Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

-lr ythuo.

News
Cite
Share

lr ythuo. NiD oes le i unrhyw ammheuaeth bellach o barth tynged yr Ymerawdwr Maximilian. Mae amrai o lysoedd Ewrop mewn galar mawr am dano. Ac y mae llawer a berthyn- ant i gylchoedd uchaf cymdeithas yn Lloegr yn teimlo digasedd annhraethadwy tuag at yr awdurdodau a roddasant yr Ymerawdwr i farwolaeth. Dywedir y bydd i Awstria anfon llynges yn ddioed i ofvii am gorph yr ymerawdwr, ac awgrymir y bydd i Ffraingc gosbi pobl Mexico a chosbedigaeth gyfiawn. Nid ydym yn ammheu nad oedd Maximilian, ar lawer cyfrif, yn ddyn hawddgarol, ac yn feddiannol ar fawrfrydigrwydd teilwng o well achos. Nid ydym yn ammheu nad oedd eibriod ieuanc yn un o'r boneddigesau mwyaf addysgedig yn yr oes hon, ac nid ydym yn ammheu na chafodd yr ymerawdwr ieuangc ac anffodus ei dwyllo gan rai a'i fradychu gan eraill. Ond, tra yr ydym yn tosturio wrtho a thosturi dwfn, ac yn con- demnio yn hollol y rhai a'i rhcddasant i farwolaeth, yr ydym yn credu fod gan ben- aduriaid Ewrop ddigon o waith gartref, ac nad yw yn perthyn iddynt o gwbl i fagu, ac ordeinio brenhinoedd ac ymerawdwyr i gyfandir America. Mae pob peth a wyddom 0 am drigolion Deheudir America yn peri i ni feddwl nad ydynt eto yn rhyw gymmhwys iawn i lywodraethu eu hunain ac eto, nid oes genym nemawr hyder yn y drefn o anfon iddynt frenhinoedd ac ymerawdwyr o Ewrop. Mae yn rhaid iddynt weithio allan eu hiech- ydwriaeth wladyddol eu hunain trwy ofn a dychryn. Ymddengys fod y damweiniau ar y cledr- ffyrdd, fel y damweiniau yn y pyllau glo, yn dygwydd, o ran amser, yn agos i'w gilycld. Yn hwyr iawn nos Wener, cymmerodd dam- wain le ar linell y London & North Western Railway, yn agos i'r lie a elwir Wolverton. Anafwyd, a chlwyfwyd amrai bersonau,— rhai o honynt, fel yr ofnir, yn angeuol. Tarawyd yr holl deithwyr a. dychryn mawr, yr hwn yn ddiau a ychwanegid gan yr adgof o'r ddamwain ddiweddar yn Warrington. Dydd Llun, cynnaliwyd trengholiad ar y rhai a gollasant eu bywydau drwy y ddamwain ger Warrington. Dychwelodd y rheithwyr y ddedfi-yd o "Ddynladdiad" yn erbyn yr hwn oedd yn wyliedydd ar y ffordd. Dydd Sadwrn, cyflwynid y gwobrwyon i'r myfyrwyr yn Ngholeg Saint Martin, Llun- dain. Coleg y gweithwyr ydyw y coleg hwnw, yn ngwir a phriodol ystyr y gair. Y mae yno bob cyfleusdra i weithwyr na chaws- ant addysg foreuol i ddyfod yn ysgolheigion da. Traddododd Mr. Gladstone un o'i areithiau doniol ar yr achlysur. Yn ei waith yn myned yno ar brydnawn y Sadwrn, ar ol ei lafur mawr a chaled drwy yr wythnos yn y senedd, efe a roddes brawf ychwanegol o'i gydymdeimlad trwyadl a'r gweithiwr, yn gystal a'i barodrwydd i wneud pob peth a all mewn amser ac allan o amser er dyrchafiad y gweithiwr. Y mae llu mawr o'r gwirfoddolwyr yn ymryson saethu, yn ystod yr wythnos hon, yn Wimbledon, ac y mae eu perthynasau a'u cyfeillion drwy yr holl wlad yn darllen hanes y gystadleuaeth gyda phryder a dyddordeb. Mae amrai o'r aelodau yn Nhy yr Ar- giwyddi wedi datgan eu gofid yn ddiweddar o herwydd cynnydd ritualism yn yr E tnv-vs Sefydledig. Mae y drwg y fath, fel y mae yn rhaid cael gallu purach ac uwch nag eiddo Ty yr Arglwyddi cyn y gellir ei roddi i lawr. Cynnydd mewn crefydd ysbrydol sydd yn dyrchafn dynion uwch law defodau a seremoniau yn addoliad y gwir a'r bywiol Dduw. Terfynodd dirprwywyr y Llywodraeth eu hymchwiliadau i weithrediadau Undebau y Crefftwyr yn Sheffield, prydnawn dydd Llun. Bwriedir gwneyd ymchwiliadau cyffelyb yn rhai o brif drefydd gweithfaol Gogledd Lloegr. Cyn i'r dirprwywyr a bennodwyd gau y Llywodraeth ddechreu eu hymchwil- iadau yn Llundain, rhoddwyd caniatad i'r Undebau i anfon un drostynt i fod yn bres- ennol pan eisteddai y dirprwywyr. Dewis- odd yr Undebau wr deallus a chymmhwys o'r enw Mr. Conolly. Mae ein davllenwyr yn cofio fod Mr. Roebuck yn un o'r dirprwy- wyr. Dywedodd Conolly mewn cyfarfod g-wladyddol perfchynol i'r Undebau, nas gall- esid disgwyl pethau gwell oddi wrth dref Sheffield, gan gofio ei bod yn cael ei chyn- nrychioli yn y senedd gan ddyn o fath Roe- buck. Ffromodcl Roebuck yn aruthr, a chauodd y dirprwywyr y drws o hyny allan yn erbyn Conolly. Er ys tua blwyddyn yn ol, archodd ein Llywodraeth ar fod i'n llys- genhadau wneud ymchwiliad i weithrediadau Undebau y Crefftwyr mewn gwledydd tra- mor mae ffrwyth yr ymchwiliad wedi ei gyhoeddi mewn cyfrol fawr a golygus. Pa faint bynag o lesiant a ddaw o'r Reform Bill, nid oes nemawr yn gobeithio y bydd yn un boddhaol a gorphenol. Yn wir, y mae yn ammhosibl iddo osod terfyn ar bob cyffroad, tra y byddo trefi poblog a chyn- nyddol yn aros heb eu cynrychioli yn senedd ein gwlad. Pa faint bynag o wahaniaeth barn sydd am deilyngdod y Reform, Bill, a haeddiant y diweddar Ymerawdwr Maximilian, a hawliau Undebau y Crefftwyr mae yn hyfryd meddwl fod holl drigolion y wlad o'r un farn am un peth o leiaf-y mae pawb yn cyduno i ganmol y tywydd gwerthfawr a fwynheir genym yn ystod y dyddiau a'r wythnosau n preseanol. Nid oes neb yn cofio gwell cyn- hauaf gwair, ac y mae yr yd yn ymddangos yn addawus a thoreithiog.

LLOFRUDDIAETH ERCHYLL YN DOWLAIS.

TYSTEB Y PARCH. H. MORGANS,…

Advertising

CYFARFODYDD MAWRION PARIS…