Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Y MEDDWYN.
Y MEDDWYN. Ma.e ar ei derm oriau dydd,—yn yfed 0 dafara bwygilydd A'r n6s, mwynb& dreiglad rh^dd, Yn broffeswr baw'r ffosydd. TFLEBOR Mtl A'l CANT.
. Y LLEUAD. r I i' ■ (■
Y LLEUAD. r I i' ■ (■ Weli dir leuad orwen-A'i gwyneb Mor ganaidd a thalcen Menyw fyw a myn f'awen Ei mawrhau, mae hi mor wèn 'D allai aros, nos, na nei),-heb dy fad Lygad, leuad lawen Wi lliw fVy, canwyll awen, Yn llaw lor wyt, fy lloer wen. Map o'i holl ffyrdd 'mhob pwll a ffos-a gawn I'n gweini drwy'r hirnos;- Tyn ddyn o'i dyddyn diddos, A gwna 'i lun ef ganol nos. Teulu anian ddistaw, lonydd-a gwsg Dan ei chlog wen, newydd ;— Spia lanerch ysplenydd, A Ilai o dwrf na Iliw dydd. Ni fyn tywyllwch fantellu—y byd r Tra bo hon yn gwenu A'r nos yn lie teyrnasu A gysgodd heb ei gwisg ddu. Yn y lloer gron, lliw'r iâ, gryno-y ceir Perffeith-gwbl camp cerfio Gwel ddull y nef wen, hefo Ei phin aur, yn gorphen 0. DEWI HAVHESP.
.LLINELLAU "
LLINELLAU A gyfansoddwyd tra yn tremio ar y lloer drwy'r yspienddrych. "v Mae'r lleuad wen yn gwenu «tt iii, Ar ael gain ei horiel gu < Newidia 'i gwen, hoeden hyf, Dull gwyryf o dwyll garu. Bryngwyn Bach. lOAN. o
Y SER.
Y SER. Y ser hyd lawr asur dlos,-gorenwog Arianant y ddunos Heirdd engyl sy'n arddangos Myrdd o aur ganwyllau'r nos. OOWTOTDD.
' ,, "TEG EDRYCH TUAG ADREF."
"TEG EDRYCH TUAG ADREF." ,.vi u Cyflwynedig i Chwarelwyr Bethesda. Heliwn y ger, hwyliwn y gân-chwyfiwn Oruwchafiaeth gyfan Adref wyr, arwyr eirian, Deulu glwys, â. dwylaw gl&n. Ha ddewrion fwynaidd arwyr,—ac uniawn, Gonest megys gweithwyr; Cawn heddwcb, tawelwch wyr, A rhyw hwyl fel chwarelwyr. Chwi, wyr hwyliog, pob chwarelwr-diwyd Fo'n flodeuog weithiwr Yna daw arian yn dwr, Bowliad i bob rybelwr." Hawdd edrych heddyw adref-drwy ganol Dryghinoedd mis Hydref; Mwyn wyr diddan, mae'n rhaid addef Fod taw ar lol gelynol lef. Chwarelwyr wych reolau,—er cysur Cawsom ein holl freintiau Trwy waed pur y trowyd pau Dryghinoedd yn drig gwenau. Betbesda, bu ei thoster-yn fawr iawn, Hi ferwinodd pryder „ Ond heb daw clywir llawer i Yo eilo tôo eü gwJad dêr.. f J ( EnninasomynIIesoI.—agwyHer Pob gelyn dinystriol; I,' 1,1 Nodedig gewri gwrol, ? Gyrwa wyll i'w gaerau'n ol. OGWENTDD.
LLOFFION O'R DEHEUDIR.
LLOFFION O'R DEHEUDIR. CWMAFON.-—Dydd Mercher cyn y di- weddaf, fel yr oedd y tren chwariar i dri y prydnawn ar ei ffordd o Port Talbot i'r lie hwn, gwelwyd dyn yn rhodio ar y llinell. Rhoddodcl gyriedydd y peiriant y chwibaniad arferol allan, ond ymddangos- ai y dyn fel pe nad oedd yn sylwi arno. Wrth weled hyny, ceisiodd y gyriedydd wneud ei oreu i attal y peiriant, ond ni Iwyddodd i wneud cyn i'r peiriant a'r trucks fyned dros y dyn. Synwyd y gwyddfodolion pan welwyd fod y dyn yn fyw wedi i'r tren fyned drosto. Ymddengys ei fod wedi cael ei daro i lawr ar ei orwedd yn nghanol y llinell, ac mai dyma ddir- gelwch ei waredigaeth. Ni fu yn hir cyn adfeddiannu ei hunan-feddiant a phan ddaeth atto ei hun, dechreuodd ym- osod mewn modd haerllug fir y gyriedydd am yru y peiriant drosto. DYWBdodd Mr Bichard Davies, o Bontypool, wrtbo3 yr hwn, fel llawer ereill, oedd yn digwydd bod yn y gerbydres, y buasai yn fwy pri- 00.01 Mdo syrtbio ar ei luniau, a diolch i Ddttw am arbediad ei fywyd, yn lie myned i ymosod ar berson oedd wedi gWlleud ei orea i'w achub. Ar hyn cerddodd y dyn o'r lie fel pe na ddigwyddasai dim iddo. YSTRADGYNLAIS. Cymmerodd dwy ddamwain bwysig Ie yn ddiweddar yn y pwll newydd, Hendrelalis, ger y lie hwn. Dydd Llun cyn y diweddaf, tra yr oedd William Davies wrth ei orchwyl yn y lofa uchod, daeth careg fawr arno, yr hon 0' a'i niweidiodd yn ddifrifol. Bu farw dran- noeth, er galar mawr i'w briod a'i berth- ynasau. Dydd Linn diweddaf, set yn mhen yr wythnos, digwyddodd damwain ddifrifol arail yn yr un gwalth, trwy i dwll fyned allan tra yr oeddynt yn gosorl y ivire gopr i fewn mewn trefn i danio y pylor. Cafodd tri dyn niweidiau pwysig yn y ddamwain hon, sef W. E. Watkin, J. Williams, ac S. Jones. PENCLAWDD.—Dydd Gwener cyn y di- weddaf, boddodd plentyn, pymtheng mis oed, mewn ffynnon feehan o ddwfr yn ymyl Dwllart, ger y lie hwn. Nild oedd y bychan wedi bod o olwg ei fam dri lllunyd, pan y cafodd hi ef ar ei wyneb yn t ..it¡ I. "I.t.i;h. ,;} ,b: £ iL: y ffynnon, yr hon sydd oddeutu troedfedd 1 ysgwar. Bernir iddo weled y plant ereill yn yfed dwfr o honi, ac iddo yntau geisio gwneud yr un peth, a syrthio iddi. Ar yr ymchwiliad, dygwyd rheithfarn o farw- olaeth ddamweiniol. PONTYPRIDD.- Y mae trigolion parchus- af y lie hwn a'r gymmydogaeth yn gwneud ymdrech er cael gan Gymdeithas Amaethyddol Morganwg i gynnal ei chyf- arfod blynyddol nesaf yn eu hardal hwy. Cyn derbyn gwahoddiadau, y mae yn rhaid i'r gymdeithas gael sicrwydd am dri chant o bunnau; ac er dyfod i fyny a byn, y mae symmudiad casglyddol ar droed yn y lie yn bresennol. PENCLAWDD.—Prydnawn ddydd Gwener diweddaf, syrthiodd gwr o'r enw Thomas Lewis, pilot, o'r He hwn, yn farw ar y traeth tra yn casglu pysgod, o'r rhwydau oedd wedi ei osod. Gwelodd y gwr oedd gydag ef yn casglu pysgod ef yn syrthio, a rhedodd y uniongyrchol atto, a chafodd ei fod yn hollol farw. Yr oedd ers peth amser wedi bod yn cwyno oddiwrth boen yn ei fynwes, a bernir iddo farw o glefyd y galon. GYFFEILLION, GEE PONTYPRIDD. Araf iawn y mae masnach yn myned yn y blaen yn y gymmydogaeth hon yn bresen- nol. Tua thri diwrnod yn yr wythnos y mae gweithwyr glofeydd yr Hafod, Llwyn- celyn, a'r Coedllai, yn gweithio, ond y maent yn gweithio yn nglofa y Great Western bob dydd. Y peth sydd yn blino y lofa hono fwyaf yw ansefydlogrwydd ei goruchwylwyr. Y mae yn ffaith hysbys bellach fod Mr Davies, goruchwyliwr y Coedllai, wedi rhoddi rhybudd i ymadael, ElC y mae yn benderfynol o wneud felly. GLANDWR.—Oddeutu dau o'r gloch boreu dydd Mawrth, Hydref 27ain, 11 wyr ddin- ystriwyd gorsaf ffordd haiarn y Great Western, Glandwr, ger Abertawe, gan dan. Gwnaed yr boll adeiladau, y swydd- feydd, a'r esgynlawr yn gydwastad a'r llawr. Darganfyddwyd y tan gan ddyn oedd ar ddyledswydd yn ystod y nos. Yr ydoedd ffyrnigrwydd y fflamau gymmaint fel mai ofer a fuasai gwneuthur un ymgais i attal eu rhwysg dinystriol, ac am hyny ni pharhaodd ond am ychydig oriau. Yn ffodus, diangodd y bont fawreddog sydd dros yr afon Tawe heb ei chyffwrdd gan yr oddaith. O'r diwedd daeth nifer aruthr- ol o ddynion yn pghyd wedi i'r tan ddi- ffodd, y rhai a lwydd&saiit trwy egnion canmoladwy i glirio y llinell a ehodi esgyn- lawr arall er mwyn gallu cario trafnidiaeth yn mlaen yn ystod y dydd. Fel y mae yn rhyfedd dyweud, er mor ofnadwy o fawr a pheryglus oedd y cydlosgiad, ni chafodd neb ei lliweidio. Tybir fod y tan wedi dechreu trwy i lo man oedd wrth sylfeini yr ade-iIAJ gael ei oleuo. Ystyrid fod y golled a aehoswyci i'r cwmpeini gan y tan yn cyrhaedd i oddeutu dwy fil o bunnau. ABERDAUGLEDDYF.—Y mae eich darllen- | wyr yn cofio yn ddiau i ni ychydig wyth- nosau yn ol adrodd hanes Pontfadan, y lie hwn, yn suddo yn annisgwyliadwy a di- rybudd, ond y mae yn ddywenydd genyf allu hysbysu fod y bont wedi ei chodi i fyny yr ail waith gyda llwyddiant anar- ferol, gan y Mri. Vernan ac Evans, oLer- pwl. Yn sullen rhyw ychydig oriau wedi gosod y peirianau a?r offer: ar lawn waith, yroeddycruglwyth aruthrol o bodwar cant- ar-bymtheg o dunelli yn nofio ar wyneb y dwfr, er dirfawr syndod i'r canoedd, os nad miloedd, edrychwyr oedd yno. ABERDAE.-r—Yn llys y manddyledion yn y lie poblog hwn, ctydd Iail cyn y diwedd- af, o flaen y barnwr Falconer, cafodd dyn o'r enw David Williams, Farmer's Arms, Cwmbach, dalu ugain punt o iawn i lowr am ei daro yn ei lygad. Oddiwrth y dyst- iolaeth a ddygwyd, ymddengys fod yr er- lynydd p,,r y 18fed o'r mis diweddaf, wedi treulio rhan liela-etb o'r dydd i yfed cwrw yn nhy yr amddiffynydd yn nghwnini am- ryw ereill. Yn y prydnawn pan oedd yr erlynydd a'i gyfeillion wedi yfed mwy nag oedd er lies iddynt, dechreuasant gynnal rhyw annghydfod. Aeth yr amddiffynydd i mewn i'i' ysfafell, yr hon oeddyn dywyll, ac yn y cythrwfl a ddilynodd tarawodd yr amddiffynydd yr erlynydd yn ei lyp4 a chwpan oedd yn ei law. Daeth y rheith- wyr a'u dedfryd i mewn dros yr erlynydd am y swm uchod, NARBERTH.—Dygwyd dati weitliiwr o'r enw Nathaniel Evans a John Williams o flaenyr ynadon yn y lie hwn dydd lau, am ymosodiad creulawn ar weithiwr arall o'r enw Williajn Williams. Ymddengys fod y tri dyn yn gweithio geyllaweu gilydd ar gleddffordd Maenclochog, gan breswylio mewn lints. Dywedodd Mrs Brooks, un o'r tysiioT]? i'r carcharor Nathaniel alw nos Fawrth yn ei bwthyn hi am Williams, ac i'r ddau fyned ymaith gyd.a'u gilydd. Dilynwycllnvynt i lawr i'r heol gan John Williams a Joseph Williams. Ychydig fynudau ar ol hyn clywodd Mrs Brooks ysgrechiadau. Rhedodd i'r fan a gwelodd y carcharorion yn ymosod ar William Williams. Trosgtwyddwyd Evans a Wil- liams i sefyll eu prawf yn y frswdlys nesaf. Cafodd Joseph Evans hefyd ei drosglwyddo [ i sefyll ei brawf am niweidio un William Young yr un amser. V iA v'^X.^ I ■ LLANYBYDDER.—Hydref 29, am saith o'r gloch yn yr hwyr, cynnaliwyd cyfarfod o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn Eglwys y plwyf hwn, pryd yr oedd nifer dda wedi dyfod yn nghyd, dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. J. Morgan, Myrfai, ger Llanymddyfri, a phregethwyd yn gym- hwys, effeithiol, ac i bwrpas gan y Parch- edigion J. Davies, ficer Llanllwni, a David D. Evans, curad Abermaw, diweddar o St. Anne, ger Bangor. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn weddus ar yr achlysur. LLANWENOG. — Cynnaliwyd gwyl o ddiolchgarwch a mawl am y cynhauaf toreithiog a gawscm yn ystod y flwyddyn hon, yn nghyd a. chyfarfod misol arch- ddiaconiaeth Ceredigion yn E glwys hynafol y plwyf hwn ddydd Gwener, y 30ain cyn- fisol. Am hanner awr wedi deg yn y boreu, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. William Powell, Trefilan, a phre- gethwyd gan yr un boneddwr, a chan y Parch. Mr Morgan, D.G., Llanddewi-ar- arth. Am dri yn y prydnhawn intoniwyd y gwasanaeth gan y Parch. William Wil- liams, curad Llanbedr, Pontstephen, a thraddododd bregeth Saesneg, a phregeth- odd y Parch. E. Evans, Llangeitho, yn Gymraeg. Yn yr hwyr intoniwyd y gwas- anaeth gan y Parch. W. Williams, Llan- bedr, a phregethwyd yn dda ac yn ganmoladwy gan y Parchedigion E. Wil- liams, Nantcwmlle, ac Evan Evans, Llan- geitho, yn Gymraeg, i gynnulleidfa luosog. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn hardd, eleni yn harddach nag arferol, banerau, tarianau, blodau amryliw, ac arwyddeiriau mewn gwahanol ddefnyddiau i'w gweled yma ac acw yn mhob man. Mewn gair, yr oedd boll gorph yr adeilad wedi ei addurno, ond y gangell yn benaf. Y boneddigesau a fuont yn flaenllaw gyd a'r addurniadau hyn ydynt y ddwy Misses Walters, o High Mead, yn cael ei cyn- nortliwyo gan rai o foneddigion a bonedd- igesau yr ardal. Yr oedd y canu o dan arweiniad y Milwriad Evans, High Mead, yn rhagorol, a theimlad llawer oedd na chlywsant gystal canu erioed; ac y mae clod dau-ddyblyg yn ddyledus i'r barwnig o High Mead, a'i foneddiges hawddgar am eu rhoddion a'u cyfraniadau at anghenion yr Eglwys yn y gwahanol ardaloedd. Casglwyd ar ol pob cyfarfod at achosion Eglwysig, a chafwyd casgliad da. AT DAFYDD EPPYNT.-Syr, wedi disgwyl a dwbl ddisgwyl, y mae Dafydd Pant- yclochydd yn erchi gofyn i chw; pa bryd yr ydych yn meddwl anrhegu Llais y TVIad, a'r awdl sydd yn eich meddiant ar ol y diweddar Major Evans, High Mead, gan Cledlynydd, buddugol yn eisteddfod Llan- ybydder yn 1872. Y mae ef yn dyweud ei fod yn rhan yn mhryniad y gwlan iddi ymddangos, gan hyny, frawd, danfonwch hi i'r swyddfa yn brydlon, a diau y bydd yn hyfrydwch gan lawer ei gweled heblaw Dafydd J^niycloclrydd a— JEUAN ÅWST.
YR HYN A GLYWAIS.
YR HYN A GLYWAIS. Clywed fod y bwrdd ysgol yn dechreu tarddu allan ei ftrwythau yn LI an fair, a bod dim llai na phedwar o'i dinasyddion wedi cael eu dyrchafu i frodordy Mald- wyn yr un wythnos. Er fy mawr alar, clywedl fod rhyw w^ith rhyfedd iawn y dyddi%y.hyn y cael ei gario yn mlaen yn nghymm^logaeth y Gat Wen a Phont-tanat, wedi i'r Hengistiaid wneud eu hymddangosiad. Pa le mae yr awdur- dodau, tybed? Deffrowch, chwi buttoned- up 'gentlemen. Clywed ddoe fqd yr ban bechod hWnW ers talm y sonir am" dano yn Lefiiicus yn ei rym yn awr yn mhlith y P-n-r-b-rt, a bod rhai o gyfeillion y set fawr wedi cael eu bwrw allan bendramwnwgl o blith y gymdeithas. Diwygiwch, ac na ddeuwch mwyach a'r fath anfri ar y gymdeithaR, y Er fy mawr alar, clywed fod rhai po'hl mor anifeilaidd yn P— C— a defnyddio beddfaeni yn gamfa mynedfa i'w tai. Gresyn garw fod y fath arferiad yn bodoli y dyddiau hyn, a mwy gresyn fyth fod yr awdurdodau mor oer a digyffro yn nghylch peth fel hyn. Dihunwch, gyfeillion, ar unw&ithj ac onide cewch Clywed fod pethau rhyfedd iawn yn cymmeryd lie yn Llanfair yn ddyddiol, a bod sect wedi cael invention newydd spon, sef parthffos dan eu addoldy er cario ymaith yr ysgarthion sydd yn eu plith. 0 Well done, gyfeillion meddylgar, onide ? Er fy mawr lawenydd, clywed fod cyng- herdd mawreddog i gael ei gynnal yn Pontdolanog ar y 25ain cyfisol, a bob can- torion enwog wedi addaw eu gwasanaeth. Os byw ac iach fydd yr hen demon, bydd yn bresennol, a chwech air. ERFYL.
[No title]
Parottoir ilr wasg gan y Parch, D. Sil- van Evans, gyfrol o weithiau rhydd- ieithol a barddonol Ieuan Brydydd Hir. Deallwn fod Mr Richard Evans, Bryn- teg, Llandudno, wedi ai ethol yn un o lywodraethwyr Prifysgol Aberystwyth. Teilynga Mr Evans yr anrhydedd hwn ar gyfrif ei wasanaeth gwladgarol a rhadlon fel ysgrifenydd ysgoloriaeth y trafaelw^r. ( > i--1- — w t I
jY GOHEBYDD GWIBIOL.
j Y GOHEBYDD GWIBIOL. PONTFAEN, NEU PONTFON '(PARHAD).- Yn ymyl drws deheuol yr Eglwys y mae gwyddfaen hardd ac effigy o Dafydd Jen- kins o Gastell Hensol, un o farnwyr Cym- ru, yr hwn a fu farw yn 1664. Hefyd Cecil ei wraig a fu farw<12fed o Chwefror, 1671. Hefyd Dafydd Jenkins, Ysw., ei fab, a fu farw Mawrth y 18fed, 1696. Hefyd Mary, ei wraig, a fu farw Medi 1667. Hefyd Richard Jenkins, wyr i'r barnwr uchod a fu farw yr 16eg o Orphenaf, 1721. Arf-bonedd y teulu hwn oedd pedwar ceil- iog, arwyddair Fe dal am Daro." Yr oedd yr hen bobl yn dewis arwyddair j doethion. Arwyddair Arglwyddi Llandaf oedd "A Vyno Duw Vydd;" teulu Bas- set, Gwell angau na chywilydd." Yr oedd Dafydd Jenkins, y barnwr yn Deyrngarwr twymngalon cafodd ei erlid yn chwerw gan y Cromwelliaid. Yr oedd ei wyr, Richard Jenkins yn bleidiwr selog i'r Eisteddfodau, a barddoniaeth, a miw* sig. Yr oedd yn delynor gwych. Dar- fyddodd y llinach wyrywaidd o'r teulu ar ei farwolaeth ef. Priododd ei nith, Miss Mathews, a'r Canghellydd Talbot, yr hwn a grewyd yn Farwn Hensol. Bu farw yn Lincoln's Inn Fields, 1737, a chanlynwyd ef gan ei fab William, yr hwn a grewyd yn larll Talbot, yn 1761, ac yn 1780 yn Barwn Dinefwr. Priododd ei ferch â Rice, o Dinefwr, a throsglwyddwyd y teitl a'r ystad i'r teulu enwog hwn. Ys/ grifenodd y Barnwr Jenkins lyfr ar y Gyfraith, ac y mae copi o Jaono yn awr yn y Free Library, ()aerdydd. Toulu Carrne's o Givenni.—Ar y wyddfaen nesaf y mae y cerfiad canlynol:—" Cyssegredig i goffadwriaeth William Carme, o'r Nashe, yn sir Forganwg, Ysw., i'r hwn y bu o'i wraig Elisabeth, merch Wil-1 > lam Avan, ysw., ddeg o blant, B# pedwar o honynt farw yn ieuaingc, Llanwodd tri o'i feibian swyddi anrhyd- edaus gartref a thros foroedd, a pbriododd ei ferched brif ddynion y sir. Llanwodd Edward y swydd o receiver-general dros Ddeheudir Cymru; Thomas, swyddog yn y fyddin, a laddwyd yn ngwarchae Onsted; cafodd Richard ei ladd yn mhlith yr Is-Ellmyn; priododd Anne a William Mathew, Elizabeth a Gabriel Lewis, Llan- isen, Mary a David Pritchard, Ysweju" iaid. Codwyd y gofadail hon gan Edward Carme fel arwydd o barch c^riad tuag at un o'r tadau anwylaf. Efe oedd yr hynaf, ac ymunodd mewn priodas a'r fenyw dlws a hardd-deg Anne, merch Syr Edward Mansell, o Fargam, a'r Ladi Jane, merch Henry, larll 'Wizor, a bu iddynt naw o blant; bu farw tri yn eu maban- dod Jane, yn 18 oed; priododd William, y mab hynaf, a. Jane, merch ac etifedds William Thomas, Ysw., o Lanmihangel,. a chawsant Powel, William, Ann, ac Eliz beth, yr hon a briododd William Jenkinli1 boneddwr, Potft; i 1rq farw Catherine Jjd^ar4^ a Mary, cyn tyfu i fyny. Dydd* iwyd yn mis Mehefin, 1626." Y GOHEBYDD GWIBIOL.
[No title]
Rhoddodd Cwmni y London and North Western rybudd y bydd iddynt yn y dy- fodol wneud codiad yn nhraul cludia4 gyda cherbydresi y trydydd dosib^rth nad ydyw yn stopio yn mhob gorsaf. Da genym ddeall fod Mr T. M.WilliamS' I gynt o ysgol y Garth a choleg Normalaidd Bangor, wedi pasio yr arholiad t erfyU6 am y gradd o B.A. yn Mhrifysgol Llull I dain, ac ymddengys ei enw yn y dos^rift cyntaf. Bu Mr Williams yn ysgrifenu llawer yn y l^ly^yddoedd diweddar i'r cyf- I nodolion Cymreig.
Y PRIF FARCHNADOEDD CYMREIG.…
Y PRIF FARCHNADOEDD CYMREIG. j ABERGELE, Tach. 7.—Gwenith, o 13a Oc i 14B I yr hob haidd, 10s 6ci 13a Oc yr hob; ceirch, 8s Q.c 'l | 6c yr hob; ffa, 16s Oc i 17s Oc yr bob; blawd ceir?h, 0; I i 40s Oc y 240 pwyg. AJ^BTSTWYSS, Tach. 8.—Gwenith, 7s Oc i 7s 6& y mesur; haidd, 5s 0c i 5s 6c; ceirch, 3s 9c i 4s 3c 1 meaur ymenyn ffrea, 00c i 20c y pwys; ymenyn ha" 16cj i 17c|y pwys; ednod, 3s 0c i 3s 6c y cwpl; pytat,f 4a Oc i 4a 0c y mesur. 4a Oc i 4a Oc y mesur. BANGOR, Tach. 6.-Gwenith, 41s Oc i 43s 0,0 chwarter; haidd, 30s 0c i 32s 0c; ceirch, 22s 0c i 24s Ooi blawd ceirch, 36s 0c i 38s 0c y 240 pwys; ymenyn 0 20c i 21c y pwys cig eidion, o 8c i JOc y pwys 5 c% defaid, o 8c i 9c y pwys cig lloi, o 7c i 8c y P'YN CASfpAiwaif, |CswgDith, o, 4 is 4^3 6c y cli^arter baidd, 3'2s Oc i 35a 0c y chwai te,'(j ceirch, o 22s 6c i 24s 0c y chwarter; blawd ceirch) 3 (as 0c i 39s Oc y 240 pwyg. ceirch, o 22s 6c i 24s 00 y chwarter; blawd ceirch) 3 (as 0c i 39s Oc y 240 pwyg. i D|NSYpii, Tach. 4.-Gwenitb, 14s 6c i 168 011 Yi hob; haidd, 14s Oc i 15s Oc yr hob ceirch, o 7s ôC 8s 6c yr hob; ymenyn ffres, Is 7c i Is 8e y pwyS tybiau bychain, Is 4d i is 4|c ypwys. LLANEBCHTMEDD, Iach. 4— Gwenith, 42s Oc i44s g y chwarter haidd, 30s 0c i 333 0c y chwarter; ceircb< 22a Oci 23s 0c y chwarter blawd ceirch, 31s i 32s y 240 pwys; pytatws, o 4s Oc i Qs Qp y 100 j ymer^ya f?res, Is 6o i Os 0c y pwys; cig eidion, o Qc y pwys cig defaid, 9c i 0c y pwys hams goreu, 0 Is i Oc y pwys. 00 LLANRWST, Tach. 5.—Gwenith, 16s 0c i i yr hob haidd, 13s 0c i 14s 0c yr hob; ceirch, o 8b U 98 Oc yr hob; blawd ceirch, 21s Oc i 228 Oe yr 100 pytatws, 6s 0c i 6s 6c yr hob; ymenyn ffres, o 0 1 Is 10c y pwys; cig eidion, ^c i ^c y pwys j cig dafa 8c £ lQc ypwys. y LLANGEFNI, Tach. 5.—Gwenith, 42s 0c i 428 cb warier; haidd, 30s Oc i 32s Oc y chwarter Cc i 22s Oc i 24s Oc y chwarter blawd ceirch, 34s oq ii 37s Oc y 240 pwys pytatws, 4s Oc y 100 pwys 90 y ffres, Is. 7c i Is 7c y pwys; cig eidion, o 8c i pwys cig dafad, o 9c i Oc y pwys. Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan y Perchenog, WHITWORTH DOUGLAS, Argraffydd, &c., Heo» Bangor, dydd Gweuer, Tachwedd 13, 1874. • < a "'¡". 0< N