Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Y TEILTWR Yr ydwyt y bachgen imvyaE stupicl a welais erioed. Y PRENTIS Mae gen i frawd,. syr. Y TEILIWR: Nis gwn both i wneyd ohonot. Beth yw dy frawd ? Y PRENTIS Teiliwr MR ROCKS Jane, sat y maa canllaw y grisiau bob amser yn Uychlyd genycli ? Pan oeddwn yn nliy Mrs Taiu yr oeddynt yno yn lan iawn. JANE (y forwyn) 0, mam, y mae yno dri o fechgyu. BydJant liwy yn lliihio i lawr y bannisters. Y TIR-FEDDIANNWR A glywsoch chwi am y tan yn y rheithor-dy iioibliiwr, -John ? JOHN Do. Tan mawr iawn, onito ? Y T. le. Losgwyd digon o brogethau am ddeng mlynedd. JOHN Rhai sychion iawn oeddynt hwy hefyd. Nid oedd ryfedd fod y tan mor fawr! Pan yn ei lyfrgell, clywai y Parch Shadrach Jenkyn tua chwech o fechgyn yn chwareu ac yn rhegu. Methodd a dal heb fyned allan i'w ceryddu. Gafaelodd yn y gwaethaf ohonynt, a dechreuodd ei geryddu yn llym, pryd yr atebodd y bachgen, Nid i'ch capel chi y bydda i yn my'nd, ond i gapel Mr Boanerges Jones." ttscwctc? Y mae rhai dynion yn myned yn hen yn gynnarol iawn. "Yn wir, fedra i cldim gweithio 'rwan fel byddwn i," ebe gwr tri ugain mlwydd wrth ei wraig. Taw, rhag c'wilydd," ebe hithau yn bur front, 'drycha ar Gladstone, sy'n ddigon hon o dad i ti, yn cwympo coed fel lianc ifanc Rhoddodd y sen gryfder yn ngewynau Jaco, rhag cywilydd. ^-t'3«p-3zTJ Safai hen bysgotwr profiadol wrth ddrws yr orsaf, a chanddo llonaid basged o bysgod newydd eu dal yn yr afon gerllaw. Y mae genych lawer o bysgod wedi on dal, onid 02S ? Bydd yn falch gan eich gwraig eu cael," ebai rhywun wrtho. Na, na," atobai yntau nid wyf am eu cymeryd adref. Yr wyf yn gwybod fod tua lianner dwsin o swells wedi myned i bysgota heddy w, a gwn na ddarfu iddynt ddal dim, ac yr wyf am werthu y rhai hyn iddynt pan yn dyfod yma i fyned i ffwrdd hefo'r tren. Caf brisiau iawn am danynt." Un tro, fe ofynodd cardotyn am gardod i Dr Smollett, a rhoddodd y boneddwr hwnw gini iddo mewn camsyniad, yn lie darn llai o werth; pan welodd y cardotyn mai gini ydoedd, rhedodd dan hobian mewn cloffni mawr, ac wedi ei ddal dywedodd, Hai, syr, rhoidasoch gini i mi mewn camsyniad." Trodd Dr Smollett ato, a rhoddodd gini arall iddo at y gyntaf, fel gwobr iddo am ei onest- rwydd, gan sibrwd, Rhyfedd iawn y fath lety y mae gonestrwydd wedi ei gymeryd i fyny i fyw yiiddo I" NAI ZABULON Dyn wedi gneyd eich hun ydach chi, ma mam yn deud. ZABULON D. (gan ymchwyddo) le, machgen i, ie. NAI ZABULON 'Doedd gynoch chi ddim looking glass, nac oedd ? Gweinidog Annibynol, dros chwech troed- fedd o daldra, a briododd fenyw fechan heb fod yn bedair troedfedd o daldra. Un diwrnod gofynwyd iddo gan gyfaiU pa fodd y gallocld briodi un oedd gymaint yn ferach nag ef ? Ebai y gweinidog: Cefais fy nysgu yn foreu iawn i beidio I Aliehofio dydd y pethau bychain. O felly," ebai yr holydd. Wel yntau, pa fodd dybygech chi y gallodd hi eich priodi chwi sydd gymaint yn dalach na hi ?" Atebodd y gweinidog Tebyg iawn iddi hithau gael ei dysgu i Roddi ei serch ar y petli,,tu -,ydd uchod. MARY ANN: Os gwelwch ehi'n dda, ma'am, rwy i wedi dwad i edrych am le yma. MRS SIIORTWORD Felly. Beth am y caritor ? MARY ANN 0, ma'am, rwy'n adwaen y genethod fu yma o'r blaen, a mi roedden llhw'll deyd fod yma le o'r siort ora. Yr oedd yr hen Ddafydd William, Cwm- garw, yn wr ffraeth iawn. Un tro, yr oedd ysgyfarnog ar ei dir y methai yn deg er pob ymdrech ei dal. Clywodd yr hen lieliwr cadarn, Llwyd, Glansefin, am dani, a daeth v 11 a/i gwn rhagorol drosodd, gan dybio rhoddi terfyn buan ar ei gyrfa ddaearol. Codwyd y "pry' a chafwyd helfa fywiog, ond yr ysgyfarnog oedd y cyflymaf o ddigon. Ar y diwedd cyfarchodd yr hen Lwyd Dafydd William fel y canlyn Wel, Dafydd, beth ydych yn feddwl am yr helfa ? Atebodd yntau, Wel, syr, yr wyf yn credu fod mwy o ofn eich cwn chwi ami na'r holl gwn wyf wedi weled ar ei hoi hyd yn hyn." Aie ?" ebai yr hen foneddwr "beth wnaeth i chwi feddwl hyny, Dafydd?" "Wei," atebai Dafydd, yr oedd yn cadw mwy o ddistans rhyngddi a'ch cwn chwi na'r holl gwn ereill," BENJA BE GAT (mewn siop) Yr wyf wedi dyfod am galenig, syr. 11 Y SIOPWR Pwy ydych chwi ? BENJA 0, y dyn hwnw fydd yn dyfod atoch bob amser i ofyn am fenthyg eich handcart "Winston, yr wyf yn deall eich bod yn dai fod saith cythraul yn mhob merch. Yn awr, sut y profwch chwi hyny ? Wel, syr, ddaru chi eri)ecl ddarllen fod saith gythraul wadi eu bwrw allan o Mair Magdalen ? 0 do." "Ddaru chi, erioecl glywed eu bod nhw wedi eu bwrw allan o'r un ddynes arall, syr?" Naddo, ni chlywais am neb arall," ebe y boneddwr. Wel, ynte, y ma nhw yn y lleill i gyd eto," ebe Winston. Yr oedd Mrs Tomkins yn adnabyddus fel dynes nad elai byth allan o dy cymydog mewn pryd, yn enwedig pan byddai yn amser pryd bwyd. Pan y deuai i dy Mrs Jacobs, gofelid peidio gwneyd y bwyd yn barod hyd nes y byddai hi wedi myned allan. Un diwrnod, dywededd Mrs Tomkins wrth Fred, bachgen pert Mrs Jacobs, "Yr ydwyf am fyned adref yn awr a ddeuwch chwi i fy nanfon ran o'r ffordd, Fred? Na ddof, wir, Mrs Tomkins," atebai Fred, "yr ydym am gael ciniaw y foment y byddwcii chwi wedi myned allan m» Aeth saer maen un dydd i adgyweirio ychydig ar dy adfeiliedig un oedd yn myned yn ei ol mewii ystyr fydol. Yn union ar ol boreubryd, daeth i'r ty un yn ymofyn arian oedd yn ddyledus iddo. Dywedodd John, gwr y ty wrtho, fod yn ddrwg iawn ganddo nas gallai eu tala y diwrnod hwnw ond y byddai yn sicr o wneyd ar ol gwerthu y niochyn tew, i'r hyn ni omeddodd y sawl oedd yn gofyn. Yn mhen enyd, daeth un arall ar yr un neges, a dywedodd wrtho nas gallai ci gyfarfod y dydd hwnw, ond fod ganddo fochyn just bod yn dow. ac y cawsai bob dimai oedd yn ddyledus ar ol ei werthu, i'r hyn y boddlonodd. Cyn pen hir amser, daeth un arall ar yr un neges, ac erfyniai gwr y ty arno am aros hyd nes y gwerthai y mochyn, ac yna y talai bob ceiniog, i'r hyn y cydsyn- iodd. Yn mhen ychydig amser daeth un arall drachefn ar yr un neees, a dywedodd John fod ganddo fochyn rhagorol iawn ac y byddai yn ei werthu yn mhen ychydig ddyddiau, ac os gwnai aros hyd hyny y byddai mor siwr o'r arian a plie byddent yn y Bank of England, i'r hyn y boddlonodd. Gwyddai y saer maen neges yr ymwelwyr, olierwydd ei fod yn clywed y siarad wrth sierhau y llechau ar nen y ty. Ar ol ciniawa, dywedodd y saer maen gyda phwyslais hynod awgrymiadol: Fe leiciwn i gael gwel'd dy fochyn di, John, cyn gweithio rhagor, oherwydd mai gofyn bod seis go low ynddo fe cyn y gwna dalu dy addewidion di i gyd."