Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

---CHWAEEL Y PENRHYN.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CHWAEEL Y PENRHYN. DYFAKNIAD Y CYFLAFAREDDWR. -It y Gwi-r Anrhydeddus Arglwydd Penrhyn. Fy Arglwydd,—Gan i'ch arglwyddiaeth fy mhennodi yn gyflafareddwr, yn absen- nolcleb Mr Pennant Lloyd, or, yn-i- chwiliad'i achosion pennodol o droseddiad tybiedig c eiddo goruchwylwyr chwarelau y Penrhyn ar drefniadau neillduol y cyt- tunwyd arnynt gan Mr Pennant Lloyd, ar ran eich arglwyddiaeth, gyda'r dynion a weitkiant yn y chwarel, ac i wneutkur ad- xoddiad o'r penderfyniad y galhvn ddyfod iddo mewn pertkynas i'r achosion hyny, aethum yn mlaen ar y 7fed o Hydref di- •weddaf, gyda ckynnortkwy Major Matkew, o Gwmni Llechi Ekiwbryfdir, a Mr Tho- mas, ysgrifenydd Undeb Bangor a Beau- maris, i agor yr ymchwiliad. Y trefniadau crybwylledig, y rhai y dy- wedir iddynt gael eu troseddn, ydynt y rhai hyny a ddynodir mewn cofnocliad am y 9fed o Fedi, i'r perwyl fod eich arglwydd- iaeth wedi addaw y byddai yr allowance yn gyfryw ag a alluogai y chwarelwyr ym- arferol i ennill y cyflog a enwid gan y dynion, ac y byddai peimodiad prif gyf- lafareddwr mewn achos o annghydweled- iad yn sicrwydd digonol y byddai i'r cyf- ryw delerau gael eu cario allan yn deg gan oruckwylwyr y chwarel. Cynnwysai y trefniadau kefyd ddealltwriaetk o berth- ynas i'r gweithwyr yn oldeg swlltyny bunt. Mae hyn yn gynnwysedig yn yr attebiadau canlynol i'r dynion, sef Medi 7fed, 1874.- Gofyniad: A fyeld i i fargeinion rheolaidd gael eu gosod i'r rhai hyny dros 20 oed sydd yn awr yn gweithio yn ol deg swllt y bunt ? Medi 9fed, 1874.—Atteb Bydd i'r dyn- ion sydd yn gweithio yn ol deg swllt y bunt gael eu llyngcu i fyny yn y chwarel yn mhlith cymmerwyr bargeinion, fel y byddo cyfieusdra yn caniattau, ond y mae yn anmhossibl caniattau fod iddynt gael eu rhoddi i weithio craig ddifudd yn unrhyw ran o'r chwarel, yr kon y bwriedir ei rhoddi i fyny. Medi 12fed, 1874.-Gofyniad: Mewn achosion lie mae rhai o honynt yn gweithio yn barod ar ddarnau o greigiau hawdd eu gosod fel bargeinion, a wneir kyny ? Yr un diwrnod.—Atteb Gwneir, goddefir i ddyniol1 y deg swllt y rhai sydd eisoes yn gweithio ar graig a ellir yn hawdd ei gosod wneuthur felly, fel yr eglurwyd yn barod. Mae y trefniadau hefyd yn cynnwys telerau pennodol yn nghylch yr amser a ganiatteid i weithwyr a gymmerasant far- geinion mewn chwarelau ereill i ddy- chwelyd at eu gwaith yn Chwarel y Pen- rhyn, ac yn nghylch dewis partneriaid. Dangosir hyn yn y gofyniadau a'r atteb- ion canlynol, sef Medi 7fed. 1874.—Gofyniad: A ganiat- teir i gymmerwyr bargeinion ddewis eu partneriaid eu hunain allan o fysg y rhai sydd eisoes yn y chwarel, heb ymyriad y goruchwylwyr ? Medi 9fed, 187 4.Atteb: Bydd i fa -r-. geinwyr gyflwyno enwau i oruchwylwyr y chwarel, ac mewn amgylchiad o wrthod- iad, i'r prif oruchwyliwr neu gyflafareddwr. Medi 7fed, 1874. Gofyniad: A ganiat- teir amser i'r rhai kyny a wnaethant gyttundeb mewn chwarelau ereill i gwbl- hau y cyttundebau hyny ac yna dy- ckwelyd i'w hen leoedd yn y chwarel? Medi 9fed, 1874.-Nis geliir cadw bar- geinion yn segur i'r dynion hyn am dros fis o amser. Aeth y dynion hyn ymaitk yn wirfoddol; ac os na byddiddyntddych- "welyd erbyn hyny, rhaid iddynt ddioddef canlyniadau eu gweithredoedd eu hunain. Ehoddwyd y gofyniadau gerbron gan y dynion, a'r attebion gan Mr Pennant Lloyd. Mewir llythyr dyddiedig yr 22ain oFedi diweddaf, cyfeiriedig attaf fi gan y pwyll- gor, gosodasant i lawr eu cwynion. yn nghylch (fel y tybient hwy) y dull annheg yn yr hwn yr ystyrient fod y goruchwyl- wyr yn cario allan y trefniadau crybwyll- cdig, gan ddesgrifio y cyfryw drefniadau fel y rhai goreu yn bossibl er lies y meistr a'r gweithiwr. Dywedant yn mhellach yn y llythyr hwn, pan y gwelsant yneglur oddiwrth "y gosod ar y diwrnod cyntaf (gan gyfeirio at y gosod yn mis Medi di- weddaf) fod, nid yn unig ysbryd, ond hefyd llythyren y trefniant yn cael eu troseddu, teimlent mai yr unig lwybr agored iddynt oedd rhoddi i fyny weithio a gosod yr achos gerbron ei arglwyddiaeth; a, nodasant saith o achosion fel engreifft- iau yn mha rai nad oedd y trefniadau y daethpwyd iddynt yn cael eu cario allan yn eu cyfanrwydd. Ychwanegent yn mhellach fod y prisiau a ganiatteid am lechi a wneid o graig ddrwg, ac am gario ymaith y rwbel yn ol y dunell, yn ddi- i eithriad yn gyfryw fel nas gellid disgwyl i'r dynion drafferthu eu hunain i wneud J unrhyw lechi o honi. ond ei dryllio a'i < ckludo dros y domen am bris y tunelliad, <'■ gan y gallent sicrhau cyflog yn y model hwn pan nad allent wrth wneuthur llechi 1 am y prisiau cynnygiedig, a'r canlyniad i fyddai dwyn anfri ar drefniant presennol y ckwarel fel un diennill i'ch arglwydd. i iaeth, ac yn y pen draw beri anfoniad ymaitk nifer mawr o chwarelwyr o'r gweithfeydd fel heb angen am danynt. > n Mewn eofnodiad o eiddo eich arglwydd- iaeth, dyddiedig Medi y 23ain, ac a gyf- lwyhwyd i'r pwyllgor,: hysbysa -eich ar- glwyddiaeth hwynt, gan ei bod yn ddy- munol gwneuthur ymchwiliad diymaros i unrhyw gyhuddiadau a ddygir ymlaen yn erbyn goruchwylwyr y chwarel o ddiffyg cydymffurfiad a'r cyttundeb a grybwyll- wyd uchod er mwyn cael allan pa sail all fod i'r cyfryw gyhuddiadau, ac awgrym- odd eich arglwyddiaeth y dylid eu dwyn yn mlaen mewn ysgrifen yn ystod yr wythnos bresennol, neu yr ystyrid eu bod wedi eu rhoddi i fyny. Ar y 5ed o Hydref anfonwyd i mi lyfr yn cynnwys deuddeg o gybuddiadau yeh- wanegol yn erbyn y goruchwylwyr o dros- eddu y trefniadau ac er fod y pwyllgor, a siarad yn fanwl, yn ol telerau cofnodiac1 y 23ain, wedi amddifadu eu hunain o'r hawl i'r ymchwiliad i unrhyw achosion newyddion ar ol y 26ain etto, wedi ys- tyried y pwngc, ac yn gwybod mor awydd- us oedd eich arglwyddiaeth ar fod pob tegwch yn cael ei estyn i'r ddwy blaid, rhoddais i fyny fy hawl i gau allan yr achosion hyny, a chydsyniais yn y cyfar- i'od ar y 7fed l'w derbyn a'u harchwilio. Ar yr un pryd penderfynais, mewn teg- weh a'r goruchwylwyr, ohirio yr ymchwil- iad hyd y 12fed, a chyflwyno iddynt gyfysgrif o'r llyfr i'r dyben iddynt gael ei ystyried. Ar y 12fed, ac i fyny hyd yr 2il cyfisol, gydag ychydig oediadau dibwys ond angenrheidioi, aethpwyd yn mlaen gyda'r ymchwiliad. Ar brydnawn y 27ain, a thrwy y dydd yr 28ain, archwiliais y chwarel gyda Major Mathew, ac yn enwedig y rhanau kyny y cyfeiriwyd attynt yn y cyhudd- iadau. Cynnwysai gwaith yr ymchwiliad arholi 39 o dystion, tryckweliad ac ystyriaeth gofalus o attebion a sylwadau y goruch- wylwyr, ysgrifenedig mewn 18 o daflenau o draft paper a gyfiwynwyd ar y 30ain o Hydref, yn ngliyda nodiadau y pwyllgor ar yr unrhyw, cynnwysedig mewn llyfr o 24 o dudalenau a ddodwyd o fy mlaen ar yr 2il cyfisol, heblaw archwiliad y chwarel, a grybwyllwyd yn barod. Y mae i'w ofidio fod yr ymchwiliad wedi parhau mor hir, ond gan fod y gohiriad o'r 7fed i'r 12fed o Hydref, er mwyn cael 0 pob tegweh, yn anocheladwy,—gan fy mod wedi fy nghyfarwyddo i roddi gwran- dawiad astud a chyflawn i'r holl bleidiau, —a chan ei bod yn anhebgorol cario yr ymdrafodaeth yn mlaen yn y ddwy iaith -y Gymraeg a'r Saesneg, ac i'r holl dystiolaethau wedi eu hysgrifenu i lawr yn Saesneg, gael eu cyfieitku drackefn i'r Gymraeg i'r tystion, cyn iddynt arwyddo eu henwau wrthynt, yr oedd yr ymchwiliad yn rhwym o fod yn kirfaitli. Yn awr wedi rkoddi i'r holl dystiolaeth —barn Major Mathew ar yr achos n-iewii dadl mewn perthynas i'r gwaith,— atteb- ion a sylwadau y goruchwylwyr,—a < nod-, ;iadau y pwyllgor ar yr unrhyw-yr ystyr- iaeth dclyfalaf yn fy ngallu fel hyn wedi fy nghyfnerthu, yr wyf yn rhoddi fy nyfayn- iad ar bob un o'r achosion cynnwysedig yn llyfr y cyhuddiadau fel y canlyn Achos Rhif l.—Owen Williams, Tany- grafell, rhif 161, Euskout.—Fy nyfarniad ar yr achos hwn ydyw y gallesid ennill cyflog ar delerau y gosodiad. Wrtk ddyfod i'r penderfyniad yma, dymunwn sylwi yn ol y dystiolaeth a'r wyb ilaetk. ymarferol y buom yn analluog i'w ddwyn yn mlaen yn yr achos hwn, y buasai raid i'r dynion mewn trefn i ennill eu cyflogau ddibynu mwy ar y pris a roddid wrth y dunnell,nac ar y pouitd(ige,yr liyn,haerant, a fuasai yn sarhad arnynt hwy feLchwarel- wyr galluog, ac yn ddifantaisi'charglwydd- iaeth, gan na byddai unrhyw gymhelliad i arbed y llechi, ond yn hytrach eu taflu heibio, yr hyn waith a ddarostyngai y ehwarelwyr i sefyllfa gydradd a labrwyr cyfiredin. Achos Ehif 2.—Bichard Jones, Ciltwllan, rhif 437, Pone Ddwbl.—Fy nyfarniad yn yr achos hwn yw fod y modd y gosodir yn gyfryw nas gellir gwneud cyflog priodol a gallaf sylwi na buaswn yn gwneud cyn- nyg i symmud y rwbel am hyn a hyn y dunnell, gan nad oes digon o graig at alwad i weitkio ar yr egwyddor yna 'yn bresennol. Y rwbel tan sylw, yn fy marn i, a ddylid symmud ymaith wrth gyflog dydd i nifer o ddynion perthynol i'r fargen. Mae y platform yn llawer iawn rhy 0 gul yn y lie hwn. Nis gall dynion weithio ar y largen hon (ac eithrio y rhwbel) heb aflonyddu mwy neu lai ar y gweithwyr ar y lloriau islaw. Mewn gwirionedd y mae y ponciau uchaf fel rheol heb eu gweitbio yn dcligon yn mlaen i atteb i'r rhai sydd yn dilyn o'r gwaelod. Dylai y platform fod yn llawer lletach er mwyn i'r graig a ddryllir gael syrthio arni, yn lie bod yn agored i syrthio i'r ponciau islaw. Achos Rhif 3.-Evan, Evans, Bone Uchaf, rhif 860 pone ddwbl. Fy nyfarn- iad yn yr achos hwn yr un ag yn a rhif 1. Achos 4.-Thomas Williams, Ceunant, rhif Sll, Ffridd, a John Roberts Caellwyn- ] grydd, rhif 8, Ffridd, &c.-Y mae fy nyfarniad yn yr achos hwn etto yr un ag yn rhif 1. Achos 5.—William Morris a Griffith Williams, rhif 185, Fitzroy.—Fy nyfarn- iad yn yr achos hwn ydyw, nas gallesid gwneud cyflog priodol ar delerau y gosod- iad. Achos Rhif 6.-Jolin Morris Jones, CefT-i yr Ynys, rhif 65, Agor Boni.—Y mae fy nyfarniad yn yr achos hwn yr un ag yn achos rhif 1. 0 Achos Rhif 7.-Thomas Williams, Cae- llwyngrydd, rhif 301, Agor Boni. Y mae fy nyfarniad yn yr achos hwn yr un ag yn rhif 1. Achos Rhif S.-Robert Thomas Lloyd, Mynydd, rhif 219, "Ffridd." Y mae fy nyfarniad yn yr achos hwn yr un ag yn rhif 1. Achos Rhif g.-Robert Griffith, Ty'ny- maes, rhif 23, Pone Ddwbl. Y mae fy nyfarniad yn yr achos hwn yr un ag ar achos rhif 2. Achos Rhif 10.—David Jones, Ehiwlas (Cefn braich), rhif 53. Y swm a gynnyg- iwyd ydoedd 3p 15s y bunt. Yr hyn a ofynid ydoecld ip., Buasai y gwahaniaeth yn fychan dherwydd natur y graig mewn dadl, pa un sydd yn fastardd-graig, ac y mae'r holltau yn ddrwg, a'r hydwythder hwnw perthynol i graig-lechau wedi ei golli. Gan hyny, ychydig o lechi ellid wneuthur, a buasai y gwahaniaeth yn bur fychan mewn canlyniad. Yr ydwyf yn rhoddi fy nyfarniad yn ffafr y dynion. Achos Rhif 11.—Hugh Davies, Cilger- aint, rhif 234, a John Williams, Carreg-y- gatli, rhif 349. Y mae fy nyfarniad yn yr achos hwn yr un ag ar rhif 10, a gellir cymmwyso yr, un sylwadau at y ddau achos. Achos Rhif 12.-Evan John Evans, Water-street. Tynwyd yr achos hwn yn ol gan y pwyllgor. Achos Rhif 13.-Thomas Pritchard, Braichmelyn, "Fitzroy." Fy nyfarniad. yn yr achos hwn ydyw nad oes dim ar y ffordd i wneud, neu alw y darn kwn o graig yn fargen lechi, a'i gosod yn unol a kyny. Achos Rhif 14.-Richard Williams, Twr; Sebastopol. Fy nyfarniad ar yr achos hwn ydyw y, gellid yn hawdd weithio y darn craig yma fel lleeh-fargen, ac nid oes unrhyw reswm pam nad ellid symmud y ffordd sydd ar y top, a'r drafnidiaeth o ckwarel Douglas ei ddwyn yn mlaen i cbwa-Pel Fitzroy o gwmpas yr ochr ddwy- reiniol, ac felly i fyny y balance shaft. Achos Rhif 15.—William James, Gwern- ydd, Agor Boni. Fy nyfarniad yn yr achos hwn ydyw na ddylid gosod, y darn craig yma fel bargen am ei bod yn y rhan hono o'r chwarel ag y bwriedir ei rhoddi i fyny. Achos Rhif 16.—Hugh Jones, Carmel, Rhif 30, Fitzroy. Fy nyfarniad yn yr achos hwn ydyw nad oes unrhyw rwystr ar ffordd gosod y darn craig hon fel bar- gen lechi reolaidd. Achos Rhif 17.—Edward Roberts (ac nid Jones), pone "George." Y mae fy nyfarniad yn yr achos hwn yr un ag ar rhif 14. Achosion 18 a HL-lobert Prichard, Fotty Sepastopol. Ymddengys fod am- heuaeth o berthynas i'r ystyr a roddir i'r geiriau bargeinwyr a chymmerwyr bargeinion," Barnai Mr Francis nad oedd bargeinwyr yn golygu ond yn unig y rhai a feddent fargeinion eisoes gyda rhif yn y chwarel, ac ymddengys nad oedd y geiriau bargen gymmerwyr yn y cyfar- wyddiadau a dderbyniodd efe. Fy nyfarn- iad yn yk aellos hyn ydyw y dylasai y tel- erau yn fy nhyb i, gael eu deongli yn hael- frydig, ac y dylasid caniattau i Robert Prichard enwi ei bartneriaid, yn ddaros- tyngedig i'r eymmeradwyad a nodir yn y cyttundeb. Pe cariasid hyn allan ni chy- fodasai yr achos unigol hwno gwyn oher- wydd peidio cadw y bargeinion yn agored i chwarelwyr absennol. Gwedi i mi fel hyn roddi fy nyfarniad osi aryr-amrywiol achosion a ddesgrifir yn llylr y cyhuddiadau (book of charges), dymunaf wneud ychydig o sylwadau eyff- redinol. i.-Yr wyf yn ystyried y drefn o brisio yn ol y bwit ar bunnoedd yn unig yn an- nghyfiawn, ac y dylai y prisiad gael ei ganiattau ar gyfran o bunt yr un modd ag ar bunt. — 2.-Nis gallaf gydweled a'r llyn a ddy- wedir yn y llythyr am yr 22ain mai- un Ilwybr yn unig oedd yn agored, sef stopio gweithio a gosod yr achos o flaen eich ar- glwyddiaeth o dan yr amgylchiadau a ddesgrifir mewn perthynas i droseddiad y cyttundeb gan y goruchwylwyr. Y llwybr teg, a'r unig lwybr priodol, tra yr oedd y trefniant hwn yn bodoli, a ddylasai y dynion gymm-eryd,,I"uasai arosyn 1-lonydd ac amyneddgar o dan y cam, os cam hefyd,-myr..ecl yn mlaen gyda'u gwaith, ac appelio am gyfiawnder at y canolwr, a chymmeryd ei ddyfarniad ef ar eu gwa- hanol gwynion. Ond yr oedd gweithredu fel arall, fel y gwnaethy dynion, yn eu gosod mewn cam sefyllfa, ac yn ddinystr ar y trefniant, yr hwn y cydnabyddent hwy eu hunain oedd y goreu a allesid gael i er lies y gweithiwr a'r meistr, ac i achosi am gynnifer o wythnosau golledion a dioddefiadau iddynt eu kunain, eu teulu- oedd, a'r cymmydogaetkau yn gyffredinol, na welwyrl eu cyffelyb o'r blaen, yr hyn, pe buasent yn glynu wrth eu hawl i ap- pelio, na chymmerasai le. Yr wyf yn cydnabod gyda diolehgarwch y cyfarwyddyd a'r cynnorthwy gwerthfawr a gefais yn yr ymchwiliad hwn oddiar law Major Mathew, a dymunaf gydnabod y dull galluog y cynnorthwywycl fi gan Mr Thomas, fel ysgrifenydd, yn ystod yr ym- chwiliad hwn.—Meddaf yr anrhydedd o fod, fy arglwydd, ufudd wasanaethwr eich arglwyddiaeth, ARTHUR WYATT., Tachwedd 4ydd, 1874. Yr wyf yn cydweled yn bollol a'r dyfarn- iad uchod. E. W. MATHEW.

AT OLYGWYR "LLAIS Y WLAD."

i..1'J"t -_..--____-_._---.-MOESOLDEg…