Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

DYFODOL ADDYSG CYMRU.I

News
Cite
Share

DYFODOL ADDYSG CYMRU. VI. YR IEITHOEDD A DDYSGIR. HAWUAU A Mantkision Y GYMRAEG. Dangoswyd eisoes yn yr ysgrifau hyn y rhaid i'r rhyfel presennol newid, ymhlith pethau eraill, holl ragolwg addysg y dyfodol, ac yn arbennig felly yn ein gwlad ni ein hunain. Er enghraifft, mae eisoes wedi pwysleisio'r angen am ddat- blygu, i'r graddau mwyaf fo'n bosibl, holl allu meddyliol y genedl, ac ehangl:'n fawr gylch ei haddysg gelfyddydol a galwedigaethol. Ymddibynnodd Prydain Fawr lawer gynt ar ei hyny soldeb. Gwahenid hi 6ddiwrth y gweddill o'r byd gan y moroedd a'i hamgylchant. Dat- blygodd ei phreswylwyr nodweddion gwahau- iaethol, Ystyrient eu hun yn genedl hollol .ar wahan oddiwrth bobloedd craill y ddaear. Un 0 nodweddion y Sais oedd edrych i lawr ar ymron bob cenedl arall. Tybiai fod yr iaith Saesneg yn unig yn ddigon i'w gario drwy daith bywyd dibrisiai ieithoedd eraill, ac anaml yr ym draff erthai i'w dysgu oddigerth o dan orfod. Ceisiodd suddlongau German i ddifodi'r ynysol- deb hwn mewn ystyr ddaearyddol drwy brofi nad yw tonnau'r mor yn ddigon o ragfur i Brydain. Er methu o ymgyrch y suddlongau, daeth llyngesau awyr y gelyn yn nes i ddifodi'r amddiffynfa. a gaem o'r mor. Ond llwyddodd rheidiau eraill y, rhyfel lie y methodd y sub- marines a'r aeroplanes. Ni eill prydain Fawr byth mwy fyw mewn unigedd ar wahan oddi- wrth genhedloedd eraill Ewrop, 11a chysgodi o'r tu ol i'w hynysoldeb fel cynt. Mae'r ymadrodd Brawdoliaeth Cenhedloedd y Ddaear wedi ennill ystyr newydd yn y byd, a rhaid yw i'r neb a fynno gyfranogi, a llawer mwy y neb a fynno arwain, ym mywyd masnachol a gweithfaol y byd gydnabod y dehongliad newydd hwn. Gwerth Masnachol Ieithoedd Diweddar. Er na symudwyd melltith Babel gan y rhyfel, pery cymysgiad ieithoedd ar y ddaear pan na bo y Rhyfel Mawr yn ddim amgen nag atgof niwliog hanes. Eithr y mae pob cenedl fasnachol eisoes yn sylweddoli y rhaid iddi, os myn gyfranogi neu arwain ym masnach y byd yn y dyfodol, feistroli ieithoedd y sawl y myn hi fasnachu a hwynt. Gynt arferai masnachwyr Lloegr yrru allan eu hysbysiadau masnachol i wledydd tramor yn Saesneg, gan adael i'w cwsmeriaid estronol eu cyfieithu goreu y medrent. Wna dynny mo't tro mwyach. Tramoriaid—Ellmyn- iaid lawer ohonynct-a gyflogwyd gan fasnach- wyr Lloegr i ohebu drostynt a chwsmeriaid tramor, am fod yr EUmynwr yn ieithydd gwell na'r Sais. Wneir dim o hynny mwyach. Myn masnachwyr Prydain gael Prydenwyr i'w gwas- anaethu yn y pethau hyn-os byddant i'w cael. Lladdwyd dirmyg traddodiadol y Sais am ieith- oedd pobloedd eraill gan y rhyfel. Mae hyn oil wedi gwthio ar sylw addysgwyr y deyrnas bwysigrwydd y lie a roddir yn~ y dyfodol i ieithoedd diweddar yn ein hysgolion a'n colegau. Cydnabyddwyd hyii yn swyddogol drwy benodi Pwyllgor Arbennig gan y Llywodr- aeth i fyned i mewn i holl gwestiwn lie ieith- oedd eraill yng nghyfundrefn addysg Prydain. Mae'r Pwyllgor hwniiw yn gwneud ei ymchwil- iad yn awr. Ceir cyn Iiir ei adroddiad ar y mater, a eheir gwybod pa beth a anogir ganddo. Ar yr adroddiad hwnnw y gellir disgwyl y seilir polisi addysg dyfodol Lloegr. Safle f eithyddol Cymru. Mae safle ieithyddol Cymru mor hanfodol wahanol i eiddo pob rhan arall o'r deyrnas, ac yn enwedig i eiddo Lloegr, fel mai camgymer- iad dybryd a fuasai i 111 mo Nghymru dybied mai cynllun addysg eft'eithiol Nghymru dybied mai cynlIull addysg effeithiol n IJoegr imieithog a fyddai oreu hefyd i Gymru 4dwy-ieithog. Rhaid cOho 0 hyd nid yn unig mai gwlad ddwy-ieithog yw Cymru, a bod nifer ei phreswylwyr a fedrant y ddwy iaith yn cyn- hyddu'n barhaus, ond hefyd fod nifer sylweddol o blant Cymru heddyw yn gorfod dysgu Saesneg fel pe yn dysgu iaith estronol. Nid oes yn Lloegr ond un iaith fiodorol, tra y ceir dwy yng Nghymru. Mewn rhanbarthau helaeth o'r wlad erys y Gymraeg hyd heddyw yn iaith yr aelwyd* y farchnad a'r cysegr; hi yw cyfrwng cym- deithas A'll gilydc1 yn y cartref, yn y cylch cym- deithasol, ac yn y gwasanaeth crefvcldol o eiddo pob enwad. Nid yw pawb yn sylweddoli pa mor gyffred- inol y defnyddir y Gymraeg. Mewn pump o dair sir ar ddeg Cymru-Môn, Arfon a Meirion yn y Gogledd, a Cheredigion a Chaerfyrddin yn y De-ceir o 85 i 91 allan o bob cant yn siarad Cymraeg. Mewn pedair sir arall—Dinbych, Fflint a Maldwyn yn y Gogledd, a Brycheiniog yn y De-ceir o 41 i 57 allan o bob cant o'r holl boblogaeth yn siarad Cymraeg. Hyd yn oed ym Morgannwg weithfaol a'i chymysg cen- hedloedd, ceir yn agos i 400,000, neu dros 38 ° bob cant o 1 boblogaethj yn siarad Cyiiirac-g; ac yn sir,Belifro Lloegr fach tuhwnt i Gymru fel y'i gelA,-ir-ceir un o bob tri o'r trigolion yn siarad Cymraeg. Yn yr un sir ar ddeg hyn amrywia nifer y bobl ddwy-ieithog o 25 o bob cant yn sir Ben fro i fyny hyd 04 o bob cant yn sir Gaerfyrddin- y drydedd sir weithfaol yng Nghymru. Mae'n deilwng 0 sylw hefyd mai yn y siroedd gweith- faol mawr—MorgannAvg, Caerfyrddin a Dinbych (Mynwy yw'r eithriad)-y ceir y cynnydd yn nifer y personau yn siarad Cymraeg. Cymerodd y lleihad mwyaf yn nifer y rhai yn medru Cym- raeg le yn siroedd Arfon, Meirion a Cheredigion, lie y ceir tua 90 allan o bob cant o'r trigolion yn siarad Cymraeg, rhwng 50 a 55 o bob cant yn medru Cymraeg a Saesneg, a rhwng 34 a 37 o bob cant na fedrant un iaith ond y Gym- raeg yn unig. Pan gofiwn mai dyfodiaid estronol yw 20 y cant, neu un o bob pump, o holl drigolion Cymru, ac y cymathir y rhai hyn ymhen cenhedlaeth neu ddwy eto fel rhan hanfodol o genedl y Cymry-fel ag a wnaed er dyddiau'r Rhufein- wyr a gorQSg.vnwyr blaenorol, pa un bynllagtai goresgynwyr milwrol ai gweithfaol oeddellt-ni chyll y ffigyrau hyn ddim o'u gwerth na'u gwers i ni. Gwelir, o osod y ffaith mewn ffurf arall, mai yn y siroedd lie y glyna calon y Cymro dynnaf wrth iaith ei fam, a He o ganlyniad y bydd lleiaf tebyg i'r Gymraeg farw, y gwelwyd y lleihad yn nifer y boblogaeth sydd yn arfer y Gymraeg fel iaith feunyddiol. Cyfrifir am y lleihad hwn, wrth gwrs, gan y ffaith mai symud i'r ardaloedd gweithfaol a wnaeth y bobl. Ar y llaw arall, cymerodd cynnydd o yn ago& i hanner can mil yn nifer y bobl sy'n siarad Cym- raeg le yn y siroedd gweithfaol-y siroedd i'r rhai y llif ffrwd parhaus o genhedloedd estronol, a'r siroedd felly lie y bygythir pathad a bodol- aeth y Gymraeg fwyaf. Gwerth Mas- nachol y Gymraeg. Camgymeriad llawer rhy gyffredin yw tybied nad oes i'r Gymraeg werth masnachol, am na defnyddir hi ym myd masnach y tauUan i'r Dvwysogoeth. Pan ffvmerir y ffeithiau i ystyriaeth, gwelir mor gamsyniol yw'r dybiaeth hon am werth y Gymraeg ngwahanol alwedigaethau bywyd. Cynhyddu mae, a chynhyddu'n fwy eto a ddylai, yr arfor- iad o ofyn am wybodaeth ymarferol a digpuol o'r iaith Gymraeg fel eymhwyster 'dymunot' neu hyd yn oed' angentheidiol J mewn ymgeis- ydd am swydd gyhoeddus o unrhyw fath yug Nghymru. Nid culni cenedlaethol yn codi'r cri o Gymru i'r Cymry yw hyn, eithr polisi rhesymol hollol gyson ag arferiad cyffredin

IESU HANES.*