysgrifenner gan Ysbryd Duw ar bob aelod o'r eglwys ysgrifen felnaddiad sel, Sancteiddrwydd i'r Arglwydd,' a gogoniant yr Arglwydd a lanwo y Tabernacl. Cwmwl yr Arglwydd fyddo ar y Tabernacl y dydd, a than fyddo arno y nos yngolwg Ynysybwl i gyd a holl dy Israel yn y cylch. Hirwaun. E. WERN WnjJAM,s, Ysg. O.N.—Pasiwyd i longyfarch yn galontiog y personau canlynol yn sicrhau graddau newydd- lon ym myd addysg, sef y Parch. Gwilym Rees ei M.A. (deallwn y dymuna'r arholwyr arno i argraffu ei draethawd) > y Parch. George Evans, B.A., ei B.D., a Miss S. Jenkins—unig ferch y Parch, a Mrs. H. P. Jenkins. Aberamaii--ei B.A.E. W. W.

Advertising

GALWADAU. -