Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

0 FRYN I FRYN. -

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. KuTHOM i'r maes hwn wedi darllen yng Nghen- A yw Dydd Ymneilltuaeth Drosodd ? inert Gorffennaf yr ysgrifau amserol ar 'Addoliad yr Eglwys a'r C a p e 1 Chwennych y Blaeii,' ac 'Ail-fradychu Ym- neilltuaeth.' Nodweddir v J ddwy ysgrif olaf gan fellt a tliaranau, ac nid yw eu llymder ronyn yn rhy gryf. Ceir gosod- iadau poenus o wir o'u mewn, a rydd gywilydd wyneb i euogion. Brawychus ydyw darluniad Penygarth o anhawster gallu a theilyngdod i gael eu lie mewn byd a Betws, a hynny oher- wydd 'y triciau annheilwng a cliwareuir beunydd gan rai cyfeillion yn eu brys diamynedd i ddod i'r ffrynt.' Ymholiad cyntaf Gerald ar 'Ail- fradychu Ymneilltuaetli' yw—'Ai nid yw egwyddor Ymneilltuaetli wedi gwasanaethu ei phwrpas, ac ai cam a'r egwyddor honno yw disgwyl iddi orfyw ei chyfnod a'i chenhedlaeth ? Yna symuda yn ei flaen i ddweyd mai amcan cychwynnol a gwreiddiol Ymneilltuaeth ydoedd protest yn erbyu cyflwr isel yr Eglwys Sefydl- edig lawer o flynyddoedd yn ol.' Yr ydym yn hoff iawn o ysbryd yr ysgrif hon, a diolchwn yn enw'r. Pulpud i Gerald am lydanrwydd ei gydymdeimlad a geiriau hyfryd o garedig. Er nad ydym, rywut, yn gallu cydweld a rhediad ysgrif Gerald,' eto bu o gymaint budd i ni a'r un ysgrif o fewn y rhifyn, oblegid iddi, ryw- sut, ddefiro ein meddwl ynghylch Ymneilltu- aeth a'i chybydd-dod.' CYBYDD-DOD YMN. ydyw deuair arw uiol' Gerald.' Y mae ganddo I dair gwedd i Ymneilltuaeth, sef ei Hegwyddor,' ei Chyfnod a'i Chybydd-dod.' Nid digon clir i ni y dengys Gerald ei feddwl am barhad Ymneilltuaeth. Yn ol ei ymholiad cyntaf, a grybwyllwyd eisoes, gellid dod i'r casgliad ei fod o'r farn y gellid gwneud i ffwrdd bellach ag Ymneilltuaeth; ond yn ol brawddeg sydd ganddo ar ddiwedd ei ysgrif, gellir casglu ei fod yn credu yn ei pharhad, sef Os am gadw Ymneilltuaeth yn ei chryfder ac ar yr hen syl- feini, fod yn rhaid i r egwyddor wirfoddol o gynnal crefydd fod yn llawer mwy byw, neu ynte gwelir canlyniad arall.' Wrtb ddal yr ymadroddion hyn wyneb yn wyneb, naill ai mai Gerald yn y niwl i lli, neu yr ydym ni yn y niwl iddo ef. Yn ei frawddeg flaenaf sonia am egwyddor Ym- neilltuaeth, a honno wedi gwasanaethu ei phwr- pas.' Yn ei ail frawddeg sonia am gadw Ym- neilltuaeth yn ei chryfder ac ar yr hen sylfeini, a chyfeiria at yr egwyddor wirfoddol.' Yn ei drydydd man dywed Beth bynnag a ddywed hwn a'r llall, mae Ymneilltuaeth yn jprysur newid heddyw ac maent yn liollol otiest wrth ddweyd hyn, ac eraill yn anonest wrth hwylio ymlaen y cyfnewidiadau, a dweyd yr un pryd nad ydynt yn newid dim o safle'r tadau. Arwyddion o'r symudiad hwoilw yng Nghymru yw—(i) Y cron- feydd geisir eu codi yn y wlad gan bob enwad i geisio cyflog byw i'w gweinidogion. (2) Y cais wneir i gael cynhorthwy'r Wladwriaeth i roddi addysg grefyddol i'r gweinidogion trwy sefydlu Cadeiriau Diwinyddol yn y Colegau Cenedl- aethol.' Tybiwn mai ddarlleniad cywir o feddwl Gerald yw mai Ymneilltuwyr sydd wedi bod uchaf eu clocil o blaid yr egwyddor wirfoddol yng nghynhaliaeth crefydd, ond yr un pryd maent hwy yw'r rhai inwyaf cybyddlyd yn eu hymddygiad tuag ati. Nid yn unig maent yn gybyddlyd yn eu cefnogaeth i'r egwyddor wirfoddol, ond gyda hynny bradychant anghy- sondeb ac anyinddiriedaeth yn eu hymdrechion preSennol gyda'u cronfeydd, a chyda'u Cadeir- iau Diwinyddol yn y Colegau Cenedlaethol. Ambell dro meddyliwn mai Eglwyswr braf yw Gerald,' a'i fod mewn ffordd gall a chywrain yn rhoi ei bluen ar y dwr yn ysbryd cenhadol yr Hen Fam oblegid dywed etc Clywir swn gwella cyflog rhai gaa y Wladwriaeth. Os yw crefydd yn rhan mor hanfodol o fywyd y genedl ag addysg, ac os yw'r pregethwr mor bwysig a'r ysgolfeistr, vna naturiol a theg yw i'r rhai hynny, yn wyneb cydbydd-dod eu cenedl, i ofyn i'r Wladwriaeth addysgu crefydd yn y Brifysgol a'r pulpud.' Tybed mai yn y frawddeg hon y ceir yr agoriad i neges Gerald yn yr ysgrif hon ? Ni buasai 11a naturioldeb na thegwch i Ymneilltuaeth i ofyn y fath beth. Os darllenir anghysondeb yn ymgeisiadau rhai o bobl flaen- llaw Ymneilltuaeth,' ni cheir pawb yn euog o'r fath anghysondeb; ac mae hi ei hun yn ei hegwyddor yn lanach na'r cwbl. Prawf ysgrif ddiddorol Gerald' i ni fod Ymneilltuaeth i gerdded ymlaen, er wedi cael Datgysylltiad a Dadwaddoliad, a'i bod i barhau YN EGWYDDOR ARHOSOI, A CRYNIIYDDOL. Nid ydyw wedi gwasanaethu ei phwrpas 11a c wedi' gorfyw ei chyfnod.' Gallu sydd o'r dechreu yn hel ato ei hun, fel nant y mynydd ar ei hynt i'r mor, yw Ymneilltuaeth. Rhai o'r nentydd a aberant iddi ydyw I/utheriaeth, a Wicliffigeth, a Phiwritaniaeth, a Browniaetb, a.c Anghydffurf- iaeth, a Chynulleidfaoliaeth, ac Annibyniaeth. Yr ydys i aros ychydig yn fwy pwyllog ac ystyriol yn y dyddiau hyn uwcliben Ymneill- tuaeth. Nid rliywbeth-am dro ydyw, fel gwisg ffasiynol y foneddiges uclieldrem mewn garden party. Y mae hi yn fath ar ddillad gwaith a dillad bob dydd. Nid rhywbeth nacaol ydvw, i gael i ni ddim ond Datgysylltaid a Dadwaddol- iad. Mwy ydyw na bod yn negyddol. Y mae yn fwy nodedig am ei chrefydd na'i gwleidydd- iaeth. Am ei bod yn grefyddol y dengys ei hun yn wleidyddol. Y mae'n gadarnhaol. Egwyddor, a bywyd ydyw, ac un o agweddion ei bywyd ydoedd Datgysylltiad. Pery hi o hyd, ac nid yw ei ddydd gwaith drosodd gyda Datgysylltiad. Credwn hyn. Dywed Gerald 'Gwyr pawb erbyn heddyw fod protest Ymneilltuaeth wedi ateb ei bwrpas, ac nad yr un yn agos yw'r Eglwys Sefydledig heddyw ag mewn dyddiau a fu.' Da gennym glywed hyn, a da gennym glywed fod gan Ymneilltuaeth ran, a rhan bwysig, yng nglendid yr Eglwys Sefydledig. Ar yr un pryd, yr ydys i gofio fod Ymneilltuaeth yn wrthwedd i Esgobyddiaeth. Cymerwn yn ganiataol, ac amweinir i hynny gan Gerald,' sef i Ymneilltuaeth fod yn wrthwedd i ddrwg neu gyflwr isel yr Eglwys ond yr oedd hi yr un pryd yn sefyll yn erbyn Esgobyddiaeth fel ffurf-lywodraeth eglwysig. Y mae gan John Edward Lloyd, M.A., yn ei Drem ar Hanes yr Annibynwyr yng Nghymru', frawddeg y dylid ei chofio pan yn cerdded y linell hon, sef-' Ymwrthododd Elizabeth a'r teitl Pen yr Eglwys a daeth y syniad i fri mai gyda'r Esgobion, sef urdd o swyddogion yn disgyn yn ddidor, fel yr haerir, o amser yr apostolion, yr oedd ffynhonnell awdurdod yr Eglwys. Dyma haufod Esgobyddiaeth.' Yn wir, felly y sieryd y Canon Lewis yn y Gedllen y tro hwn ar 'Addoliad yr Eglwys.' Dywed ef Yn ein Heglwys rhaid iddynt dderbyn awdurdod yn ol trefn yr Eglwys ymhob oes ynglyn ag urddiad i'r tair gradd-esgobioll, offeiriaid a diaconiaid. Yn wir, dengys hancs fod gweinid- ogaeth yr Eglwys fel cadwyn ddidor yn estyn yn ol trwy'r oesau i ddyddiau yr apostolion.' Nid yw Ymneilltuaeth yn credu dim o'r fath dystiolaeth, ac nis gellir ei pherswadio i gredu fod ei chyfnod hi wedi dirwyn i ben. Deffry Eglwys Loegr yn amlwg yn y dyddiau hyn i roi pwyslais ar ei hen stori, sef mai hi yw y wir Eglwys. Ni chydnebydd hi eglwysi'r enwadau. Y ddau beth mawr a wel hi ydyw Ymneilltuaeth ac Enwadaeth; a chware teg iddi, canys hi a genfydd ryw fath o grefydd 3-11 gymysg a hwynt. Ond ni chenfydd eglwys o gwbl. Hi ei hun yw'r Eglwys. Deil ei phyrth yn agored iawn yn y dyddiau hyn, a chyferfydd ei hesgobion a rhai pleidiau crefyddol, asonia'r papurau am ddychweledigion ond eto, rhyfedd mor debyg i gynnyg Germaniaeth am heddwch a'r teyrnasoedd ydyw cynnyg Esgobyddiaeth am heddwch a'r enwadau. Y mae hi yn barod i ystyried yr aduniad mawr hwn, ond eto rhaid iddi hi fod yn benarglwyddiaethol yn y cwbl, a phawb eraill i blygu i'w thelerau a'i huchaf- iaeth. Dywedai y British Weekly y dydd o'r blaen fod yr Esgobion gyda'u cyllid mawr mewu ffordd i roi yn y golwg gyflogau mawrion i breg. ethwyr goreu Ymneilltuaeth. Beth sydd yn hynny, a'i fod yn wir ? Ni chytunwn a Gerald yn ei frawddeg—' Nid yw Ymneilltuaeth yu foddlon talu cyflog teilwng i'w hathrawon na'i phregethwyr.' Nid ydym am ddweyd fod Ym- neilltuaeth yn berffaith yn ei chasgliadau; a gwyddom am samplau lleol sal yn ei hanes. Yr un pryd, digon teg yw gofyn, Pa allu arall, yn hollol oddiar gymhellion gwirfoddol, a ragora arni ? Beth am Sosialiaeth wrth-eglwysig ? Beth am Eglwysyddiaeth Lloegr ? 'Does dim yn hanes Cymru a ddeil gystadleuaeth a hael- frydedd crefyddol ei Hymneilltuaeth. Beth pe ceid taflen o gasgliadau blynyddol y Bedydd- wyr a'r Annibynwyr a'r Methodistiaid yng ngwahanol g\fundebau gweithfaol Myn^vy, Mor- gannwg a sir Gaerfyrddin yn ystod y 30 mlynedd diweddaf hyn ? Gadawer allan, neu rliodder yn ddosbarth ar ei ben ei hun, eu rhoddion ar addoldai, ysgoldai, colegau, cenadaethau, sefydl-