Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

- YNYS MON. -..

News
Cite
Share

YNYS MON. in. Llvvyni hardd sy'n llanw hon, Oedd wreiddiau'r hen Dderwyddon." Llwyn Moel, ond a adnabyddir yn awr fel Coed Plas Newydd, ydoedd un o brif Iwyni cyssegredig y Derwyddon yn Ynys Mon. Ond odid hwn yw'r unig weddill- ion o'r cedyrn a'r ami "lwyni" hyny a orchurldient wyneb Mona nes ei galw o'r herwydd yr Ynys dywell." Oes, y mae yn y llwyn gweddilliedig hwn, Allorau dan gangau gwydd Ond Adroddwch, mae'r Derwyddon ? I'r bedd yr aethant o'r byd." Darfu eu dydd. Aeth ymaith y nos dywell ddu, a Haul Cyfiawnder a wasgarodd y tywyllwch caddugawl a'i ddisglaer belydr- Ola. Ciliodd y gaddug a ordodd y fro am lawer oes. Heddyw "Pelydron goleuni Efengyl tangnefedd A geir yn prydferthwych oleuo y wlad." 0 Sul i Sul perseinia Cloch y Llan drwy'r Llwyn Moel, a chyhoeddir y newyddion da o lawenydd mawr is cysgodion y deri tewgryf a thal-gryf sy'n ogoniant i'r PLAS' NEWYDD. Saif y plas tywysogol hwn ar safle 0 preswylfod yr enwog Gwenllian, o wehelyth Cadrod Hardd. Mae o fewn ergyd careg fin y Fenai, a chysgodir ef gan dderi talgryf a changhenog, y rhai a ychwaneg- allt yn fawr at ardderchowgrwydd y lie. Cynlluniwyd yr adail bresennol gan Mr Potter o Lichfield, ac y mae yn golofn barhaol o'i fedrusrwydd. Fe fu y Fren- hines yn treulio rhai hafaidd ddyddiau Diebyd yn y lie hwn (1832) gyd a'i rhin- Weddol fam y Ddugeso Caint; a threuliodd Sior IV. noswaith dan y gronglwyd hon yn ystod ei ymweliad ag Ynys Mon, 1821. Taflwn olwg dros ach a bonedd teuluoedd y Plas Newydd yn hen a diweddar, gan ddechreu gyd a Gwenllian ferch Iorwerth ap Dafydd ap Ednyfed Chwith ap Hywel ap Gruffydd ap Sandde ap Cadrod Hardd. Priododd Gwenllian un William Griffith o'r Penrhyn, ystafellydd Gogledd Cymru, a bu iddynt blant :—Robert Griffith o'r Plas Newydd, vVilliam Griffith, Edmund Griffith, o Borthyraur, Caernarfon, Marsli, Alis, Ellen, gwraig Griffith ap John ap Meredydd, o Ystum Cegid, Agnes, gwraig Syr Robt. Brittayne, cwnstabl Castell Caernarfon. Yr oedd Maurice Griffith, o'r Plas Newydd yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Biwmaris yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad Edward VI., ac yn Uchel Sirydd Mon yn y flwyddyn 1562. Yr oedd Rowland Griffith o'r Plas Newydd yn Uchel Sirydd Mon. Bu farw yn y fl. 1553. Edward Griffith o'r Penrhyn a fu farw yn Nulyn, Mawrth 11, 1540, ac a gladdwyd yn Eglwys Crist yn y d din as • y mae gwyddfa i'w goffadwr- lae.fi Gadawodd ei holl diroedd, oddi- gerth y Penrhyn, i'w dair merch o'i wraig Jane, merch Syr John Puleston, marchog, ystafellydd Gogledd Cymru. Ei ferch Ellen, etifeddes y Plas Newydd, a briod- odd Syr Nicholas Bagnall o Newry yn yr Iwerddon, a bu iddynt bedwar o feibion- Henry, Dudley, Ralph, ac Edward-a saith o ferched. Bellach olrheiniwn y llinell deuluaidd yn rheolaidd.—I. Syr Henry Bagnall, marchog, a briododd Ellen ferch Syr John Savage. Bu yn cynnrychioli Mon yn y Senedd, 1586-8 a Nicholas Bagnall, Ysw., 1661-78. Bu farw ei fam yn Newry. Ei ferch ac etifedd- es—II. Ann Bagnall, a briododd Lewis Bayley, D.D., Esgob Bangor. Ganwyd Dr. Lewis Bayley yn nhref Caerfyrddin. Addysgwyd ef yn Rbydychen. Yn y flwyddyn 1611 yr oedd yn weinidog Evis- ham, yn gapelwr i'r Tywysog Harri, ac yn Beriglor Eglwys St. Matthew, Friday Street, Llundain. Oherwydd ei enwog- rwydcl pregethwrol dyrehafwyd ef yn gapelwr i Iago I., yr hwn a'i dyrchafodd ef i Esgobaeth Bangor yn y flwyddyn 1616. Yn 1621 earcharwyd ef am ryw drosedd anadnabyddus yn y Fleet," ond rhydd- hawyd ef yn fuau. Ysgrifenodd draethawd godidog, "The Practice of Piety," sylwedd fel y tybia Wood ei breyet-hau i'w gynnull- eidfa yn Evesham. Aeth y gwaith hwn trwy 59 o argraphiadau erbyn 1734. Cyfieithwyd i'r Gymraeg yn 1630, dan yr enw "Ymarfer o Dduwioldeb," ac aeth drwy amryw argraphiadau; ac i'r Ffrangcaeg yn 1633, a chyrhaeddodd boblogrwydd anarferol yn Ffraingc, ac edrychai y werin arno yn ail i'r Bibl Cys- segrlan, os nad yn gyfartal, fel y cwynai John d'Espagne, awdwr enwog a phre- getawr yn Somerset House yn 1656. Bu farw yr Esgob Bailey I-Iyd. 3, 1631, a chladdwyd ef yn ei Eglwys Gadeiriol, ym rnedd yr Esgob Meyrick. Gadawodd ar ei ol bedwar mab— 1. Nicholas. 2. John. Ganwyd John Bayley yn y flwyddyn 1595 yn Henffordd, a derbyniwyd ef i Goleg Exeter, lie yr oedd ei dad yn Ddarllenydd, yn 1611. Urddwyd ef gan ei dad, a rhoddodc1 fywioliaeth iddo. Pen- nodwyd ef drachefn yn un o Gapleniaid y Brenhin a Warden Rbuthin. Cyhoeddodd lyfr o'r enw Angel Gwarch- eidiawl," yn nghyda chasgliad o bregeth- au, yn 1630. 3. Theodore. 4. Thomas. Addysgwyd Thomas Bailey yn Nghaer- grawnt, a; chafodd Is-ddeoniaeth Wells "'i./l j,: :u ,I yn 1638 gan Siarl 1. Yn 1644, encil- iodd i Rydychen, lie y graddiodd mewn difinyddiaeth. Yn 1646 cawn ef gydag larll Worcester yn Nghastell Eaglan, yn amddiffyn y castell rhag y gwerinwyr. Efe a ysgrifenodd y telerau pan roddwyd y Castell i fyny i wyr y Senedd. Ar ol hyn aeth trosodd i Ffraingc, a theithiodd drwy barthau o'r Cyfandir. Dychwelodd i Loegr wedi dienyddiad y Brenhin, a chyhoeddodd lyfr dan yr enw "Certamen Religiosum: or a Conference between King Charles and Henry, late Marquis of Worcester, concerning Religion, in Rag- land Castle, 1649." Bernir mai ffug yw yr ymresymiad hwn o. bant i ben tan, ac na chymmerodd y fath gynnadledd le erioed ond yn yrnenydd Dr Thos. Bailey yn unig. Condemniwyd y gwaith yn dost oherwydd ei ogwyddiad at Babydd- iaeth. Ysgrifenodd lyfr arall tua'r un adeg o'r enw "Eoyal Charter granted un- to Kings by God himself," ac yn nghys- swllt hwn waith arall yn dwyn y pennawd "A Treatise, wherein is proved that Episcopacy is Jure Divino." Am ysgrif- enu y gwaith olaf hwn bwriwyd ef i gar- char Newgate gan y Werinfywodraeth. Yn y carchar ysgrifenodd lyfr arall, Herba Parietis," 1650. Cyhoeddodd ef, a diangodd o'r carchar. Ffodd i Holland, ac addefodd ei hun yn Babydd. Yn ys- tod ei arosiad yn Douay cyhoeddodd The End to Controversie between the Roman Catholic and Protestant Religions," 1654. Treuliodd weddill ei ddyddiau yn yr Ital, lie y bu farw mewn tlodi ac. angen dir- fawr, tua'r flwyddyn 1652. III. Nicholas Bayley, Ysw., a briododd Ann Hall. Eu hetifedd-IV.-Syr Nicholas Bayley, a briododd Caroline Paget, merch Brigadiei General Thomas Paget, o'r hon y cafodd yr hiliogaeth a ganlyn Henry, larll Uxbridge, a Barwn Paget; Edward Bai- ley, Nicholas Bailey, A.S., dros Mon, 1784-90; Paget, Mary, priod Stephen Metcalfe, Ysw., .Sereby, sir Lincoln; Doro- thy, priod George, larll Granard Caro- line, Gertrude, Louisa Augusta, priod Capten':Thomas Poplett, ac ereill a fuont feirw yn eu mabandod. Yr oedd Edward Bailey, Ysw., Plas Newydd, yn Uchel Sir- ydd Mon yn y flwyddyn 1717. Bu Syr Nicholas Bailey, barwnig, yn cynnrych- ioli Mon yn y Senedd. Bellach olrhein- iwn ychydig ar hanes y tylwyth Paget. Daeth y tylwyth hwn i enwogrwydd yn nheyrnasiad Harri VII. Trwy ei allu- oedd gwleidyddol, ennillodd William Paget, boneddwr o sir Stafford, ffafr y brenin, a daeth yn wr o ddylanwad yn y llys. Pennodwyd ef yn un o gymmun- weinyddwyr y brenin, ac yn nheyrnasiad Edward YI. crewyd ef yn Farwn Paget. Galwyd Henry, seithfed barwn Paget, i fyny i Dy yr Arglwyddi yn y fl. 1711, wrth yrenw Arglwydd Burton ac larll Uxbridge. Ar farwolaeth ei wyr, Henry, yr ail larll, yn ddibriod yn y fl. 1769, dis- gynodd barwniaeth Paget (a barony in fee) i'r etifedd nesaf yn y llinell fenywaidd— sef Henry Bailey, mab Byr Nicholas Bailey, o'r Plasnewydd, o Caroline ferch y Cadfridog Thomas Paget. Pan y daeth Henry Bailey i'r farwniaeth, mabwysiad- odd, trwy ganiattad brenhinol, gyfenw ac arfbais Paget, Ion. 29, 1770 a dyrehaf- wyd ef i iarlliaeth Uxbridge, Mai 19, 1784. Priododd Jane, merch hynaf Arthur Champagne, Deon Clonmacriois, yn yr Iwerddon. Eu plantHenry William, arglwydd Paget, arwr Waterloo, a anwyd Mawrth 17, 1768. William, 1769, aelod seneddol dros Foh, 1790—4; Arthur, 1771, aelod seneddol dros Fori, 1794 1806; Caroline, priod John Thomas, ail fab larll E sees Jane, priod Arglwydd Garles, mab hynaf larll Galloway; Ed- ward, Louisa, priod y Milwriad ,Syr W. Erskine; Charles, Bulkeley, aelod sen- eddol dros sir Fon, 1806-20, pryd y dilynwyd efyny swyddgan larll Uxbridge, yr hwn a'i daliodd hyd y fl. 1832; Char- lotte, Mary. •- < < AEBALYDD MON. Dechreuodd Henry William, Arglwydd Paget, 'ar fywyd milwraidd yn ieuangc. Pan dorodd y Rhyfel Chwyldroadol allan yn 1793, efe a gododd fyddin yn mhlith tenantiaid ei dad, y rhai a elwid ar y cyntaf, Gwirfoddolwyr Sir Stafford, ond a. gymmerwyd wedi hyny i'r fyddin reol- aidd, sef 80fed gwyr traed. Gwnaed ef yn Is-ringyll y fyddin hono ac yn 1791, yr oedd gyda Dug Caerefrog yn Flianders, lIe y mawr enwogodd ei hunan. Pan ddych- welodd i Loegr, rhoddwyd iddo gadben- aeth y fyddin o wyr meirch, ac ymroddodd mor llwyddiannus fel ag yr ystyrid ef y swyddog enwocaf a berthynai i'r gwyr meirch. Bu ar waith yn egniol ar hyd ystod Ehyfel Buonaparte. Ar farw- olaeth ei dad yn 1812, derbyniodd ei urddenwad o larll Uxbridge. Yn Waterloo, efe a arweiniodd ei fyddin i'r fuddugoliaeth a thila diwedd y frwydr derbyniodd ergyd yn mhen eilin abarodd iddo golli yr aelod hwnw. Oblegid ei wasanaeth pwysig yn y frwydr fythgofiad- wv hono cafodd ei wneud yn Arclalydd Mon, a'r flwyddyn ganlynol, ei ddyrchafu yn Brif Lywydd y Fyddin, ac i swyddau pwysi^ ereill. Bu farw E brill 29, 1854. f::tt ). J.J Jd')J ;J:u,, 4

TWR MARQUIS.

LLITH MR. PUNCI.T.

[No title]