Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

K0D10X 0'R_DEHEUD1R. !

News
Cite
Share

K0D10X 0'R_DEHEUD1R. Cynhalbrya Eisteddfod yn Aberayron ddydd I Mercher er budd ysgolion Gwirfoddol Aberayron. Cymerodd regatti le yn Llacharn ddydd Llun. Yr oedd y tywydd yn hynod o braf. Mae nifer lied dda o ymwehvyr yn aros ar hyn o "blyd yn Aberteifi. Bwriada Syr Henry Irving dalu ymweliad a'r "Theatre Royal, Caerdydd, y mis nesaf. Cyxihaliwyd cyfarfod haner-blynyddol llywodr- aethwyr Yspyttv Merthvr nos lau. Cynhaliwyd Arddangosfa Amaethyddol Llan- defeiliog ddydd Gwener a chafodd gefnogaeth helacth gan y eyhoedd. 11 Aeth tas wair ar dan yn ffarm yr Hen Gastell, Al,e-.t,.ifi, nos Fawrth, perthynol i Mrs Trollip, Black Lion Hotel. Mae Eadiealiaid Caerdydd yn ceisio dylanwadu ar Mr D. A. Thomas i sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad nesaf. T mae Singleton Abbeyartref y Vivians— T5w:di cael ei osod am chwech wythnos i deulu o America. Dydd lau yr oedd y Prifathraw Viriamu Jones, o Goleg Prifysgol Caerdydd, yn gadael Lerpwl am Canada er bod yn bresenol mewn cyfarfod o'r Gymdeithas Brydeinig, pi un a gynhelir yn Tor- onto. Lladdwrd oach^en, deuddeg mlwydd oed, o'r enw William Morris, yn Cwmbacli, yr wythnos ddlweddaf, trwy i dren rede" drosto. Hysbysir i blencyn James Davies, taniwr, Caer- fyrddin, farw mewn canlyniad i'r gwres mawr. Mae 67 o deuluoedd yn Cydweli wedi derbyn rhybudd i adael en tai. Mae tlodi mawr yn y gvmydogaeth oherwydd prinder gwaith. Mae cwmpeini glofeydd newydd wedi eu ffurfio yn Llanelli, a bwnadanc agor chwech o lofeydd newyddion lieblaw ail-gychwyn hen.rai. Boddodd Hafurwr ieua/ic, o'r enw Thomas War- ner, Cilfynydd. prydnawn ddydd lau, tra yn ym- drochi mewn llyn rhwng Pontypridd a Threffor- est.. Pijrwyddodd damwain yn nglofa newydd Aber- gwynfi, ddydd LIun. trwy yr hon y darfu i fach- gen. 15 mlwydd oed. o'r enw Wm. John Gravel, golli ei fywyd. Yn n'jhyf ufod Bwrdd Ysgol Llanliilletli ethol- wyd Mr Lewia yn aelod o'r Bwrdd hwnw yn lie Mr Watt ins, yr hwn oedd wedi di-aelodi ei hitn 1rwy absent-li ei hun o'r cyfarfodydd. Y mac yr Heddgeidwad Thomas Moles, Aber- naiit, yr hwn sydd wedi bod yn perthyn i heddlu Sir Forganwg am dros 26 o flynvddoedd, wedi ym- ddiswyddo, ac i dderbyn blwydd-dal. Yn yr eisteddfod ddiweddar a gynhaliwyd yn Onllwvn, dyfarnwyd y Parch Volander Jones, Trecastell, yn enillwr ar destyn y gadair. Ym- geisiai 13 am yr anrhydedd hon. Llenwir Llandrindod yn awr ag ymwelwyr. ac argoelia y bydd yn dymhor pur dda i'r preswyl- wyr. Yn yr Hydref byddis yn agor Ysgol Ganol- raddol newydd yn y lie. Lloegwyd geneth fach i Mr Samuel Hughes yn s Byne-a. ",r Llanelli, yn ei chrvd. Ymddengys i frawd bychan oleu canwyll, ac i hono syrthio o'i law, gsn danio dillad y fechan. Boddodd glowr ieuanc, o'r enw J. Kenvin, o Ynyshir. tra yn ymdrochi yn Ynys Barry, dydd LLIM; a chydag anbawsder mawr y llwyddwyd i Wxiredu ei gydymaith, Ernest Davies. Mr Fred YvT. Brt-tT, Caerdydd, a henodwyd i'r swydd o brif reolwr TTrdd v Rechabiaid yn y rryn- hadledd a gynhaliwyd yn Edinburgh yr wythnos ddiweddaf. Brodor o Abercam ydyw Mr Brett. Cvnhaliwyd trengholiad yn Llanelli ar gorph William John Davies, bachgen chwech mlwydd oed. yr hwn a laddwyd ar y dramffordd y diwr- nod blaeriorol. Dychwelwyd rheithfarn o Farw- ohth ddamweiniol." Yn marwolaeth Mr D. L. Davies, Glenview. Coed Duon, collodd y Wesleyaid bregethwr lleol tra adnabyddus; a'r hwn, mewn canlyniad i'w ymroad a'i ddifrifwch, a adnabyddid wrth ei enw "Spurgeon Davies." Cvnhaliwyd eisteddfod hynod o lwvddianus yn Llaaiddewibrefi dydd Ian. Bernid fod tair mil yn bresenol. LIywyddid y cyfarfodydd gan Mr J. i. C. Harford, Faleondale, a Mr Vaughan Davies, yr A. ft. dro y sir. Yn Brynmawr, ddydd LInn, svrthiodd yr Hedd- geidrraid Davies a Hamer i mewn am driniaeth chwerw can nifer o gymdeithion enciliwr o'r fyddin, o'r enw James Richards tra yn ei gymeryd i'r dd^Lfa. Prydnawn ddydd Mercher ymosododd buwch ar wraig oedranus, o'r enw Mrs Richards, Dyffryn- Btreet, Fen; dale, a llusgwyd hi hyd y llawr am dros haner cant o btheni. Gorwedda y wraig mewn sefyllfa beryglus. Cyhuddwyd Charles Pugh, Forge Hammer Inn, Crughywel. o werthu peint o gwrw ar y Sabboth. Dyived?u y diffynydd iddo roddi y ddiod yn rhad. Modd bynag, dirwywyd y diffynydd i 10s a'r cost- au a dywedwyd wrtho mai peth peryglus ydoedd gwneud riioddion o gwrw. Nos lau cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn eg- lwys y Presbyteriaid yn Abertileri er cyflwyno dwy oriadur aur i'r I'arch T. Williams, y diweddar weinidog, yn nghyda rhoddion eraill yr oedd ael- )(hu yr Yr,gol Sabbothol a'r eglwys wedi tanvs- grilio tuag atynt. Bu Mr John Evans, trengholydd Aberystwyth, yn cynal ymchwilitwl i achos marwolaeth gwraig ieuanc newydd briodi, o'r enw. Mary Anne Courts, a'r hon oedd yn gweini fel morwyn yn 63, Marine-terrace, a'r hon oedd wedi marw y diwrnod blaenoroi mewn canlyniad i effeithiau niwed a dderbyniodd trwy ddisgyn o dri uchder wrth lan- hau y ffenestr. Dychwelwyd rheithfarn o Farw- olaetli ddamweiiiiol," ac nad oedd un bai wrth ddrws meiatres y ty. Cafodd Mr W. Merlin Morgan, enillwr y bath- odyn aur yn y Colcg Cerddorol Brenhinol, yr hwn qrdd yn bresenol yn Aberdar, ei le genedigol, ei gyflwyno i'w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru gan Is-iarll Emlyn. Gnrchymynwyd i Mr Morgan ymddangos yn Marlborough House i dderbyn y bathodyn gall Tywysog. Ystyrir y neb a enillo y bathodyn hwn yn cael anrhydedd uchel. Dy- fernir hi bob tair blynedd am chwareu ar y ber- doneg; ac nid ydyw y gystadleuaeth yn agored ond i bed war o*r myfyrwyr uchaf yn y coleg. Ni enillwyd hi enoed o'r biaen gan Gymro. Aeth Mr Morgan i'r coleg yn 1893, wedi iddo enill ys- goloriaeth Tywysog Cymru am dair blynedd. Cynhali w v d cyfarfod chwarterol Siamber Am- aethyddol Sir Gasrfyrddin yn y Cawdor Arms Hotel, Llandilo, prydnawn ddydd Mawrth. Mae prlodas i gymeryd lie yn Eglwys Llan- wenog, ar y 15fed o Hydref, rhwng Mr Arthur t Campbell Duckworth a Miss Viola Davies-Evans. Mae dawnsfa gyhoeddus i gael ei chynal J{I1 y Drill Hall, LlanjTnddyfri, ddydd Gwener nesaf, dan nawdd prif bendefigion yr ardal. Cynhaliwyd cyfarfod pwysig o gynrychiolwyr y glo-berchenogion a'u gweithwyr yn Neheudir Cymru yn N ghaerdydd, ddydd Gwener, pryd y cymerodd ymdrafodaeth bwysig le parthed sef- yllfa bresenol y fasnach lo. Dydd Gwener hu i ddau bysgotwr o Aberporth, ger Aberteifi, foddi yn y bau tra yn pysgota. Cafodd John Hopkins ei ladd yn Nglofeydd Aberpergwm, Castellnedd, ddydd Gwener, tra yn dilyn ei orchwyl. Dydd Gwener darganfyddodd pysgotwr "shark" yn Mati Abertawe. Yr oedd yn ddeuddeg troed- fedd o hyd. Dydd Gwener, cafwyd cOl-ph Mr Enoch Rees, ysgrifenydd Cymdeithas y Mwnwyr, Brynaman, yn y Pwlldu, afon Garw. Wedi myned yno i chwilio am rywbeth oedd wedi golli wrth ym- drochi wnaeth, a syrthio i'r pwll, mae yn debyg. Dydd Mercher gweinyddwyd gwasanaeth priod- asol yn Eglwys Seisnig Bresbyteraidd Aberyst- twyth, gan y Parch R. Hughes, gweinidog, yn mhresenoldeb y cofrestrydd, rhwng Miss Martha Benbow, ail ferch Mr E. Benbow, engine driver, a Mr David Davies, Oxford-street, Pontycymmer, mab hynaf Mr Thomas Davies, Maesglas, Cellan. Ni bu yr wythnos ddim gwell na dim gwaeth ¡ nag y disgwylid yn nglyn a'r fasnach mewn glo a lxaiarn yn Ncheudir Cymru. Nodwoddid hi gan gryn lawer o gadw gwyl ond gwnaed ryw gymaint o waitlx. Y mae yr adroddiadau am brif gang- henau masnach y rhan hon o'r wlad, ar y cyfan, yn lied galonogol. Fel y gellid disgwyl gydar fath wres, yr oedd y galw am lo tai yn dawel, ond y prisiau yn cael eu cadw am o 9s 3c i 9s 9c y dunell.

Bangor

Beddgelert.

Bethesda.

Blaenau Ffestiniog a'r Amgylchoedd.

Caernarfon-

Llandudno.

Llanrwst.

Penrhyn dcudraatft.

Porthmadog

Pwllheli,

Port Talbot

Itulœs (Paurhosll gwy).

Llaafaethlu.I

Advertising