Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
[No title]
Lladdiad Maximilian yn Mexico sydd wedi taro holl Ewrop a syndod a gresyni y dyddiau diweddaf. Taenwyd y gair amryw weithiau o'r blaen ei fod wedi ei ddienyddio trwy greulondeb Juarez a'i swyddogion, ond ymddengys y peth yn awr uwchlaw amheuaeth, ac y mae gwahanol lysoedd Ewrop mewn galar. Syrthiodd trwy frad y Pen-catrawd Lopez, yr hwn a ystyrid bob amser o'r blaen yn ddyn o gryn ymddiried. Gorchymynodd agor y pyrth i'r gelynion ddod i mown, wedi mynu yn iawn 48,000 o ddoleri, pan yr oedd Maximilian yn cysgu yn dawel. Wedi iddo ddeffro, druan, deallodd fod rhywbeth an- aiferol wedi cymervd lie. Dilynodd y bradwr Lopez y gelynion, a chyfeiriodd at yr ymher- awdwr-" Dyna y dyn—deliwch ef." Modd bynag nid oedd y prif swyddog yn hoffi bradwr- iaeth nceth fel hyn, a gadawodd iddo ddiangc, a daliwyd ef wedi hyny, a dywedir iddo gael ei saethu ar foreu Mercher, y 19eg o Fehefin. Tybir yn gyffredinol y bydd i Austria a Ffrainc ddial ei waed ef, a hawlio ei gorph.-Y mae y Prif Lywydd Johnson a'i Weinyddiaeth yn dal i ymladd a'r Congress. Dechreuir o ddifrif enwi ymgeiswyr am y Brif Lywyddiaeth. Yr un mwyaf yn ffafr y wlad hyd eto yw y Cadfridog Grant, ond y mae amryw eraill yn sefyll yn uchel iawn, megis Wendell Phillips, y Prif- farnwr Chase, Horace Greeley, a'r Seneddwr Wade. Anesmwyth iawn yw pethau yn yr Yspaen, ac y mae pob arwyddion y bydd i wrth- ryfel dori allan yno cyn bo hir, er mai metbiant yw pob cynhwrf hyd eto. Ymddengys fod y cholera wedi tori allan mewn rhan o dalaeth Punjaub yn yr India. Bu 66 o un fyddin farw o bono.- Y mae y Milwriad Merewether wedi anfon y cynhyg olaf i'r Ymherawdwr Theodorus, i hawlio rhyddhad y caethion Prydeinig yn Abyssinia. Credir yn gyffredinol yr anfonir llu milwrol yno os metha y moddion hyn, ond y mae argoelion y bydd hyny yn rhy ddiweddar, am fod yr ymherawdwr yn ol y llythyr diweddaf oddiyno, yn ymddiglloni mwy yn erbyn yr Bwropeaid, ac y mae wedi rhoi gorchymyn i ladd 200 o'i benaethiaid, ac ofnir y daw yr un dynged i ran y Prydeinwyr.
IBEDDARGRAFF TAD A MAM HWFA…
BEDDARGRAFF TAD A MAM HWFA MON. Ai yma mae mam Hwfa Mon,—a'i dad, Heb eu dwys ofalon, Yn cysgu, ddau gu, hyd pan ddug Ion-mad Hwy adre' i'w gwlad, o'r gwaelodion ? Ie, dyma'r lie du y mae'r lion—bar, Dyma'r bedd a'r cyfiion Ond o'u cist a'r ddau Gristion-sydd obry Acw i fyny, gyda'r cyfiawnion. Bangor. Ap FYCHAN.
B'LE 'R WYT TI?
B'LE 'R WYT TI? Cyflwynedig i Mr. E. Ashtons, yr hwn a ymfudodd i'r America er's blwyddyn yn ol. HAF a gauaf a aeth heibio, Gwyntoedd stormus nerthol gawd, Llawer noson dywell dreuliwyd, Er pan gollais wedd fy mrawd; Teimlais, do, dymhorau chwerw, Llawer ton aeth trosof fi; Gwelais lawer gwrthddrych digllon, Ond fy Edward, B'le 'r wyt ti ? Gauaf oer a'i wg aeth heibio, Daeth yr haf a'i wenau lion, Ac mae anian mewn Hawn tlysni, Yn adloni'r glafaidd fron Daeth y gog yn lion i'n hanerch, A'r fwyalchen gyda hi; Ond mae llais-y llais yn eisiau, Anwyl Edward, B'le 'r wyt ti ? Darllen wyf y papur newydd, Gweled helynt am bob gwlad, Gweled am gyfeillion rhywrai, Yn eu dig yn tywallt gwaed Gweled eraill yn eu hawddfyd, Cael pleserau yn ddiri', Yn ymgodi i anrhydedd, 0 fy nghyfaill, B'le 'r wyt ti ? 'Rwyf yn coflo am yr amser, Y dechreuais ddyweyd am Grist, Pan yn nghanol fy mabandod, Teimlais lawer adeg drist; Tithau oeddit megys Aaron, Gyda Hur yn nerth i mi; Ond dy hoff gymdeithas gollais, Anwyl Edward, B'le'r wyt ti? Os yn (yw yn ngwlad Amerig, Ti a'th deulu serchog glan, Paid a bod yn wr dieithr, Rho attebiad i fy nghan Rho dy helynt di a'th deulu, Pa fodd y mae hi arnoch chwi Os yn fyw fy nghyfaill didwyll, Rho dy hanes, B'le'r wyt ti ? Ond os na chaf linell fechan, 0 dy hanes gyfaill cu, Ac os 11a chawn ar y ddaear, Gwrdd i adrodd modd y bu, Draw hyderaf cawn gyfarfod, Yn y nef yn uweh ein bri; Ond tra 'r ochor hyn i wynfa, Hoffwn glywed, B'le 'r wyt ti ? Witton Park. J. DAVIES.
ENGLYNION
ENGLYNION Ar farwolaeth Mr. W. P. Williams, diweddar fyfyriwr yn Aberhonddu. Darfu ei boen; o dwrf y byd-hwyliodd I orielau gwynfvd; 'N awr mewn hwyl i'w anwylyd 'N iach can, os nad ueha' i gyd. Brau fu ei oes, ond pur ei foesau,—llawn O'r holl enwog rasau; Llariaidd, didwyll ei eiriau,—talentog, A noddwr enwog oedd i'r Awenau. A'r Iesu'r Ceidwad grasol—a'i rad rodd Ei fryd roes yn hollol, A fry aeth i'r nef ar ol-yr Iesu, I'w ogoneddu mewn mawi cynhyddol. Bryn Menyn. DEWI MEDI,
ENGLYN
ENGLYN A gyfansoddwyd ar dderbyniad Carte de visite yn cynwys darluniau wyth o fyfyrwyr Aberhonddu. Wyth cyfaill gwerth eu cofio,- wyth diwyd, Wyth duwiol gobeithio Wyth ar frys am daith i'r fro-a ddeuant, Yw ein dymuniant, os Duw a'i myno. D. LEWIS, (Dewi Medi).
itytion.
itytion. YMPFROST HYNOD.—Ymffrostiai un ei fod wedi cael pob fever adnabydd us ond y brain fever, ar wyneb y ddaear, a'i fod wedi dyfod trwyddyut i gyd. "Druan o hero," meddai rhy w hen wraig aedd yn clywed, I I tae o ddim ond yn gwybod, y mae o yn y ham fever yn wastad." "Ie," meddai rhyw un arall, os oes gandde brain hefyd." SYNIAD TTCHEL AM DDEDWYDDWCEI.—Hen Gymro gwledig wrth glywed am foethau gwyr mawr a ddywedai mai ei ddedwyddwch mwyaf ef fyddai cael llon'd ei fol ofaragwyn a chaws, a digon o ddiod fain fach sharp, sharp; a chael pwyso ar ei fol ar lidiart, a hogyn i'w siglo." MILWR GWP.OL. -Siaradai rhyw filwr yn fost- fawr am ei wroldeb yn y brwydrau y buasai ynddynt; a gofynai un iddo a ddarfu iddo ladd rhywun erioed. "Naddo," meddai, ond torais goes un." Tori ei goes," meddai y Hall, "pa fodd na buasech yn tori ei ben." Yr oedd wedi cael tori ei ben cyn hyny," oedd yr ateb. GWYDDELIG IAWN.—Yr oedd Gwyddel haner meddw yn Calcutta yn canmol yr hinsawdd, ac yn haeru fod y Gwyddelod yn gyffredin yn gwneyd cam mawr a'r wlad trwy roi anair iddi. A dywedai, pan y deuant o'r Iwerddon yma, bwytant ac yfant gymaint nes lladd eu hunain, ac ar ol marw, ysgrifenant at eu cyfeillion mai yr hinsawdd a'u lladdodd." Nid oes yn iaith y Ffrancod yr un gair am gartref nac am gysur. Cymro, wrth ymadael a'u gwlad i ddychwelyd i'w fro enedigol, a ganodd fel hyn:— Gadawaf di, ddigysw Ffrainc, Yn ddialargainc galon, I Gymru af-ddaearol ne'— Cartrefle gwir gysuron. Yr oedd yr ben Oweu Gruffydd o Lanystym- dwy. yn digwydd bod yn y Wern fach lie yr oedd Cigydd yn lladd mochyn. Trwy ryw an- ffawd methodd y Cigydd ei ergyd, a rhedodd y mochyn i ffwrdd a'r gyllell yn ei wddf; ac wrth ei weled canodd Owen,— Hofft i fochyn Gwern y fach, Am iddo ymeiriach marw Bu lianer awr neu beth yn well, A'r gyllell yn ei wddw. Mi 'roedd yn rhedeg tua'i gwt, Gan wneuthur pwt o weddi, Rhegi'r Cigydd 'roedd bob cam. Yn uchel am ei nychu,"
[No title]
Y,rndroclii.-Afae "Sanitas"yn y Medical Press yn cyfeirio at y ffolineb o fod dynion yn ymdrochi yn ddioed ar ol bwyta; eu bod drwy hyny yn gofod eu hunain yn agored i lawer math o ddoluriau. Eiddo trethedig rnewntrefyild mawr.—Yn ol cyfrif senedd y flwyddyn gyllidol a derfynai Ebrill 6ed, 1866, ymddengys fod swm yr Income Tax yn Liverpool yn £ 186,401, gyda phoblog- aeth o 490,494, yn Manchester E144,735, gyda phoblogaeth o 385,642, yn Birmingham 458820 gyda phoblogaeth o 341,987, yn Leeds £ 41,228, gyda phoblogaeth o 231,409. Mae rhyw reswm yn ol yr ystadegaeth uchod dros i Liverpool a Manchester gael aelod ychwanegol. Damwain Warrington.—Gwelir erbyn heddyw fod lladdedigion damwain Warrington yn wyth o leiaf. ac ofnir y gwaethaf am eraill. Brctwdlys trimisol Sir Fon.-Nid oes ond dau garcharor i'w profi yn mrawdlys Beaumaris ddydd Mawrth Gorph. 2il, a daeth y ddau hyny yn rhydd, Wyth. o droseddwyr sydd yn y car- char ac nid oes ond pedwar o'r rhai hyny yn Gymru a dim ond dau o'r rhai hyny yn ened- igol o Fon, allan o boblogaetho 55,000. Well done Sir Fon. Dywedir y bydd i welliant gael ei gynnyg yn Nhy yr Arglwyddi yn erbyn y lodger franchise yn ysgrif y diwygiad, a bernir gan rai y bydd mwyafrif drosto. Tarawodd mellten fugail a 203 o ddefaid yn feirw y dydd o'r blaen yn Ardeche. Darfu i Frenhines Prwssia gyrhaedd Lloegr yr wythnos ddiweddaf, er ys bythefnos ar ym- weliad a'n Brenhines. Mae y gweithwyr yn Llundain ac mewn rhan- au o'r wlad yn cynnal cyfarfodydd ac yn pasio penderfyniadau yn dadgan eu ffieidd-dod hollol o gamwri Sheffield. Mae 18,000 o Gristionogion proffesedig yn Mada- gascar, ac y mae'r Frenhines trwy gyttundeb a Lloegr, wedi caniatau rhyddid crefyddol i'w holl ddeiliaid. Mae yno 79 o eglwysi o dan ofal 7 o genhadon Seisnig, a 95 o weinidogion ac athrawon brodorol. Mae cyhoeddiad misol o'r enw English Magazine, i wneyd ei ymddangosiad ar y laf o Awst. Cyhoedd- edig gan Meistri Kent & Co. Y mae cyfarfod nesaf Undeb Cynnulleidfaol Lloegr a Chymru i'w gynnal yn Manchester yn de- chreu ddydd Llun, Hydref 7fed.
CYMANFA DINBYCH A FFLINT.
CYMANFA DINBYCH A FFLINT. Cynhaliwyd y Gymanfa hon eleni yn Rhea-y cae, y 3ydd a'r 4ydd o'r mis hwn. 'Am ddau o'r gloch y dydd cyntaf, cafwyd cynhadledd, pryd yr oedd nifer liosog o weinidogion, pregethwyr, a diaconiaid yn nghyd. Cymerwyd y gadair gan y Parch. N. Stephens, Liverpool. Cyn- rychiolwyd y Gymdeithas Genhadol Llundain, gan y Parchn. W. Fairbrother, J. G. Rogers, a W. Jones. Gwnaeth eu hanerchiadau goleu a gwresog argraph ddwys ar feddwl pawb, nes eu dwyn i benderfynu gwneyd mwy o ymdrech nag erioed dros y Genhadaeth. Rhoddwyd croesawiad hynod o garedig i D. E. Williams, Ysw., Hirwaun, yr hwn oedd wedi dyfod yno yn bwrpasol i ddadleu achos Cymdeithas yr Hen Weinidogion. Llwyddodd trwy ei araeth frwd- frydig a'i ddull deheuig i gael gan amryw dan- ysgrifio o newydd, ac addawodd eraill gario y genhadwri at yr eglwysi. Arwyddwyd deiseb gan y cadeirydd dros y gynhadledd i'w hanfon i'r Senedd, er cael cau tafarndai ar y Sabbath. Penderfynwyd fod y Gymanfa nesaf i fod yn Coedpoeth, y Cyfarfod Chwarterol yn Wrexham, a'r Ysgol Rad i fyned i Fflint. Pregethwyd nos Fawrth gan y Parchn. N. Stephens,Liverpool; a R. Williams, (Hwfa Mon); boreu Iau, am 5, gan y Parch. E. Owens, Llan- santffraid; cadwyd cyfeillach nodedig o dda am 8, dan lywyddiaeth y Parch. E. Evans, Llangollen. Pregethwyd am 10 gan y Parchn. R. Williams ac E. Evans am ddau, ar y maes, gan y Parchn. H. E. Thomas, Birkenhead; a W. Rees, D.D., Liverpool; a thrachefn ar y maes, am 6, gan y Parchn. W. Roberts, Liverpool; ac E. Roberts, Coedpoeth. Dechreuwyd y gwahanol foddion gan y Parchn. E. Evans, Llangollen; J. Jones, Rhos; D. Williamb, Rhuddlan; S. Evans, Llandegle; L. Jones, Glasgow; a W. Piorc>\ (T.C.,) Rhosesmor. Yr oedd yn syndod gweled cynnifer wedi dod yn nghyd i le mor annghys- bell. Bydded iddi adael argraff dda ar yr ardal- wyr, y rhai yn ol eu harfer a ddanghosasant garedigrwydd mawr at y dieithriaid.
[No title]
Mae yr bin am yr wythnos ddiweddaf wedi bod yn lied anwadal, er hynynid mewn un modd i wan- ychu y gobeithion am gnwd y flwyddyn. Nid oes ond ychydig o yd wedi dyfod drosodd o'r cyfandir, ac y mae y pris yn dal yn lied uehel. Canmolir y cynhauaf gwair yn fawr iawn, ac ymae rhagolygon y cynhauaf yd yn bur addawus. Parhau yn isel iawn mae marchnad yr arian.
MARCHNAD LIVERPOOL.
MARCHNAD LIVERPOOL. Dydd Mawrth. Yr oedd y farchnad yd boreu heddyw yn lied fywiog, a gwerthwyd llawer iawn o wenith am os- tyngiad o I g. i 2g. y canpwys. Yr oedd ceirch Ig. y bwsel yn is, ond yr oedd y blawd ceirch yn dal yr un bris. Haidd, o herwydd prinder, 2g. y bwsel yn uwch. Bernir yn gryf nad yw y cyflenwad o yd ond prin iawn i gyraedd at y cynhauaf.
[No title]
BANGOR, Gorph. 5.— Gwenith, o 63s 0c i 64s Oe y chwarter haidd, 37s Oc i 39s Oc ceirch, 29s Oc i 32s Oc; blawd ceirch, 41s i 42c y 240 y pwys; ymenyn ffres, o 12c i 13c y pwps cig eidion, o 7c i 9c y pwys cig dafad, 9c i 10c y pwys hwyaid, 3s 6c i 4s 6c y cwpl; cywion ieir, o 2s 6c i 3s Oc y cwpl wyau, 8 am 6c. CAERFYRDDIN, Gorph. 6.-Gwenith, 7s 3c i i 7s 10c y bwsel baidd, 4s 6c i 5s 3c y bwsel; ceirch, 3s 3c i 3s 6c y bwsel o 40 pwys; blawd, 42s i 54s Oc y sach o 280 pwys. CAERNARFON, Gorph, 6.-Gwenith 64s Oc i 67s Oc y chwarter; haidd, 39s Oc i 40s Oc y chwarter; ceirch, o 29s Oc i 32s Oc y chwarter; blawd ceirch, o 40s Oc i 42s Oc y 240 pwys ymenyn fires, 12c i 13c y pwys; wyau, 9 am 6c; pytatws, Ie y pwys; cywion ieir, 2s 6c i 3s Oc y ewpl hwyaid 3s 6c i 4s Oc y cwpl; pytatws newydd, 2 c y pwys. LLANDEILO, Gorph. 6.-Gwenith, o 8s Oc i 8s 6c y bwsel; haidd, 5s Oc i 5s 6c y bwsel; ceirch, 3s Oc i 3s 6c y bwsel; ffa, o Os Oc i Os Oc y bwsel; blawd ceirch, o 2!c i 3c y pwys; pytatws, lie y pwys ymenyn ftres, oJ12ci 12c y pwys j ymenyn llestri, 10c i 10ic y pwys; cig eidion, o 7 i 8c y pwys; cig dafad, o 8c i 9c y pwys.
[No title]
Cariwyd gwelliant Mr. Horsfall i roddi un aelod newydd i Liverpeol, Manchester, a Bir- mingham, ac y mae Leeds hefyd i gael un. Dadleuai Mr. Roebuck dros i Sheffield gael un, a rhybuddiai y Weinyddiaeth fod ei gefnogaeth o hyn allan yn ymddibynu ar fabwysiad ei well- iant, ond ar raniad y Ty cafwyd fod 136 yn erbyn. Gwnaed cynhygiad cyffelyb dros Bris- tol gan Mr. Berkeley, ond gwrthodwyd ef. Cynhygiodd Mr. Hibbert adran newydd i wneyd talu costau dygiad pleidleisiwr at y pawl yn annghyfreithlon, a chariwyd ef. Bu dadl faith nos Wener ar gynhygiad Mr. Lowe i alluogi pleidleisiwr mewn sir neu fwrdeisdref lie y byddo mwy nag un aelod i roi ei holl bleid- leisiau dros un ymgeisydd. Dywedai Mr. Bright ei fod yn edrych ar y cynhygiad fel ymosodiad ffyrnig ar egwyddorion cynrychiol- aeth. Oymmeradwyai Mr. J. S. Mill yr adran am y rhoddai gynrychioliad teg i'r lleiafrif. Barnai fod aiaeth Mr. Bright yn un hynod Geidwadol-y gyntaf a glywodd erioed yn dra- ddodi. Cefnogai Arglwydd Cranbourne y cyn- hygiad am y gwrthweithiai i raddau effaith jielaethiad yr etholfraint: ond mynai Mr. Dis- raeli ei fod yn hollol groes i holl egwyddorion cynrychioliad yr ysgrif. Collwyd ef trwy fwy- afrif o 141. Bu cryn ddadl yn Nhy yr Arglwyddi nos Lun ar weithrediadau y Ddirprwyaeth ar Dde- fodaeth. Dywedai Archesgob Canterbury y byddai i'r Llywodraeth ymgynghori a'r gymanfa eglwysig cyn gwneyd un gyfraith ar y pwngc. Parodd hyn i Esgob Carlisle rybuddio y Ty ar y perygl o oedi gyda drygedd o'r natur yma. Adgoffaodd Iarll Derby y Ty nad oedd y Senedd yn rhwym o ymgynghori a'r gymanfa eglwysig o gwbl ar y mater. Gohiriodd larll Shaftesbury ei gynhygiad am ail ddarlleniad yr ysgrif ar wisgoedd offeiriadol am wythnos yn mhellacli. -Dywedodd Canghellydd y Drysorfa yn Nhy y Cyffredin fod gostyngiad ar gael ei wneyd yn y llythyrdoll rhwng y wlad hon a'r America, sef o swllt i chwe' cheiniog, yr hyn a gymerai le ar y cyntaf o Ionawr nesaf; bwriedir gwneyd gostyngiad cyffelyb yn y llythyrdoll i Sweden, Denmark, a Holland. Cytunwyd ar yr ad- ranau yn analluogi y personau a gaed yn euog "o lwgrwobrwyaeth yn Totnes, Lancaster, Yar- mouth, a lieigate, i bleidleisio yn y gwahanol siroedd y perthynant iddynt. Yna gwnaed cyn- hygiadau i roddi un aelod ychwanegol i Hud- dersfield, Abertawe, a Clifton, ond methwyd a llwyddo. Cynhygiwyd gan Mr. J. B. Smith, i gael cau y tafarndai yn mhob man lie y byadai pawl, ar yr oriau y byddid yn polio dros y fwr- deisdref, y ddinas, neu y sir. Gwrthwynebwyd hyn gan Syr A. Agnew a Changhellydd y Dry- sorfa, a thynwyd y cynhygiad yn ol. Gwnaed cais gan Mr. Gladstone i gael rhanu swydd Lan- caster i ddau barth, ac i bob un gael dychwelyd tri aelod, ond methwyd a'i gario. Aflwyddianus hefyd a fu cais y Milwriad Gilpin fod i bedair o'r bwrdeisdrefi oedd nesaf uwchlaw deng mil o ran poblogaeth, oeddynt yn awr yn dychwelyd -dau aelod i gael dim ond un, ac i Luton, Keigh- ley, Barnsley, a St. Helen's i gael un aelod bob uu. Ymgyfarfu y Senedd am ddau o'r gloch ddydd Mawrth, a chyn saith o'r gloch pasiwyd yr Ys- grif Ddiwygiadol trwy y Pwyllgor, yn nghanol bloeddiadau o seddau y Weinyddiaeth a'r Wrth- blaid. Bwriedir anfon yr ysgrif i Dy yr Ar- glwyddi yr wythnos nesaf.
MARCHNAD LLUNDAIN.
MARCHNAD LLUNDAIN. Ddydd Llun diweddaf. Yr oedd llawer iawn o wenith tramor wedi ei ddwyn yno, ond ychydig iawn oedd o otyn am dano, oddigerth y math oreu o rawn yr hwn a wertbai am bris da. Nid oedd yno ddim haidd Prydeinig, ae ychydig iawn oedd o haidd tramor. Cadwai ceirch ei bris, ac yr oedd pob peth arall yn parhau yn gy- ffelyb.
MARCHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD.
MARCHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD. Dydd Llun diweddaf. Gw ARTHEG.-Marwaidd oedd yfasnach, am ostyng- iad o 2g yr 8 pwys. DEFAID.-Yr oedd y fasnach yn arafaidd am os- tyngiad o 2g yr 8 pwys. WYN.-Y fasnach yn sefydlog, a chedwid at y llawn brisiau. LLOL- Y eyflenwad yn gymedrol, masnach yn araf, a citedwid at brisiau diweddar. MocH.-Arafaidd oedd y fasnach, ond cedwid ar brisiau dydd Llun.
FFEIRIAU CYMRU.
FFEIRIAU CYMRU. Y rhai a gynnelir yr wythnos nesaf,
Y GOGLEDD.
Y GOGLEDD. Gorphenaf 14.-Llanrhaiadr yn Mochnant. 15.—Llanelwy 18.-Bethes(ia Y DEHEUDIR. Gorphenaf 15—Llansawel 16.—Penfro: Castell newydd yn N ghemes —— 17.-Wig —— 18.-Castell y maen; Hwlffordd. —- 19.-Boneath, Caerffili 20.-Castell newydd Emlyn.
Family Notices
tUtdt\1ndhnu. Gorphenaf 1, priod Mr. John Evans, Mill street, Liverpool, ar fab. Gorph. 3, priod Mr. Ebenezer Rees, 5, Great George st., Liverpool, ar ferch. Mehefin 30, priod J. Lewis, Ysw., Dolgoy, ar ferch. Mehefin 28, priod y Parch. R. Davies, gweinidog y Bedyddwyr, Maesteg, ar ferch. dodnnu. Gorph. 4, trwy drwydded, yn Bethel, Liverpool, gan y Parch. Noah Stephen, Mr. George Vail, St. John, New Brunswick, a. Miss Jones, merch henafy diweddar Cadben Jones, Plymouth. Mehefin 29, yn nghapel Tabernacl, Penybont-ar- Ogwy, gan y Parch. J. B. Jones, B. A., Mr. Richard Howell, o Tythegstone, a. Miss Ann John, o Lales- ton. Gorph. 3, yn Brynsion, Cwmbach, Aberdar, gan y Parch. J. Morgan, y gweinidog, Mr. Morris Jen- kins, a Miss Ellin Lloyd-y ddau o Cwmaman. Yn ddiweddar, yn Ty newydd, Mynyddislwyn, gan y Parch. E. Hughes, Penmain, Mr. Wm. Henry Powell, Ebbw Vale, a. Miss Sarah, Tregarthni, Pen- rhiwfainc, Mynyddislwyn. arwolatthnu. Gorph. 4, Anne Jones, priod Mr. Wm. Jones, melinydd, Llandrillo. Yr oedd yn lied afiach er ys blynyddoedd. Gorph. 4, Mr. Hugh Jones, Llandrillo, yn 84 mlwydd oed. Dyoddefodd wendid ac afiechyd am fisoedd. Gorph. 7, ar ol ychydig o wythnosau o afiechyd poenus a chyflym o'r tu fewn, Evan Pugh, mab Mrs. Gwen Pugh, Llandderfel, yn 16 mlwydd oed. Gorph. 7, yn 22, Rose st., Birkenhead, Mr. Henry George Davies, gor-wyr i'r Hybarch Henry George, gynt o Brynberian, yn 18 mlwydd oed. Z, Gorph. 6, yn 49, Henry st., Birkenhead, Thomas, baban Mr. David Evans. Gorph. 2, John, pedwerydd mab J. Buckley, Yswt Penyfai, Llanelli, yn 20 mlwydd oed. Mehefin 29, yn Mhontypridd, Mrs. Tanley, anwyl i 'iod Mr. C. W. Tanley, a merch Mr. John Thomas (leuan Ddu). Argraffwyd gan John Morris, yn ei swyddfa, 2 Chapel Walks, South Castle-street, Liverpool, droo "Gwmni y Newyddiadur Cymreig" (Cyfyngedig). jO
¿\dolygind a ng.
da,nghoswn yn ebrwydd. Un rheswm, i'n tyb ni, fod cyn lleied o ganiadau yn y Testament Newydd ydyw, am mai Llyfr Gyfraith yr Eglwys, gan mwyaf, hyd ddiwedd amser, ydyw'r Testament Newydd, tra y mae holl Psalmau, Hymnau, ac Odlau ysbrydol" yr Hen yn gyf- addas i'w canu dan y Newydd. (I'w barliau.)