Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

NEWYDDION CYMREIG. I

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMREIG. AMLWCH.—Sabboth diweddaf cynnal- iwyd cyfarfod ysgol yn addoldy Wesfey- ;aid y lie uchod. Cynnaliwyd y cyfarfod fcyntaf am ddeg o'r gloch, pryd ycym- inerwyd y llywyddiaeth gan y Parch. John Pierce. Wedi i don gyffredinol gael ei tcbanu, ac i Mr David Pritchard weddio, .adroddwyd pennod gan Reuben Williams. Yna aed trwy y drefnlen yn y wedd a ganlyn:-I. Deuawd gan J. R. Williams ac E. S. Williams. 2. Ton gan y plant. 3. Holi pennod o'r Llusern Ysgrythyrol' am Fab Duw. 4. Adroddiad pennod gan Jane Owen. 5. Ton gan Mr Richard Jones a'i gwmni. 6. Holi pennod o'r Bgwyddorydd Ysgrytbyrol' am Berson a Duwdod Crist. 7. Ton gan y plant. 8. Gweddio. Treuliwyd cyfarfod y pryd- mawn fel y canlyn:—1. Ton gynulleid- faol. 2. Gweddio. 3. Adroddiad pen- nod gan W. H. Thomas. 4. Ton gan y plant. 5. Dadl, Eden a Chalfaria," .gan Miss Lemin, Miss Robinson, a Mrs Davies. 6. Deuawd gan J. R. Williams ac E. S. Williams. 7. Ton gan Mr Danl. Jones a'i gwmni. 8. Dadi, Duwiolion y Testament Newydd," gan A. Bethom, W. J. Lewis, C. 0. Hughes, ac R. D. Lloyd Pierce. 9. Holi y drydedd bennod o loan gan y Parch. J. Fierce. 10. Ton gan y plant. 11. Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr Paynter. Mr John Williams ydoedd llywydd y cyfarfod hwyrol. Dechreuwyd y cyfarfod hwyrol y I trwy fawl, a gweddi gan y llywydd. Yna aed yn mlaen fel y canlyn :—1. Adrodd- iad pennod gan Hannah Roberts. 2. Ton gan y plant. 3. Adroddiad pennod gan Abraham Bethom. 4. Adroddiad Trioedd i blant yr Ysgol Sabbothol," gan Martha Sophia Lewis. 5. Ton gan Mr Daniel Jones a'i gwmni. 6. Dadl, "c Y ffordd oreu i dreulio y Sabboth," gan Abraham Bethom a W. J. Lewis. 7. Adroddiad, Diwydrwydd," gan Ann Betbom. 8. Ton gynulleidfaol. 9. Holi pennod o'r 'Llusern' am Dduw. 10. Adroddiad pennod gan Jane Owen. 11. Ton gan y plant. 12. Dadl, Dafydd ^ybydd a Wil Ofer," gan A. Bethom, W. H. Thomas, a W. J. Lewis. 13. Ton gan Mr Daniel Jones a'i gwmni. 14. Ton gynulleidfaol, a therfynwyd y cyfarfod trwy weddi. Yn wir, yr oedd yr adrodd- iadau a'r canu yn gampus, ac mor swynol nes yr oedd y gynulleidfa yn dotio wrth eu gwrando. Dyma un o'r cyfarfodydd goreu o'r natur yma ag y bum ynddynt ei??ec^ Mi fum mewn llawer o gyfarfod- ydd o'r fath o'r blaen, ac yr oedd y cyfar- fodydcl hyny yn rhai da iawn ond ar fy ngarr, gwir ygellir dywedyd am hwn yn miwch, Ti a ragoraist arnynt oil." no. y plant yn ardderchog, o dan ar- wemiad medrus Mr W. H. Thomas a J-udor Owen. Hefyd, canwyd amryw udarnau yn rhagorol gan gor Mr Daniel Jones. Y mae y brawd Jones yn haeddu clod am ei ymdrech diflino yn parotoi y c6r erbyn y cyfarfod hwn.Gohebydd. BETHESDA.—Mae yn dda genyf hysbysu fod terfyniad i'r sefyll allan yn chwarel y "enrhyn wedi cymmeryd lie. Bwriedir all ymaflyd mewn gwaith ddechreu yr ^ythnos yma. Mae amser yn myned eibio, ac yn gwneud cyfnewidiad mawr ft bethau. Fe ddichon na chymmer y bn, yn fuan etto. Mae llawer 0 mawrion wedi cymmeryd lie er y frwydr ^on* llawer °'n ya-^veithwyr oeddynt yn dechreu fel ft, J11* erbyn heddyw wedi ymado a'r °hedd hon. Gobeithio y bydd y sym- y j ^d yma er gwell ac nid er gwaeth, ac elw da i'w arglwyddiaeth, a chyflog y 1 r gweithwyr am eu gwaith, ac y trydd yma er daioni Gyffredinol. cVniro. w GAERnarfon.—-Clwb Dillad yr Ysgol z\\v]f iVr'taeth°l-'—Daeth pen blwyddyn y prJ? hwn i ben ddydd Gwener diweddaf, Yj. y rhanwyd y tocynau i'r aelodau yn f^sgol wladwriaethol, pa rai oedd at eu gei • i'r masnachdy a fynent i ,Sl° gwerth eu tocyn. Aeth i'r Liver Rtablishment Morris a Jones, 150; A,fr Emporium, Lewis Lewis, 132 Yr iin Pierce a Williams, 50; Y Regent l _^se, Ebenezer Jones, 17. Oddiwrth §Welwn fod y "Liver" wedi cael y j megis droion o'r blaen, yu hyn siarad yn uchel am gymmeriad y | Cag^^hdy hwn yn ngolwg tylodion tref eteinlla>r^0n. Y mae y Misses Rees ac ^01: b° r k°necWigesau ag sydd wedi bod 1 0 A ^Unanymwadol a ifyddlawn ers llawer t^'l^yddau gyda y clwb hwn yn wir 0 barch, pob un ag sydd yn f ? ^ros dylodion y dref yn annibynol Carll na chred yr un 0 honynt.-R. li 'n'AitNoN.-Meddygol. Da genyf i ^-as^er C. H. Richardson, n 6 a Master J. M. Clayton, lLvd 9adben Clayton, wedi pasio yn v inuus yr arholiad rhagbarottoawl I fyddyd feddygol yn Glasgow. M ^fott oncl a^an °'r 80 a ar^°^wyd. Tii/^yd y ddau foneddwr ieuangc gan 4011 luas Newton, Model School, y dref f Bicrdd Ysgol: Y Dretli ar ddyfod. cyfarfod o'r bwrdd ysgol foreu [ iweddaf, Gwnaeth meistr yr Ys- 1 gol Rydd appeliad am ychwanegiad yn ei gylog, gan ddywedyd nad ydoedd ei Average attendance yn ystod y chwe' mis diweddaf ond 64, ac na byddai yn alluog i wneud mwy na 60p y flwyddyn yn ol y cyttundeb presennol. Gohiriwyd ystyr- iaeth yr appeliad hyd y cyfarfod nesaf.- Cynnygiad y Parch. Herber Evans (Salem) am Dreth Ysgol.—Yn absennoldeb y gwr parchedig, nid aed yn mlaen gyda chynnyg y penderfyniad.—Gofynai Mr Humphreys a fyddai i Mr Pugh neu Mr Davies gynnyg ar fod i dreth gael ei chodi ?—Wedi cael attebiad nacaol, dy- wedai Mr Newton y dylid rhoddi rhyw am- cangyfrifon gyda golwg ar swm y dreth a ofynid ar gyfer y British School. Yna darllenodd yr ysgrifenydd grynnodeb o'r symiau gofynol am y flwyddyn bresennol. Wedi cyfartalu y treulion a'r derhyniadau yn nghyd a 45p. 0 draul etholiadol a phaentio a lliwio y British School drosdair blynedd, cyfrifai y byddai treth o dair ceiniog yn y bunt yn ofynol. Byddai 200p. yn fyr, a chyrhaeddai y dreth a nodwyd 216p.-Dadleuai Mr Newton y dylesid cyfrif holl dreulion y flwyddyn bresennol mewn trefn i weled pa faint oedd yn cael ei wario mewn gwirionedd, a chaent y byddai y swm yn nes i 300p. nag i 200p. Tybiai, os oedd y rhybudd o'r penderfyniad i gael ei osod ar y llyfrau 0 gyfarfod i gy- farfod y byddai i'r Parch. Herber Evans gynnyg ar fod i dreth gael ei chodi, y dylid ei gario allan. Yr oedd y penderfyniad wedi ei ohirio o bryd i bryd.—Yr oedd Mr Davies o'r un farn, a gobeithiai y byddai i'r ysgrifenydd wneud y cyfarfod nesaf yn gyfieus i Mr Evans.—Mr Humphreys a gododdigynnyg'gwelliant, yn absennoldeb neb i gynnyg y penderfyniad gwreiddiol. Barnai ef ei fod yn wastraff diangenrhaid ar arian y trethdalwyr i osod trethi ar y dref er cynnal addysg elfenol. Yr oedd ganddynt ddigonedd o ysgolion da ar yr egwyddor wirfoddol, ac nid oedd angenrhaid am y British School pan yr adeiladwyd hi. Yr oedd yr Ym- neuUduwyr wedi adeiladu ysgol, ac wedi blino ar ei chynnal, neu yr oeddynt yn analluog, ac yn awr yr oeddynt am ei thaflu ar y dreth. Barnai ef ac ereill na ddylid eu gorfodi i gynnal ysgol annghrefyddol ac un nad oeddynt yn gymmeradwyo. Credai ef y dylent gynnal eu hysgol eu hunain fel Ymneillduwyr. Yr oedd y gyf- undrefn wirfoddol yn gweithio ynrhagorol, ac nid oedd addysg y dref yn ddim gwell gyda'r Bwrdd nag hebddo, ac ni ddylasai fod yno fwrdd 0 gwbl at amcanion trethol, gan nad oedd ond baich ar y dref heb un fantais. Byddai iddo ef gan hyny gynnyg ar fod i'r boneddigion gyferbyn dalu yr holl dreulion a achlysuvwyd, ac appelio at y tri enwad ymneullduol am gynnorth- I wy.—Yn y cyfwng hwn dywedodd y cad- eirydd (Mr Pugh) nad oedd Mr Humph- reys yn rheolaidd, gan nad oedd y pen- derfyniad o flaen y cyfarfod, a byddai yn angenrheidiol rhoddi rhybudd priodol. -Mr Humphreys a gydsyniai i anfon rhybudd o'i welliant i'r ysgrifenydd. Dy- wedai na tyddai iddo ef ganiattau trethu y dref os gallai ei attal.-Pwysai yr ys- grifenydd ar i'r cyfrif 0 fan dreulion gael ei basio, ond cafwyd cryn anhawsder i sicrhau cynnygydd ac eilydd. DOLYDDELEN. Claddedigaeth Mr Enoch Jones.-Dydd Sadwrn, y 31ain cynfisol, bu farw y gwr da uchod, ar ol byr, ond trum gystudd, yn nhy ei fab-yn nghyfraith, Mr R. R. Williams, Bwlch Farm, Dolyddelen. Y dydd Mercher can- lynol hebryngwyd ei weddillion marwol gan dorf luosog a pharchus i orwedd yn mynwent henafol y plwyf, hyd diwedd am- ser. Blaenorid yr orymdaith gan weini- dogion y gwahanol enwadau, yn cael eu I dilyn gan gor Eglwys Dolyddelen, pa rai a ganasant amryw 0 emynau priodol i'r achlysur hyd y ffordd. Wrth borth y fynwent cyfarfyddwyd y corph gan y Parch. H. E, Williams, ficer; J. Prichard. Capel Garmon; M. Wheldon Jones, Llan- gybi; D. Thomas, Capel Curig a R. Tyn- wald Ogden, Bettws y Coed. Erioed ni chlywsom wasanaeth y claddu yn cael ei chario mor ogoneddus. Yr oedd y dorf luosog yn ymuno yny gweddiau a'r atteb- ion. Gobeithiwn o galon y daw yr ymun- iad yma yn beth cyffredinol. Yr oedd Mr Enoch Jones wedi ennill iddo ei hun, trwy ei dymmer serchog ac addfwyn, lluaws o gyfeillion yn y plwyf hwn. Nos Sul caw- som bregeth ragorol ar yr achlysur gan y Parch. H. E. Williams, ficer, yn mha un y dangosodd freuolder dyn.-Requieseat in face. LLANCYNFEL YN.- Dechreuwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauafyn Eglwys y plwyf hwn eleni am saith o'r gloch nos Lun, Hydref y 26ain. Darllenwyd y gwasanaeth dwyfol gan y Parch. B. Edwards, ficer Yspytty Cynfyn, yr hwn hefyd a bregethodd; ac ar ei ol ef pre- gethodd y Parch. H. Morgans. D. G., ficer Llanddewi, Aberarth. Y boreu canlynol, ar ol y gwasanaeth, pregethodd y Parch. J. Jenkins, Lledrod; ac ar ei ol ef y Parch. H. Morgans, D.G. Am chwech yn yr hwyr, ar ol y gwasanaeth pregethodd y Parch. J. Jenkins eilwaith yn ddoniol iawn; ac yn ddiweddaf y Parch. B. Edwards, yn ei ddull doniol ac efengylaidd nes gwfreiddio yr holl dorf. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn 0 wrandawyr yn mhob cyfarfod ac arwyddion amlwg fod yr Ar glwydd yn arddel ei weision. Chwareuid ar yr harmonium yn fedrus gan Miss Jones, y Gwynfryn, sef chwaer i'r Gwir Barchedig Arglwydd Esgob Ty Ddewi. Gwnaed casgliad ar ddiwedd pob cyfarfod er budd y gymdeithas er taenu gwybodaeth Gristionogol, a chasglwyd swm pur dda. Y mae yn dda genyf hysbysu darllenwyr Llais y Wlad fod golwg lewyrchus ar yr Eglwys yn y plwyf hwn er pan ddaeth y ficer presennol, y Parch. D. Lewis, i'n plith.-Gohebydd. LLANIDLOES.-— Y Gyngor Trefdl.N os Fawrth, y 27ain cynfisol, yn Llysdy y Dref, 0 dan lywyddiaeth Mr D. Ll. Mor- gan, cynnaliwyd cyfarfod lied fywiog o'r trethdalwyr i'r dyben 0 roddi cyfleusdra i'r naw ymgeiswyr oedd yn gofyn am y fraint o aelodaeth yn y cyngor y trefol y flwyddyn hon, i amlygu ac egluro eu syniadau 0 barthed i'r swyddogaeth. Pwy bynag sydd am weled a "racy description" o'r cyfarfod hwnw, edryched i'r Neiotown and Welshpool Express am Tachwedd yr 2il. Yr oedd dydd Llun, yr 2il cyfisol, yn ddiwrnod tra brwd a chyffröus yma mewn cyssylltiad åg ethol cynghorwyr bwrdeis- iol. Yr oedd pum' eisteddle wag yn y cyngor yn niwedd y cynfis, a naw o ym- geiswyr gostyngedig iawn yn crefu ac yn erfy r am yr anrhydedd o gael eistedd yn- ddynt fel cynnrychiolwyr trefol neu fwr- deisiol. Gwnaethant oil bleidgeisiad cy- ffredinol gyda'r eithriad 0 un 0 honynt, yr hwn a ymfoddlonodd yn unig ar ei an- nerchiad gwagsaw at yr etholwyr, ac nid aeth ef i gardotta 0 dy i dy, a'i reswm dros hyny ydoedd, yn ol ei eiriau ei hun, Because I do not approve of that mode of soliciting your favour." Beth bynag am hyny, fe fethodd yn ei amcan o ad- feddiannu ei eisteddle drefol y waith hon ond nid felly yr ymgeisydd hwnw a ddy- wedodd yn ei annerchiad bombastaidd, Having been for upwards of twenty years a tradesman, and now a resident proprietor among you." Gwnaeth ef general canvass o honi; er hyny, methodd yntau a sicrhau eisteddle yn y gynghorfa, er cymmaint ei awydd, a dangosodd y Babiloniaid yn hylaw ddigon iddo, nad oedd ganddynt gred ynddo, ac na fynent ef i deyrnasu arnynt. Felly ffolineb ac oferedd yw iddo wingo, grwg- nach, a bragawthian malldodion ar ol barn. Ar ddiwedd y dydd yr oedd can- lyniad y poll fel y canlyn :—1, -Thomas Jones, 272; 2, John Hope Owen, 250; 3, Evan Evans, 234; 4, William Abel Da- vies, 196; 5, George Morgans, 195; 6, Edward Lewis, 147; 7, John Jones, 137; 8, Daniel Davies, 95; 9, John Edward Jones, 58. Y pump cyntaf o'r rhestr hon yw y cynghorwyr etholedig. Ystyriwyf fod y pleidleiswyr wedi bod yn dra ffor- tunus eleni yn eu dewisiad. Y Cadben John Kitto, Red House, o'r dref hon, yw y maer newydd am y flwyddyn ddyfodol. Gobeithio y bydd i Shon Go?ph" roddi gwers 0 fanners i rai o'i blant yn y lie hwn, a'u dysgu i ymddwyn yn fwy moesol a boneddigaidd yn y lecsiwnau nesaf.— Damwain Angeuol.-Dydd Mercher, y 4ydd o'r mis hwn, cyfarfu bachgen ieu- angs, unarbymtheg mlwydd oed, o'r enw Owen Edwards, mab i Mr Edward Ed- wards, mwnwr, Heol Highgate, o'r dref hon, a'i farwolaeth yn ddisyfyd iawn yn ngwaith mwn y Van, ger y He hwn. Yr oedd ef a dyn arall yn disgyn i lawr wrth raff mewn bwcet i'r shaft yr oeddynt yn ei singcio ond rhywfodd, trwy ei esgeulus- dra a'i ddifatterwch, syrthiodd allan o'r bwcet, a chwympodd i waelod y pwll ar y graig noetb a chaled, lie y cyfarfyddodd a'i farwolaeth bron yn ddiattreg. Yr oedd ei dad yn ngwaelod y pwll pan y cwymp- odd, ac yn dyst o'r ddamwain ddychryn- llyc1 a ddigwyddodd i'w fab, a dios ei bod yn olygfa alaethus iawn iddo. Yn mhob rhith y daw angeu.Idloesyn. Y VALLEY, GER CAERGYBI.—Arddangos- ictd 0 barch.-—-Nos Lun, y 9fed cyfisol, bu rhialtwch neillduol yn y pentref prydferth uchod ar yr achlysur o ddychwjsliad Mr W. P. Williams, Cleifiog Uchaf, a'i wraig ieuangc brydferth, Margaret, ail ferch Mr R. Davies, Bottan, Llanfachraeth, yn ol o'u trip priodasol. Cyrhaeddasant orsaf y Valley tua chwech o'r gloch, gyda'r gerbydres 0 Lerpwl, He yr oedd cannoedd lawer o'u cyfeillion a'u hewyllyswyr da wedi ymgasglu i'w croesawu. Wedi iddynt gyrhaedd yr orsaf, arweiniwyd hwy gan Meistri Pierce, Valley Hotel, a Hughes, Valley Foundry, i'r close carriage oedd yno yn barod i'w derbyn, yn nghanol banllefau byddarol o groesawiad. Ar eu cychwyniad o'r orsaf taniwyd tua 50 o ergydion, a", pharhawyd i saethu am tua dwy awr. Ni oddefai eu cyfeillion i an- ifeiliaid pedwar carnol gael yr anrhydedd o'u tynu, eithr gollyngasant y cefifylau yn rhydd a thynwyd y cerbyd gan y dyrfa yn nghanol cheers parhaus athrydanol. Dis- ;o gynasent yn y Valley flotel am tua haner I awr, yr hwn amser a dreuliwyd gan eu cyfeillion i yfed iechyd da iddynt, ac i'w Uwyddo. Ail gychwynwyd am Cleiijog, y bobl etto yn tynu y cerbyd hyd at ddrws y ty, ac yn bloeddio ar hyd y ffordd yn y modd mwyaf brwdfrydig. Wedi cyrhaedd Cleifiog diOlchodd Mr R. Chambers, cyÇl frawd-yn-nghyfraith y priodfab, droBlo i'w gyfeillion, mewn araeth fer, ac wedi un cheers taranol, ymwasgarodd y dyrfa yn drefnus, wedi cael eu boddhau yn y cyf- leusdra i ddangos eu parch tuag at eu cymmydog, i'r hwn y mae ganddynt oil air da-y tylawd a'r cyfoethog. Yr oedd pob ffenestr yn mhob ty, 0 hotel ardderchog Mrs Ellis hyd y bwthyn iselaf yn y pen- tref, ar hyd y ffordd o'r station i'r Cleifiog, wedi eu llenwi a goleuadau, hyd nes oedd y gymmydogaeth yn ymddangos yn un focus 0 oleuni, llewyrch yr hwn oedd i'w weled filitiroedd 0 ffordd. Yr oedd baner- au hefyd yn chwyfio ar bob tý, gydag arwyddeiriau pwrpasol i'r amgylchiad. Ni bu y fath arddangosiadau yn y lle hwn erioed o'r blaen, a diau nas gallasai pobl dda y Valley, ac ystyried yr amser byr gawsant i ymbarottoi yn neillduol ar- ddangos mwy 0 barch ac anrhydedd i'r tirfeddianwr mwyaf yn y wlad. Mae yn hynod 0 hyfryd i'r par ieuangc feddwl, wrth ddechreu treulio eu bywyd priodasol, fed ganddynt gyfeillion a chymmydogion sydd yn eu parchu a'u caru mor fawr. Hir oes iddynt i fwynhau cymdeithas eu gilydd a'u cyfeillion.—Llygad Dyst.

."Y DEHEUDIR.

[No title]