Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
GLADSTONE A'l DDIRMYGWYR,…
GLADSTONE A'l DDIRMYGWYR, MAE rhai 0 Newyddiadurony deyrnas y dyddiau hyn yn ysgrifenu fod Mr. Gladstone yn eistedd- iad presenol y Senedd dan gwmwl, ac nid byeban y difyrwch a wna y Toriaid o hyny. We), gad- -ewch i hyny fod, y mae cwmwl dros wyneb yi haul weithiau; end haul ardderchog ydyw er hyny; ac y mae yn fil mwy gwasanaethgar i'r byd na'r Iluaws ser sydd yn ymwthio i'r golwg ar noson glir. Ond, beth atolwg, sydd yn peri fod Gladstone dan gwmwl ? A fradychodd efe y blaid i'r hon y mae efe yn arweinydd mor alluog P A drodd efe yn anffyddlon i achos rhyddid a hawliau y bobl ? A ymostyngodd efe at driciau iselw ael er mwyn cyrhaedd ei amcanion P 0 na, jdim o'r fath beth; ac ni buasai castiau fel yna yn un cwmwl arno yn ngolwg y bobl sydd yn son mwyaf ei fod dan gwmwl. Y dyn sydd yn diraddio ei huia drwy yr hall bethau Vila a fawr- ygir gan lawer yn y dyddiau hyn. Nid Glad- Stone sydd dan gwmwl, end Ty y Cyffredin sydd yn llawn o niwl tew, a tharth afiach, myglyd, aes peri nad yw cymeriad y gwladgarwr gonest- af a mwyaf anhunanol a fedd ein teyrnas yn cael «i barchu na'i werthfawrogi yn ddyladwy. Ond arhoswch am ychydig ac fe ddaw awel gref, iachusol, oddiar y farn gyhoedd i chwythu y tarth afiach fel y gwelir cymmeriadau yn eu lliw priodol. Ond i lafur Gladstone y mae Disraeli wedi myned gyda' r mesur presenol o Ddiwygiad Seneddol, a phe byddai y gronyn lleiaf o onest- rwydd gwleidyddol yn Disraeli, cydnabyddai hyny yn llawen; ond y mae ei awydd anghym- medrol am glod yn gyfryw fel na fyn roddi i eraill eu cyfran briodol. Ni ddanghosodd Syr Robert Peel mohono ei hun yn fwy ar un am- gyl-chiad nag yn ei waith yn cydnabod wrth ddwyn i mewn fesur Diddymiad Deddfau yr Yd, nad iddo ef yr oedd y clod yn ddyledus am addfedu meddyliau y wlad i'r mesur bwnw, ond yr enw a ddylai fod ac a fydd byth yn gysyllt- iedig ag ef, fydd enw Richard Cobden. Wrth gydnabod hawliau un arall yr oedd Syr Robert Peel yn dyrchafu ei hun. Ac ni allai Disraeli Wneyd dim i'w ddyrchafu ei hun yn fwy gyda'r mesur presenol na chydnabod yn onest nad iddo ef y mae wlad i ddiolch am dano. ond i'r gwron- iaid dewr, Gladstone, a Bright, a Russell, ac eraill sydd wedi cysegru blynyddoedd goreu eu hoes i r amcan, ac wedi llafurio am dano yn mhob dull mewn amser ac allan o amser. Oni buasai fod digon o anrhydedd yn Gladstone i roddi i fynu bob teimlad personol er mwyn cyr- haedd yr amcan, nis gallasai Disraeli hyth gario ei gynllun allan. 0 ran hyny yr ydym yn cam- gymmeryd wrth ddyweyd ei gynllun, oblegid nid ei gynllun ef ydyw. Mae y mesur yn ei Surf bresenol mor wahanol i'r hyn ydoedd pan y dygwyd ef ger bron y Ty, fel mai prin y tyb- iwn y buasai Disraeli ei hun yn ei adnabod oni ai ei fed wedi ei wylio yn ofalus. Diwygiwyd, .cwtogwyd, helaethwyd, daraiwyd, a cblytiwyd ,ef gynifer o weithiau fel nas gallai neb dybied paai yr un ydyw. Ac o ran hyny nid yr un ydyw chwaith; mesur y Senedd ydyw yn awr yn gwbl; a Mr. Gladstone a roddodd help ei jddylanwad i'w ddwyn i ben. Yr oedd cael mesur cyflawn o Ddiwygiad yn llawer mwy pwysig yn ei olwg ef na chael yr anrhydedd o gysylltu ei enw ag ef. Nid ei hunan yw ei nod, ond daioni ei wlad. Ac am ei fod mor rhyddfrydig ac anhunanol, fel ag i roddi ffordd yn barhaus, y diolch a ga hyd yn nod gan y blaid a wasanaetha, ydyw odliw iddo ei fod o dan gwmwl. 0! wlad anniolchgar i'th gymwynaswr goreu. Dan gwmwl yn wir. Nid oes digon o niwl a thywyllwch hyd yn nod yn Senedd Pry-dain i guddio o olwg y wlad ddysglaerdeb ei dalentau, a mawredd ei wasanaeth i'w genedl ac i'w oes, ac yr ydym yn disgwyl yn byderus pan y daw y senedd newydd yn nghyd yn gyn- rychioliad o farn a theimlad corff y boblogaeth y gwelir yn eglur mai Gladstone yw y dyn y myn Prydain fawr ei anrhydeddu. Mae y blaid oriaidd yn gwenieithio i'r bobl, mai hwynt- hwy a roddodd yr etholfraint iddynt, mewn go- baith y cant eu pleidleisiau pan ddaw adeg yr etholiad. Na chymervd y werin eu twyllo g dynt, nid oes gaaddynt un gronyn o gyd- ymdeimlad a u hachos ac ni wnaethant ddim enoed ond fel y gorfodid hwy er ysgafnhau eu a ^ddi iddynt eu hawliau. Mae b bi wedi dyfod yn raddo1 alIan 0 bIaid y 0 yn araf mae yn wir, ond yn sicr er hyny. Yll wahanol i'r rhan fwyaf o ddyn,on y mae yn dyfbd yn fwy rhyddfrydig fel y mae yn hen- eiddio. Dilyna argyhoeddiad ei feddwl i ba le bynag yr arweinir ef; ac y mae gwirionedd yn bwysicach na phlaid yn ei olwg. Gall y fath ddyn gael ei daflu weithiau i amgylchiadau nes ymddangos i anfantais, ond nis gall y cwmwl ei orchuddio yn hir. Daw gwir deilyngdod i enwogrwydd, a disgyna i lawr yn anfarwol i oesau dyfodol.
YSGRIF Y DARLITHIAU SABBATHOL.
YSGRIF Y DARLITHIAU SABBATHOL. MAE llawer o ymosodiadau yn cael eu gwneyd yn y dyddiau hyn ar y Sabbath ac nid heb dipyn o eiddigedd a drwgdybiaeth yr ydym yn edrych ar bob ymyriad a wneir ag ef. Mae yn ddydd yr Arglwydd, ac yn ddydd cymdeithas.— Nid oes gan gymdeithas hawl i ymyraeth. ag ef fel dydd appwyntiedig Duw i addoli; ond y mae gan gymdeithas hawl i edrych na byddo y Sen- edd yn gwneyd dim a leiha ei werth a'i wasan- aeth fel dydd gorphwysfa gyffredinol. Cwestiwn cynil iawn; ac un na theimlai yn barod i osod ein barn yn benderfynol arno ydyw, pa cyn belled y mae a wnelo y Senedd a deddfu ynglyn a'r Sabbath. Ond y mae un peth debygem yn ddigon eglur nad oes a fyno y Senedd fel y cyf- ryw a gwneyd dim a fyddo yn help, ac yn gyf- leustra, ac yn demtasiwn i ddynion i'w halogi. Ar faterion fel hyn goreu pa leiaf a wna y Sen- edd; ond tra y mae hen ddeddfau eisioes ar lyfrau Prydain, nid yn frysiog y dylid eu dileu. Mae llawer cyfraith yn ein gwlad na buasem yn awr yn cyduno i'w gwneyd; ond gan eu bod wedi eu gwneyd, ac yn barchedig ar gyfrif eu henafiaeth, nid heb lawer o bwyll ac ymgyng- horiad y cytunem i'w dileu. Mae hen [ddeddf ar lyfrau Prydain er dyddiau George III. yn gwahardd gosod neuaddau neu ystafelloedd cy- hoeddus allan i draddodi Darlithiau, neu gynal cyngherddau, nac unrhy w beth er difyrwch, ac y byddo talu am fyned iddynt. Ystyrid hyny fel rhan o fasnach Sabbathol; ac oblegid hyny yn anghyfreithlawn. Yn nechreu y flwyddyn .ddiweddaf a thrachefn yn nechreu y flwyddyn hon cymeryd St. Martin's Hall i draddodi Dar. lithiau gan nifer o ddynion dysgedig ar destyn- au celfyddydol, y rhai a gysylltid a chaniadaeth gysegredig mewn enw oddiar ryw fath o barch i'r dydd. Gan fod talu am fyned i mewn i'r cynnulliadau hyny yr oeddynt hyny yr oeddynt yn dyfod i mewn fel rhan o fasnach, ac oblegid byny yn anghyfrelth lawn. Ac yn y Senedd un o'r wythnosau diweddaf, dygodd Arglwydd Am* berley, gynygiad i ddileu y ddeddf hono o leiaf mor belled ag yr oedd a fynai a Darlithiau ar destynau celfyddydol neu wladol a draddodid ar y Sabbath, er y byddai talu am fyned i'w gwran- do. Gwrthodwyd yr ysgrif ar yr ail ddarlleniad. Ac yn hyny dangosodd y Senedd graffder ac yspryd barn. Yr oedd ei Arglwyddiaeth yn gofyn gormod neu rhy fach oblegid os oedd rhyw gyfnewidiad i gael ei wneyd dylasai fod yn llawer eangach na dim a gynygid. Yr oedd y Cynygydd yn ddiameu yn golygu cael llawer mwy bob yn ychydig nag a ddywedai 'yn ei gynygiad; ac am nad oedd yn addef hyny; a'r Ty yn gweled hyny yr oeddynt yn colli pob ym- ddiried ynddo. Ond y mae yn rhaid i'r mater yma gael sylw ein Seneddwyr yn fuan. Mae teimlad unol yn mysg pob dosbarth dros gael un dydd o saith yn orphwysfa; ond y mae gwahaniaeth mawr yn ngolygiadau dynion pa fodd y dylai y dydd hwnw gael ei dreulio. Mae yr hen ddull Puritanaidd o gadw y Sabbath yn cael ei esgeuluso yn fawr yn Lloegr. Hwyrach mai Scotland fel gwlad sydd yn cadw llythyren y Sabbath yn fwyaf manwl. Dychrynai llawer Ysgotyn gymaint rhag dull y Sais o gadw y dydd, ac y mae y Sais yn cael ei ddychrynu at ddull y Ffrancwr o'i gadw. Dadleua llawer .dros agor y Crystal Palas, y British Museum, a lleoedd eraTi er adloniant, ac addysg i'r bobl, am y byudai yn Uawer gwell iddynt dreulio ychydig oriau yno bob Sabbath nac ymdroi yn eu budreddi mewn tai afiach, neu eistedd mewn tafarnau isel i yfed ac ysmocio ac ymrafaelio,— a phe gofynid i ni pa un oreu ai iddynt dreulio en Sabbathau mewn taiarnau i ofera, neu fyned i r parciau i rodiana ac yfed awyr iach yr awel- on balmaidd; ni phetruswn ddyweyd mai yr olaf ar bob cyfrif. Oad a raid i ni ddewis rhwng difyrwch Sabbathol a halogedigaeth Sab- ibathol ? nid ydym yn tybied. Yr ydym yn credu y gellir datod y cwlwm dyrys yma, a hyny heb i'r llywodraet-h roddi ei sel wrth hal-j, ogiad dydd yr Arglwydd ar y naill law, ao o'r tu arall heb roddi un atalfa ar ffordd y bobl i fwynhau eu hunain yn ol eu hewyllys. Mae gan bob dyn berffaith bawl i dreulio dydd yr Arglwydd fel y gwelo yn dda; ond nid oes gan un dyn hawl i ofyn i'r llywodraeth roddi cyfleus- terau yn ei ffordd i WDeyd yr hyn a ystyria pob liywodraeth Gristionogol yn halogiad arno.
SHEFFIELD AC UNDEBAU Y GWEITHWYR.
SHEFFIELD AC UNDEBAU Y GWEITHWYR. Y MAE Sheffield wedi enill iddi ei hun hynod- rwydd ofnadwy. Y mae mwy o son am dani ac o ysgrifenu yn ei chylch y dyddiau presenol nag un dref yn y deyrna-s. Mae enw Sheffield mewn llythyrenau breision ar hysbys-leni pob nowyddiadur; ac am drawsedd, a thraha, a'r cudd-lofruddiaethau a gyflawnwyd ynddi yn ddiweddar yn enw ac er budd Undebau y Crefftwyr yn y dref hono, yr ymddiddenir yn y ty ac yn y maes, ar yr heol ac yn y farchnadfa, yn y ddinas ac yn y wlad. Er nad yw twrf gwrthryfel yr Iwerddon wedi distewi, er fod y gwaith o adrefnu ein heisteddleoedd ar ei haner, ac er fod Arddangosiad Paris o ran mawredd ae ardderchawgrwydd yn rhyfeddod yr holl ddaiar, y mae llyg;aid pawb ar Sheffield; ac am y pethau dychrynllyd a ddygwyd i'r goleuni yno yn ystod ymchwiliad Dirprwywyr y Llywodr- aeth, y mae pob gradd a dosbarth yn siarad. Goddefed y rhai a wyddant hanes Sheffield i ni ddyweyd ychydig am dani wrth yr annghyf- arwydd. Y mae y dref yn sefyll ar lanau y Don a'r Sheaf, ac oddiwrth yr olaf y derbyn- iodd ei henw. Y mae yn cynwys dros ddau can mil o drigolion, ac er fod ei mwg fel mwg ffwrnes yn esgyn i fynu ddydd a nos, y mae yn iachach nag amrai o drefi mawrion Lloegr. Mae Sheffield er yn foreu wedi bod yn hynod am ei gwaywffyn, a'i bidogau, a'i chlcddyfau, a'i hoffer awch o bob math-dyma randir y gofaint. Priodolai Iarll Richmond ei fuddugol- iaeth ar faes Bosworth i ragoriaeth gwaywfFyn Sheffield. Bydd cyllyll cyntefig Sheffield mewn cofFadwriaeth tra y darllenir y Canterbury Tales,- ac o'r pryd hwnw hyd heddyw y mae cyllyll Sheffield wedi bod mewn bri gan fechgyn o bob gradd a sefyllfa; canys y mae adeg ar fywyd pob bachgen pan y mae meddu cyllell boced yn zD nod uchaf ei uchelgais. Y maecrefftwyr Shef- field erys cenhedlaethau wedi bod yn ddigyffelyb o ran eu medr i dymheru dur, a'u cywreinrwydd yn y gwaith o lunio offer awch. Yr oedd crefftwyr Sheffield yn ymwybodol o'r pethau hyn, ac yn ganlynol, hwy a ystyrient fod gan- ddynt gyfrinach i'w chadw, a chywreinrwydd i'w amddiffyn. Yr ydym yn meddwl mai am- can cyntefig Undebau y Crefftwyr oedd cadw a diogelu y pethau hyn-eu cadw iddynt eu hun- ain fel dosbarth, a'u diogelu rhag cystadleu- aeth trafnidiaeth rydd. Yr oedd monopoly yn ei gwedd oreu wrth wraidd yr Undebau, ac yn y blynyddoedd diweddaraf y mae yr Undeb wedi cochi ei dwylaw a gwaed er cadw meddiant o'r monopoly, a chadw i fyny gyflogau y gweithwyr. Tra yr ydoedd perchenogion y gweithfaoedd yn casglu cyfoeth tywysogaidd, ac yn adeiladu eu palasau addurnol yn nyffrynoedd swydd York; tra yr oedd maesdrefi y ddinas yn ymledu. dros y llechweddau a edrychant ar eu gilydd ar draws y Sheaf a'r Don, tra yr oedd y meistri yn ciniawa yn helaethwych bob blwyddyn yn y Cutler's Hall, a Roebuck yn eu difyru a'i ar- eithiau cellweirus a rhyfygus, tra yr oedd y Prif-weinidog, Arglwydd Palmerston, yn myned drwy y He, a'r gofaint yn llusgo ei gerbyd gyda; rhwysg teilwng o'r Tywyll Oesau; a thra yii oedd swn offer awch Sheffield yn adsain drwyj goedwigoedd y Gorllewin, ac yn gwasgar gwar-( eiddiad yn anialdiroedd Australia, yr oedd Sheffield ei hun yn gorphwys ar fynydd o dan. Yr oedd gwyr clustfeiniog yn deall erys tro fod y mynydd yn godyrfu, yn gyffelyb i'r hen fyn- ydd tanllyd hwnw a ddarluniwyd gan awen glasurol erys heibio i ddwy fil o flynyddoedd yn ol. O'r diwedd ymdorodd y mynydd, ac ym- chwyddodd yr hylif tanllyd dros yr holl fangre. Bellach y mae doethion gwlad erys misoedd yn arolygu y difrod ac yn chwilio am yr achosion. Achosion, meddwn, canys ynfydrwydd fyddai priodoli yr holl anghyfiawnderau, a'r holl ormes, a'r holl farbareidd-dra creulon ac uffernol sydd eisioes wedi dyfod i'r gcleuni yn ystod yr ym- chwiliad i un achos. Yn gyntaf, yr ydym yn priodoli drygau Undeb y Crefftwyr yn Shef- field, yn gyatal ac mewn lleoedd era)ill, meWJJ; rhan, i ddifaterwch y dosbarth canol i hawliau gwladyddol y gweithwyr. Mae yn rhaid i'r gweithwyr, yn gystal a dosbarthau eraill, gael nod i gydymestyn ato. Cyn y Diwygiad Seneddol o'r blaen, yr oedd Uuaws tref a gwlad yn cyrchu at y nod hwnw. Am fwy nag ugain mlynedd wedi hyny, bu y bobl a'u harweinyddion yn cyrchu at y nod o ddileu Deddfau yr Yd. Ond yr oedd y bobl eto yn ymddifaid o freintiau gwladyddol. Daeth Arglwydd Palmerston i awdurdod, a llwyddodd, yn anfwriadol hwyrach, i ladd pob gobaith am Ddiwygiad Seneddol tra y byddai efe by w. Cyfranogodd y dosb arth canol o'r ysbryd hwn, twyllent eu hunain eu bod yn Rhyddfrydwyr, pan nad oeddYllt mewn gwirionl edd yn ddim amgen na haner Toriaid; ac yn cyfamser, rhoddesy crefftwyr—y dosbarth mwyaf meddylgar o'r werin—serch disynwyr a direswm ar yr Undebau. Pe buasai y dosbarth canol yn cynorthwyo y gweithwyr mewn pryd i gael eu hawliau gwladyddol, mae yn ddigon tebygol y llwyddasent drwy hyny i ddofi yspryd drwg Undebau y Crefftwyr. Yn Ail, yr ydym yn priodoli drwg yr Undebau, mewn rhan, i anwybodaeth y gv.-eithwyr o egwyddorion trafnidiaeth rydd. Mae y delif; mwyaf penwan yn Sheffield yn gwybod rhagor rhwng torth fechen a thorth fawr—rhwng bara rhad a bara tretliedig; mae yn deall o'r goreu fod ganddo hawl i brynu bara yn y Shop y caiff fwyaf o hono am ei arian ond y mae y gweith- wyr fel dosbarth heb ddeall y deddfau sydd yn codi a gostwng eu cyflogau, mewn gair, y maent heb ddeall masnach rydd mewn glVaith a chyflog. Nid ydym yn rhyfeddu llawer wrth hyn. Os bu Richard Cobden, a John Bright, heb son am lafur Adam Smith a William Huskisson, am haner oes yn dysgu y dosbarth canol a'r do-barth uchaf yn egwyddorion masnach rydd, na ryfedd- wn fod y dosbarth lleiaf addysgedig, y dosbarth prinaf eu manteision, a'r dosbarth cryfaf eu rhagfarnau, yn hwyrfrydig i ddeall yr egwydd- orion hyn. Cyrnerodd Cobden a Bright drafferth, i esbonio masnach rydd mewn nwyddau, i'r dos- barth canol, cyn derbyn clod nac elw am hyny. Ai gormod fyddai i'r dosbarth canol, sydd mewn cyflawn fwynhad o ffrwyth llafur y gwroniaid hyny, i ddysgu yr un wers i'r dosbarth ag y mae eu hixldwoi* vn ddiffyaiol a'u manteision TJJ serin. Ac yn olaf, yr ydym yn tadogi drygau Un- deb y Crefftwyr yn Sheffield, i raddau mawr, i annghrefyddoldeb y trigolion. Mae gweithwyr gweithfeydd Cymru mewn amgylchiadau cyffel- yb i eiddo gweithwyr Lloegr. Amgylchynir hwy gan gyffelyb brofedigaethau, ac y maent yn llai cyfarwydd mewn cwestiynau gwladyddol. Mae y meistriad yn Lloegr wedi gwneud llawer mwy mewn ffordd gyhoeddus dros y gweithwyr na'r meistriaid yn Nghymru. Mae yn Lloegr ffynonau, a pharciau, a gerddi, wedi eu gwneud gan y meistriaid, er iechyd, a chysur, a dyrch- afiad y gweithwyr. Pa le y ceir pethau felly yn Nghymru? Ewch yn fanwl drwy y gweith- feydd o Bontypool i Lanelli, yn sir Gae.xfyrddin, yn ofer yr ymofynwch am y pethau hyfiyd hyn. Os nad oes yno barciau, a ffynonau, a gerddi, y mae yno gapelau wedi eu hadeiladu drwy hael- ioni y rhai a fwytant eu bara drwy chwys eu gwynebau;y mae yno ysgolion Sabbathol, yn y rhai y mae athrawon gwirfoddol yn dysgu y tlawd a'r ymddifaid; ac y mae yno weinidog- aeth a chanddi yr enneiniad oddiwrth y Sant- aidd Hwnw." Os nad oes gan weithwyr bryniau Gwent a Morganwg gyfleusdra i yfed o ffynonau o waith Haw, y mae yno lawer wedi yfed o ffynon y dyfroedd byw; os nad oes gan- ddynt erddi i ymbleseru ynddynt wedi nos- wylio, y mae yno luaws wedi bwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yn nghanol Paradwys Duw; os nad oes iddynt barciau i rodio, y mae miloedd o honynt o Sabbath i Sabbath, ac o wythnos i wythnos yn mynychu rhodfeydd y Brenhin Mawr. Mae crefydd gweithwyr Cymru wedi eu cadw rhag pechodau rhyfygus, ac y mae an- nghrefyddoldeb Sheffield yn achos amlwg o'i trirawsedd, a'i thrueni, a'i gwarth. Yn yr olwg ar sefyllfa pethau yn Sheffield, mae dyngarwyr, a gwladyddion, ac awdurdodau y wasg, yn gruddfan yn yr yspryd. Mae hen wladyddiaeth brofiadol yn edrych ar y drygau gyda, dygasedd a syndod, tra y mae llu mawr 0 rai ieuengach yn cynyg gwahanol fesurau er puro; y dref hon a threfi eraill o ddrygau yr "Undebau.! Yr ydym yn hyderu y gwneir pa beth bynag a wneir yn ystyriol, yn bwyllog, ac yn y goleuni.