Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
BRAIDD YN GAL ED AR Y PERSON
News
Cite
Share
BRAIDD YN GAL ED AR Y PERSON GWELAI y person fod yr hen ffarmwr yn y gongl yn metliu clywed y bregeth. Erbyn y Sul wed'yn, ceisiodd y person bibell, a gosod- odd hi o'r pwlpud i ymyl clust yr hen ffarmwr. Ar ol y bregeth, gofynodd y person i'r amaethwr sut yr oedd efe yn clywed y bregeth y diwrnod hwnw ? Yr hen wr a ddywedod ei fod yn gallu clywed y bregeth drwy y bibell yn-iawn, ond yr hyn oedd arno ef cisieu oedd, pibell a'i galluoga ef i ddeall y bregeth
MEDDWL MAI DYN OEDD SYR WATCYN
News
Cite
Share
MEDDWL MAI DYN OEDD SYR WATCYN YR oedd hen wreigan yn ceisio cario baich lied drwm i fyny gallt serth rhwng Dolgellau a'r Bala flynyddoedd yn ol. Rhoddodd y baich ar y wal mewn trefn iddi hi gael gorpnwys am ycliydig. Yn mhen tua deng mynyd dyma ddyn ati gan ofyn, "A gaf fi eich helpu i gario y baich?" Cydsyniodd yr ben wreigan yn y fan. Cymerodd y dyn y baich, ac yn ei flaen ag ef. Cyrhaeddodd ben yr allt, ac yna rhodd- odd y baich ar y wal. Diolch yn fawr i cli'i. Mi fuaswn dymuno gwybod pwy ydych chwi yn yn fawr iawn, er mwyn i mi gael dyweyd wrth y gwr acw." Syr Watcyn fyddant yn fy ngalw," ebai y dyn. Gwarchod pawb, syr, mi feddyliais i mai rhyw ddyn oeddych chwi," atebai yr hen wreigan nitwn syndod.
AMRYWIAETH MESURAU
News
Cite
Share
AMRYWIAETH MESURAU MAE can hirfaith ar yr un mesur, ac araeth hirfaith yn yr un doniad, o'r dechreu i'r diwedd, yn flinderus i natur. Yr ydym yn blino yn foan wrth deithio drwy wlad eang- wastad, lie nad oes na bryn, na chlogwyn, na glyn i amrywiaethu ac i ysgafnau yr olygfa. Gwastadrwydd ac unrhywiaeth golygfa oddeutu Caergrawnt, a barai y fath Hinder i yspryd yr enwog Robert Hall, fel y tybiai y buasai yn achos o fyrhau ei oes, oni symudai. Mae yr un modd yn union yn yr achos dan sylw. Coll Gwynfa," a 11awer o brif orchestion "y beirdd Seisnig, ydynt edafedd gwastad ungainc, wedi eu nyddu ar droell y mesur diodl (blank verse), neu, fel y galwai pin bardd o Bantycelyn hi, y gan benrydd." Gwedda hyn braidd yn well i'r bardd Seisnig, am foclcyfatebolrwydd rhwng ei gan ag agwedd arwynebol ei wlad. Disgwylir i gyfansoddiad y bardd Cymreig yntau ddwyn delw ei fro gynhenid, a bod ynddi arnrywiaethau cyferbyniol i'w myn- yd dan, a'i glynau, a'i dyffrynoedd. Nid ydym mown un modd yn bleidiol i arosodiad y pcdwar mesur ar liugaiu yn ffurflywodc- aeth barddoniaeth Gymraeg ond i'r gwrth- wynob, ardystiwn yn erbyn parhad y gyfraith hon fel iau ar warau disgyblion yr awen, ar gyfrif gorgaethder y rheolau. Ond eto, y mae cryn lawer o farn a chwaeth athronyddol yn ganfyddedig yn ffurfiad y cyfangorph hwnw o fesurau ar gyfrif y mawr amrywiaoth-amrywiaeth graddau a ffurfiau yn gystal a rhif. Mae yr olwg i'r llygad ar awdl gyfansoddedig arnynt ryw- betli yn gyffelyb i olwg gwynoh ein gwlad hoffusaf. Addefwn hefyd bod rhai o'r mesurau yn dra rliagorol, a sain eu cynghan- eddion yn felns-odiaeth, pan fyddo gwir fab yr awen wedi bod yn ou plethu. Ond gellid ffurfio y gan ar fesurau rhyddion yr un mor adfywiol i'r llygad a'r glust drwy eu ham- rywio ynddi. Mae newid y mesur hefyd yn ysgafnhad adfywiol i'r bardd ei hun Virth gyfaosoddi, Diareb yn mysg gweithwyr yw bod newid gwaith cystal a gorpliwysac y mae newid y dull o weithio yr un modd. Dyn, wrth gludo pren trwm, a'i newidia o'r naill ysgwydd i'r llall, ac a'i dwg felly i benei yrfa yn gynt, ac yn llawer mwy diboen iddo ei hun, na phe cedwid ef ar yr un ysgwydd o hyd. Y mae naturiaeth ei hun" yn dysgu i ni lawer o wersi pe yr edrychoin ac y gwrandawsem arni.—GWILYM HIUAETIIOG.
Advertising
Advertising
Cite
Share
PWYSIG I HYSBYSEBWYR. YR HERALD CYMKAEG (A sefydlwyd yn 1854, ac a helaethwyd yn 1859, 1865, 1878, 1887, 1890, a 1892) YW YR IIYNAF, MWYAF, RHATAF, GOEEU o'r Wytbncsolion Cymreig1, AC HEFYD EANGAF EI GYLCHREDIAD. 64 o GOLOFNAU HIRION. Bon DYDD MkWRTH CEINIOG. Yn Eisiau Dosparthwyr a Gohebwyr He nad oes rhai eisoes. Cyhoeddwr—DANIEL REES, Carnarvon. Save vour Lives by taking OWBRIDGE'S Th" Owbridge's LUNG TONIC. HAVE YOU A COUGH? A DOSE WILL RELIEVE IT. HAVE YOU A COLD ? A DOSE AT BEDTIME WILL REMOVE IT. Sold Everywhere. 1/1 J, 2/9, 4/G, 11/- per bottle. CARNARVON & DENBIGH HERALD. ESTABLISHED 1831. (English.) Fric'ay, 2 Receives the Official Advertisements of four counties; also Government, Legal, and Auction Advertisements, &e. The Times describes this as "the lead. ing paper in the northern half of the Principality." The Manchester Examiner also states that it is "the leading Liberal organ for North Wales." "The leading Liberal paper in North Wales. "-Liverpool Evening Express. Publisher—DANIEL REES, Carnarvon
Y BRIODAS ORFODOL
News
Cite
Share
Y BRIODAS ORFODOL MERCH ieuanc, wedi ei gorfodi gan ei pherthynasau i briodi lien wr cyfoetliog, pan ofynwyd iddi wrth yr allor, A fyni di y mab hwn yn wr priod i ti ?" a roddodd yn ateb i'r offeiriad, Yn wir, syr, yr ydych cliwi yn fwyn a charedig wrthyf; dyma y tro cyntaf y gofynwyd y cwestiwn hwn i mi."
ASYN YN MYSG Y MEIRCH
News
Cite
Share
ASYN YN MYSG Y MEIRCH PENDEFIG enwog am gefnogi rhedegfeydd ceffylau a gyfarfu a'i hen athraw yn y coleg unwaith yn nghanol ffair ccffylau. Ha, doctor," eb3 ei arglwyddiaetb, "beth a'cli dygodd chwi ymaith i blith y ccffylau ? A ailwcli chwi ddyweyd mewn difrif y gwahaniaeth rhwng asyn a cheffyl ?" "0, gallaf," atebodd yr athraw; "mi a'ch ad- nabum ehwi yn union."
¥-YMWELlAD A GWALLGOFDY
News
Cite
Share
¥- YMWELlAD A GWALLGOFDY NID aethom ond i edrych am y gwallgofiaid ag oeddynt dan ofal y teiliwr y tro hwn. Dywedodd y teiliwr bethau rhyfedd iawn wrthym. Yr oedd ganddo ddyn ieuanc tua 23 mlwydd oed dan ei ofal. Ceisiai ei ddysgu i wneyd dillad. Y foment y troai y teiliwr ei olwg ymaith, byddai i'r dyn ieuanc hwn gymeryd y siswrn mawr, a thori twll yn ei fraich, nes y rhedai y gwaed hyd y dillad ac ar hyd y bwrdd. Cael gwaed oedd prif amcan y bachgen. Lie bynag y byddai, gwnai ei oreu i ollwng gwaed o'i wytliienau, a lliwiai y dillad fyddai ganddo a'r gwaed. Pan y mesurau y teiliwr un dyn am siwt o ddillad, dywedai y truan wrtho fod un goes iddo yn llai na'r llall o dair troedfedd Un tro, mynai un arall mai ei got oedd ei lodrau, a cheisiai roddi ei goesau yn llewis y got. Er mwyn ei berswadio yn garedig i beidio gwneyd y fath beth, dywedodd y teiliwr wrtho fod y ffasiwn wedi newid! Yr oedd yno un dyn ag oedd wedi bod yn werth 100,000p. Gwariodd hwynt oil mewn oferedd. Ei bleser ef oedd cymeryd rhyw ddarn o bapyr ac ysgrifenu arno fel yr ysgrifenir ar cheque. Byddai y teiliwr yn gwneyd bill mawr iddo—weithiau am 200p a thalai yntau ef trwy wneyd cheque am y swm. Pan aeth y teiliwr i fesur un o'r gwallgofiaid, gwelodd ei fod wedi codi darn o'r gwely haiarn i fyny mor uchel a'i ben, ac os na wnai y teiliwr bob peth yn unol a meddwl y gwallgofddyn, deuai y darn gwely i lawr ar ei ben. Diangodd y teiliwr am ei hoedl, a rhedodd i lawr y grisiau. Taflodd y gwallgofddyn y darn gwely ar ei ol!