Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

GO' GLYNOGWY neu 'Nid Clan…

News
Cite
Share

ami, gwelai fod yndcli rhyw gyfnewidiad, rhywbeth yn ei hedrychiad nad oedd wedi ei weled o'r blaen. Druan ohoni," ebai Meredydd wrtho ei hun, y mae wedi cyfar- fod a'i siomedigaetli gyntaf, ond mae'n dda gen i wel'd ei bod yn dal i fyny mor dda drwy'r cwbl." Fel yr elai yr wythnosau heibio, ac y gwelai yntau Olwen yn edrych yn siriol arno bob tro. y cyfarfyddent—yn troi ei gwyneb prydferth ato fel pe buasai yn ceisio dangos iddo fod yn dda ganddi ei weled—dechreu- odd Meredydd feddwl fod yn rhaid nad oedd teimladau Olwen mor gynhes tuagat Einion ag yr oedd ef wedi ofni, neu dybio, dro yn ol. Dechreuodd Meredydd feddwl mai ffansi gwirion liftgen ddibrofiad oedd yr unig deimlad fu gan Olwen tuagat y Capten—iddi feddwl yn ei gwiriondeb, fod y Capten yn ei charu mewn gwirionedd, ac y buasai yn ei phriodi, ond ei bod hi erbyn hyn, wedi dod yn gallach ac wedi dysgu pethau amgen na hyny ar ol dod i ddeall am ffordd y byd yn well, a gwybod nad yw pobl fawr byth yn priodi islaw iddynt eu hunain o ran safle a chyfoeth. Credai Meredydd ei fod eisoes yn gweled arwyddion fod Olwen yn dechreu coleddu meddyliau serchog tuagato. t, 0 Hwyrach fod rhywun yn barod i feio Meredydd fel dyn call, am syrthio mewn cariad a geneth nad oedd ganddi ddim ar ei helw ond gwyneb prydferth, ac yn enwedig am lynu wrthi ar ol iddi hi syrthio mewn cariad a dyn arall, a pharhau i ddisgwyl yn hiraethus am edrychiad siriol ganddi, fel y bydd y ci ffyddlon yn disgwyl yn bryderus am edrychiad siriol gan ei feistr. Ychydig iawn yw nifer y dynion a lynant yn ffyddlon wrth ferched anffyddlou-nid Ilawer a barhai mewn ffyddlondeb i gariadferch fuasai wedi syrthio mewn cariad a dyn arall; y rheol gyffredin, er pan ddechreuodd y ddynoliaeth wreica a gwra, yw troi cefn yn ddioed ac an- faddeuol ar rai anffyddlon; ond yr oedd Meredydd yn eithriad, ac yn eithriad led ryfedd, fel y ceir gweled wrth fyned yn mlaen. Tybiai ef fod Olwen yn meddn ar rinweddau, y rhai, mewn gwirionedd, nad oeddynt yn perthyn iddi; ond yr oedd ei syniad uchel ef am yr hon a garai mor fawr, yn gynnyrch ei galon fawr, garedig, a thyner ef ei hun. Yr oedd y gobeithion newyddion a'i rnedd- iannodd mewn perthynas i Olwen yn lliniaru cryn lawer ar chwerwder ei deimladau tuagat Einion. Credai nas gallai Einion fod wedi talu dim sylw difrifol i'r eneth—dim mwy, efallai, na rhyw sylw hanner chwareus yn awr ac yn y man—ac nad oedd, wedi'r cyfan, wedi gwneyd dim ond argraph ar- wynebol ar serch yr eneth. Fel hyn, dechreuodd digter ac eiddigedd Meredydd farweiddio, a thybiai waitliiau y deuai Olwen i ymserchu ynddo yn fwy nag yn neb arall byth. Yr oedd Meredydd, druan, wedi arfer cael bywyd digon caled, ac wedi gorfod cyfarfod a llawer anffawd a chaledi, ac yn awr, wedi i wawr y gobaith newydd yma dori arno, prin y gallai ymgynnal weithiau dan y syniad y gallai fod bywyd o hapus- rwydd, llawnder, a thawelwch o'i flaen ar ol yr holl ystormydd yr oedd wedi myned drwyddynt. I ychwanegu at ei obeithion am ei ddyfodol, digwyddodd tro pur ffodus iddo ef oddeutu dechreu Tachwedd, drwy iddo gael cynnyg ar, a derbyn cyfran mewn gweithfa eang, y fwyaf yn yr ardal- oedd hyny, lie cedwid gofaint a seiri coed a maen. Yr oedd Meredydd nid yn unig yn weithiwr da ei hun, ond yn un o'r rhai goreu drwy'r holl ardaloedd am gynllunio a threfnu a gofalu yn gyffredinol am waith, a dywedid fod prif berchenog y weithfa uchod eisieu ei gael er's tro, a dywedai ambell un hefyd y gallai Meredydd yn rhwydd iawn gael merch Mr Parri, y meistr, yn wraig, dim ond iddo ofyn iddi. Felly, derbvniodd y cynnyg—y gyfran o'r gwaith, ac nid merch y meistr, deallwch—ac aeth adref a'i obeithion yn uwch nag erioed. Os gallai Olwen ymserchu ynddo a'i dderbyn, gwelai fod dyfodol hyfryd o'i flaen, ac fel llawer un fu o'i flaen ac a ddaeth ar ei ol, dechreuodd dynu cynlluniau ac adeiladu cestyll-ai yn yr awyr ai peidio cawn weled eto-a hyny gan lwyr anghofio yr hen gynghor da i beidio cyfrif y cywioa cyn eu deor. Yn ol ei gynlluniau, yr oedd am gymeryd ty iddo ei hun, a darparu ar gyfer ei fam yn yr hen d5-; yna priodai yn fuan, ac os cymerai Miriam Ellis ei frawd If an yn wr, credai y byddai yn well gan ei fam fyw ar wahan i'w mheibion. Pender- fynodd fyned dranoeth, ar ol y gwasanaeth yn yr eglwys, i Fodeinion i ddyweyd y newydd da ei fod wedi myned yn bartner efo Jonas Parri, ac wrth wneyd hyny, yr oedd yn penderfynu edrych yn fanwl ar Olwen pan yn dyweyd yr hanes er mwyn cael gweled pa argraph gaffai y newydd da yma arni hi. Tybiai os gwelai ei gwyneb yn sirioli wrth wrandaw arno y byddai hyny yn argoel dda. Tranoeth a ddaeth, sef y dydd Sul cyntaf yn Nhachwedd. Ar ei ffordd i'r eglwye, clywodd fod Mrs Prydderch wedi cael ei chymeryd yn wael ar ol cael anwyd trwm, ac erbyn myned i fewn i'r addoldy, gwelai nad oedd yno neb o Fodeinion ond Olwen. Gwnaeth ei feddwl i fyny yn y fan i fyned i Fodeinion gyda hi ar ol y gwasanaeth, a rhaid addef nad oedd ei feddwl mor sefydlog ar yr addoliad a'r bregeth ag y dylasai fod—yr oedd berw gwyllt yn ei fynwes a chynlluniau yn ei ben, a chyn diwedd y gwasanaeth, yr oedd wedi tynu cynllun pa ffordd i dori'r newyddion da i Olwen, a beth ddywedai wrthi mewn perthynas i'w fater personol ef a hithau. Arhosodd hi wrth borth y fonwent, ac wedi troi o'r ffordd fawr, cafodd ddigon o wroldeb, rywsut neu gilydd, i ofyn iddi afael yn ei fraich. Edrychodd Olwen arno yn siriol a rhoddodd ei braich am yr eiddo ef mewn moment. Nid oedd gafael yn mraich Meredydd yn ddim iddi hi, ond gwyddai ei fod yn beth mawr iawn yn ngolwg Meredydd. Nid oedd ei chalon yn curo yr un mymryn cyflymach oherwydd ei hagosrwydd at Meredydd, ac ni theimlai yn ddim dedwydd- acli oherwydd bod yn ei gwmni. Edrychai ar brydiau yn synfyfyriol, fel pe buasai rhyw faich mawr o ofid a phoen yn ei llethu, neu fel pe buasai ganddi rywbeth annymunol ar ei mheddwl na chymerasai lawer am ei ddyweyd. Olwen," ebai Meredydd, o'r diwedd, ar ol meistroli ei hun yn ddigonol i anturio traethu ei len wrth ei dduwies, "yr wyf yn myn'd acw i ddeyd wrth eich ewythr ryw newydd fydd yn syndod gyno fo ei glywed." "Beth sy gynocli chi i ddeyd, felly?" gofynai hithau yn ddifater. Mae Mr Jonas Parri wedi cynnyg siar yn y busnes i mi, ac rwy inna am ei chymryd." Pan glywodd Olwen hyn, newidiodd ei gwedd, ac amlwg oedd mai Did dymunol oedd ganddi glywed y fath newydd. Yn wir, ymdaenodd arwydd o ofid dros ei gwyneb am foment, oblegid yr oedd hi wedi clywed ei hewythr lawer gwaith yn dyweyd gartref yn Modeinion y gallai Meredydd gael merch Jonas Parri a siar yn y busnes unryw ddydd, ac yr oedd Olwen, rywsut, wedi arfer meddwl am y ferch a'r siar yn y busnes fel pe yn glymedig y naill wrth y llall nes bron tybio, yn anymwybodol iddi ei hun, y byddai y sawl gymerai siar yn musnes Jonas Parri yn rhwym hefyd o gymeryd ei ferch yn wraig. Pan glywodd Olwen, gan hyny, Meredydd yn dyweyd ei fod am dderbyn siar yn musnes Parri, credodd yn sicr ei fod wedi cynnyg ei hun a chael ei dderbyn gan Mary Parri. Gyda'r dybiaeth yna wedi dod iddi, ym- afaelodd rhyw deimlad adnewyddol o unig- rwydd ynddi—teimlai fod pawb am droi cefn arni hi o un i un. Ar ol llythyr Einion, yr oedd hi wedi dechreu gorphwys ei mheddwl ar Meredydd, ond yn awr, fel y tybiai, dyma yntau yn ei rhoddi i fyny, wedi digio wrthi oherwydd ei hanffyddiondeb. Llanwodd y meddyliau hyn ei llygaid a dagrau. Yr oedd yn edrych tua'r ddaear, ond gwelai Meredydd y cyfnewidiad yn ei hedrychiad, canfu y dagrau, ac mewn eiliad yr oedd ei feddwl wedi dod o hyd i banner y gwir achos o'r dagrau—tybiodd yn y fan fod Olwen yn wylo oherwydd ei bod yn credn ei fod ef yn myn'd i briodi Mary Parri. Parodd hyn lawenydd mawr iddo, a chan wasgu yn nes ati, gafaelodd yn ei llaw, gan ddyweyd, Olwen bach, mi fedra i fforddio priodi 'rwan medrwn neyd fy ngwraig yn gysurus, ond fydd arna i byth eisio priodi os na chymerwch chi li." Edrychodd Olwen i fyny yn ei wynob, gwenodd arno drwy ei dagrau, fel yr oedd wedi gwenu ar Einion y noson gyntaf hono yn y coed, pan y credai nad oodd yn dyfod i'w chyfarfod. Prin y gallai Meredydd gredu yn nedwyddwch y foment hono yn ei hanes. Yr oedd ei fraich am dani pan y gofynodd iddi, A ydach chi'n fy ngliaru i mewn difri', Olwen ? A newcli chi fy mhriodi a fy ngharu tra byddwn byw ?" Ni ddywedodd Olwen yr un gair, ond yr oedd gwyneb Meredydd y foment hono yn agos iawn i'w gwyneb hi, ac yn lie ateb gosododd ei boch gron, brydfertli, yn erbyn ei wyneb ef, fel y gwelwch gatli bach yn rhwbio ei gwyneb yn erbyn eich llaw pan yn cael ei phatio. Yr oedd ami eisieu teimlo fel pe buasai Einion gyda hi drachefn. Yr oedd Meredydd yn rhy hapus i siarad llawer ar ol hyny, a'r cwbl a ddywedodd oedd gofyn iddi a gaffai efe hysbysu ei hewythr a'i mhodryb, i'r hyn yr atebodd hithau y caffai. Arhosodd Meredydd yn Modeinion hyd yr hwyr, ac yna, tra yr oedd Olwen yn y llofft, cymerodd fantais ar y cyfleusdra i ddyweyd wrth Mr a Mrs Prydderch, a'r hen wr, y rhai a eisteddent oil ar yr aelwyd o gwmpas tan mawr gwresog a daflai ei belydrau cochion ar eu gwynebau siriol, ei fod ef yn awr yn gweled ei ffordd yn glir i briodi, ac fod Olwen wedi cydsynio i ymbriodi ag ef.