Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
!----_-_-_-__--__--|NODIAD…
News
Cite
Share
NODIAD 0 ABERDAR SYDD o DDYDDORDEB I Ferthyr TYDFIL. Mae y dyfyniad canlynol allan o nowyddiadnr yn Aberdar wedi creu dyddordeb yn ein tref gymyd- ogol; ac mae yn rhoddi gwybodaeth mor bwysig fel ag yr ydym yn ei rhoddi yma er budd pobl Merthyr :— Medi 5ed, 1899, Mrs Rose Davies, 5, Jenkin- street, Aberdar, a ddywed Am hir amser yr oeddwn yn ferthyr i anhwylder yr arenau, ac er fy mod w(di treio amryw o wahanol foddion, a chael gofal meddyg, ni ddeuais ddim yn Niell cyn defnyddio Doan's Backache Kidney Pills ClywaH siarad am y moddion yn y dref fel un eithriadol at yr arenau, a phenderfynais ei threio, oherwydd yr oedd wn yn n ituriol yn bryderus i gael esmwythad oddiwrth y dolur poenus oedd yn fy nghefn. Cynorthwyodd y dognau cyntaf fi yn rhyfeddol, ac ar ol defnyddio pelenau Doan am ychydig amser, yr oeddwn yn hollol rydd oddiwrth bob arwydd o anhwylder yr arenau. Arwyddion yr anhwylder oeddent poen cefn a'.t dwfr. Yr oedd y pcenau yn fy nghefn mor arswydus fel nas gallwn fyned o gylch bron-yr oeddynt yn cymeryd fy holl nerth ymaith. Gallaf yn onest gymeradwyo y moddion sydd wedi fy adfer i iechyd. (Arwyddwyd) Rose Davies.' Yr hyn a ddywed Mrs Davies heddyw-tair blynedd a haner yn ddiweddarach. I'n cynrychiol- ydd a alwodd arni ar EbriIl 21ain, 1903, dywedodd Mrs Davies—'Ie, yr wyf yn gallu, ac y mae yn bleser genyf gadarnhau yr hyn a ddywedais am Doan's Backache Kidney Pills yn fy ngwella o anhwylderau yr arenau yn ol yn haf 1899. Ac yn ychwaneg, nid wyf wedi dyoddef oddiwrth anhwyl- der yr arenau byth oddiar y diwrnod hwnw, ac yr ydwyf mor rhydd oddiwrtho heddyw ag mae yn bosibl bod. Nis gall fod unrhyw amheuaeth am y daioni parhaol wnaeth Pelenau Doan i fi.' Oo ydych yn gl if, anLuwch i ni ddesgrifiad o'r arwyddion, Bydd yn dJa genym roddi i chwi y cynghor goreu sydd yn ein meddiant yn ddidal. Ymddygir at eich llythyr gyda'r ymddiriedaeth mwyaf. Mae Ðoan's B ick iche Kicaey Pills yn ddau swllt a naw ceiaiog y blwch (chwech blwch yn chi swlit ar ddeg a naw ceini> £ ). Oddiwrth bob fferyJlydd a'r ystordai cyffyr, neu anfonir trwy y llythyrfa yn rhad ai- dderbyniad y pris gan y percbenogion-Füster McClellan, Co, 8, WellB- etreet, Oxford-street, London, W.
YR YSGOL SABBATHOL. i I -----I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
YR YSGOL SABBATHOL. wtsits r liyxgHvlad\vitiaetho r. (International Lesson.) 3AN Y PARCH D. OLIVER, D.D., TRE- FFYNON. 2Di 13eg.—Dafydd yn dyfod yn Frenin,—2 Sam. ii. 1-10. Y Testyn EusAiDD.—' Wele mor ddaionns ac )r hyfryd yw trigo o frodyr yn nghyd, '-Salm xxiii. 1. Y Rhanau i'w DARLLEN YN DDYDDIOL LInn (Medi 7fed).-2 Sam. ii. 1-10. Mawrtb.-2 Sara. iii. 17-21. Morcher.—2 Sam. iv. 1-12. Iall.-2 Sam. v. 1-12. Gwener.—Salm xxi. 1-13. Sadwrn.-Salm lxxv. ,1-10. Sabbatb.-Salm xcvii. 1-12. Ruagarweiniol. N nechreu Ail Lyfr Samuel, cawn banes Dafydd a dyfod i wybod am farwolaeth Saul a Jonathan, fab. Ymddangosai y ffordd yn glir iddo esgyn r orsedd ond ni bu yn frysiog, eithr ymgynghor- :1cl a'r Arglwydd, a gweithredodd yn ol y cyfar- yddiadau a gafodd. Yn hyn dangosodd ei oethineb yn gystal a'i dduwioldeb. Cynwysa Ail yfr Samuel banes yr Israeliaid am oddeutu deu- din mlynedd. Gellir yn briodol ei ranu i dair Ian ;-Yn gyntaf, dallunir deohreuad dedwydd a wyddiant gogoneddus breniniaeth Dafydd (pen. -x.) yna/sawn hanes camwedd a chwymp Dafydd, yda'r anffodion blinion a ddilynasant byny wedi yny, cawn hanes y modd yr ymsefydlwyd Dafydd, 'r amgylchiaddu a hynodent y rhau olaf o'i deyrn- siad. EsBONIADDL. Adnod 1.—' Ar ol -hyn yr ymofynodd Dafydd 'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi i fyny i'r un » ddinasoedd Jadah? A'r Arglwydd a ddywedodd vrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba e yr at i fyny ? Dywedodd yntan, I Hebron.' Ac tr ol hyn. Ar ol marwolaeth Saul a Jonathan. jofnodir galarnad Dafydd ar eu hoi yn y benod laenorol. Yr ymofynodd Dafydd a'r Arglwydd. id yw om weithredu ond yn unol ag ewyllys yr Vrglwydd. Gwyddai fod Samuel wedi ei eneimo )f, ond nid oedd yn sier fod yr amser wedi dyfod ddo esgyn i'r orsedd. Gellir casglu nad oedd y bobl yn dangos dim brwdfrydedd dro-ito. Yr aedd ei boblogrwydd wedi lleihau yn fawr trwy ei gysylltiad ag Achis, -to yr oedd yn ofynol iddo fod yn ofalus a phwyllog pa, fodd i weithreju. A (if fl i fyny f Hyn yn golygu myned i fyny i hawlio y llywodraeth fel breniti. Yr oedd dinasoedd Judah yn agos, ac yr oeddynt hefyd mewn mwy o gydym- ileimlad ag ef. Dos i fyny. Ni ddywedir pa fodd y oafodd Dafydd y wybodaeth hon. Yr oedd Abiathar, yr archoffeiriad, gydag ef, ac y mae hyny yn rhoddi lie i feddwl mai trwy yr Urim a'r Thummim y cafodd y wybodaeth. I Hebron. Dyma eisteddle gyntaf breniniaeth Dafydd. Gor- weddai y ddinas hon mewn lie cyfleus ar ucheldir, mewn gwlad ffrwythlon, tuag ugain milldir i'r dehan o Jerusalem. Yr oedd yn un o'r dinasoedd hynaf yn y byd, adnabyddus yn yr hen amseroecld dan yr enw Ciriath-ATba, ac enwog ar gyfrif ei hagosrwydd i ogof Machpelab. Adnod 2.—'A Dafydd a aeth i fyny yno, a'i ddwy wragedd hefyd,' Ahinoam y Jezreelees, ac Abigail, gwraig Nabal y Carmeliad.' A Dafydd a aeth i fyny yno. Sef i Hebron. Aeth i fyny i ha w lio ei safle fel brenin. Jezreelees. Genedigol o Jezreel, dinas berthynol i Jwyth Judah. Dylid ei gwahaniaethu oddiwrth Jezreel, y ddinas enwog a fn am dymhor yn breswylfan rbai o freninoedd Israel. Abigail. Gweddw Nabal, o Carmel, tref fechan yn ucheldiroedd Judah. Yr oedd y gwrag- edd hyn wedi gweled dyddiau blinion, a chael gwaredigaethau hynod. Gwel 1 Sam. xxvii. 3, a xxx. 5-18. Adnod 3.—'A Dafydd a ddng i fyny ei wyr y rhai oedd gydag ef, pob un a'i deulu a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron.' Ei wyr y rhai oedd gydrtg ef. Ei ganlynwyr—ei filwyr, y rhai oedd wedi bod yn ffycldlon iddo. Pob un d'i deulu. En gwragedd a'u gwasanaethyddion. Yn ninasoedd Hebron. Y dinasoedd bychain oedd yn agos i Hebron. Adnod 4-1 A gwyr Judah a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dy Judah. A mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, mai gwyr Jabes Gilead a gladlasent Saul.' A gwyr Judah. Mewn cyferbyniad i wyr Israel. Hwy oedd y rhai mwyaf blaenllaw fel gwladweinwyr. A eneinias- ant Dafydd yno yn frenin. Cadarnheir yn gy- hoeddus yr hyn o'r blaen oedd wedi ei wneuthur gan Samuel trwy orchynr, n yr Arglwydd. Ar dy Judah. Nid oedd eto yn cael ei gydnabod yn frenin ar Israel. A mynegasant. Sef gwyr ei lys. Jabes Gilead. Dinas yn perthyn i haner llwyth Manasseh, o'r tu hwnt i'r Iorddonen. Gelwid hi Jabes Gilead am ei bod yn sefyll yn ngbysgodion mynyddoedd Gilead. Adnod 5.—4 A Dafydd a anfonodd genadau at wyr Jabes Gilead, ac a ddywedodd wrthynt, Ben- digedig ydych chwi gan yr Arglwydd, y rbai a wnaethoch y drugaredd hon a'ch arglwydd Saul, ac a'i cladclasoch ef.' ADilfydcl a anfonodd gen- adau. Er nad oedd ond brenin ar Judah, eto yr oedd yn amcanu llywodraethu ar boll Israel. Gwyddai fod Saul yn anwyl iawn gan drigolion Jabes Gilead, ac y mae debygol ei fod with anfon y genadwri hon atynt yn bwriadu crill eu hewyllys da. Y mae yn canmol eu hymddygiad at Sau], ao yn dioloh iddjnt am eu caredigrwj dd yn gofalu am ei gladdu. Yr oeddynt wedi dangos eu hewyllys da mown gweithred. Adnod 6.—' Ac yn awr yr Arglwydd a wnelo a chwi drugaredd a gwirionedd: minau hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn, oblegid i chwi wneuthur y peth hyn.' Ac yn aivr yr Arglwydd a wnelo a chiri drugaredd a gwirionedd. Deisyfa am fendith neillduol yr Arglwydd, ac addawa ei hun en cydnabod am eu caredigrwydd. Adnod 7.-1 Yn awr gan hyny ymnerthed eich dwylaw, a byddwch feibion grymus canys marw a fu eich arglwydd Saul, a thy Judah a'm henein- iaeant inan yn frenin arnynt.' Yn awr ymnerthed eich dwylaw. Yr oedd sefyllfa y wlad yn gofyn am wroldeb. Wedi marwolaeth Saul, ymddangosai petbau yn ansier. Uanys marw a fll eich arglwydd Saul. Yn ci fanvolaeth of yr oedd y freniniaeth yn darfod. Y mae Dafydd am i wyr Jabes Gilead ddeall hyn. A thy JIlcli(h a m hmeiniasant, &c. Cyfeiria at esiampl Judah, rr eu hanog hwyfchau i wneyd yr un peth. Bua«ai iddo nllu sicrhau cefD- ogaeth a chydymdeimlrtd gvyr Jabes Gilead yn fantais fawr iddo. Adnod 8.—'Ond Abner, mab Ner, tywysog y filwriaeth oedd gan Saul, a gymherth Isbosetll, mab Saul, ac a'i dug ef drosodd i Mahauaim.' Cyf. Diw., Yn awr Abner mab er.' Yr oedd Abner yn ewythr i Saul brawd ei dad Cis. Yr oedd yn rhyfelwr o fri, ac yn alluog iawn fel blaenor y fyddin. Yr oedd Ner yn fab Jehiel, ac yn did i Cis ac Abner. Fel tywysog y filwriaeth oedd gan Saul, diau fod gan Abner ddylanwad mawr, ac y mae yn benderfynol i gael hiliogaeth Saul i'r orsdd. A gymherth Isbostth, mab Saul. Gelwid ef hefyd Esbaal. Mab ieuengaf Saul ydoedd. Nid ydyw yn ymddangos ei fod yn meddu ar unrhyw gymhwysder i deyrnasu. Yr oedd yn hollol yn llaw Abner. Mahanaim. Tref yn agos i afon Jabboe, a galwyd hi wrth yr enw hwn oddiwrth enw y fan yr adeiladwyd hi arno yr hwn a gafodd yr enw oddiwrth y weledigaeth a gafodd Jacob yn y lie. Daeth y dref i feddiant Gad, ac yr oedd yn un o ddinasoedd y llwyth hwnw, y rhai a roddwjd i'r Lefiaid. Bu yn lloches i Dafydd pan yn Ifoadur rhag Absalom ei fab. Adnod 9.—' Ac efe a'i gosododd ef yn frenin ar Gilead, ao ar yr Assuriaid, ao ar Jezreel, ac ar Ephraim, Be ar Benjamin, ac ar boll Israel.' Ac efe a'i gosododd ef yn frenin. Yr oedd Judah wedi dewis Dafydd. Felly cyhoedda Abner Isboseth yn frenin ar y gweddill o'r llwythau. Enwir hwy fel y cydnabyddid hwy y pryd hwnw. Gilead. Yr ucheldiroedd i'r dwyrain i'r lorddonen, rhwng Basan a Moab. Gellid meddwl ei fod yn cynwys yr oil o feddianau Gad a Reuben, ya inghyda'r rhanau mwyaf deheuol o eiddo Manasseh. Yr Assuriaid, neu yn ol Boothroyd, Ar Aser.' Mab Jacob o Zilpab. Yr oedd ei diriogaeth yn Nghanaan yn ffrwythlawn iawn, ac yn ymledu o Sidon yn y gogledd, byd Carmel yn y dehau. Ar Jezreel. Nid y dref fechan lIe y ganwyd gwraig Dafydd, ond y gwastadedd eang a ifrwytblawn yn medd- iant llwyth Issachar. Ar Ephraim. Y Ilwyth a ddeilliodd oddiwrth Ephraim mab ieuengaf Joseph. Ymledai eu tiriogacth ar y dwyrain o'r Iorddonen gyferbyn a Jericho hyd For y Canoldir ar y gor- llewin. Ar Benjamin. Y llwyth a ddeilliodd oddiwrth Benjamin mab ieuengaf Jacob a Rahel. Cawsant etifeddiaeth ger llaw Judah. Yr oedd yn naturiol i'r llwyth hwn lynu wrth Isboseth. Ac ar holl Israel. Y mae yr ymadrodd hwn yn fath o grynodeb o'r oil. Adnod 10.—' Mab dengain mlwydd oedd Isboseth mab Saul, pan ddechreuodd deyrnasu ar Israel a dwy flynedd y teyrnasodd efe. Ty Judah yn unig oedd gyda Dafydd.' A dtoyfiynedd y teyrnasodd efe. Nid oes genym sail i dybied, fel y gwna rhai, fod Isboseth wedi teymasu yr holl amser y on Dafydd yn teyrnasn yn Hebron. Y mae yn debygol fod Dafydd wedi oi eneinio gan Jndah gryn amser cyn i Abner ddwyn Isboseth i Mahanaim. Yna y mao dwy flynodd o ymdrechfa galed rhwng y ddwy lywodraeth, yr hon a derfynodd pan laddwyd Isboseth ac Abner. Diau fod y llwythau gogleddul wedi cymeryd amser ar ol hyn i weled beth allasai cymhwysderau Dafydd fod cyn ei ddewis a'i eneinio yn frenin iddynt. Gwersi. Daw rhai o nodweddion cymeriad Dafydd i'r golwg yn yr hanes. I. Yr oedd yn meddu ar yr ymwybyddiaeth ei fod yn wastad yn mhresenoldeb Duw, ac yn gyf- rifol iddo am ei holl weithredoedd. Dnw oedd ei gynghorwr. Yr oedd yn barhaus yn dal cymundeb ag ef, ac yn gofyn am Ei gyfarwyddyd. Nid oedd am wneuthur ond yr hyn oedd yn unol ag ewyllys Duw, a dynaddirgelwch ei lwyddiant. II. Dangosai barodrwydd i ufuddhau i ewyllys yr Arglwydd. Yn hyn yr oedd yn wahanol i Saul. Mynai Saul wneuthur ei ewyllys ei hun, or ym- gynghori a Daw. Hyn fu achos ei ddinystr. III. Yr oedd yn meddu ar yci a phenderfyniad i weithredu, wedi deall ei ddyledswydd, ao yr oedd ganddo amynedd i ddysgwyl ar ol gweithredu. IV. Yr oedd ganddo galon eang ao ysbryd hael- frydig i enill cydweithrediad a chydymdeimlad. Yn y cwbl yr oedd yn deyrugarol i Dduw. GOFYNIADAU ar Y Wers. 1. Beth fu yr achlysur i Dafydd ymgynghori a'r Arglwydd gyda golwg ar fvn'd i fyny i ddinasoedd Judah ? 2. Beth oedd natur yr atehiad a gafodd, a pha beth a wnaeth yntan mewn canlyniad ? b. Pa fodd yr ydych yn cyfrif na buasai Dafydd yn cael mwy o groesaw ar ol marwolaoth Saul, ac yntau ar un adeg wedi bod mor boblogaidd ? 4. Pa genadwri a anfonodd Dafydd at drigolion Jabes Gilead ? 5. Beth oedd ei amcen wrth anfon y genadwri? G. Pwy oedd Abner ? Pwy oedd Isboseth ? 7. Ar ba ranau y gosodwyd Isboseth yn frenin ? 8. Frtiat o amser y bu Isboseth yn teyrnasu yn Mahanaim ? 9. Faint o amser y bu Dafydd yn teyrnasu yn Hebron ?