Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

GO' GLYNOGWY neu 'Nid Clan…

News
Cite
Share

GO' GLYNOGWY neu 'Nid Clan ond Clan a Calon' PENNOD XV. GWELL YR HEN GARIAD NA'R UN. ARIWYD yr haidd i gyd o'r diwedd, ac yr oedd prysurdeb y cynhauaf wedimyn'd drosodd. Dechreu- odd y coed golli eu dail, daetli y dyddiau yn fyrion, a tlieimlid cwinedd y rhew a'r barug yn yr awelon hyd yn nod cyn i'r rhew ei hun wneyd ei ymddangosiad. Yr oedd Gwyl Mihangel wedi pasio, ond heb i'r tenant newydd dymunol hwnw ddod i Penybryn, ac wedi'r cwbl, yr oedd yr hen Sgweiar wedi gorfod rhoddi dyn yn y fferm i edrych ar ei hoi, hyd nes y caffai hamdden i wneyd rhyw gynlluniau newyddion, y mae yn debyg, Yr oedd pawb drwy'r ddau blwyf yn gwybod fod cynlluniau yr hen dir-feddiannvdd cvbyddlyd ac agos ato ei hun wedi cael eu llwyr ddyrysu gan John a Mrs Prydderch, ac yr oedd araeth yr olaf i'r meistr tir wedi cael ei hadrodd drosodd a throsodd yn mron bob ty yn y ddau blwyf, ae, wrth gwrs, wedi cynnyddu 0 ran hyd a gerwindeb ei geiriau nes dod yn araeth fythgofiadwy yn yr ardal- oedd tawel hyny, ac nid oedd yno neb ar nad oeddynt yn barod i guro cefn Mrs Prydderch am ei siarad plaen a gonest wrth y gwr mawr, er fod pawb yn credu y byddai y gwr mawr hwnw yn sicr 0 gofio am yr araeth pan dcleuai yr adeg i adnewyddu prydles Bodeinion. "Mi rown i bension am 'i hoes i Mrs Prydderch pe baswn i yn gyfoethog," obai yr hen Mrs Prys wrth y Parchedig Mr Prys, ei mhab, un boreu, ac mi fasa'n dda gin i pe tae bosib' ei gwa'dd hi yma rw ddiwrnod gael i mi glywed ganddi hi ei hun be dd'wedodd hi wrth yr hen grafanc crintach." Teweh, mam," atebai'r person peid- iwch siarad fel yna. Hyny ydi, peidiwch myn'd mor bell. Ma'n rhai'd i mi addef i'r Sgweiar gael perffaith gyfiawnder oddiar ddwylo Mrs Prydderch, ond wed'yn, dull a,freolaidd oedd ganddi hi o weinyddu cyf- iawnder, a thai hi ddim i mi, fel ustus heddwch, i gefnogi hyd yn nod eyfiawnder afreolaidd. Pobpeth yn weddaidd ac mewn trefn, wyddocli. Dyna fel y mae'r 'Sgrythyr yn ein dysgu, onide ? Ac heblaw hyny, pe dae'r stori yn myn'd allan fy mod i yn cymeryd sylw o'r cweryl, mi gollwn i hyny o ddylanwad sydd genyf gyda'r hen' wr byneddig." Ond be dae o yn troi Prydderch o Fodeinion Gwyl Mihangel nesa' ?" gofynai Mrs Prys. 0, rhaid i hyny beidio cymeryd lie. Mae Prydderch yn denant mor dda fel na tlirydd y Sgweiar mohono i ffwrdd ar chware bach. Ond pe dae o yn rhoi notis iddynt i 'madel, bydda raid i Einion a minna neyd ein gore i'w berswadio i beidio. Rhaid i ni beidio colli hen blwyfolion mor dda a theulu Bodeinion." Wel, ie ond, ran hyny, mae blwyddyn hyd Wyl Fihangel nesa', a 'does neb \vyr beth all fod wedi digwydd cyn hyny," meddai Mrs Prys. Mae y Sgweiar yn heneiddio yn arw er's tro bellach; ac, wir- ionedd i, mae o wedi cael oes dda liefyd; mae o rwan yn dair a phedwar ugian. 'Does gan neb ond merched hawl i fyw mor hir, yn 'y meddwl i." Ydyw, y mae o yn hen iawn," atebai Mr Prys. Glywsoch chi be ddeydodd Mrs Prydderch wrtho yn nghylcli liyna ? Mi ddeydodd wrtho, medda nliw, ei fod 0 yn cael ei adel ar y ddaear yma mor hir am nad oedd dim o eisio dyn mor ddrwg ag ef yn y byd iiesa' I Byddai llawer yn y plwyf heblaw Mr Prys a'i fam yn son am y perygl yr oedd John Prydderch ynddo 0 gael ei droi o'i fferm pan ddeuai y brydles i fyny yn mhen y flwyddyn, ac yr oedd y perygl hwnw yn pwyso ar feddwl John Prydderch ei hun bob dydd, ond pan ddechreuai efe ocheneidio ac edrych yn bendrist, torid ar ei draws yn bur swta gan ei wraig drwy ddyweyd wrtlio, "'Does neb wyr be all ddigwydd cyn Gwyl Mihangel." Ag eithrio yr ofni a'r pryderu yma, yr oedd pethau yn myned yn i-iilaen fel arfer yn Bodeinion. Credai Mrs Prydderch ei bod yn canfod diwygiad mawr yn Olwen. Gwir y byddai yr eneth ar brydiau yn pendroni ac yn synfyfyrio, ac mai gwaith anhawdd fyddai cael ganddi siarad rhyw lawer ar yr adegau pendrist hyny. Ond yr oedd yn amlwg ei bod yn meddwl llai am wisgo a phincio ei hun, ac yr oedd yn gwneyd ei gwaith yn rhwydd a pharod heb i neb fod dan orfodaeth i'w chymhell na dangos gwaith iddi. Yr oedd yn myned allan lai hefyd; yn wir, prin y gallai neb ei pher- swadio i fyned allan o'r ty o gwbl. Credai ei mliodryb yn sicr ei bod o'r diwedd wedi gosod ei clialon ar Meredydd, oblegid bob tro y deuai Meredydd i Fodeinion byddai Olwen yn ymddangos mewn gwell yspryd nag arfer, ac yr; siarad mwy nag ar adegau ereill.' Gwyliai Meredydd hi ar y cyntaf gyda phryder, ac o'r diwedd, gyda syndod a gobaith adnewyddol. Yn mhen y pum diwrnod ar ol cymeryd llythyr y Capten i Fodeinion, anturiodd Meredydd yno drachefn, er yn ofni y gallai ei weled ef beri poen i Olwen. Nid oedd hi i mewn ar y cyntaf, ond toe clywodd swn y cerddediad ysgafn a adwaenai mor dda. Pan alwodd Mrs Prydderch, Tyr'd i f ewii, Olwen, Uebuost ti mor hir," ofnai Meredydd droi i edrych tua'r drws rhag gweled debygai of wyneb gwelw a churiedig Olwen ond er ei fawr syndod, gwelai hi yn dod i'r ystafell dan wenu fel pe buasai yn dda ganddi ei ganfod ef yno. Ar yr olwg gyntaf, edrychai Olwen iddo ef yr un fath a phob amser, ond fel y daliai i gymeryd ambeH gipolwg manylach.

E LU NED: Y FERCH 0/R FAENOR.I…