Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
A TRAP, p rice £ 3.—Apply to J. Howarth, (Shed,) West End, Bangor. 3506 BANGOR DIOCESAN TRACT SOCIETY. A COMMISSION of 25 per cent will be allowed to Booksellers, and keepers of S-P-C-K- Depots, in other places than Bangor, on sales effected by them of the Publications of the above Society. Apply to the Rev. it. W. Griffith, Llangadwaladr. Hectory, Anglesey. 3494—142 RABBITS AND GAME. WANTED, BABBITS, GAME, and BIRDS of all kinds and in any quantities, for which the highest market prices will be given. Special Contracts made with Estate Owners, Farmers and others for Consignment by Railway. The highest market price also given for RABBIT and HARE SKINS. Address, JAMES HOWARTH (Shed), West End, Carnar Ton Road,Bangor. 3169-1041-140 CrOHIRIAD BANQUET GEIDWADOL LLANGEFNI. OHERWYDD amgylchiadau anorfod, gor- 0 fyddir gohirio y Banquet uchod a fwriedid i gymmeryd lie ai y 19eg cyfisoi. NOTICE TO BUILDERS. TENDERS WANTED FOR THE ERECTION of a Manager's House at Hafod-y-Wern, near 'Waenfawr, Carnarfon. Plans and Specifications will te seen at the Office of the Moel Tryfan Crown Slate Company (Limited) at the Works,on and after Tuesday, the 3rd November, and Tenders to be lodged with the Subscriber not later than Saturday, the 14th November The lowest or any Tender may not be accepted. JOHN MASTERTON, C.E. 50, George Street, Edinburgh, 27ch October, 1&74. 3465-139 A SOOTHING REMEDY FOR ALL ILLS. A PARCEL OR CADDY CONTAINING 8 OR 20 LBS. OF DELICIOUS BLACK TEA, Sent to any part of ENGLAND or WALES on receipt of Cheque or P. O. Order for XI or X2 10s. OLIVER MORTON, > Wholesale Tea Merchant, 3, Temple Lane, Liverpool. 34G4-138 Now Ready. PRICE THREEPENCE. IIIBEE HOURS IN THE • GLEN OF ABER. A gossiping account of Aber and its attractions, by the author of A Russian Ghost Story," &c. Published by MessrB. Douglas Brothers, Bangor. News-agents can outaip- supplies on the usual terms. FOR NOVEMBER, PRICE ONE PENNY. DOUGLAS 7 S RAILWAY TIME TABLE COACHING AND STEAM PACKET Guide for North Wales CONTAINING ALSO A LIST OF FAIRS AND CALENDAR FOR THE MONTH, with a MAP OF NORTH WALES, SPECIALLY ENGRAVED FOR THIS GUIDE. The Guide may be obtained from most Booksellers and at the Railway Bookstalls. On receipt of Eighteen Penny Stamps, the Publisher u' -will forward the Guide for twelvemonths to any address. If boJked to order the charge will be Two Shillings. BUDD-GYMDEITHAS ADEILADU BANGOR A GOGLEDD CYMRU. SEFYDL WYD YN 1872. CYFRANAU, lOr. YR UN. TANYSGRIFIADAU MISOL 2s. 6c. Y GYFRAN. BLAENDAL, 6c. Y OYFRAN. YMDDIRIEDOLWYR Isfilwriad Vincent Williams, Bangor. John W. Hughes, Ysw., Cyfreithiwr, Bangor LLYWYDD: Dr. Richards, Bangor. k v CYFARWYDDWYR Mr John Lloyd, Bronderw, Bangor. Mr John Parry, Draper, etto. Mr John Pritchard, Aiwerthwr, etto. MrTbos. Pritchard, Town HallBuildings,Beaumaris, Mr Zecharias Roberts, Thomas's Square, Bangor. Mr John Simon, Tanner, Bangor. Mr John Slater, Beaimaris. "Mr James Southwell, Port Penrhyn. Mr. W. Francis Williams, Bangor. Mr Thomas Williams, Caederwen, Upper Bangor. Mr Hugh Williams, Green Back, Garth. CYFARWYDDWR GWEITHIOL. Mr John Lloyd, leu., yr Hen Ariandy, Bangor. PRIF amcan ffurfiad y Gymdeithas hon oedd meithrin arferion darbodil ymysg dosbarth- iadau llafur. Trwy nad yw y Tanysgrihad Misol ond 2s flfc y Gyfran, dygir manteision y Gymdeithas i gyrhaedd pawb sydd yn dueddol i erbed. Mae y Gyfran o lOp. yn cael ei chyflawn dalu i fyny mewn chwe blynedd-yr Atlod yn talu 9p. a'r Gymdeithas yn ychwanegu lp. fel Llog am y cyfnod. Os bydd aelodau yn chwenuyeh gorphen eu Cyfranau mewn tymmor llai, gallant wneud hyny trwy daliadau misol o 5s, 10s, neu 20s y Gyfran. Bydd y cyfranau ielly yn cael eu cwbl dalu i fyny mown 3 blwydd a -chwarter, 20 mis, neu 10 mis, ac wedyn bydd ganddynt hawl i log yn ol 5p y cant, i'w dalu yn flynydaol. Yn jchwanegol at hyn, bydd dwy ran odairo'r ennillion gael eu rhanu ar gyfer pob aelod fyddo wedi dal Cyfranau taledig neu danysgrifiol yn y Gymdeith-s am dair blydedd,-y drydedd ran yn Dgweddill i gael ei neillduo i'r ol-drysorfa. OS BYDDO AELODAU YN DEWIS TYNU YN OL, gallant wneud hyny unrhyw adeg oud rhoddi 10 uiwrnod o rybudd yn flaenorol i gyfarfod misol. Mae y Cyfarwyddwyr yn barod i roddi echwynion dan ddiogeliadau cymmeradwy ar delerau rhesymol, i'w had-dalu yn ddognau, hyd at dymmorau o 15 mlynedd. Cynnhelir y CYFARFODYDD MISOL yn Swyddfa y Gymdeithas, Rhif 1, Plasllwyd Terrace, Bangor, ar yr ail Ddydd Llun ymhob mis, o hanner awr wedi Chwech hyd Wyth o'r gloch yn yr Hwyr. Y Diwrnod nesaf i dderbyn taliadau ac i ganiattau cyfranau iydd Ddydd LIun, Awst 10. 10 II I
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. DIRODRAS.—Bu^seoa wedi sylwi ar eich ysgrifau yn flaenorol, pe gallasem wneud hyny heblaw o dan eich euw adnabyddus. Yr ydym yn rhwymedig i chwi am eich ffyddlondeb; ond carem i chwi ymochel rhag yr arddull gwasgarog o ysgrifenuj oblegid y mae ein gohebwyr yn dra lluosog, ac nis gallwn hyfforddio CQlofnau cyfain i ohebiaethau amddifad o ddyddordeb cyffredinol. Ysgrifenwch yn fyr, dirodres, ac i bwr- pas, a gwerthfawrogwn eich caredigrwydd. R. W. GRIFFITH.- -Nid ydym yn gwybod am y ffeithiau y cyfeiriwch attynt, heblaw eich bod wedi esgeuluso cydymffurfio a'r rheol o anfon eich cyfeiriad yn llawa, yn gyfrinachol. Ap Hu.-Diolch i chwi am y teimlad caredig a amlygir yn eich englyn, oud y mae ei gynghaneddiad mor wallus fel nas gallwn roddi cyhoeddusrwydd iddo. BRITHYLL BREFI.-Derllyn eich pennillion yn lied rwydd, a phelydra ynddynt aml lygeidyn tlws o fardd- oaiaeth, ond Did ydynt drwyddynt wedi eu nodweddu a'r coethder gofynol i fod i fyny a'n safon. CYFFDY.—Yn eu tro. GWILYM CAROWM.-Nid ydyw y llinellau na'r englyn i I fyny a'n safoD. DAVID JONES.—Y mae asgell eich englyn yn gywir, oud y ddwy fraich yn feius. YMDEITHYDD.—Ni chawsom etto hamdden i ddim ond bras redeg dros eich ysgrif, ac ofnem ei bod braidd yn bersonol; ond rhoddwn iddi ystyriaeth bellach. lOAN MENAI.—Ceisiwn wneud lie i'ch englyn yn ei dro. H. R.—0 dan ybtyriaeth. CARWR TREFX. — Dichou y gallwn wneud defnydd o'ch ysgrif yn ein nesaf. UN AM HEDDWCH.— Cwyna y gohebydd hwn oherwydd yr aflonyddwch a achosir i drigolion Dwygyfylcbi gan giwed sydd yn myDychu y lie ar nos Sadyrnau, ac yn meddwi ac ymladd yn yr heolydd. Onid oes yno heddgeidwad f PONT YR ALED.—Y mae eich ysgrif braidd yn faith, ond efallai y gallwn wneud defnydd o honi wedi y caffom hamdden i'w thalfyru. UN OEDD YNO.—Yr oedd adroddiad arall wedi ei gyssodi pan ddaeth yr eiddoch chwi i law. Yr ydym yn ddiolchgar i chwi am eich gwasanaeth, a charem glywed oddiwrthych yn fyoyeh. MKWN LLAW.—Ceidwadwr, Viator, Ot;wenydd, Llenor, Ardalwr, Hywel, Gohebydd, &c.
TELERAU GWERTHIAD LLAIS Y…
TELERAU GWERTHIAD LLAIS Y WLAD." Pris pob copi unigol yw Un Ddimai, neu un Geiniog gyda'r post. Os bydd rbai o'n derbynwyr yn dewis ei gael trwy y llythyrdy yn rheolaidd, anfonir ef iddynt bab nos Iau am Is 3c y chwarter, os telir ymlaen Haw. AnfSnir sypynau i Ddosbarthwyr am bedair cein- iogadimaiy dwsin gyda'rtren,aphumceinioggyda'rpost OW Pob taliadau, archebion, &c., i'w cyfeirio at Mr K. W. DOUGLAS, LLAIS Y WLAD Office, Bangor.
IDOSBARTHWYR YN EISIEU.
DOSBARTHWYR YN EISIEU. Carem glywed gyda throad y post oddiwrth y rhai a ddymunent gael eu pennodi yu ddosbarthwyr LLAIS Y WLAD. Cant yr elw arferol, a chan ein bod wedi DYBLU MAINTIOLI Y PAPYR, y mae hyny, ynghyda'r pris isel yn sicrhau CYLCHREDIAD ARUTHROL. Anfoner yn ddioed at y Parchenog, Mr K. W DOUGLAS, Bangor.
[No title]
Cofied ein Gohebwyr ysgrifenu ar un tu i'r ddalen yn unig, a bod genym hawl i dalfyru eu bysgrifau. Cy- belled ag y gallwn, bwriadwn gau alian newyddion lleol dibwys, er mwyn gwneud y "Llait." ymhob yatyr yn NEWYDDIADUR CYFFREDINOL A CHENEDLAETHOL. Pob gohebiaetbau i'w hanfon erbyu bore Mawrth, neu os gellir yn gynt, a'u cyfeirio —The Editors, LLAIS Y WLAD.
I--CRYNNODEB WYTHNOSOL.
I CRYNNODEB WYTHNOSOL. Os arweiniwyd rhai o drigolion Caernarfon i obeithio ysgoi baich treth ysgol drwy etholiad mwyafrif Radicalaidd i wasanaethu fel aelodau o'r bwrdd ysgoi, y mae eu gobeith- ion ar fin cael eu chwalu i'r gwynt. Gwyr ein darllenwyr fod yn y dref hono ysgolion Gwladwriaethol a Brytanaidd ac oher- wydd oerfelgarwch neu gydd-dod cefnog- wyr yr olaf, nid oedd dim a wnelai y tro ond sefydliad bwrdd ysgoi, drwy yr hwn y gellid beichio y trethdalwyr a chynnal- iaeth y sefydliad oedd wedi myned yn rhy drwm ar ysgwyddau proffeswyr gwirfoddol- rwydd. Pe nad arfaethasid rhoddi ond yr adran orfodol mewn gweithrediad, ni achwynasem oherwydd sefydliad y bwrdd, ond yn Nghaernarfon nid oedd y fath bryder ymddangosiadol yn nghylch addysgiad yr oes sydd yn codi ond croen y ddafad am flaidd y dreth, onide cawsem engraifft ymarferol o wirfoddolrwydd Radi- calaidd mewn parhad i gynnal yr Ysgoi Frytanaidd ar yr un tir a'r Ysgolion Gwladwriaethol, heb sicrhau pwn lletho] ar ysgwyddau y trethdalwyr. Credem o'r dechreu mai treth a fyddai, a threth sydd i fod. Mewn cyfarfod o'r bwrdd a gynnal- iwyd ddydd Llun, cafwyd fod y Parch. Herber Evans (Salem) wedi rhoddi rhy- budd yn flaenorol o'i fwriad i gynnyg ar fod i dreth gael ei chodi er cynnal yr Ysgol Frytanaidd, yr hon dreth, yn ol cyfrinad yr ysgrifenydd, a gyrhaeddasai dair ceiniog yn y bunt, ond yn llawer mwy yn ol cyfrifiad un o'r aelodau. Os gofynir tair neu bedair ceiniog yn y bunt tuag at gynnaliad un ysgol, gall y trigolion ar- swydo wrth f iddwl am y swm a ofynid pe teflid yr oil o ysgolion y dref ar y dreth, yr hyn a wnelid yn ddiamheu pe cyfodid treth ysgol o gwbl. Ni ddigwyddodd Mr Evans anrhydeddu y cyfarfod diweddaf a'i bresennoldeb, ac ni fynai cymmaint ag un o'i frodyr ei gynnrychioli yn nghyn- nygiad y penderfyniad, am y rheswm syml nad oedd y mwyafrif presennol o'u plaid. Yr ydym yn mawrygu ymdrech Mr Humphreys i wrthwynebu trethiad afreidiol y dref, ond yn ofer ac am ddim y llafuria efe, oblegid nid oes amheuaeth bellach na lwyddir i godi treth ysgol yn Nghaernarfon. Cynnwysa ein hadroddiad o weithred- iadau llys siriol Bangor wahanol syniadau ar wybodaeth o'r Gymraeg fel un o gym- hwysderau barnwyr yn y cylchdeithiau Cymreig. Llongyfarchwyd y barnwr newydd gan Mr Orlando Webb, yr hwn a gymmerodd achlysur i sylwi nad oedd gwybodaeth o iaith y bobl ond cymhwys- der ail-raddol, ac y gallai y twrneiod fod mewn penbleth tra y dilynai y barnwr y tystiolaethau a roddid yn yr iaith Gym- raeg. Dyna farn dwrneiol ar y pwngc, ond dymunem ofyn pa un ai cyfiawnder a'r Cymro uniaith ai ynte hwylusdod i dwrneiod ydyw yr ystyriaeth bwysicaf ? Ar y llaw arall, cydnabyddai y Barnwr Horatio Lloyd bwygigrwydd gwybodaeth o iaith y bobl, a gofidiai oherwydd diffyg y gyfryw wybodaeth ynddo ei hun; ond datganai ei benderfynolrwydd i fynu meis- troli yr iaith gyda phob prysurdeb. Parha y dyddordeb i gynnyddu yn eth- oliad neshaol Birkenhead, ac y mae y ddwy blaid wedi dewis yr arwyr sydd i'w barwain i'r frwydr. Yr ymgeisydd Radi- calaidd ydyw boneddwr o'r enw Mr Stitt, a'r ymgeisydd Ceidwadol ydyw Mr Mac- Iver, ac ymleddir y frwydr yn ddewr an- arferol o'r ddeutu. Nos Lun aflonydd- wyd cyfarfod Mr Maclver gan gyfeillion, a chefnogwTyr Mr Stitt, a nos Fawrth tybiodd rhaio edmygwyry blaenaf yn ddoethdaluyr echwyn adref. Gyda golwg ar ragolygon y ddwyblaid, nid oes nemawr amheuaeth na thrydd y fantol yn rhwydd o blaid Mr MacIver, gan fod Birkenhead erioed yn gadarnfa Geidwadol, a'r boneddwr sydd yn ymgeisio am yr anrhydedd o'i chyn- nrychioli yn meddu pob cymhwysderau angenrheidiol. Cymmer yr etholiad le yn mhen ychydig ddyddiau. Cynnaliwyd gwledd flynyddol Arglwydd Faer Llundain ddydd Llun, ac yr ydoedd y gorymdeithiau urddasol yn arddangos mwy o arddercbogrwydd nag arferol ar y cyfryw amgylchiadau. Wrth gydnabod y llwngc'-destyn Gweinidogion ei Mawr- hydi, traddododd y Prif Weinidog araeth hyawdl, yr hon a wrandewid gyda dyddor- deb annghyffredin ac a dderbynid gyda banllefau cymmeradwyol ond ymgad- wodd rhag dadleniadau politicaidd. Hysbysir fod llwyddiant y blaid Ddem- o'crataidd yn yr Unol Dalaethau yn gyfartal i eiddo y Ceidwadwyr yn y wlad hon, ond nis gellir symmud y llywodraeth Werinol am ddwy flynedd etto. Ym- ddengys nas gellir priodoli y troad trwy- adl hwn i unrhyw bwngc o blaid, ond arddengys fod cyfnewidiad pwysig wedi dyfod dros awyrgylch boliticaidd y wlad. Ennillasant ymron yr oil o'r eisteddleodd yn y Deheu, ac y mae mwyafrif anferth y Gwerinwyr yn y Gynghorfa wedi troi yn fwya.frif Democrataidd tra phwysig. Cadarnheir y dybiaeth mai y gwirNana Sahib ydyw yr adyn sydd yn awr mewn dalfa,gan y genadwri wefrebol diweddaraf. Gadawodd y carcharor Agra ar y 6ed cy- fisoi, yn y nos, am Cawnpore, lie y cyf- lawnwyd y gyflafan fythgofiadwy, ac yno gwneir prawf gyda golwg arei hunaniaeth. Yr oedd y ffyrdd i Cawnpore wedi eu llenwi a'r brodorion ac Ewropiaid awyddus am gael golwg ar un a wnaeth ei enw yn ddychryn i'r byd.
[No title]
Mae y Parch. Latimer Jones,Caerfyrddin, wedi cychwyn ar bererindcd i'r Aipht a Gwlad Canaan. MAEROD CYMREIG.—A ganlyn sydd restr o'r maerod a etholwyd ddydd Llun di- weddaf :-Diubyeb, Mr J. Parry Jones Beaumaris, Dr Brisco Owen Caerdydd, Mr Daniel Jones ;'Caernarfon, Mr Lewis Lewis; Mynwy, Mr J. King; Casnew- ydd, Mr E. Evans; Croesoswallt, Mr T. Pryce Parry; Pwllheli, Mr Picton Jones Abertawe, Mr F. A. Yeo Wrecsam, Mr Robert Lloyd Trallwm, Mr E. P. Jones; I Rhuthyn, Mr R. G. Ellis. Mae mwyafrif mawr o lionynt yn Geidwadwyr. •
DYDD GWENER, TACHWEDD 13,…
DYDD GWENER, TACHWEDD 13, 1874. CYMMODIAD YN METHESDA. Bellach, y mae yr ystorm alaethus a fygythiai ysgubo ymaith lwyddiant a chysur ardalwyr Bethesda wedi gwastraffu ei nerth, y cymmylau gwguswedi ymgilio, ac wybren rhagolygon yn ymddangos yn ddisglaeriach nag erioed. Er cymmaint y braw, yr angenoctyd, a'r cyfyngder a gynnyrcha y cyfryw ymweliadau eyfnodol,, y maent ar brydiau yn angenrheidiol er clinoawyrgylchfwll a thaglyd cymdeithas, a chredwn fod yr ystorm a ysgubodd dros Chwarel y Penrhyn wedi profi yn offerynol i ddwyn oddiamgylch leshad dyfodol y perchenog a'r gweithwyr, beb anmbaru y cyssylltiad cynhes a fodolai rhyngddynt ers cynnifer o flynyddoedd. Mewn gweith- fa mor eang a dyrus ei nodwedd, naturiol ddigon i ychydig afreoleidd-dra ymlithro i mewn i'w rheolaeth ac achlysuro cwyn- ion; ac yr oedd yn ddywenydd genym sylwi ar barodrwydd awyddus Arglwydd Penrbyn drwy ystod y drafodaeth i wein- yddu cynawnder anmbleidiol i bob ochr. Afreidiol bellachfyddai manylu ar y modd- ion a fabwysiadwyd i ddwyn y cyfryw gwynion yn mlaen. Yr ydym ni o'r dechreu wedi dyfal ymochel rhag ymyryd rhwng y pleidiau, ac nid ydym ar derfyniad boddhaol y drafodaeth yn chwannog i ymos- twng i bigo brychau. Meddem yr hyder llwyraf yn noethineb a gochelgarwch y gweithwyr yn ogystal ag yn awyddfryd pryderus ei arglwyddiaeth i weinyddu cyf- iawnder a thegwch, ac yn hyn ni chawsom ein siomi. Wrth fyned heibio, nis gallwn lai na datgan gofid oherwydd i rai ne- wyddiaduron gael eu gwneud yn gyfryng- au i geisio diraddio ac enllibio ei arglwydd- iaeth mor ddiachos, fel y prawf canlyniad yr ymchwiliad, a chredwn mai tra hwyr- frydig fydd y chwarelwyr yn y dyfodol i gydnabod gyda diolchgarwch wasanaeth enllibiol ymyrwyr newyddiadurol, a geis- iasant mor egniol roddi halen ar y briw- iau a lledu yn hytrach na cbulhau y rhwyg anffodus. Wrth gwrs, nid yw boneddigion o'r fath yn amddifad o nod i gyrchu atto yn y cyfryw ymyriadau gwenieithus, ac ni phetrusant fanteisio ar gyfyngder ac angenoctyd er ei gyrhaedd. Modd bynag, y mae eu gobaith i ddarostwng cymmeriad ei arglwyddiaeth ger bron y wlad wedi esgor ar siomiant, y briwiau wedi eu hiachau, a chymmodiad wedi dileu y ga- gendor. Bwriwyd ei gymmeriad megys i'r pair, ond y mae wedi dyfod allan o hono mor bur ag erioed a cbredwn fod ei ymddygiadau anmhleidiol a chyfiawn yn ystod y drafodaeth bryderus hon yn sicr o wresogi teimlad caredig ei chwarel- wyr atto, a chynnyrbhu parch ac edmyg- I edd ychwanegol tuag atto yn mynwes y wlad. Fel y gwyr ein darllenwyr, safwyd allan ar y cyntaf am godiad yn y cyflogau, ac ychydig gyfnewidiada'u mewn cyfeiriadau ereill. Cyttunocbd y chwarelwyr a phen- nodiad Mr Pennant Lloyd gan ei ar- glwyddiaeth fel cyflafareddwr, ac iddo ef cyflwynwyd y cwyhion. Wedi ymchwiliad manwl i'r gofynion, cyttunwyd ag ammod- au y trefniant newydd, o dan ba un yr am- lygodd y chwarelwyr eu parodrwydd i ddychwelyd at eu gorchwylion. Aeth- pwyd yn mlaen gyda'r orchwyl o osod y gwahanol fargeinion, ond ar y canol cyn- hyrfwyd y chwarelwyr oherwydd trosedd- iad o ysbryd a llythyren darpariaethau y cyttundeb a'r ran y goruchwylwyr, a'r canlyniad fu iddynt sefyll allan am eu hiawnderau yr ail waith. Yn y cyfwng hwnw amiygodd ei arglwyddiaeth ei an- mhleidgarwch a'i degwch drwy awdurdodi Mr Arthur Wyatt i dderbyn pob cwynion a thystioiaethau a Iwyddai y dynion, i'w dwyn yn mlaen, ac i wneud ym- chwiliad teg, gonest, a thrwyadl i'r cyfryw. Hyny a wnaed, mor ddiymaros ag y caniattai amgylchiadau, ac yn ol dyfarniad y cyflafareddwr, yr hwn a gynnorthwyid gan Major Mathew, nid oes dadl nad oedd sail digonol i luaws o gwynion y chwarelwyr. Ymfodd- lonodd y meistr a'r gweithwyr i'r dyfarn- iad, a dychwel yr olaf at eu gorchwylion yr wythnos hon yn yr ymwybyddiaeth fod cyfiawnder wedi ei weinyddu iddynt. Wrth gwrs, glynai y perchennog yn bar- haus wrth ammodau y cyttundeb y daeth- pwyd iddo gyda Mr Pennant Lloyd, a gor- weddai yrannghydfod diweddafyngyfan- gwbl rhwng y gweithwyr a'r goruchwyl- wyr, ac nis gallesid gweinyddu cyfiawnder drwy unrhyw gyfrwng mwy effeithiol ac anmhleidiol na chyflafareddiad. Erbyn hyn, y mae y newyddiaduron a fuont yn ymgystadlu mewn enllibio a darostwng ei arglwyddiaeth, yn ymryson am ei lon- gyfarch, ar derfyniad yr annghydfod, gyda phob gweniaeth. Y mae y lien wedi ei chodi oddiar ddirgelion y drafodaeth faith a phryderus, ac nid gwiw mwyach dal fyn ystyfnig i gamliwio ffeithiau ydynt mor eglur ag haul ganol dydd i'r sylwedydd mwyaf arwynebol. Nis gallwn roddi yr ysgrifell heibio heb unwaith yn rhagor longyf- arch y perchennog a'r gweithwyr ar derfyniad boddhaol yr annghydfod poenus ag y bu y wlad yn gorfod ei olygu gyda gofid am gynnifer o fisoedd. Y mae y dynion wedi sicrhau eu hiawnderau heb glaiaru dim ar eu teimlad cynhes at ei arglwyddiaeth, ac hyderwn fod y cymmod- iad wedi ei seilio ar delerau mor deg a chyfiawn fel ag i ysgoi dychweliad y cyffelyb annghydfod yn y dyfodol i, gyffin- iau Chwarel y Penrhyn.