Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
[No title]
MAR-WOLAETHAC YN LIVERPOOL.—Mae Dr. Trench, swvddog meddygol y dref, newydd gyflwyno ei adroddiad am yr haner blwyddyn diweddaf. Yn ystod y 26 wythnos cyntaf o'r flwyddyn 1867, cofrestrwyd 7,285 ofarwolaethau yn mwrdeisdref Liverpool. Yr oedd hyny yn gyfartrl i 29.5 ar gyfer pob 1000 o'r trigolion. Mae hyn yn dangos lleihad o'r nifer a fa farw yr un tymor yn y flwyddyn ddiweddaf o 2,825 ae o 1,141 o gymeryd cyfartaledd y deng mlyn- edd diweddaf. O'r holl farwolaethau yr oedd 3858 yn wrywaid, a 3427 yn fenywaid. Ach- oswyd y marwolaethau gan bob matn o afiechyd, —y frech goch—y Scarlatina—Typhus Fever a gwahanol ddoluTiau eraill. Ar y cyfan y mae iechyd y dref yn well nag arferol. CYNWYD, GER CORWEN.—Gorymdaith y "Band of Hope. Dydd Iau diweddaf, cawsom weled un o'r goiygfeydd harddaf ag a welsom erioed; sef gweled Oymdeithas Blodau'r Oes" Cynwyd C, yn myned yn orymdaith drefnus o Gynwyd i Gorwen. Pa flodau yn y byd mor hardded a phlant yn neillduol pan yn canu ac yn ymddwyn yn weddus, fel yr oedd Band of Hope, Cynwyd, ddydd Iau. Ar ol myned yn orymdaith i Gor- wen aethom gyda'r train i'r Rhyl. Ffurfiwyd yn orymdaith o'r orsaf ar y mor neu y lie yr oedd wedi bod cyn i ni fyued yno. Ar ol cyfarch y mor ac ysgwyd llaw a'i donau, a'i gymell i ddyfod yn ei ol tua Rhyl yn lie dianc, pan oedd ei ffrindiau yn talu ymweliad ag ef. Pan wybu'r mor mai nid meddwon oeddym, ond ei gyfeillion ef daeth yn ei ol yn y prydnawn i'n croesawu, a mawr oedd llawenydd y plant wrth ei weled yn dyfod. I aros iddo ddyfod yn ol. oblegid nid oedd ef am frysio dim ar ddymuniad plant y Band of Idope na neb arall; oblegyd y mae gan- ddo feistres lied exact y lleuad newydd. Aethom yn orymdaith i le cjfleus iawn oedd wedi ei ddarparu gan Mr. a Mrs. Williams, brodorion o Gynwyd, i wneyd chware teg a'r tea a'r bara brith. Wedi gorphen gwneud cyfiawnder a'r bwyd cyflwynwyd y diolchgarwch gwresocaf i Mr. a Mrs. Williams am en caredigrwydd digyff- elyb bron. Ar ol hyny, adroddwyd a chanwyd amryw ddarnau yn swynol iawn cyn ymadael o'r lie. Yr oedd rhif y gorymdeithwyr o 80 i 100. Ar ol mwynhau cymdeithas y mor am rai oriau dychwelodd pawb -vedi eu boddhau tuhwnt i'w disgwyliadau yn ol i Gynwyd i foddhau hun y gweithiwj.—loan Lleiuelyn BETHESDA.—Ohwarel y Cae, Damwain angettol. —Pel yr cedd William Parry, Ty'nymaes, yn dilyn ei alwedigaeth yn y chwarel uchod y 3ydd cyfisol, tarawyd ef gan ddarn o bren fel y syrrh- iodd y dyfnder o tua 18 llath, sef o un bone i'r lIall, a bu farw yn mhen ychydig funudau. Yr oedd yn aelod diwyd a ffyddlawn yn Bethel(T.C.) Ty'nymaes, ac yn hen wr parchus gan bawb a'i hadwaenai. Gadawodd blant a chyfeilllon i alaru ar ei oL—Llew Bethesda. CEINEWYDB.—Mae amser yn taflu ei gyso-od- o anghof dros yr hen bethau, ac yn ad-daliad o'r golled ddychymygol; mae yn dadleni pethau newyddion a;rhagorach i'r golwg. Yn ol yr hen amser gynt nid oedd y seiri llongau yma yn cael yr anrhydedd o gwblhau a cliyfaddasu llongau i farchog y weilgi ii bellafion gwledydd poethion ac oerion y byd. Ond yn awr cawsant y fraint 0 gopro y llong Ifor," Cadben M. Davies. Yn 01 y dull cyffredin oedd yma o'r blaeh, oeddid yn dewis myned a'r llongau i borthladdoedd y dywysogaeth o'r deyrnas i'w gwisgo ag efydd teneu a hoelion, ac hefyd a rhyw leni teneuon blewog geirwon er diddosi'r coed o dan yr efydd gwneir hyny yma 'nawr, ac yn ddiamheu yn rhagorach a mwy didwyll na pban y gwaith ar amod i estroniaid. Mae y cynllun i'w edmygu mewn llawer ystyr yn un peth yn ardderchog, am fod y llestr yn berffaith sych y fan y lie y gwneir neu'r hadgyweirir hi, yn lie ei gwthio eilwaith i'r dwfr; yn ol wedyn i le sych ar ol i'r dwfr i gttd ei hagenau (calkingJ i gyd, trwy hyny byddis yn claddu defnyddiau pwdrni yn esgyrn y llong, ac yn colledu yn ddirfawr fas- nachwyr a pherchenogion llongau. Ac hefyd mae yn ddiamheu fod y seiri yn y lie hwn yn cymeryd mwy o ofal i fod pob hoelen yn ei chael hi ar ei chlopa nes ei myned i'r dderwen yn ddidor, ond nid felly yr ammodwyr buanwaith sydd mewn lleoedd ereill.-Cyfaitl i'r TYST o YMREIG." GWALLGOFDY GOGLEDD CYMRU.—Diau fod gweithred a fyddo yu tueddu i leddfu poen a blinderau y trallodedig yn werth gan y TYST CYMB.EIG i dystiolaethu am dani i'w ddarllen- wyr yn gyffredinol. Gweithred o'r un. natur hono ydyw y gyngherdd a gynaliwyd: yn y lie uchod ar y 5ed cyfisol gan Dr. Marlcxmd Ms little Men. Bychan iawn ydywnifer luosocaf, am- rywiant o chwech hyd ddeuddeg mlwydd oed, ac ychydig o rai henach yn eu plith. Deallwn mai plant amddifaid ydynt. ac fod y Dr. arrhyw delerau yn eu dysguyngerddoriono'rradd orcu. Y maent ar daith gerddorol trwy brif drefydd y dywysogaeth, a deallwn eu bod yn dynod o'r poblogaidd yn sicr byddai yn werth i bob dyn a fyddo mewn cyfleustra fyned i'w gwrando. Cynaliwyd y gyngherdd yn y lie uchod mewn ystafell fawr sydd yn perthyn i'r ty. Tybiwn fod yno o dri chant i dri chant a haner o'r patients yno ar y pryd, a nifer o wahoddedigion. Credwn nad oedd dim yn taraw dicithi,ia:-d yn fwy na'r olwg drefnus ac agwedd syml y gynull- eidfa ar y pryd. Buom yno droiau o'r blaen mewn cyfarfodydd a chyngherddau o wahanol onide feallai jy buaswn yn disgwyl ymddygiadau gwahanol gan nifer ohonynt. Yrcddangosai'r patients oil mewn mewn hwyl yn gwrandaw; dangosent uchel gymeradwyaeth i'r oil a genid ac y chwa.reuent gyda'u hofferynau; ond bjrdd- ent weithiau yn tori allan mewn hwre fel taran- au o gymeradwyaeth. Treuliasom ddwy awr yn y modd mwyaf difyr. Ni welsom un cyfar- fod erioed yn ntio y gynulleidfa yn well na'r cyfarfod hwn, A diau fod swyddogion y lie yn haeddu canmoliaeth uchel am eu gofal parhaus- i gynlluniau gwahanol foddion er adloniad a difyrwch y trueiniaid hyny sydd o dan eu gofal. -Gohebgdd. YE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.- Cynhal- iwyd cyfarfodydd dylanwadol iawn yr wythnos- au o'r blaen yn Llanymddyfri, Llandeilo, Llan- elli, a manau eraill, er cefnogi a hwyl'iso gweithrediadau yr Eisteddfod Genedlaethol. Gobeithio nad yw y Pwyllgor yn myned i fwy o draul na ellir fyned trwyddo yn anrhydeddus, yr ydym yn dyweyd anrhydeddus, oblegid i'r Dryslwyn, Yr Hendy, Gwyn-ar-Daf, a Oastell- nedd; droi allan yn fethiant.-Togarmah. DAMWAIN AR Y REILFFORDD YN MANCHES- TER.- Wyth o bersonau wedi eu hanafu.-Boreu dydd Llun diweddaf, cymmerodd damwain le yn y Victoria Station, pan y cafodd pedwar o ddynion, a phedair o ferched eu hanafu. Ym- ddegys fod y gerbydres a adawodd Middleston ychydig wedi deg, yn nesau at yr orsaf, ac na adawyd iddi gwbl aros cyn dadgyssylltu y peir- iant wrth y Scotland Bridge, nes y rhedodd yn mlaen gyda chyflymder mawr, gan daraw yn erbyn wagen oedd yn ei llwybr, a pheri ysgyd- wad dirfawr, fel yr archollwyd y nifer a nodwyd. Cafwyd pob cymmhorth meddygol yn ddioed. Ni chafodd yr un o'r teithwyr niwed o bwys; ond yr hwn a ddioddefodd fwyaf oedd Francis Bramhall, o Miles Platting, ond ni ystyrir ef mewn ffordd beryglus. Dywed y Newspaper Press Directory am 1867, fod 1,294 o bapurau yn cael eu cyhoeddi yn y Deyrnas Gyfunol. Mae 458 yn Rhyddfrydig, 249 yn Geidwadol, a 587 yn ganolig. FRANKLIN A'R RKYFEL.—Yr oedd Franklin yn wrthwynebwr cryf i ryfel. "Pe byddai gwladwein- wyr," meddai, yn fwy cyfarwydd a chyfrifiaetlu byddai rhyfeloedd yn fwy anaml. Gallesid pwrcasu Canada oddi ar Ffraingc ag un rhan o ddeg o'r arian a wariodd Lloegr yn ei gorchfygiad a phe yn lie ymladd am awdurdocl i'n trethu y buasai iddi ein cadw mewn tymmer dda trwy ganiatau i ni reoli ein harian ein hun, a rhoddi o'i heiddo ei hun yn awr ac eilwaith rodd yn achlysurol at ein colegau, neu ein meddygdai, am dori camlesydd neu ddiogelu ein portliladdoedd, gallasai ) n hawdd dynu oddi wrthym drwy gyfraniadau gwirfoddol fwy nag a allasai byth drwy drethoedd. Rhydd pobl synhwyrol fwceded neu ddau o ddwfr i'r pump sych mewn trefn i gael ganddo ar ol hyny yr oil sydd arnynt ei eisiau. Ar ol cael hir achos i ystyried y ffolineb, a drygedd setyllfa o ryfel, a'r ychydig neu ddim a ennillir, hyd yn oed gan y cenhedloedd sydd wedi eu dwyn yn mlaen yn fwyaf Ilwyddiannus, yr wyf wedi bod yn barod i feddwl, na bit erioed, ac na bydd byth y fath bet/t a rltyfel dda, nett heddweh drwg. Ffolineb yw pob rhyfeloedd, treulfawr iawn, a drygionus iawn. Pa bryd yr argyhoeddir dynolryw o hyn, ac y cyt- tunant i derfynu eu hanhawsderau drwy gyflafar- eddau. Pe byddai iddynt ei wneyd trwy fwrw coel- bren, byddai yn well na thrwy ymladd y naill y llall. Yr ydym yn feunyddiol yn gwneyd diwygiadau mawrion mewn athroniaech naturiol, y mae un diwygiad y dymunwn ei weled mewn athroniaeth foesol—y darganfyddiad o gynllun a dueddai ac a rwymai genhedloedd i derfynu eu dadleuon, heb yn gyntaf dori gyddfau eu gilydd."
[No title]
NAZARETH, LLANLLYFNI.—Nos Lun, Gorphenaf laf, traddododd y Parch. J, Thomas ddarlith ar Ei daith trwy America." -Mawrth a Mercher, Qorph. 2il a Sydd, agorwyd capel newydd Nazareth. Preg- ethwyd gan y Parchn. J. Morgan, J. Thomas, Liver- pool D. Roberts, Caernarfon; a Wm. Ambrose, Porthmadog. Mae yma gapel newydd hardd iawn yn mesur 13t llath wrth 10. Costiodd yr adeilad 2 675p. Mae yr eglwys fechan wedi gweithio yn dda; mae eisioes tua 150p. wedi ei gasglu.-Un oedd yno. BETHEL, CAERPHILI.-Cynnaliwyd gwyl flynyddol, yr ysgol perthynol i'r lie uchod, Gorphenaf laf. Dechreuwyd ar waith y dydd trwy gydgyfranogi o'r te da, a'r deisen ragorol oedd wedi ei darparu ac wedi i ryw 160 gael eu llwyr ddiwallu, ymffurfiwyd yn orymdaith fawr, a rhoddwyd tro drwy y dref, ac ae^ yn r castell fel arfer, i'r ieuengctyd gael ychydig adloniant i'w cyrph. Yna dychwelwyd i'r capel i gael gwledd i'r meddwl. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. D. Richards, gweinidog y lie, yr hwn ar ol ychydig eiriau mewn ffordd o agoriad, a anerchwyd yn ddoniol gan y beirdd. Nis gallwn ddyfod o hyd i ddim ond yr hyn a ganlyn gan Gwilym Elian Swyn ac urddas i'n cyrddau-yw Rhisiart, A'i wresog areithiau; Gwelir yr athraw goleu—ddydd ein gwledd, Yn fyw o'i rinwedd, dan for o wenau. lawn dewis yr hen wna Dewi-a rhoi I'r ieuaingc foes-wersi; Craff wylied uwch Caerffili-mae'n ddibaid, Byw leda 'i enaid o blaid daioni. Yna dechreuwyd efo'r adrodd a'r canu. Adrodd- wyd a chanwyd 410 ddarnau yn rhagorol iawn. Yr oedd ol Ilafur mawr i'w weled gyda'r adrodd a'r canu. Achwynid gan rai fod y plant bach yn an- hawdd eu clywed yn adrodd ond yr oeddym ni yn synu eu bod yn adrodd cystalpan nad oedd rhai o hon- ynt dros dair blwydd oed. Yr oedd y canu hefyd yn bur dda ar y cyfan. Canwyd rhai solos, duetts, a thrios, yn wir swynol.—Un oedd yno. HENRYD.—Nos Fawrth, yr wytlmos diweddaf, traddododd y Parch. J. Thomas, Liverpool, ei ddar- lith ddyddorol ac adeiladol ar "Richard Cobden," yn addoldy yr Annibynwyr yn y lie uchod. Y mae cyhoeddusrwydd y ddarlith, medr y darlithydd, yn gystal a dyddordeb y testun y fath na raid wrth ddyfyniadau, na llythyr canmoliaeth. Digon yw dywedyd fod Mr. Thomas yn ei hapusrwydd arferol. Llywyddid gan y Parch. J. Rowlands, ac yr oedd yn bresenol hefydjy Parchn. E, Edmunds Dwygyfylchi; W. Jones, (T.C.), Henefail; a W. Vulcan Davies, o Goleg Aberhonddu. Yr elw at leihau y ddyled oddi ar yr addoldy newydd prydferth.—R. BIRKENHEAD.-Y mae dydd cynhaliad Tea Party cynnulleidfa Sion, Oliver St., bron bob amser yn wlawog, boed yn y mis a fyner, felly eleni hefyd, ond er hyny cafwyd mwy o lawer yn nghyd. Nis gallasai y darpariadau fod yn well. Yr oedd y cyf- arfod ar ol yn odiaethol o dda, Canwyd amryw ddarnau gan nifer o gantorion perthynol i'r Gym- deithas Gorawl yn gampus, ac areithiwyd yn Gym- raeg a Seisonig gan y Parchn. J. Thomas, (B); W. Jones, Cenhadwr o'r India N. Stephens; a J. Jones, Rhos; yn nghyda Mri. O. Williams, ac E. Evans (Eta Mon). Dywedai y Cadeirydd, y Parch. H. E. Thomas, fod pawb ar y diwedd yn barod i gyd-dystio a'r hysbysiad a wnaed yn y TYST CYMREIG, fod y cyfarfod yn un na bu ei fath er seiliad y dref, wrth ystyred fod un o'r India wedi dod i siaradyno mewn tair iaith; a'r pregethwr enwog a roddodd ddeheu- law cymdeithas i'r Parch. W. Rees, D-D., yn bres- enol gyda hwy y waith gyntaf erioed, sef Mr. I. Jones, Rhos. SARON, TREDEGAR.-Cynhaliodd eglwys Annibynol Saron eu gwyl bregethwrol ddydd Sabbath, Mehefin 29ain. Cawsant eu breintio a gweinidogaeth rymus ac athrylithgar y Parch. J. Williams, Castellnewydd Emlyn, drwy y dydd, ac eiddo y Parch. — Morgans, Llechryd, am ddau o'r gloch. Casglwyd symiau da yn ystod y dydd tuag at ysgafnhau y ddyled sydd yn gorphwys ar yr eglwys yn herwydd adeiladaeth y capel gorwych sydd ganddynt. I'r un perwyl dar- lithiodd y Parch. Williams, Castellnewydd Emlyn, ar Ddyn yn Arglwydd y Greadigaeth," y nos Lun dilynol. Ni byddai canmol y ddarlith hon yn well gorchwyl na cheisio goreuro aur neu wneud yr haul yn ddisgleiriach. Yr oedd yno dorf fawr drefnus yn gwrando gyda dyddordeb. Llywyddid yn dra de- hemg gan y Parch. R. Hughes, Cendl. Y mae genym hyder lr cwbl droi allan er budd a bendith yn mhob peth i'r eglwys a phawb oedd yno.—J. Jones. PENMAENMA WR.-Yr Ymwelwyr.-Dyma yr hyn a deimlir bwysicaf yn y gymydogaeth brydferth hon y tymmor hwn ac nid mater o ychydig bwys ydyw mewn Uawer ystyr. Da genym ddeall fod dyeithr- iaid yn prysur lenwi y lie y dyddiau hyn. Y mae Y gwasanaeth Seisonig yn cael ei ddwyn yn mlaen eleni etto yn addoldy yr Annibynwyr. Y mae gwasanaeth amryw weinidogion o Loegr wedi ei 7 bydd y darbodaeth hwn ar fdSwll? 5 J3aeS°mg mor llwyddianus eleni ag deUwmi- o i^ne mae y Parch- E> Edmunds yn deilwng o lawer o glod am ei lafur yn yr amcan Addolda'1 V Gymmydogaelh.—Argoel goleu o weithgarwch crefyddol ydyw fod yggwahS glwysi yn y lie_mor fyw i'r ysbryd o gael addoldai teilwng Ychydig o flynyddau yn ol, adeiladwvd capel heiaeth a hardd gan yr Annibynwyr yn mhen- ri/enmaeflen> dyled hwn ° tua mil o bunau addoldv prysur leihau- Tua'r [un adeg adeiladwyd addoldy cryno a dymunol gan yr un enwad yn Gar- MethodTsti Jn DeS 1 Lanfairfechan, Y mae y capel"?; 0 ad,iilaa'1 fairfechan v cvnllnr, fi uchel i Mr. Davies,dLlan- lainecnan, y cyn luny<ld, ac l Mr. T. Thomas Ban- gor, yr adeiladydd. Y mno -n: J3an ^f/TI hg hrfy<i y" 'ad-adU t™11 aethu lie eu pabellac y mae hen A £ MVIOrell fyned daQ adSyweiriad yn dm Somr tefyd am ddechreu adeiladu caDel vi'w^ yn Llanfairfeehan tua diwedd Parrtm rT11' ifyd!y disSwylir cael gwasanaeth y Vaughan, Newman Hall, ac enwogion faen v'n trvvy y seremoni o osod y gareg syl- Morl'pv •^nae y boneddwr gwiwglodus Samuel Morley^Ysw., wedi rhoddi lOOp. at yr amcan L^ANGY^XD' SiR OKCUmVG.—Cynaliwyd cyf- yr Annibynwyr yn yUe Parch, J. B JonesaBlMphefiv' fPref ^odd y Caerdvddrl ■ 'Q T T? W J» Davies, Ca^'d TAIBACH.-Capel Newydd y Bedyddwyr.—Y mae'r enwad wedi gwneud ymdrechion mawr am hir am- ser i gael capel yn y lie hwn, ond eleni rhoddwyd coron llwyddiant ar ben ymdrechion 18 mlynedd o amser. Nid ydym yn gwybod pwy sydd yn haeddu y clod mwyaf yn yr ymdrech o gael y capel yma, ond gwyddom fod Dr. Phillips yn haeddu clod mawr am ei ifyddlondeb i'r enwad. Prydnawn Sadwrn, Mhefin 22ain, ymgasglodd torf fawr o bobl i'r man lie mae'r capel i gael ei adeiladu. Cymerwyd y llyw- yddiaeth gan y Parch. J. Rowlands, Cwmafon. Dar- llenodd a gweddlodd y Parch. T. Jones, Castellnedd, yna rhoddwyd y gareg i lawr gan Dr. Phillips, a rhoddodd t5 arni fel ernes o'r gweddill sydd i ddod, a rhoddodd anerchiad cynhes i'r dorf. Cafwyd an- erchiadau hefyd gan y Parchn. T. Thomas, Merthyr; B. Evans, B. D. Thomas, a T. Jones, Castelinedd; H. Thomas, a J. Rowlands, Llansawel; J. Stephens, (A.), a Mr. D. Morgan, Taibach; a Mr. R. Morgan, (A.), Aberafon. GLANHAFREN, LLANIDLOES.—Dydd Iau a Gwener. Mehefin 27 a 28, cynhaiiwyd cyfarfod urddiad Mr. R, Oswallt Evans, o Goleg Annibynol y Bala, yn y lie uchod. Cymerodd gwasanaeth yr urddiad le boreu dydd Gwener, a phregethodd y Parch. H. James, Llansantffraid, ar ddyledswydd y gweinidog; a'r Parch. H. Morgans, Sammah, ar ddyiedswydd yr eglwys. Pregethwyd hefyd yn y cyfarfod gan y Parchn. D. M. Jenkins, Drefnewydd; J. Lewis, Cor- wen; a W. Roberts, Liverpool. Cafwyd cyfarfod dy- munol yn mhob ystyr-yr hin yn hyfryd, y gweini- dog ieuanc yn mynwes yr eglwys, a'r pregethu a'r gwrandaw yn hynod dda. Gobeithio y bydd Ar- glwydd y lluoedd gyda Mr. Evans yn ei le newydd. -Gohebydd. BIRKENHEAD.—Boreu Sabbath, Meh. 30ain, yr oeddwn yn Nghapel Oliver Street, Birkenhead. Ar ol cyfarfod gweddi gan y gwyr ieuaiuc am haner awr wedi deg 'roedd gweinidog y He, y Parch. H. E. Thomas, yn ei Ie. Ymhen ychydig clywais ef yn galw ar un John Jones i ddechreu y moddion, deall- ais wrth hyny mai cyfarfod ysgol oedd i gymeryd lie. Yr oedd yn dda geuyf weled y Cymry yn nghanol y Saeson mor selog gyda yr Ysgol Sab- bathol. Eglurodd y Parch. H. E. Thomas yr amcan 09dd mewn golwg wrth gynal y cyfarfod hwnw bore Sabbath yn lIe Pregeth, am fod yno amryw o'r gynolleidfa heb ymuno a'r ysgol, 'ac mai er mwyn dangos i'r cyfryw beth fedrai yr Ysgol Sabbathol wneyd, Canodd y plant yn soniarus, yna holodd y Parch. H. E. Thomas yr holl Ysgol ar y bedwaredd benod o'r Rhufeiniaid yn fywlog ac adeiladol. Caf- wyd araeth fywiog gan Abraham Davies, (mab, fel y deallais, i'r hen:bregethwr 'John Davies, Glasbwll). Yr oedd yn gyfarfod da drwyddo. CAfwyd pregeth yn yr hwyr gan y Gweinidog ar yr Ysgol Sabbathol. Ysgeifiogyn. CAPEL SUL, CYDWELI—Cynnaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod blynyddol y Llun a Mawrth y laf a'r 2il cyfisol. Am 7 nos Lun, dechreuwyd y Parch;:D. Roderick (W),la phregethwyd gan y Parchn. Mr. Lloyd (M), a H. Evans, Pembrey. Am 10, bore dranoeth, dechreuodd y Parch. D. Evans, Nazarerh, a phaegethodd y Parchn. W. Jenkins, Llanybri, a J. Thomas, Salem Aberdare. Am 2, dechreuodd y Parch. G. Reynolds (B), a phregethodd y Parchn. T. Williams, Llanybri, a J. Davies, Cwmaman. Am 6, dechreuodd y Parch. W. Jenkins. Llanybri, a phreg- ethodd y Parchn. J. Thomas, Bryn, Llanelly, a J. Dayies, Cwmaman. Llywyddwyd y cyfarfodydd gan y Parch. H, Evans, Penbrey. A dangoswyd y cydweithred gwresocaf gan yr holl weinidogion a phawb eraill at yr eglwysi galarus ar ol eu hanwyl weinidog. Gobeithio y bydd y cyfarfodydd gwresog a gafwyd yn fendithiol yn llaw Yspryd Dnw i ad- fywio yr eglwysi a'u cysuro yn eu dyddiau galar.— Moel/ryn. TY'NycoED.—Mae Mr. Lewis Jones, diweddar fyf- yriwr o Athrofa y Bala, ac wedi hyny o Brif Ysgol Glasgow, wedi derbyn gal wad unfrydol o Tynycoed a Bethlehem ac yn bwriadu dechreu ei weinido»- aeth yno yn mis Awst nesaf. Lr-ANGEnECH.—Cjrnaiiodd yr Annibynwyr eu cyf- arfod blynyddol ar y Sul a'r Llun diweddaf. Eu Piegethwyr y tro hwn oeddynt y Parchedigion J. Davies, Cwmaman; T. Davies, Llandilo; Hum- phreys, Cadle. Cafwyd cyfarfodydd lluosog, Preg- ethau gwir dda, ac ar y cyfan, gasgliadau rhagorol sef Deugain Punt. Lied dda, onite ?-Tàm Williams. YSTRADFELLTE A RHIGOS -MORGANWG.—Dydd Sul Sulgwyn diweddaf talodd Ysgol Sabbothol y Rhigos ymweliad a Hermon. Ystradfellte. Holwyd hwynt yn yr 8 benod o lyfr yr Actau- Cafwyd atebion campus a chanu da. Y Sabbath diweddaf yn Mehefin bu Ysgol Hermon yn talu y pwvth yn ol a chawsant dderbyniad hynod o roesawgar. Daeth ysgol y Rhigos i'w cyfarfod am tua haner milltir tan ganu. Yna cerddai y ddwy yn orymdaith oddiyno i'r capel. Dechreuodd y Parch. E. Evens. Penderyn y cyfarfod. Holwyd yr Ysgol gan ei gweinidog y Parch. D. Thomas, yn yr 11 o Efengyl Marc yr oedd eu dull bywiog a'u hatebion yn dangos eu bod yn feistriaid ar eu gwaith. Canodd yr Ysgol amryw donau hyfryd yn ystod y cyfarfod. Yna symudwyd i'r Ysgoldy ger Haw i gyfranogi o'r tea blasus oedd wed ddarparu i'w chwaer Ysgol. Teimla y ddwy eglwys uchod eu bod yn perthyn yn agos gan mai yr uu gweinidog sydd yn y ddwy. Pan roddodd y Parch. Mr. Williams, Hirwain, ofal y Rhigos ifynu darfu iddynt ymuno a HermOn. Ac mae yn llawen genym weled yr achos goreu mor llewyrchus yn y ddau le dan ofal Mr. Thomas. Llwyddiant iddynt. Parhaed brawdgarwch." LLAN ST.-SIOR.—Cynhaiiwyd cyfarfod flynyddol yn y lie uchod Mehefin 30 a Gorphenaf 1. Preg- ethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. J. Rowlands, Henryd; E. Thomas, Meifod; a N. Stephens, Liver- pool. Mae yno gapel newydd hardd a chyfaddas ia.wn at angen a sefyllfa yr ardal. Dape byddai pob addoldy newydd yn cael ei adeiladu ar yr un cynllun. RHOSLLANERCHRTJGOG.—Cynnalfwyd cyfarfod blyn- yddol yn y lie hwn Gorphenaf laf a'r 2il. Dechreu- wyd nos Lun trwy i Mr. Rowlands, Henryd, a Mr. Thomas, Bangor, bregethu. Dydd Mawrth, am 10 pregethodd Mri Jenkyns, Brynmawr, a Mr. Williams, Llanwrtyd; am 2, Mr.) Rowlands, Henryd, a Mr. Jones. Roden Hall (gynt o Smethcott) ac am 6 Mr. Jenkins, Brynmawr, a Mr. Williams, LlF-nwrtyd. Cafwyd oedfaon llwyddianus iawn. Anrhydeddodd pobl Rhos eu hunain y tro hwn fel arferol trwy gyrchu yn lluoedd i'r gwahanol gyfarfodydd. Cafl angh^ffk^ Patriarch o Lanwrtyd dderbyniad sirio- CROSS INN, GER IjLANBOri)i'.—Er's rhai misoedd yn ol, fturfiodd Mr. D. Jones, Ysgolfeistr, Rhydy- censiau, ddosparth er dysgu'r Tonic Sol-fa yn y lie uchod; a nos Fawrth wythnos i'r diweddaf, arhol- wyd rhai o aelodau'r dosbarth gan y Parch. W. Thomas, Whitland. Yr oedd yno ddeg yn sefyll, a bn naw yn llwyddianus. Ennillodd y person au canlynol yr Intermediate Certificate, sef Meistri D. Jones, Sarngoch. D. Jones, Rhydycaisiaid, a R, C. Jones, Ysgolfeistr, Whitland. Aeth y rhai canlynol drwy yr Elementary yn l!wyddi,anus,-Benj: Jones, Sarnoch; Miss Ann Williams, Grove, Llanginning Wm, Thomas, LlwSneroy Davi(I Rogers, e Thomas James. Waunfach; a Benj. Nicholas, Cross Inn. Y mae cryn ymdrech yn cael ei wneuthur yn y cym- ydogaethau hyn gyda'r gyfundrefn syml hon o dd\sgu canu. Deallwn fod arholiad arall i fod yn fuan yn Logyn. Yn awr, f ech, n, ati o ddifrif, mae ,y llwyr angen dosbarthiadau newyddion mewn gmryw fanau etto. Rhoddwch brawf ar y drefn hon, yua uid oes arnom ofn y caiilyniadadau.-Ei-yr Carn Ingli, Whitland.
CYFADDEFIAD o LOFRUDDIAETH…
CYFADDEFIAD o LOFRUDDIAETH A GYF- LAWNWYD 23 MLYNEDD YN OL. Nos Sadwrn diweddaf, ymddanghosodd dyn tua 38 mlwydd oed, yn swyddfa'r heddgeidwaid yn Nghaerlleon, a gofynodd i bwy y gwnai gyf- addefiad gan fod rhywbeth. yn pwyso ar ei feddwl, ac nis gallai ei gadw yn hwy. Wedi cael ei arwain i swyddfa y prif heddgeidwad, dy- wedodd mai Walter Roberts oedd ei enw, fod chwant arno wneyd cyfaeddefiad am lofruddiaeth a gyflawnwyd ganddo ef ers 23 mlynedd. Rhy- buddiwyd ef yn y dull arferol i ddweyd y gwir, ynadywedodd:—Yn 1844 yr oeddwn yn filwr cyffredin yn gwersyllu yn Ivirkee, Bombay. Un noson wrth fyned allan o'r Barracks dilynwyd fi gan Corporal Sims i lawr i Dawpoonie i dy Mr. Jones. Daeth i'r ty a gwrthododd fyned ymaith. Gorchymynai Jones ef allan, ond ni I n fynai fyned ceisiais ei dynu ymaith tuag at y bont. Pan ddaethom at y bont, yr hon oedd ar y pryd yn cael ei gwneyd, mynai fyned yn ol, a chan nad oedd croesaw iddo gwthiais ef fel y syrthiodd. Tarewais ef i lawr, disgvnodd i ddyfnder o 45 troedfedd, a chafwyd ef yno yn farw boreu dranoeth. Aethum yn ol i dy J ones, a dywedais y cwbl a ddigwyddodd. Arosais yn yfed yn ei dy hyd haner dydd dranoeth, pan aethum yn ol i'r brrrachs, a chymmerwyd fi yn garcharor. Dygwyd fi ger bron y Ilys, am lofruddio Sims, ag ar ol 14 o ddyddiau, rhydd- hawyd fi. Yr oedd Jones hefyd yn ngharchar. Ar ol hyny ymunais yn wirfoddol a'r gwyr meirch, ac yn Mehefin, 1864, cefais ollyngdod gyda pension o Is. y dydd. Dyna oedd ei gyffes, dywedai ei fod yn gywir, a rhoddodd ei enw wrtho. Dydd Llun dygwyd ef ger bron yr ynadon, a phan y darllenwyd ei adroddiad iddo, gwadai ei wirionedd, a dywedai ei fod wedi bod yn yfed ar ol cael ei bension, a hyny wedi ei lenwi a meddyliau brawy:hus. Barnodd y faingc yn ddoeth ei gadw am wyth- nos yn mhellach, er mwyn gwneyd ymchwiliad i'r achos.