Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

DEWINIAID A BRUDWYR.

News
Cite
Share

DEWINIAID A BRUDWYR. Y mae dewiniaid a brudwyr yn lluosog iawn yn y wlad hon er pan drwyddedwyd ysgrif y diwygiad seneddol gan y ddau dy. Pa fodd o gweithia? Beth a fydd y canlyniadau? Pa blaid wladyddol a gaiff y ni- weid, a pha un y fantais fwyaf oddiwrthi? ydynt y cwestiynau pwysig y saif y brudwyr yn cldifrifoI iawn uwch eu penau, a cheisia pob un eu hateb yn ffafriol i'r blaid y perthyna ef iddi. Ceisia y dewiniaid Toryaidd ymresymu a dadleu mai yn fihfr Toryaeth y gweitliia pan ei dygir i'r maes yn yr etholiad nesaf. Yr un modd y ceisia brudwyr y blaid ryddfrydig ragfynegi mai man- tais i'r blaid hono fydd y canlyniadau. Ond nid ym- ddengys fod y naill blaid na'r llall yn rhyw hyderus iawn yn nghywiredd eu daroganau. Y mae'r naill neo. y llall yn gobeithio, ac eto yn ofni; yn ceisio credu a dweyd y goreu, eto yn amheu ac yn ofni y gwaethai. Y mae gobaith y daroganwyr Toryaidd (er na fynant ddangos ac addef hyny yn groyw) yn seiliedig ar y dos- parth iselaf a mwyaf anwybodus o'r rhai gynnysgaeth- wyd o'r hawlfraint i bleidleisio yn etholiad aelodau i'r senedd-y dynion na wyddant y gwahaniaeth rhwng y Haw ddehau a'r Haw aswy mewn ystyr wladyddol. Dynion na waeth ganddynt pwy a elo i'r Senedd, neu pa un a fo senedd yn bod neu beidio: ac y mae y dosparth yn ddiau yn un lluosog iawn yn y wlad eto, ac y mae y Toryaid yn ddigon call i ddeall, a llygadog i weled, mai goreu iddynt hwy po luosocaf fydd y fath yma o bleidleiswyr, y gallant eu trin a'u troi, eu scriwio neu eu hudo, a'u llwgrwobrwyo wrth eu hewyllys. Aderyn y nos yw Toryaeth erioed. Y mae yn cashau goleuni addysg a gwybodaeth; ni fyn ddyfod i'r goleuni hwn, fel nad argyhoedder ei gweithredoedd am eu bod yn ddrwg. Hi a safodd yn erbyn addysg y werin hyd yr oedd yn bossibl iddi, a phan y gwelodd nas gallai ei wrthsefyll a'i attal yn hwy, cododd ei chloch yn uwch na neb am roddi addysg i'r bobl. Ond mynai lywodr- aeth yr addysg hono i'w llaw ei hun. Cododd ei hysg- olion cenliedlaetliolj a honai mai ei gweision hi offeir- iaid yr eglwys wladol-ya unig oedd atlirawon cyfreith- lawn ac awdurdodedig y bobl. Arwain y bobl o dywyllwch anwyb?daeth i dywyllwch hygoeledd—o anialwch Sin i anialwch Sinai-oedd yr amcan, gan wybod yn dda y gallai gael ei hamcanion yn mlaen yn llawn cystal trwy werin hygoelus a thrwy werin an- wybodus. Ceidw Toryaeth lygaid craffus ar y dosparth mwyaf anwybodus o'r etholwyr o hyn allan, a dwg bob dyfais a gallu a fedd i ddylanwadu arnynt, er gwneud peiriant etholiadol o honynt. Ewyllysiai Gladstone yn ei Reform Bill ef, roddi .yr etholfraint yn llaw y rhai mwyaf gwybodus a goleuedig yn mysg y gweithwyr-y rhai a dalant 5p. o dy-ardreth. Cadwasai y mesur hwnw weliilion gwaelaf y bobl o'r tu allan i wersyll y bleidleisiaeth. Yr oedd arno ef-a Bright yn gystal ag yntau—led ofn yr Household Suff- I rage, ac fe allai fod achos i'w ofni. Nid yw rhoddi y fath hawlfraint i ddynion nad oes ganddynt yr un ddir- nadaeth am ei natur na'i dyledswydd yn ddim amgen na rhoddi 'gwerth yn Haw ffyliaid,' a 'paliam y rhodclir gwerth yn nwylaw ffol i berchenogi anrhydedd, ac yntau heb galon ganddo?' oedd hen ofyniad y doethaf o ddynion. Gwnaeth y Toryaid yn gall hwyrach wedi'r cwbl, i wrthwynebu a thaflu mesur Mr Gladstone allan, trwy gymmorth gwyr Ogof Adulam, a dewis yn hytrach, gan mai rhaid oedd, i gymmeryd yr Household Suffrage yn ei le. Y mae gobaith y blaid ryddfrydol yn y dosparth mwyaf goleuedig o'r werin a freiniwyd gan ysgrif y diwygiad, y rhai y mae ganddynt wybodaeth a synwyr i wahaniaethu rhwng da a drwg mewn ystyr wladyddol, ac y mae y nifer luosocaf o honynt yn rhyddfrydwyr bob amser. Disgwylir y bydd i'w dylanwad ennill Uaweroedd o'r dosparth iselaf i bleidleisio gyda hwy ar adeg etholiad, o leiaf, darogenir hyny. Creda llawer na bydd i'r etholiad o dan y Reform Bill effeithio nemawr o gyfnewidiad yn sefyllfa pleidiau yn y Ty, mai go debyg yr un fath yn yr ystyr hono fydd y senedd nesaf i'r seneddau blaenorol, hyd oni cheir y Tugel, a phan geir hwnw, yn iach i Doryaeth mwyach am byth bythoedd. Bydd gan y senedd bresenol un tymmor eto cyn rhoddi ei goruchwyliaeth i fyny, a gwneud lie i'w hol- ynydd; wedi hyny daw y dirgelwch mawr i'r amlwg. Ceir gweled o ba natur fydd y flfrwyth a ddwg ysgrif y diwygiad. Gwna y Toryaid eu goreu i ennill poblog- rwydd trwy ddwyn cyinmaint a allont o fesurau cym- meradwy yn mlaen, er mantais iddynt eu hunain yn yr etholiad, a sicrhau pa-rhad awenau y llywodraeth yn eu dwylaw. Taflant byrth y ddwy Brifysgol yn agored o flaen pawb fe ddichon, gan eu gwneud yr hyn oeddynt ar y eyntaf, a'r hyn a ddylasent fod bob amser, yn sefydliadau eenhedlaethol, yn lie eu bod fel y maent er ys iiir oesau bellach, yn eiddo y sect esgobyddol sefydl- edig; ac ni ryfeddem pe bwrient allan gelain yr hen Dreth Eglwys i'w chladdu o'r golwg. cyhoeeldwyd [ dedfryd marwolaeth ami ddwy waith neu dair o'r blaen yn N'hy y Cyffredin, ond adlUbwyd bywyd y draanes j trwy gyfryngiad Ty yr Arglwyddi. o'i plilaid, a digon j tebyg ydyw y gwna Derby a Disraeli ben arni y tymmor nesaf er mwyn ennill ffafr yn ngolwg y bobl. Ni fyddai yn destyn llawer o syndod chwaith pe rhoddent fwyell- awd yn mhen yr eglwys yn yr Iwerddon;—rhywbeth, ie pobpeth er diogelu eu swyddau. Aberthant bob egwyddor a berthyn i'w Toryaeth i wasanaethu yr am- can mawr hwnw.

CASTELLNEWYDD EMLYN.

PONTARDAWE A'R ALLTWEN.

BLAENAFON.

DALIAD LLOFRUDD TYBIEDIG.

MAN NEWYDDION.

[No title]

MARCHNAD LLUNDAIN.

MARCHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD.

MARCHNAD LIVERPOOL.

---------------.--,. MARCHNADOEDD…

Family Notices

CASNEWYDD A CHAERDYDD.