Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

DIANGFA O'R DANCHWA

News
Cite
Share

Gorfu i ni roddi i fyny geisio dianc y ffordd hono, gan fod y rhaff oedd yn tynu y gwageni glo i fyny'r allt tua'r pwll wedi cael ei dadgysylltu yn rhywle tua'r brif-ffordd ac yr oedd rlianau ohoni wedi cyrdeddu am y coed oedd hyd ochrau ffordd ein diangfa. Ac wrth i ni yn ein prysurdeb geisio rnyiiu eiu ffordd yn mlaen, cawsom ein hunain yn rhwym. gan ddarnau o'r rliaff. Ac yr oedd hyn yn anffawd fawr i ni yn ein liymgais am ddiangfa. Nid oeddem yn gallu dirnad yn mlia le ar y ffordd yr ocddem, pa un a oedd yn lie dyogel ai nad oedd. Rhaid oedd bod yn rhwym i'r dynged o farw arswydus oedd yn ein liaros. Nid anghofiaf byth y mynydau difrifol hyny, yn nghanol y tywyllwcli eithaf ac yn metliu myned yn mlaen yr un fodfedd ac ar yr un pryd yn clywcd twrf cwympiadau mynycli heb fod yn mhell oddiwrtliym. A mwy difrifol o lawer oedd clywed ocheneid- iau a gruddfanau amryw oeddynt eisoes wedi cael eu dal gan y tan difaol. Hyny megis yn ein rliybuddio i baratoi ar gyfer y gwaetliaf. Braidd nad oeddwn yn clywed llais William druan, gan ci fod gyda'r mwyafrif wedi bod ar y blaen yn rliedeg ac felly, mown an- wybodaetli a dycliryn, wedi rhedeg i ganol yr oddaitli, ac megis i gofleidio ei angau disymwtli. 0 Er cymaint oedd ein pryder a'n hofnau, nid oedd hyn yn ddim i'r hyn y gorfu i ni ei ddioddef yn mhen rhai mynydau wed'yn. Ystyrid y glowr oedd yn digwydd bod gyd mi ar y pryd yn ddyn o bwyll a pliresennoldeb meddwl tuhwnt i neb mewn achosion o'r fath. Tom," meddai wrtliyf, dy-una hi wedi dod yn ddifrifol iawn arnom, ac y mae yn bwysig i ni baratoi erbyn y gwaethaf." "Y—y—y—d.yw," meddwn. Draidd y gallaswn gael gair allan o fy ngenau. AV, el, meddai wed'yn, "gallaf farnu mai yn rliywle yr ochr arall i'r pwll y mae hi wedi tanio felly, oferedd i ni geisio cael gwaredigaeth wrth fyned gam yn mliellach pe byddai i ni gael ein hunain yn rhydd o afaelion y rhaff yrna! A gwyddost, Tom," meddai yn mliellach, "fod llawer iawn o nwy i fyny yr allt o'r brif ffordd, achos mae y gwynt yn ei hel o i fyny o bob man arall! Ust!" meddai, "dyna dwrw rhywrai yn dod atom Ac felly yr oedd. Tri ereill o lowyr oeddant, yn cliwilio am le o ddyogelwch fel ninnau, ac wedi cael eu dyrysu yn hollol. Nis gallem weled pwy ooddent, wrth gwrs, gaii nad oedd gcnym oleuni, ond daetliom i cldeall pwy oedd y naill a'r Hall yn union deg. Wedi i ni gael byr-ymgynglioriad a'n gilydd, ac i'r tri wneyd eu goreu nes ein cael ni yn rhydd o gaethiwed y rhaff, penderfyn- asant hwy weithio eu ffordd drwy un o'r mynedfeydd ar yr ochr aswy i ni. Ac or pob ymgais i geisio ou perswadio gan fy nghyd- ymaitli, ymaith yr aethant; ac fel mae yn alarus dyweyd, dyna yr liancs olaf am danynt yn fyw. Yr oedd y cyfeiriad oeddent hwy wedi ei gymeryd, yn ol ein tyb ni, yn arwain i'r man ag y tybiem oedd wedi achosi y ffrwydriad. Amcan fy nghydweithiwr, a'r hyn oeddwn yn cydsynio, oedd cael mynedfa i'r ochr arall i'r allt, gan ddilyn llwybr y gwynt. Ymaith a- ni gan afael yn dyn yn llaw naill y llall, rliag colli ein gilydd, ac a'r llaw arall yn teimlo ein ffordd yn mlaen. Felly yr aethom am gryn bellder, ond cawsom ein hunain yn fuan wedi myned i ben draw y ffordd hono. Ac yr oeddem wedi colli cyfeiriad y gwynt hefyd rywfodd. Lie an- nioddefol o boeth ydoedd hefyd wedi i ni golli o lwybr y gwynt. Rhoddasom bob gobaith am gael gwaredigaeth i fyny yn y cyfeiriad hwnw wed'yn. Oferedd hollol oedd meddwl am symud i unlle arall, gan yr ofnem gyfarfod ein diwedd, canys yr oedd y rlian hono o'r gwaith yn ddieithr i ni. Ac yn wir, nid oeddem wedi cael hyd i'r cyfeiriad oeddem yn ei fwriadu ar y cyntaf i sicrwydd. Yr oeddem yn dyrysu yn gyfangwbl, drwy ein bod wedi myned o'r gwynt mor sydyn, ac ofn cael ein hamgylchynu gan y tan oedd mewn rhwysg a mltwrodd iiiewii rhana-Li ereill o'r gwaith. Gwnaethom ein hunain mor barod ag oedd yn bosibl yn y fath le, a than y fath amgylchiadau, gogyfer a'r hyn oedd yn ymddangos yn sicr o'n gwneyd yn aberthau byw ar allor y fflamau. Yn ffodus, cawsom afael wrth deimlo y lie oddiamgylch i ni, ar ddarnau o liain a sacliau, a pha rai yr arferir rhwystro i'r gwynt fyned un ffordd a'i droi i fyned drwy le arall, pan fyddo hyny yn angenrheidiol. Darfu i ni amgau ein hunain gystal ag y gallasem a'r fath ddefnyddiau, fel nad oedd un fodfedd olioiiom yn y golwg; a'r amcan wrth wneyd felly oedd, rhag i'r tan difaol gael y fantais hollol ar ein cyrph noethion. Rhaid cofio hefyd ein bod yn gwneyd hyn oil mor brysur ag oodd yn dclichonadwy. Yr oeddem yn ymwybodol fod adeg ddi- frifol iawn yn ein haros, ac fod hyny yn ymyl. Braidd nad oeddem yn arogli y mwg ac yn clywed y coedydd preiffion yn rhoddi ffordd, yn clecian a'r creigiau uwchben yn dymchwel yn rhugl-drwst i lawr, yn ein hymyl bron ar ein gwaetliaf. O adeg 171 ddifrifol i feddwl am dano, pan oeddem yn yr agwedd a'r sefyllfa ddifrifol hono. Pob gobaith am waredigaeth wedi ein gadael am bytli. Marwolaeth a'i ganlyniadau i gyd yn glir o flaen golygon ein meddwl, a'r hyn y buom yn ei glywed a'i ddarllen am ddioddef- iadau miloedd ereill mewn amgylchiadau o'r fath yn brysur ymrithio ol a blaen yn ein cof, nes ein gwneyd bron yn gwbl wallgof. z, O'r diwedd, teimlem y gwres yn nesu, yn cael ei yru o flaen y tan megis i'n rliybuddio o'i ddyfodiad, ac yn cymeryd meddiant llwyr a hollol o'r gornel oeddem yn ceisio llecliu ynddi. Yr oeddem wedi gwtbio path o'r llian i'n genau rhag i'r fflam yn ei gwallgof- rwydd fynu ei ffordd i lawr ein gyddfau. Ond pan ddaeth y tan, gwnaetli fyr waith arnom drwy walianol blygiadau ein bamwisg fregus. Ni raid i mi ddyweyd, neu geisio darlunio, ein teimladau ar y pryd. Mae iaith yn metliu. Duw yn unig wyr pa faint a ddioddefasom. Y cwbl a allasem wneyd oedd anfon ocheuaid i fyny i'r net fel yr unig Ie am gysur, a cliael gwaredigaeth o'r awr hono allan os oedd hyny yn uuol a'i ewyllys Ef. Collasom ein hymwybyddiaetli yn llwyr. A phwy ailasai beidio ? 'Roedd ein synwyrau wedi myned ar ffo. A hawdd y gall pawb gredu liyny pan ystyrir fod yr hyn oedd genym am danom wedi cymeryd tan, gan fod y lliain a'r sachau liyny wedi cael eu trwytho ag olew, gyda'r amcan o rwystro i ddim gwynt fyned trwyddynt. Nid wyf yn cotio dim yn mhellacli ond yr hyn a glywais gan y rhai a ddaethant i'n gwaredu wed'yn, pan oedd estyn ymwared i ni braidd wedi myned yn rliy lrwyr. Ymddengys fod pob brys wedi cael (i wneyd i estyn gwaredigaeth i ni gan bawb yn ddieithriad. Pan ddeallwyd fodtancliwa wedi cymeryd lie, ac fod y fflamau angerddol fel seirph yn ymryson am y cyntaf i fyny y pwll, gan ysgubo pobpeth o'u blaen, gwelwj d ar unwaith fod yn anmliosibl estyn cyn- northwy drwy y pwll y daethom i lawr. Penderfyuwyd, gan hyny, fod yn bosibl myned i lawr drwy hen bwll glo arall oedd heb fod yn bell iawn, ac fod sicrwydd swyddogol fod ffordd i fyned o'r naill i'r llall, ond eu bod wedi gwneyd wal tua plied air troedfedd o driyeh yn y tcrfyn rhwng y ddau bwll, gyda'r amcan o gael y gwynt i reol- eiddio y pwll yr oeddem ni ynddo. Ac fel yr oedd llaw Rhagluniaeth yn amlwg iawn yn ein gwaredigaeth, yr oeddem ni ein dau wedi myned liycl y ffordd oedd yn arwain i'r pwll arall. A thrwch y wal hono oedd rhyngom a cliael diangfa llwyr. Pan ddaethant drwy yr hen bwll a tlirwy un o'r mynedfeydd oedd yn arwain yn union- gyrchol at y mur yma, dechreuasant a'u holl egni i symud y baw a'r cerig, or mwyn cael rhydd-fynedfa i fan y gyflafan. Wcdi symud ychydig o'r mur, clywent er eu syndod, ein gruddfanau a'n liocheneidiau yn mliangfeydd marwolaeth. Adnewyddwyd eu hegni wrth ein clywed, gan yr awydd am estvn ein awaredigaetli. Ni oedd y ddau gyntaf gafwyd i oleuni dydd. Felly, daeth help i ni mewn amsor, cyn i ni gael ein mygu gan yr hyn sydd yn dilyn y ffrwydriad, ac yn lladd mwy o lawer nac y mae y tan yn ei wneyd. Lladdwyd tua pedwar cant o bobl drwy y ddamwain hono, mwyafrif ohonynt yn gwneyd i fyny y nifcr o'r rliai oedd wedi cael y blaen arnom ni pan yn ceisio rliedeg tua gwaelod y pwll. A'r rliai a achubwyd oedd yn digwydd bod yn y cyfeiriad peliaf i'r gwaith, yn y rhan hono lie y daetliant o liyd i ni. Gofidus ydyw ychwanegu enw William, druan, yn mysg y lladdedigion, y rliai a ddarganfyddwyd, neu, yn liytracli, eu gweddillion, yn mhen chwe diwrnod ar ol y ddamwain. Yr oeddent wedi claddu pob un a gafwyd i fyny o'r pwll yn farw cyn i mi gaol dim liys- bysrwydd, gau nad oeddwn yn ddyogel i dderbyn y fath newyddion calon-rwygol, oherwydd fy mod mor wan a oliynliyrfus, ac mor ofnus ar ol y ddamwain.. Bu rhaid i mi fod yn yr yspytty perthynol i'r gwaith am lawn bedair wytlmos cyn y caniatawyd i fy mhriod anwyl gaol fy ngweled o gwbl. Yr oedd y rhan fwyaf ohonom a aclELwyc1 yn edrych yn fwy tebyg i'r gloyn du o lawer nag i fodau dynol. Dyma y cwbl allaf ddyweyd mewn iaith ar liyii o bryd; and yr adgof am hyny a erys byth, a'r pa fodd y cefais ddiangfa o'r danchwa. TOM,