Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
PENMAENMAWR.
PENMAENMAWR. Darlith pan S. Pi.-Nos Fawrth, yr wythnos ddi- weddaf, talodd yr enwog S.R ymweliad a'r lie hwn a thraddododd ei ddarlith ar America,' yn Horeb. addoldy yr Annibynwyr. Gan fod y darlithydd parchus wedi traddodi y ddarlith dan sylw mewn cynnif-r o fanau, a'i fod yn bwriadu ei thraddodi mewn lluaws o leoedd eto, a chan fod hefyd ddifyn- iadau helaeth o honi wedi yinddangos yn y newydd- iadaron. ni raid i ni ddywedyd dim yma, amen na'i bod yn ddifyrus ac adeiladol. Ur oedd y cynnulliad yn lied luosog. Elai yr e!w at adgyweirio yr addol- dy, yr hwn sydd mewn mawr angen am hyny. Yr oedd yn breaenol Mri Edmunds, J. Roberts, (T.C.), a Hughes, (Undodiad). Araeth Mr Gladstone.-Y mae yr arafith a dra- ddododd Mr Gladstone, yn y He hwn yn ddiweddar, ar ran Cenhadaeth Drefedigol yr Eglwys, wedi tynu aylw holl brif newyddiaduron a chyfuodolion ornf- yddol y deyrnas, yn Eglwysig ac Ymneillduol. Ymddangosodd ertbyglau golygyddol arni yn yr ly English Independent, Nonconformist. Christian World, &c. Nid ydym yn meddwl fod yr araeth yn cynuwys nemmawr o syniadau newyddion ynddynt eu hunain, ac a datgan ein barn yn onest. cyfarfod Cenhadol flat y tei lem ef-dim i'w gymrnharu a'r cyfarfodydd Cenhadol Cymreig o ran nerth a bywyd. ac nid oedd yr areithiau, er en bod yn dda, ddim yn deilwng i fod yn ein dosparth ag areithiau Dale a Hanoay, &c., yn nghylohwyl Cyindeithas Genhadol Llund.iin, yn mis Mai diweddaf. Ond gan mai Mr Gladstone oedd yn Ilefaru-un yn briodol a ystyrir yn Eglwyswr mor dyn a chydwybodol —un y gwylia yr holl deyrnas a'r byd ar bob gair a ddywed mewn ffurf gyhocddus-a chan fod yr araeth dan sylw yn profi yn eglur fod y boneddwr gwir anrhydeddus yn myned trwy gyfnewidiadau cyflym yn ei olygiad-tti ar gwestiyuau eglwysig yn gystal a gwladol. nid rhyfedd i'w araeth dynu cymuiaint o sylw. Creda Mr Gladstone wrth edrych ar sefyllfa yr Eglwys yn y Tref digaethau, y gall hi gynnal ei hun. Y casgl- iad anocheladwy gan hyny ydyw, y dylai hi gynnal ei hun. Y Parch. H. Rees.-Bore Sabbath diweddaf, caw- som y i raint o glywed yr efengylwr enwog uchod yn pregetbu yn Horeb, i gynnulIeidfa. luosog o Anni- bynwyr a Methodist;aid, a thraddododd un o'r pre- gethau grymus ac argyhoeddiadol hyny sydd bob amser yn nodweddu ei weinidogaeth ef. Ymddengys ttai dyma y waith gyntaf i Mr Rees fod yn pregethu yn y gymmydogaeth hon end gobeithiwn nad y tro diweddaf. Estyner iddo gan ei Athraw a'i Ar- glwydd nerth a dyddiau lawer eto i fod yn ddefn- yddiol, a chyfoder llawer o'i gyffelyb yspryd a'i nerth.G.
[No title]
TY DDEWI.—Llawer cyfnewidiad sydd wedi cym. meryd lie > n y by d a'r eglwys er yr amser pan fyddai y pererinion yn ymweled yn rheolaidd a defosiynol a'r lie henafol hwn. Gynt c, frifid d wy daith i Dy Ddewi, yn gystal ag un i Jerusalem. Saif yr hen gathedral fel cynt, ac ymgyfyd ei thwr \n nchel. Y mae yma hefyd bedwar o addoUai Ymneillduol cytieus. Ar y lOfed cyfisol, talodd y LIew' ym- weliad a'r hen ddiaas. Dit SPENCE.—Y mae y gweinidog parchus hwn, sydd mor adnabyddus fel arholwr yn Ngholeg Aber- honddu, yn ymadael oherwydd gwaeledd ei iechyd, a chapel y Poultry, Llundain, ac yn cymmer. yd gofal eglwys Old Gravel Pit, Hackney, He y bu Dr Pye Smith yn gweinidogaethu am rai blynydd- oedd, a'r Parch, J. Davies, ar ei ol. UNDEB CYNNULLEIDFAOL YR IWERDDON.—Rhydd y Parch. W. Tarbotton, ddarluniad hynod o ffafricl o'i ymweliad a chyfarfod yr Undeb hwn Yr oedd llawer wedi dod yn nghyd, a'r eglwysi gyda pharod- rwydd yn dwyn treuliau teithiau eu gweinidogion. Y mae yr Annibynwyr, er yn ychydig, wedi bod ar y blaen yn yr Iwerddon dros y gwirionedd mewn athrawiaeth, a ffurf eglwysig, ac yn condemnio yr undeb rhwng erefydd a'r llywodraeth Felly trefn- wyd yn y cyfarfod cyboeddus cyntaf, i ddyfoli a'r pwnc amserol, 4 Gwaddolion crefyddol yn yr Iw- erddon, a'n Dyledswydd, i ymdrin arno,' a chafodd ei drafod yn feistrolgar iawn. Cafodd y penderfyn- iadau gynhygiwyd gan George Foley, Yaw., bargyf- reithiwr, ac a eiliwyd gan y Parch. J. H. Wylie, eu mabwysiadu yn galonog. Ymdriniwyd a materion ereill tra angenrheidiol, yn yr yspryn goreu. Y maent wedi casglu dros £1000 at drysurfa y Gwein- idogion, yn yr Iwerddon yn unig, mewn un flwydd- yn. Rhaid i'r Cymry wylio rhag i'r Gwyddelod eu euro. ANODDEFGAEWCH P ABYDDoL.-Deallodd offeiriad Patiydiiol yn agos i Moate, yn yr Iwerddon, fod morwyn a fu mewn undeb a'i eglwys wedi newid ei chredo, wrth ddarllen traethodyn a gafodd gan ei meistres, ac ysgrifenodd lythyr ar y mater, ac ateb. wyd ef gan ei meistr. Mewn canlyniad i hyn, galwodd yr offei'iad digllon gynnulleidfaoedd cri o blwyfi cyfagos yn nghyd, a rhybuddiodd hwynt i beidio newid eu crefydd, anogodd i bob un o'i wran- dawyr beidio gweithio i Mr Wakefield, 11eyr oedd y ferch yu aros, a gwnaed hyn, fel nad oedd gan y boneddwr neb boreu dranoeth i gasglu ei gynhauaf i mewn. SALDRA ME SPURGEON.-ByCId yn ddrwg gan lawer ddeall fod y pregetbwr poblogaidd bwn yn gwanychu yn ei iechyd. Bu am gryn dymhor ar y cyfandir, a thybid ei fod llawer gwell, ond vr oedd yn analluog i bregethu wythnos i'r Sabbath di- weddaf. Bernir y bydd raid iddo gael tri mis o or- pbwys hollol cyn y Ilwyi, wellha. Blinir ef gan y gymmalwst, yn ngliyda gwendid gewynol. Dywedai mewn llythyr at y gynnulleidfa ei fod yn cael ei boeni yn ddirfawr. LLUNDAIN.—Yr wythnos ddiweddaf, cynhaliwyd cyngherddau mawreddog yn yr Agricultural Hall, o National Ivlelodies,V n nghyda I Band of Harps,' ac Y: eu plith yr oedd yr hen delyn Gymreig yn ovr ,e yn fedrus &an Mr Ellis Roberts. O'r Melodies' nid oedd un yn cael derbyniad mor wresog gan y miloedd gwranaawyr a'r Tonau Cym- reig; yr oedd 4 Ymgyrch Gwyr Harlech' yn eu gwefreiddio, ac yr oedd yn rhaid cael encore. Yr oedd y delyn a'r Welsh Melodies yn hawlio sylw y Saeson, ac yn curio eu dylanwad arn, nt, er gwaethaf sarcasm y London Review yn ei erihygl ar 'Eisteddfodia yr wytbnos o'r blaen. YMGEISYDD AM AELODAETH MEETHYE.—Y mae Mr B. T. Williams, wedi cyhoeddi ei annerchiad i eth. o'wyr Merthvr. Tybid nnwaith nad oedd am ddod y i mlaen, a bernir eto nad oes y gobaith Ileiaf iddo I vycldo. Trneni mawr i neb fyned ar ffordd Mr Richards. Y m-ie ei Bwyllgor yn arfer pob egni i sicrhau dychweliad yr Anghydffarfiwr anghydmarol hwn. CRUGYBAR.— TraddodoëId y Parch. J. Thomas, Liverpool, ei ddarlith ar America, yn y lie uohod ar y 17eg o'r mis hwn. Gawsom gynnulteidfa luosog. Llanwodd y Parch. D. Jones, Hermon, y gadair. Yr oedd yn dda lawn genym gael ymweliad Mr Thomas oblegid ein hadgofion am dano pan y bu yma yn wr ienanc yn Athrofa Ffrwlfal. Yr oedd y ddarlith a'r tradilodiad o'r first class, Y cynnyreh at leihau dyled yr Ysgnldy Brytanaidd newydd.—E. Jones. TERFYSG YN LIMERICK.— Wyth o bersonau wedi eu trywann.—Y mae cwmni o'r 7-i Highlanders, wedi bod yn ymosod syda en pidogau ar lu o derfysgwyr yn Limerick. Dechreuodd y ffrae trwy i amr\w o'r bobl gamlrin dau o'r milwyr. Trywanwyd wyth, a ba un farw. Gwneir ymchwiliad i'r achos gan yr ynadon. UN O'R GLnCH YN BIRKENHEAD.—Pan oeddym ar ganol yr afon Mersey ddydd Mawrth diweddaf, clywem fagael mawr yn trystio. Ofnaf rhai mai y Ffeniaid oe id yn ymosod arnom, ond wedi holi, cawsom mai gwn mawr sydd wedi osod ar drwyn un o'r dociau yn ynlyl Woodside Ferry ydoedd, yr hwn sydd yn cael ei weithio gan wefr mewn cysylltiad a'r Arsyllfa newydd vn Bidston, aci danio pan fydd yn union un o r gloch ar y dydd. Dylai trigolion Bir- ken head a Liverpool, fedru cadw eu hawrleisiau a'u horiaduron yn gywir o hyn allan, ac arfer pob pryd- londeb eu hunain, gan y cant glywed Bwng, bang, byng, rhybuddio. bob dydd am un o'r gloch. CAER—Hunan-lofruddiaeth trwy eiddigedd.Cym- raerodd inerch ieuanc o forwyn o'r enw Elizabeth Leach, wenwyn nos Sabbath diweddaf. Addefodd wedi myned i'r gwely ddarfod iddi wnerd, ac aeth un oedd yn y ty i chwilio am ddau feddyg, ond ni ddeuai yr un o honynt. Wedi iddo ddychwelyd. catodd fed y ferch yn tnin marw. Cydfarnodd y rheithwyr idii gymmeryd gwenwyn mewn awr o wen did synwyr. MERTHYE.—Damwain angeitol.-Fel yr oedd Price Curtis, Gwillim Shadrach, a Richard Evans, y rhai oeddynt yn gweithio yn mhwll y Dyffryn, yn myned mewn tram ar hyd lefel, hyd at waelod y pwll, wythnos i hu diweddaf, yn hollol ddirybudd, syrth- iodd crag o gerig o'r top arnynt, gan daro Price a Curtis yn farwol, a lladdwyd y ce iyl, a niweidio y dynion eraill yn fawr. ABERDAE,—Damwain angeuol eto.—Yr un dydd, fel yr oedd Mr David Howeils, yr hwn oedd yn cadw y Prince of Wales, ac yn gweithio yn ngwaith glo Abernant, yn cymmeryd ei giniaw yn y gwaith, svrthiodd careg fawr gan ei daro tu ol i'w ben, a'i ladd mewn moment. DIRPRWYAETH Y TERFYNAU YN Y DEIIEIJDIR.—Mae y boneddigion sydd ar y Ddirprw-aeth hyn, wedi dechreu ar eu gwaith ddoe yn Abertawe. Bvddant vn Merthyr Hydref laf Aberhond lu Hydref 4ydd; Mynwy Hydref 7fed a Chaerdydd Hydref lOfed. PoNTCERr.—Saif y pentref byeban yma mewn dyffryn tawel a hardd, ar lan afon Teifi. O'r naill da iddo rhed afonig o'r enw Ceri yn ymyl y pentref y mae pent dros yr afon, a gelwiry pentref oddi wrth yr enw yma—Pontceri. Nid oes dim yn neillduol yn digwydd yma un amser Mae yma lawer to ym- welwyr a physgotwyr yn misoedd yr haf. Treuliais y rhan fwyaf o fy amser pan gartref yn nghwmni hen wragedd duwiol y pentret. pa rai sydd yn tynu ar eu can mlwydd oed, ac nid wyf yn meddwi en bod wedi bod ugain milldir o gartref erioed, a rhyf edd mor ddifyrus oeddynt yn eu hymddyddanion. a mawr oedd yr holi arnaf finnau. Und cefais lawer o gynghorion dwys, pa rai nid anghofiaf. Hir oes i drigolion Pontceri. O ddeutu hanner milldir yn mhellach yn mlaen y saif yr hen eglwys Annibynol Drewen. Buais yno lawer gwaith yn ystod fy aroa- iad, a chefais y iraint o glywed ei gweinidog ieuanc, y Parch. Shelby Jones. Yr oedd yn llawen genyf weled y fath olwg hyfryd a blodeuog <> dan weinidog- aeth y gwr ieuanc. Mae yno ysgol ddyddiol, er mai nid hynod o lewyrchus ydyw yr ysgol ddyddiol wedi bod. Mae yr eglwys wedi adeiladu ysgoldy da ac eang mewn man cytleus. Mae yr ardal yn boblog- aidd, a llawer iawn o blant ynddi. Mae eisiau add- ysg ar y plant; ac os na cheir ysgol, pa te ceir addysg ? yr hyn sydd anhebgorol cyn cyrhaedd un- rhyw safle anrhydeddus mewn masnach a chym- deitbas. 0 na ddeuai rhieni Cymreig i werthfawr- ogi addysg eu plant yn fwy. i roddi m .eth i'r meddwl yn gystal a'r corph. Oddi ar ddechreuad ysgol yn y lie uchod, y mae yr ysgolfeistri wedi bod yn an- sefydlog iawn, yr hyn sydd yn anfanteisiol iawn i addysg y plant. 0 achos hyny, mae y rhieni sydd yn gwerthfawrogi addysg y plant yn gorfod eu dan- fon bellder ffordd er mwyn caul ysgol gysson, ac y mae yn israddiad mawr ar ardal mor boblogaidd fod addysg y plant mor ddiwerth a disylw ganddynt; pe byddai yr eglwys yn ymgymmeryd a'r gorchwyl, a rhoddi eyflog penodol i ysgolfeistr da er mwyn cael ysgol gysson, yr hyn fydditi v n anrhydedd i'r eglwys a'r ardal, yn gystal ag addysg ragorach i'r plant. Gobeithio na fydd yr awgrym yn annerbyniol. Llwyddiant i'r ysgol, a phob sefydiiad da arall.- loan Glanceri. LLANDYBIE.—Mae cyffro mawr yn y gymmydog- aeth uchod, o herwydd fod bachgen bach, yn nghylch 8 neu 9 mlwydd oed, wedi ei gael yn un o byllau glo y BIa nau. Y mae y meddygon wedi barnu ei fod wedi cael ergyd marwol cyn iddo gael ei dllflu i'r stwmp (neu yn hytrach o dan y planciau), lleyr oedd wedi bod am wythnos o amser. Er pob ymdiech i gael allan yr amgylcbiadau, yr ydys wedi methu hyd yn hyn. Disgwylir am oleuni ar oldydd Gwener, y 27ain eyfisol.-Mcilwch. IRON DUKE, NARBERTH ROAD.—Rhoddwjd cyng- herdd yn y lIe uchod nos Fawrth, yr 17eg o'r mis hwn, gan yr adnabyddus a'r enwog Llew Llwyfo,yn cael ei gynnorthwyo gan Miss Llwyfo Lewis, Miss M. A. Beynon ar y piano, a Mr Ap Maddock. Yn awr, rhag bod yn faith, wele lianes y gweithrediadau oil. Deuawd Soldier and Volunteer,' gan y Llew ac Ap Maddock; yna can Cwymp Llywelyn, gan Ap Maddock; yn nesaf can The Wolf,' gan y Llew; yna can « The Lady of the Les,' gan Miss Lewis yn nesaf Canu Pennillion yn ol arferiad Gogledd Cymru, gan y Llew, a chafodd encore, a chanodd Nos Galan. Yna can Margaretta,' gan Ap Mad- dock; yna deuawd The Gip.-sy Maid,' gan y Llew a Miss Lewis; yna Canig Come Brothers tune the Lyre,' ganddynt oil, encoriwyd hwvnt, a chanasant eilwaith, felly y terfynodd rhan flaenaf o'r program. Yna cymmerasaut ea hanadl atynt am oddeutu pum munud. Y cyntaf yn yr ail ran oedd cm The For- est,' gan y Llew; yna deuawd Flow Gently Deva, gan y Llew ac Ap Maddock; na can Carn Fradwyr Cymru, gan Ap Maddock, a chafodd encore yr hon a atebwyd trwy ganu Pennillion, yn ol arferiad De. heudir Cymru yna can 'I'ra a poor Shepherd maid,' gan Miss Lewis; can I'm a roamer,' gan y Llew, encoriwyd ef a chanodd Morgan yr Hafod yna deuawd Wheel may the Keel round,' gan y Llew a Miss Lewis; can 'The Death of N. 1::1011,' gan Ap Maddock; can Paham mae Dai mor hir yn dod,' gan y Llew; canig 4 The Schoolmasters,' tlee, ganddynt -n- oil. Yr oedd yr Anthem Genhedlaethol i fod yn nesaf ond yr oedd yno amryw am i'r Llew ganu y gan 'John Jones a John Bull,' ond yr oedd yn omedd gan ddy od ag esgusodion. ond ni wnai dim y tro, bloeddio John Jones vr oedd y lluaws, ac ynte yn erfyn peidio, ond gorfu iddo roddi fynu a chann y gan, yna at y peth olaf, sef God save the Queen,' ceisiodd gan bawb i uno, yr hyn a wnapd, Aeth y canwyr trwy eu gwaith yn ganmoladwy iawn, ac i foddlonrwydd pawb. Dyn i'r gyi-inulleidfa yw y Llew yn arfer bod, felly yr oedd yma.— G g Amgoed. IY
HmujMiiw ttnytlttol it
HmujMiiw ttnytlttol it Mae y Parch. R. Williams (Hwfa Mon), Bethesda, wedi derbyn galwad unfrydol oddi wrth eglwys. Fetter Lane, Llundain, a dvwèdirei fod wedi cyd- synio a'u cai. Bwriada ddechreu ar ei weinidog- aeth yno tua diwedd y flvy idyn. ° LLANDOVERY.-Medi 17, ac 18, cynhaliwyd cyfar- fod blynyddol Salem, Llandovery. Pregetlnvyd gan y Parchn. D. Jones, B.A., Merthyr; J. Mathews, Castellnedd; W. Jenkins, Pentre Estyll H. Griffith, Aberhonddu (yn Saesneg) a J. Thomas, Liverpool. PONTARDULAIS. Cynhaliodd y Methodistiaid Calfinaidd yn y He uchod eu gwyl flynyddol eleni dydd Mawrth a Mercher, sef Medi 17, a'r 18. D)- chreuwyd y gwahanol gytarfodydd gan y Parch. W Morris, Llanelli, a Mr. W. j'rytherch, Goopa, a phregethwyd gan y Parchn. canlynol .-—J Pritchard' A-nlwch; W. 0. Williams, Pwllheli; Moses Thomas- Glandwr. Teg ydyw hy-bysti tod y Gogleddwyr a'r Deheuwr mewn hwyl yn mynegu ffordd yr iachaw- dwriaeth. Casghvyd yn y gwahanol gytarfodydd y swrn o Sip. 3s. 5c.—J. J. J J FRON, GER LLANGOLLEN.-Cynbaliod(i Annibyn- wyr y lie uchod eu cyfarfod blynyddol ar y 14eg a'r i5ted o Fedi. Y pregethwyr oeddynt y Parchn. E. Roberta, Coedpoeth D. Evans, Buosyra^dre a Mr Thomas Evans, o Athrofa y Bala. Cafwyd cynnull- eidfaoedd lluosog, gwraodawiad astud, a phregethau grymus. LIBANUS, TREFORIS.-Alae yn ddigon hvsbys fod yr eglwys yn y He hwn wedi rhoddi galwad er's tro ya ol i'r Parch. T. Jones, Llundain, ddyfod yn ol yma yn weinidog ac yntau wedi addaw dyfod Yr oedd disgwyliad eryf am dano. Ond nos sabbath wythnos i'r diweddaf, darllenwyd llythyr oddi wrth Mr Jones, YR Ily,bysu nas gallasai ddyfod; fod sef- yllfa iechyd Mrs Jones yn ei gwneud yn anmhosibl iddo symmud, ac yn dytnuno ymryddhau yn hollol oddi wrth ei addewid i ddyfod ac ar yr un pryd yn eu rhyddhau hwytbau. Ofnai llawer mai fel yna y terfynai. v KIDWELI.-Y maeeglwysi Sardis, Pembre, a chapel Sul, Kidweli, wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. W. Jenkins, gweinidog Bethesda, Llangranog, a hen gapel Llanybri, i ddyfod i lafurio i'w mysg. ac y mae wedi ateh yn gadarnhanl y bydd iddo ddyfod. Bydd ei sefydliad yu cymmeryd lie mewn chwech wythnos. —loan Gioendrceth, SALEM. LLANYMDDYFRI.—Cynhaliodd yr eglwys a ymgyferfydd yn y He uchod ei chyfartod blynyddol ar Mawrth a Mercher, Medi 17, a'r 18. Y gweinid ogion fu yn pregethu oeddynt y Parchn. Jones, B.A., Merthyr; Thomas, Lerpwl; Mathews, Castellnedd J Jenkins, Pentre Estyll; A Griffiths, Aberhonddu Oechreuwyd y gwahanol odfeuon gan y Parchedigion Morgan, Myddfai Davies, Llandeilo; Jones, Crug- ybar ac Evans (B.). Llanymddyfri. Cafwyd cyf- arfodydd rhagorol yn mh-.b ystyr—pregethau e'r radd iiaenaf, yn cael eu traddodi gyda giym a hy- awdledd anghydmarol. a phob argoelion oddi wrth y J>anctaidd hwnw, ar yr hyn a ddywedid, fel y dis gynai y genadwri ar y cynnulleidfaoedd lluoso" a wrandawai fel gwlith ar irwellt. ('esglid hefyd tua- da u y ddyled arosol o ail adeiladu y capeI-pa un sydd yn addurn i'r dref. Ein dymuniad calon yw, i'r eglwys barchns a chyfrifol Salem gael gweinidog wrth fodd calon yr Arglwydd yn fuan.-Gohebydd. YSTRAD RHONDDA.-Dydd Sabbath, Medi 15fed' cawsom yr hyfrydwch a'r pleser o sefydlu achos newydd perthynol i'r Annibynwyr, sef cangen o e"- ITV P'IN"^LLTL FCTDD yn cael ei gweinidogaethu gan y Parch. L. J. Probert, o Goleg Aberhonddu, yr hwu a ordeimwydVn yr eglwys uchod yn nechreu mis Gorphenaf dtltvedllaf. Rhyw ychydig amser cyn hyny, buom yn setydlu Ysgol Sabbathol mewn ys. gubor perthynol i'r fferm sydd dan yr enw Pentref ynghylch milidir o Kglwys Bodringallt. M ie y gwr a'r wraig sydd yu byw yn y fferm hon yn aelodau parchus a chrefyddolyn yr eglwys uchod, ac V maent wedi bod yn haelionus iawn I n rhoddi lie rhad ac am ddim at gynnal Ysgol Sabbathol a chyfarfodydd wythnosp1, ac wedi cael ei wneudyn gytlens at breg- ethu hyd nes y bydd I M gael capel newydd ymt Mae y rhan lion o'r cwm yn cynnyddu yn g, flym, fel y bydd yn rhaid ei gael yn fuan. Hefyd, y mae \n hyrrydwch mawr genym weled cymmaint o blant yu moreu eu hoes yn dyfod atom i ddysgu gair Du w, a'u cyfarwyddo yn y pethau hyny sydd yn angen- rheidiol ac yn ddefuyddiol iddynt tn medru a'u gwybod yn eu sefyllfa yn y byd hwn, ac yn eu perth- yuas a'r byd ysbrydol. Gan fod gan bob plentyn a enir i'r byd gorph ac enaid, a chan fod ei ddedwydd. wch neu annedwyddwch yn y byd hwn a'r hwn a fydd yn dibynu ar rieni ac athrawon Ysgol Sabbath- 01, fe ddylent gael ein sylw a'n hymdrech mwyaf. A phlant yr oes hon yw gobaith yr oes ddyfodol. Yr ydym ni, y rhai sydd yn cyflawr.igorchwylion v byd yn cilio yn cyflym oddi ar chwareufwrdd amser Y mae dydd ar 01 dydd yn ein hysgubo ymaith oddi ar wyneb y ddaear, ac yn gosod rhai o honom yn feun- yddiol i orwedd yn y bedd tawel, He nad oes na gwaith na. dych) mmyg. Y mae yn anhawdd dechreu addysgu plant yn rhy toreu; ac yn wir, y mae hid arferion drygionus yn cael eu hau yn meddyliau plant yn llawer ieuengach nag y meddylir yn gy- tfredin. Gan hyny, y peth goreu a'r mwyaf pwyslg a ddylid ei ddysgu i blant ) w crefydd, o ran eg- wyddor ac ymarteriad. Crefydd yw yr unig beth a'u dwg hwy a ninnau yn ddiogel yn y diwedd i'w dra- gwyddol deyrnas yr ochr draw Ab Ynys. MOSTYN.-Cynbaliwyd cyfarfod blynyddol yr An- nibynwyr yn y lie hwu, y babbath, n08 Lun, a dydd Mawrth diweddaf, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. D. Williams, Khuddlan K. Trogwy Evans, Maesglas; J. Myrddin Thomas, Wyudgrug Wm. Roberts, Liverpool; ac E. Stephen, Tanymarian. Cynnulleidfaoedd tra lluosog, a phregethau grymus. SARDIS, EFAIL FACH.—Ar y 15fed I yfisol, ymwel- wyd a'r lie uchod gan ysgolion -abbothol Gibeon, Taibach a'r Wern, Aberatan, ynghyda brodyr eraill perthynol i'r undeb hwn. Yn y boreu dechreuwyd gan y Parch J. Stephens; areithiodd Mr Thomas Williams, Bethania, ar ddechreuad a chynnydd yr Ysgol -abbathol; wedi hyny canodd YsgoI Taibach, ac adroddodd y Pwnc yn gampus. Yn ) prydnawn annerchodd Mr William Lewis, Bethania, y gyn- nulleidfa ar Ddaioni yr Ysgot sabbathol, a chanodd Ysgul y Wern, ac adroddodd y Pwnc ya rhagorol. YN yr hwyr, areithiwvd gan Mr W. Evans, Rock, ar rJdyledswydd y gynnulleidfa tnag at. yr Ysgol Sab- batbol; eanwyd, ac adroddwyd y Pwnc gan Ysgol ardis. Cafwyd arwyddion o foddlonrwydd yr Ar- glwydd.—Ab loan. SEION, ABEECANATD.—Cynhaliwyd cyfarfod blyn- yddol v capel uchod ar y Sul a'r Llun, Medi 15 a'r 16, pan y pregethwyd gan y Parchn J. Jones, Br- n- mawr; 11 Williams, Rhydybont; J. Davies, Peny- wern, Dowlais; J. Jones, Tongwynlais; a Mr Davies (T.C.), Aberdar. Dygwyd y rhanau arweiniol yn mlaen gan y Parchn D. Williams; J. Evans, Gelli- deg S. Jones, Heolgerrig a'r Mri R. Jones, Coleg Aberhonddu D. Griffiths, Coleg Caerfyrddin a D. Davies, (T.C.) Yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn P. Howells, Ynysgau T. Williams, Adullam; E. Thomas, Salem; W. Morgans, Troedyrhiw; R. Hughes, Pendaren Mr J. Edwards, Coleg Aber- honddu a Mr Job, (B.), Abercanaid. Cafwyd cyn- nulleidfaoedd lluosog, casgliad da, a phregethau grymus.—T.
BARROW A'I PHORTHLADD NEWYDD.
BARROW A'I PHORTHLADD NEWYDD. Saif y dref hon ar Ian y Morecambe Bay, yn nghwr gogleddol swydd fawr Lancaster. Ar ei chyfer yn agos ati y mae ynys Barrow-hen gladdfa mor. ladron. y rhai yn y dyddiau gynt a fuont yn ddych- ryn i breswylwyr ein gwlad. Yr oedd y lie byd yn ddiweddar allan o gyrhaedd y cledrffyrdd, ac yn gymharol anhygyrch. Yn agos i Basrow mae Fnr- ness Abbey ac Ulverstone, maes llafur ein hybarch gydwiadwr Francis Evans, cydfyfyriwr a'r Parch D. Rees, Llanelli, a'r diweddar Barch J. Evans, Capel Sion, ac eraill, yn y Drefnewydd. Hanner can mlynedd yn ol nid oedd Barrow ond pentref pysgota hychan an anenwog, ac nid oedd y boblogaeth ond rhywbefch fel banner cant. Yn ddiweddar c tfwyd allan fod toraeth diderfyn o fwn haiarn toreithiog yn y lie, yr hwn a adwaenir yn Neheudir Cyinru wrth yr enw 'mwn coch.' Nid oes un dref yn y deyrnas wedi cynnyddu mor gyflym a Bari ow. Ddeng mlynedd yn ol nid oedd y trigoHon ond rhyw 1000, ond ei byn hyn y mae yno 20,000. Digon gwir fod dechreuad Middlesborough yn ilai, a'r maiiitioli po; senol yn fwy. Ddeng mlynedd ar hugain yn oi yr oedd Middlesborovgh yn gynnwysedig yn unig o dy ffarm, ac y mae yn aivr yn cynnwys poblogaeth o 30,000, yn dref gorphonaethol, ac i anfon aelod i'r senedd yn ol y Bil Diwygiadol. Mae Barrow bellach wedi ei chyssylltu a phrif Gogicdd Lloegr a r Alban; mae yuo weithfeydd baiarn a gio, yn y rhai y mae 3000 o weithwyr yn llafur io; a phorthladdoedd eang, mor gyflus a di.-n o'r fath sydd yn Mhrydain Fawr. Yr oedd y 19eg cyfisol yn ddydd i'w gan bobl Bar- row, canys ar y dydd hwnw yr agorwyd y porthladd. Yr otdd yn bresenol ddau o ddueiaid, cryn nifer o aelodau seneddol, ac yn eu plith yr ,Ulhydeddus w. E. Gladstone, y mwya' a'r anrhydeddusaf o honynt oil. Yr oedd yn bresenol hefyd Arglwydd Faer Llundain, maerod prif dreti Gogledd Lloegr, a gwyr urddasol yn cynnrychioli Liverpool, a Manchester, a Leeds, a Glasgow, yn gystal a chymdeithion prif gledi ffyrdd y deyrnas. Cafodd yr yinwelwyr anrhy- deddus y pleser o weled y mwn yn cael ei droi yn ddur rhagorol mewn ychydig amser yn ol cynllun Bessemer. Cydginiawodd tua 1500 mewn shed wedi ei haddurno ar yr amgylcbiad Traddododd Mr Gladstone arae h ddoniul ar haiam yn ei ddylanwad ar gynnydd gwareiddiad y byd, a'i berthynas neill- duol a dyogelwch gwlad; a datganodd ei lawenydd wrth weled y meistriaid wedi dangos gofal am lan- weithdra y dref newydd, a iechyd ei miloedd trig- olion.
CWMORTHIN.
CWMORTHIN. At yr hyn a ymddangosodd yn y TYST o barthed i agoriad ein Capel Newydd, efallai na fydd yn ormod gennycb ychwanegu yr hyn a ganlyn. Sa f y Cwm cryowylledig yn nghanol mynydd. oedd, o gylch milltir o Tanygrisiau, Festiniog. Yn y cwrn y mae chwarel llechi werthfawr. perthynol i M ri Samuel Morley A Co. yn yr hon y mae 400 neu ragor o ddynion yn gweithio. Wedi dyfodiad yr ysgrifenydd i weinidogaethu i'r ardal, crybwyllwyd wrtho fod yn Cwmarthin lawer o bubl yn preswylio. na byddent ond anfynych yn ymwneud a moddion gras Ymofynodd yn y fan a 000,1 dim yn bosibl cael drws agored i bregethu yn y lie ar noson ganol wythnos. Atebwyd fod y Barricks yn rhydd i unrhyw enwad crefydd jl i fyned yno i brogethu. Clybu Mr D. Jones, goruchwyliwr y chwarel, am yr ymofyniad, ac anfonodd wahoddiad i fyned i'w dy ef i bregethu. Yno yr aed, a chaf- wyd cynnulleidfa luosog i wrando. Parhawyd i fyned yno yn awr ac eilwaith i bregethu, nes o'r di- wedd, gofynwyd a oedd dim yn bosibl cael tir gan bercbenogion y cbwarel i adeiladu capel bychan arno. Apeliwyd at y cyfryw, a chaniatawyd y cais gyda y parodrwydd mwyaf. Yn ddloed, penderfynwyd ar y lie, ac aed at y gwaitn o adeiladu. Ymgym- merodd llawer o weithwyr y chwarel, ar ol noswylio am 12 o'r gloch ar y Sadyrnau, a thori y sylfaen, codi cerig, a'u cludo at yr adeilad, a gwnaethant hyny yn rbad, a rhoddasant y llechi at ei doi yn rhad Gwnaed penderfyniad i dalu holl draul yr adeilad- aetb. cyn deehreu pregetbu yn y lie. Felly aeth Mr D. Jones, ieu., gydag un o ddiaconiaid Carmel, trwy y chwarel: i gasglu tanysgrifiadau at yr achos. Tanysgritio id Mr D. Jones, hynaf, y swm o bum punt i ddechreu, a daeth yr oil o'r gweithwyr a'u haddewidion, nes cyrhaeddodd £55, yr hyn oil yn iiihen ychydig ddyddiau a dalwyd i fynu, gydag addewid llawer o honynt y tanysgrifient eilwaith es byddai galwad ;am hyny. Cyfranodd cyfeillion caredig eraill yn ein hardal yn haelionus at yr achos, fel y daeth digon i law i gyfarfod a'r holl draul oddieithr £16. Ail ymwelwyd a rhai o'r gweithwyr, a buan y gwnaed y diffyg i fyny, fel erbyn hyn y mee genym gapel prydferth wedi ei gwbl orphen, mewn cymmydogaeth nad oedd capel o r blaen, a hwnw wedi cwbl dalu am dano. Er pan cychwynasom yn y He, bu Rhagluniaeth yn ffafriol ini yn mhob cynnygiad, trwy hyn yn rhoddi arwydd o'i cfiymmeradwyaeth o'n gwaith yn codi'r addoldy. Cawsom garedigrwydd neilldaol pawb i ddwyn y gwaith i ben, am yr hyn y teimlwn yn hynod ddi- olchgar. Pan y gufynai Mr D. Jones, hynaf, i Mr Williams, meddyg o enwogrfl^dd mawr yn ein bar- dal, am anrheg at y capel, dywedai yn y fan, 'Mi a roddaf sovereign ato. Nid oes arnaf eisiau ond yr hanner,' ebe Mr Jones, arhoddwyd y swm iddo yn y fan. Nos iau, Awst 22, pregethodd yr ysgrifenydd am y waith gyntaf erioed yn y capel newydd, ac ar y Sabbath, Medi 8, pregethodd yno drachefn, gyda Mr Jones, Talsarn, a Mr Jones, Tabor. Presenol- deb Preswylydd y Berth alanwo yn barhaus y babell newydd hon, a derbynied eneidiau lawer leshad tra- gywyddol yn y lie. W. E.
[No title]
Traddodwyd bachgen tair-ar-ddeg oed, yn Ynys Manaw, i garchar, i aros ei brawf am dry- wanu bacbgen un-ar-bymtheg oed yn farwol. Bu ychydig o amser yn ol yn y carchar o'r blaen am ladrad.
PLESERDAITH 0 LANGEFNI I AMLWCH.
ysgol i adrrd", hyn a wnawd yn gampus. Oml ) petlx hynotaf no oedd gweled bacbgen tua chwech oed yn adrodd yn dra rhagorol, y mae hyn yn gloil nid bychan i'w dad, sef Mr Thomas. Llangefni, am ei ymdrech efo'r bachgen bach. Wedi cael annerch- iadau gan y Parchn..Tones, Llangefni; Jones, Am- lwch; Jones, Cemaes; a Williams, Capel fturmon terf, nwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr Jones. Erbyn hyn yr oedd yn bryd cychwyn am y station, ac aethant i'w cartrefleoedd n ddiogel a chysurus. Ein dymuniad yw fod Bendith yr Arglwydd ar lafur ein Hysgolion. T C., Glan Cefni.