Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

DIANGFA O'R DANCHWA

News
Cite
Share

DIANGFA O'R DANCHWA [BUDDUGOL] WYT ti yn barod," meddwn, wrth William ty nesaf, tra yn cilagor drws ei dy un boreu tryniaidd. Ydwyf," meddai, yn bur agos. A ydyw hi wedi 11 caiiti pump o'r glocli." "Ydyw, newydd wneyd 'rwan," oedd fy atpb, tra y deuai William allan o'i dy gan ddyweyd "borsu da" wrth ei briod, yr hon a'i dilYlai i'r drws i edrych ar ei ol, gan gario a cliofleidio baban bach, eu cyntafanedig. Felly prysurasom allan o olwg ein cartref- leoedd i fyny yr allt ac i lawr y bryn i'r dyffryn islaw at ein gwaith. Rhaid oedd bod wrth enau y pwll glo cyn chwech o'r gloch y boreu. Ymunwyd a ni gan amryw ereill o'n cyd- Aveithwyr aiddgar, ac yr oedd y rhan fwyaf ohonom yn ysmygu ein goreu ac yn gollwng colofnau o fwg dros ein hysgwyddau, a gallai rhywrai a ddeuai y ffordd hono ar ein holau dybied fod rhyw agerbeiriant trystfawr wedi myned o'n blaen, gan gymaint o fwg a ym- gollai dros gopa y bryn o'n holau. Yr oedd ein hymddiddanion wrth fyned i'r gwaith yn amrywiol iawn. Yr oedd William a minnau yn brysur son am yr helynt codi blaenoriaid fu yn y capel y noswaith gynt. Ac fel yr oedd rhai brodyr crefyddol (?) yn medru bod mor bigog gyda eu tafodau y naill wrth y llall; ac fod rhai wedi ou codi i'r swydd nad oeddynt erioed wedi meddwl na breuddwydio am hyny. Ereill wedi eu digio yn arw am nad oedd yr eglwys wedi gweled y nhw yn fwy cymhwys o lawer i gael 110 yn y set fawr. Ac yr oeddym ein dau yn mawr ganmol ac cdmygu y dull doeth a pha un y dygodd ein gwcinidog newydd yr holl helynt i ben gyda gradd o foddlonrwydd. Wedi i ragor ymuno a ni, newidiwyd yr ymddiddan yn fwy cyffredinol. Siaradai rhai yn fywiog am yr eisteddfod oedd i fod yn yr ardal yr wythnos ddilynol, ac am y parotoadau mawr ar gyfer yr wyl, yn neili- duol felly gan wahanol gorau yn y cymydog- aethau cylchynol. A mawr oedd eu dyfaliad pwy fyddai y bardd cadeiriol." Ereill yn brysur siarad am brif bynciau y dydd, Ymreolaeth i'r Werddon," Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru," &c. Ac yn wir, yr oedd rhai mor frwd dros eu golygiadau, nes bod yn barod i'w hymladd hi allan a tliraed a dyrnau. Tynwyd ein sylw fwy nag unvvaith gan cliwerthiniad uchel, ac ambell i reg, a ll\v herfeiddiol yn dod o enau rhai o'r gweitli- wyr oeddynt yn brysgyfeirio at y gwaith ar y blaen i ni. Rhedegfeydd ceffylau a chwn, &c., oedd yn cael yr holl sylw ganddynt hwy. Mynychwyr "conglau yr heolydd" a thafarnau isel y pentref gerllaw oedd y rhain ac yr oedd eu hoernadau annymunol yn codi arswyd arnom wrth eu clywed mor anystyriol. Sylwasom amryw weithiau yn ngwrs ein hymddiddanion fod y boreu yma yn edrych yn fwy tawel, swrth, a chysglyd, a'r awel braidd yn rhy ddiog i symud. Llanwyd ein calonau a braw a dychryn pan gyrhaeddasom at enau y pwll, a deall fod cannoedd ereill o'n cydweitliwyr dewr wedi sylwi yn neillduol ar arwyddion o'r tywydd y boreu hynod yma, canys ar dywydd tebyg a geir yr hudir y nwy i danio, yr hyn a gynnyrcha y danchwa. Ac ychwanegwyd ein hofnau yn fwy wrth glywed rhai tua genau y pwll yn son am y tywydd a ddigwyddai fod cyn y gwahanol ddamvveiniau o daniad y nwy, a'r canlyniadau difrifol o hyny mown lleoedd creill dro ar ol tro. Gwelem hefyd rai gweithwyr dewr yn troi yn ol tuag adref, er wedi dod at enau y pwll. Ond penderfynasom ni fyned i lawr, doed a ddelo. Yr oedd y ffaith fod genym wraig a chwech o blant bach ar banner on magu yn ein symbylu at ein gwaith, gan roddi ein holl ofal i'r Arglwydd, yr Hwn y buom yn ceisio ei addoli ar yr allor deuluaidcl" cyn troi allan o'n cartref clyd; gan gysuro ein hunain, liefyd, fod ein Duw ni yn dal ac yn llywodraetliu y nwy fel pobpetli arall o'i ciddo yn ol ei ddwyfol ddoetliineb. Yr oedd y prif swyddogion, y rhai oedd yn arolygu y gwaith, yn ymddangos yn fwy prysur nac arferol, ac yr oodd arehwiliad manwl yn cael ei wneyd ar ein llusernau, a oeddynt yn berffaith ddyogel, wedi eu cloi yn briodol, &c. Yr oedd y dynion oedd yn arfer gweitliio yn y nos wedi dod i fyny i gyd, a phawb ohonynt yn tystio fod pobpstli yn eitliaf dyogel. Aetli rhai o'r swyddogion, fel arferol, i lawr o'n blaen ni i wneyd arcliwiliad manwl a gofalus ar wahanol ranau o'r pwll, a daethant yn ol gyda hysbysrwydd fod yr holl waith yn ymddangos yn bur ddyogel, ac fod digon o wynt (i'r graddau gofynol) yn mhob man drwy y gwaith. Yna, dechreu- asant ein gollwng i lawr (deg ar unwaith) yn y cerbyd, a buan iawn yr oedd cannoedd ohonom wedi cael ein hunain yn ngwaelod y pwil glo. Yr oedd tua pump cant o ddynion wedi dod i lawr y boreu hwn, yn ol y cyfrif swyddogol a gaed ar ol hyny. Chwe chant o latheni oedd dyfnder y pwll, a thua deg llath oddiwrth ei waelod yr oedd caban wedi ei naddu mewn craig. Ac yr oedd yn rhaid i bob un ohonom roddi ein llusernau yma eto i gael eu harchwilio, cyn y gallem gael myned gam yn mlieilach i'r gwaith. Oherwydd fod y pwll mor ddwfn yn y ddaear ac wedi ei weithio mor bell o enau y pwll (canys cymerai i ni tua deugain mynyd o amser i gyrhaedd pen draw y gwaith), naturiol felly, fpl y mae llawer o byllau glo, ei bod yn boeth iawn yn y rhanau pellaf o'r gwaith. Ac yr oedd yn arferiad genym dyuu rhai o'n dillad uchaf a'u rhoddi mewn lie dyogel gerllaw y caban; ac wed'yn, myned at ein gwaith, naill yn dilyn y llall, fel defaid i'r gorlan, gan fod y gwahanol ffyrdd mor gul ac isel. Cyrhaeddodd pawb fel arferol eu gwahanol leoedd i weithio mewn chwys a llafur maAvr. Yr oedd William ty nesaf a minnau yn gweithio gyda'n gilydd; ac wedi i ni gyr- haedd ein lie, y petli cyntaf a Avnaetliom oedd tynu y gweddill am danoni ag eitlirio ein llodrau isaf a'n hesgidiau; byddem braidd yn noethion bob amser wrth weithio. Rlioddasom ein dillad, sef ein crysau, yn ymyl ein bwyd a'n diod, ond yr oeddem yn gofalu fod ein diod yn agos atom bob amser, achos yr oeddem yn yfed tua dau chwart o de (blawd ceirch a dwfr oer weitliiaii) bob dydd, gan fod y lie mor boeth, sych, ac yn llychlyd iawn liefyd, Buan y torwyd ar y distawrwydd prudd- aidd deyrnasai drwy y gwaith ychydig yn gynt gan swn y gwageni glo yn chwyrnellu allan tua gwaelod y pwll; pob olwyn ac echol ar lawn gwaith. Yr oedd bywyd wedi cymeryd meddiant hollol yn mhob rhan o beiriannau y gwaith. Swn tinciadau ein heirf fel clychau soniarus yn disgyn ar dabwrdd ein clyw. Yn ol cynllun o gario y gwaith yn mlaen, yr oedd y brif ffordd yn rhedcg tua phedwar cant o latheni o bob ochr i'r pwll, un i'r cyfeiriad dwyreiniol, a'r llall yn orllewinol. Ac yr oedd fforcld i lawr ac i fyny o ben draw y brif ffordd ar bob ochr fel eu gilydd. Yr oedd William a minnau yn gweithio i lawr yr allt y tu dwyreiniol i'r pwll, ac yn y fynedfa isaf o'r cwbl; ac yr oeddem yn gweithio ein glo i gyfarfod ereill oedd yn gweithio yr ochr arall i'r pwll ar yr un cynllun a ninnau. Aeth pobpeth yn mlaen yn bur foddliaol, fel arferol. Rhai yn brysur dori glo, a'r nwy yn berwi allan ohono, gan ei wneyd i raddau yn bur hawdd ei gael yn rhydd. Ac wrth fod y glo yn ymollwng mor rhwydd, yr oedd y graig uwchben yn bur beryglus, fel yr oedd yn rhaid i ni fod yn dra gofalus yn y lie, a gosod digon o goed pwrpasol i gadw y lie yn ddyogel. Yr oedd William yn brysur dori glo, a minnau ychydig bellder oddiwrtho yr un mor brysur yn gosod coed. Yr oeddAvn i rai blynyddoedd yn liynach nag ef; felly, yr oeddwn yn liawer mwy profiadol, ac wedi bod yn gweithio i lawr y pwll glo er pan oeddAvn yn fachgen deg oed. Ac, fel rlieol, gorchwyl yr hen lowr ydyw gosod y coed ac edrych a fydd y lie yn cael ei weithio yn y dull mwyaf dyogel. 0 Dyna oeddem yn ei wneycl ar y pryd, pan, er ein dychryn, dyna ffrwydriad, yn cael ei ddilyn gan glee megis taran arswydus, ac fel pe bai daeargryn yn siglo pobpotli o'n lianigylch. Nis gallem yngan yr un gair y naill wrth y llall, gan faint oedd ein dychryn. Yr oedd ein lianadl yn croni yn ein gyddfau, a'r chwys fel dafnau oerion yn byrlymu allan drwy ein cyfansoddiad cyn i ni braidd sylweddoli ein sefyllfa. Ar y foment dyma yr ieuengaf o'r ddau oedd yn gweithio yn y lie agosaf i ni yn rhedeg atom gan waeddi. Mae y pwll ar dan," ac ymaith ag ef, yn cael ei ddilyn gan William ty nesaf. Yn union ar ol hyny daeth y glowr arall ataf, ac ymaith a ninnau heb golli dim amser, gan adael ein crysau, bwyd, a diod, a phobpeth arall ar ol. Rhedegfa am fywyd oedd hi. Syrthiasom lawer gwaith, gan anafu ein hunain yn drwm, ond nid oeddem yn teimlo liyny, gan fod cael diangfa o'r danchwa yn gorbwyso pobpoth. Rhaid cofio ein bod ar y pryd yn nghanol tywyllwch dudew. Yr oedd goleuni ein llusernau wedi cael ei daro allan drwy y cynliyrfiad annisgwyliadwy. Yr oeddem yn barhaus yn taraw ein penau naill ai yn y nenfwd neu yn ochrau y ffordd yr oeddem yn ceisio diangfa. Ac yn wir, teimlem y gwaed yn rhedeg o walianol ranau ein cyrph. Er hyny, ymbal- falu yn mlaen yr oeddem, gan ddilyn degau oeddent wedi ein rhagflaenu am enau y pwll.