Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

AT OLYGYDD Y 'TYST CYMREIG.'

PRYDDEST FUDDUGOL CAERFYRDDIN…

AT WEINIDOGION CYFDNDEB SIR…

YR HEN DWRNE.

--AT DDARLLENWYR Y I TYST.'

News
Cite
Share

AT DDARLLENWYR Y I TYST.' Wrth weled y Daearegydd a'i ledr-lodran (nicker- bookers) am ei goesau, a'i gwd ar ei gefn, yn rhodio o gylch godrau y mynyddoedd, diau eich bod yn meddwl fod byd braf iawn arno; ac wrth ei gyfar- fod mewn ambell ffermdy croesawus yn eistedd wrth y ford—bydd yn gruddfan dan fara ceirch yr un ffurf a chantal hot esgob, a chaws crin Llangower, allaeth enwyn ewynog, neu faidd melus. Yr oeddych yn tybied ei fod yn cael bywioliaeth fras, ac yn barod i ddyweyd nad oedd ryfedd yn y byd ei fod yn edrych mor lyfndew a graenus. Felly y mae dynion yn camgymmeryd sefyllfa y naill a'r llall wrth edrych o bell ar eu gilydd. Pe dilynech chwi ef, druan o hono, drwy y corsydd gwlybion, ar ddiwrnod gwlaw- og yn Nhacliwedd, neu ar hyd llwybrau defaid rhwng dannedd y clogwyni ysgythrog ar brydnawn oer i wyneb rhewynt Chwefror, ei forthwyl oer yn ei law, a'i faich trwm o geryg ar ei gefn, fe newid- iech eich meddwl am ei dynged yn bur chwim. Dygwyddodd i mi yn ddiweddar'droi i mewn i'w fwthyn tlodaidd, a chyfaddef y gwir i chwi, meddwl yr oeddwn am fyned yn ddysgybl iddo, os gallwn lwyddo i gael ganddo fy nerbyn dan ei addysgiaeth; ond erbyn gweled beth yr oedd y truan o'i gwmpas, fe newidiodd fy meddwl rywfodd, ac fe newidiais innau fy cliwedl. Rhaid i chwi ddeall fel y daeareg- ydd, nid yn unig yn deall ccryg, ond yn bwt o bryd- ydd, neu rigymydd, a gwyddwn i hyny cyn yr am- gylchiad yr wyf yn awr yn cvfeirio ato. Yr oedd y pryd hwn wedi gosod ei forthwylion, ei gynion, ei wydrau, ei sureion (acids), a'i holl gelfi gwyddorol heibio, a'i bin yn ei law, a'i bapur o'i flaen ar gauad y fegin (a'r hon yr oedd wedi bod yn ceisio chwythu tipyn o wres i bentwr o lechi duon, ag yr oedd efe wedi eu camgymmeryd am lo) ac erbyn edrych beth oedd ganddo ond pwt o gan gwynfanus yn darlunio ei ffar galed ac er mwyn tipyn o ddifyr- weh ar draul yr hen fachgen, fe'i lladrateais, acwele fi yn ei chyflwyno i'r TYST fel gwrthdystiad yn erbyn i neb eto ddilyn llwybrau hen lane .,rogofal1, yr hen gloddfeydd a'r ogloddiau:— Adwaenwn ddaearegydd trist, Ni faiddiaf dd wend ei enw, a'r fangre lom lie 'r oedd yn byw, GwnaÏ. hyny 'r brawd yn cliwerw. Ond clwedaf iweh beth oedd ei fwyd- Ymborthi 'r oedd ar geryg, Ac weithiau drwy ryw hapus dro, Cai bigo esgyrn teryg. Tir bod y rhein'y 'n sychion iawn, Ac i bob call yn ddiles, Fe Iwyddai ef i'w berwi 'n boeth, dk gwneucl o hoiiyiit botes. Ac os dygwyddai rhywun droi •; I mewn i'w ilau neu loches, Ond odid fawr cydrhwng y ddau,, s. Nad ä 'iyn ferwi browes. ■; Ond gan ei fod yn hoffns iawn O newid ei ddysgleidiau, Ule'i gwelict weiihil-Li'n ddigon:ffrom, Yn crasu pastai wyau. A phan y byddai ei ddant yn ddrwg, Neu wedi cael y dincod Os metbai gnoi y lIechi lIyfn, Fe rostiai bAr o ystlutiiod. Ac weithiau berwai ruel tew 0 rud y meini melinau; 'R oedd hwnw 'n dda rhag anwyd trwm, Graeanwst tost a phlauau. 'R oedd ganddo bysg, heb bwys na rhif, O'r mor ac o ddwr croyw Ond byth o'r rhai'n ni ddrewai 'r UU, Er iddo 'n hir eu cadw. Eai troiau deuai arno ch want Cael profi bwyd amheuthyn, A berwai 'nghyd yn lobyscows Ei gery, mqn a'i grc-gyn. Ond pan mewn tymmcr hynod dda, Gwahoddai rai cyfeilliou, Sef I Aqiia Fortis fiiiio,- ddaiit, 1 broli ei di-illabodion. Ar ol myned drwy y cocos, pysg, J Y seii,ff, a'r ma(ifeill, Nved'yn, Daw dysglaid newydd braf i'r bwrcld, Yii fraith o I eryg pwdii,).' > Uliaid addef am ei bastai gig, Go galed oedd y crystyu 'P, oedcl raid cael gordd a miniog gun, A chaib i'w ranu rhyngddyn'. :Pe gadnva-. ffrwythydd aedclfed iwn, Can's mawr iawn oedd eu hoedran, Sef ceryg cirin braf a chnau, Ond camp cael cnewyllyn allan. Mae ganddo'n hongian dan y llofffc Gig sycb, sef hams cawrfilod «•>•••- Ac ochrau 'r .Cheirotherium certh, A chalonan Ichth,?Iosairi-od. Mae yn ei seler lawer math 0 wirod a gwlybyron; N 11 Ammonia cryf a vitriol sur, Ae olew'r graig fel afon "• Chwychwi sy'n byw yn Hon a bras •<: Ar gynnyrch mawr y gareg, Gan drin a throialllwiwn brae, •, o cofiwcli bawl Daeareg. v: i A gyrwch oen ac ambell wydd I fwrdd y claearegydd, >■ Ac ambell bo eel lawn o 1 aeth I amwydo 'i sychion fwydydd. "Wrth ddarllen llyfmu drudfawr ar Ddaeareg, ac 6diych ai y darmniau ysblenydd, gallai dyn feddwl fod byd bras iawn ar cu bawduron. Gwisgant deitl- au liirion a dyeithr, a chyfeirir atynt yn yr. un frawddeg ag- Iarllod a Dugiaid, a sonir am eu llwydd- iant a'u darganfyddiadau, a chyfodir cofgolofnau iddynt wedi eu marw, nes y mae dyn yn barod i feddwl eu bod yn rhyw rywiogaeth tanddaearol o frenhinoedd. Ond bywyd ydyw bywyd yn mhob man-ar orsedcl fte mewn amgueddfa, yn gystal ag yn y bwtbyn bi-wyndo. Nis gall Ymherawdwr China fyw heb ymborfch mwy na'r cardottyn troed- noeth, ac mor iselhaol y syniad; ac y mae yn rhaid i'r Gwyddon dysgedig ymostwng i gyfranogi o lun- iaeth, ac i chwilio am dano, yn gystal a'r llafurwr tlawd. Dichon hefyd fod yn rhaid i'r athronydd a'r bardd ymfoddioni ar lai na dyn cyffredin, ac nas gall neb gael derby niad i swper y duwiau a fyddo wedi bod yn einiawa wrth fwrdd pendefig. U "L,: lOAN PEDR. -'i

fLANFAIR BETTWS GERAINT.

Y MYFYRWYR A'R EGLWYSI GWEIGION

t MYFYRWYR, YR EGLWYSI, A'R…