Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

- CYFAILL I BAWB.

News
Cite
Share

CYFAILL I BAWB. PELENAU HOLLOWAY. "j.j' AMMHUREDD Y GWAED. j < Mae y pelenau hyn yn cael eu gwerthfawrogi ar yr aelwydydd tlottaf yn ogystal ag yo y tai lie mae llawn- der a chyfoeth. Effeithiant bureiddiad trwy yr holl gyfansoddiad, heb niweidio un rhan o hono, a symmud- ant ymaitb hadau yr anhwylderau byny sydd yn tros- glwyddo degau o filoedd i fedd anamserol. GWENDID, DIFFYG AWYDD AT FWYD, CUB YN Y PEN, AC ISELDER YSBRYD. Bydd i'r pelenau hyn mewn ychydig ddyddiau effeithio cyfnewidiad tra rhyfeddol mewn cyfansoddiad- au methedig (pa beth bynag fyddo yr achoa gwreiddiol o'r gwendid), canys creant awydd iachus am fwyd, meddygintaptbant ddiffyg treuliad, symmudant ormod- edd o'r bile, gwellhant y bendro, ysgafnder dyrys, a chur yn y pea, a'r holl anhwylderau annifyr hyny sydd yn codi oddiar ystumog ddrwg neu dreuliad ammher- ffaith. Y PHYSIGWFTLAETH I FENYWOD, YN HEN AC IEUANGO. I oreagyn bob rhwystrau yn y peiriannau treulio, ac i'w hadnewyddu pan fvddant wedi myned yn fethedig, nid oes un math o fethyginiaeth i'w chymmharu i'r pelenau hyn. Mabwysiedir hwynt yn gyffredinol fel yr unig feddyginiaeth fawr i anhwylderau merched, ac nis gallant fethu, canys y maent yn cryfhau y cyfansoddiarl, a phob amser yn dwyn oddiamgylch yr hyn y byddis yn amcanu atto. I ferched yn tynu at addfedrwydd, neu at gyfnod pwysicaf bywyd, y maent yn ammhrisiadwy, canys y maent yn ddiogelwch per- ffaith rhag y dropsi, cur yn y pen, curiad y galon, a phob rhyw anhwylderau gewynol fydd yn nodedig o boenus ar yr adegau hyny. ANHWYLDERAU PERTHYNOL I BLANT. Trwy y Peienau pureiddiol hyn gellir rhoddi attalfa ebrwydd, a gwella yn fuan, y pas. y ftech goch, scarla- tina, twymynau, ac afieijhydon y croeb. Ni un fam fod hebddynt. Gellir rhoddi un,dwy, neu dair, (wedi eu gwneud yn bowdwr) bob nos, gyda'r sicrwydd y gwnant les. ANHWYLDERAU GEWYNOL. Mae unrhyw ddyryswch ar y gewynau yn effeithio yn ddinystriol ar y corph a'r meddwl. I'r afiach gewynol mae y Pelenau hyn yn hanfodol1 anghenrheidiol, canys rhoddant yni a nerth i'r aelodau mewnol, ac o ganlyniad i'r gyfundrefn gewynol sydd yn eu cyssylltu a'u gorchuddio. I hyn y rhaid priodoli eu rhinweddau nodedig tuag at wella., hysteria, iselder ysbryd, spasms, ffitiau, dirdyniadau gewynol, ac anhwylderau cyffelyb. Gwerthir y Pelenau a'r Enaint gan y Proffeswr HOLLOWAY, ynei sefydliad, 533, Oxford-street, Llundain; hefyd gan braidd bob cyfferiwr parchus trwy'r Byd Gwareiddiedig, mewn Potiau a Boxes, am Is. Ile., 2s. 9c,, 4s. 6c., 29s., a 33s. yr un. Cynnwysa y Pot Lleiaf owns o Enaint, a'r Box Lleiaf bedair dwsin o Belenau, Gyda phob Box a Phot y mae cyfarwyddiadau print iedig cyflawn, a gellir eu cael yn unrhyw iaith, hycTyn- nod y Dyrcaeg, yr Arabaeg, Armenianaeg, Persiaeg, a'r Chipaeg. 25

Advertising