Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

GWIBDAITH I NEWCASTLE, PA.

News
Cite
Share

GWIBDAITH I NEWCASTLE, PA. Cefais wahoddiad oddiwrth yr eglwys Gynulleidfaol yn y lie uchod i fyned i dreulio dau Sabbath gyda hwynt. Bum yno gyda liwynty Sul olaf yn Gorphenhaf a'r cyntaf yn Awst. Mae yno gyuulleidfa ac eglwys luosog. Bu y Parch J. Volander Jones yn treulio ychydig gyda blwyddyn yn eu plith ac yn eu gwasanaethu. Mae ef wedi hyny wedi bod ar Ianau y Tawelfor, ac wedi myned ar grwydr oddiyno drachefn. Nis gwn pa le y maear hyn o bryd. Mac ar dir y byw, oblegid y mae yn anfon ambell lith i'r Drych i gofnodi ei symud- iadau. Mae y gweithfeydd alcan yn gweithio yn gyson, ac nid oes gobaith am ddim seibiant yr haf hwn. Nid ops boddlonrwydd i neb o'r gweithwyr golli dim amser. Buasai yn dda gan rai ohonynt ddyfod yn ol am dro i Gymru yr haf yma, ond nid oes gobaith ganddynt os ydynt am fod mewn hcrldwch a'r awdurdodau. Mae yr eglwys mewn angen ac yn dymuno am wein- idog. Nid oes prinder pregethwyr yn y wlad, ond efallai fod y rhai a ewyllysia yr eglwys yn brin. Gobeithio y cant un heb fod yn hir, er mantais yr achos goreu. Mae dynion da a chryfion yno, yma y mae y prif-fardd, sef Mr J. Eurfryn Gray, gynt o Pentre Estyll, yn byw. Bum yn ei dy yn gweled y cadeiriau y mae wedi enill yn y gwahanol eisteddfodau yn America ac yn Nghymru. Yn benaf aethum i weled y gadair ardderchog a enillodd yn Pitts- burgh, Mai 30ain, 1903, am yr Awdl oreu ar Drydaniaeth.' Yn sicr, y mae yn un o'r cadeiriau goraf a welais erioed. Mae yn un fawr a chadarn, ac wedi ei cherfio o'r un darn pren. Ar ran uchaf y cefn y mae yr eryr yn lledu ei esgyll ac yn lioni awdurdod ac yn hawlio gwarogacth. Enillodd y brawd diym- hongar ar yr Awdl ac ar y Bryddest ar Wir- ionedd yn yr un eisteddfod ac am y tymhor, teilwng yn ddiau yw o gael ei gyfenwi yn brif- fardd. Cafodd ganmoliaeth uchel iawn gan y beirniad, Mr G. H. Humphrey, Utica, N.Y., yn enwedig felly am y bryddest. Gaffed hir oes i fwynhau ei wobrwyon, ac i enill ychwaneg eto. Cyfarfyddais ag euwogion ereill lien a chan nad ydynt o bosibl mor adnabyddus ag Eurfryn. Mae pob un yn cael ei le ei hun, ac yn cael bywioliaeth gysurus. Wedi treulio fy amser i ben dychwelais adrcf wedi mwynhau fy hun yn fawr. CHARLES M. SCHWAB. Dyma enw y gwr yr ydys wedi siarad ac ysgrifenu llawer am dano yn ystod yr wyth- nosau diweddaf yn y wlad hon. Efe ydoedd llywydd y Steel Trust,' y cwmni mwyaf ei gyf- oeth, a'i allu a'i ddylanwad masnachol, yn ddiau, ag a ffurfiwyd erioed. Mae sefyllfa ei iechyd, os nad ei feddwl hefyd, yn anmharus er's llawer o amser bellach. Yr oedd wedi dianc oddiar ohebwyr y newyddiaduron; nid oedd yn bosibl ei leoli. Dywedid ei fod yn Atlantic City, yn Philadelphia, yn Pittsburg, yn New York, ac yn ei gartref yn Loretto, Cambria Co., Pa. Daroganid ei fod ef yn myned i ym- ddiswyddo o fod yn llywydd y Trust.' Ych- ydig amser yn ol etholwyd un Mr W. E. Corey, i fod yn gynorthwywr iddo mewn gair, i gyf- lawni dyledswyddau y llywydd. Pan gyfar- fyddodd Cyfarwyddwyr y ewmni Awst 3ydd, derbyniasant ymddiswyddiad Mr Schwab. Pan ar fy nhaith i Newcastle, gelwais gyda fy nghyfaill, y Parch J. Twyson Jones, yn Ebens- burg, a rbyw chwech milldir oddiyno y mae pentref Loretto, lie y ganwyd ac y magwyd y gwr yma. Bum gyda fy nghyfaill am ddeu- ddydd, ar ben mynyddoedd yr Allegheuny, y rhai uchaf yn y dalaeth. Yn ffodus, cefais ddyddiau godidog o braf yno, awyr glir digwmwl ac oddiar y manau uchaf ya y gymydogaeth, gallesid gweled tua 30 milldiroedd yn mhob cyf- eiriad. Yr oedd anadlu yr awelon balmaidd yno morhyfryd ac yfed llefrithyn sir Aberteifi. Am fod cymaint son am Charles M. Schwab, gyrwyd fi mewn cerbyd i'r pentref lie ei mag- wyd, Pentref bychan gwledig yw, rhyw ddwy ystryd sydd yno. Dangosid im' bob lie o nod gan fy nghyfaill Mr Jones, yr hwn sydd adna- byddus ac mewn anrhydedd yno. Mae Mr Schwab wedi harddu y pentref, trwy godi pal- asdy hardd yno. Cyfloga lawer o bobt i wrteithio y tir, ac i blauu. coed o gwmpas. Mae ganddo electric plant i roddi goleu i'w t atsfrgylchoedd. Ilefyd, y mae wedi a Eglwys Gatholig o'r falh oren, yn y pt. Bum yn yr eglwys, ac o'i maint, ni welais harddach a mwy eostus. Costiodd tua 20( o ddoleri, a thalodd y draul i gyd ei hun. allan i'r eglwys, y mae eofadait i'r offei Pabaidd cyntaf fu yno, yr hwn hefyd a ydlodd y pentref, Y mae yn argraffedig gofadail:— Prince Demetrius Augustine Gallitizin. Born at the Hague, Dec. 22ad, 1770. Founded Loretto, 1799. Died May 6th, 1810. Monument erected, 1899. Tywy-sog oedd hwn ond daeth drosodi Baltimore, a phenderfynodd fyned i'r weinid aeth Babaidd. Bygythiwyd ef gan ei dad, o gwnai, y difreinid ef o'i etifeddiaeth. Diyst odd gyfoeth ei dad, ac aeth i'r weinidogaetb daeth trwy y coedwigoedd i'r lie hwn 10-, flynyddoedd yn ol. Lie tlodaidd iawn oc hwn gan' mlynedd yn ol. Bum yn ei eglw gyntaf. a gwelais y llyfrau a ddefnyddiai yu gwasanaeth. Mae y gwr yma yn ua o gym iadau bynotaf yr Eglwys Gathoiig yn y wl yma. Yr oedd y Cymry wedi dyfod i'r arc yma tua d wy flynedd o'i flaen, a dywedir f rhai o'r Cymry a'r offeiri-,td hwn yn gyfeillii mawr. Ond i ddychwe!yd at Mr Schwab. ) y pontref hwn y ganwyd ef ychydig gy( deugain mlynedd yn ol. Ba yn gyru cerbyd ymofyn uwyddau o'r orsaf i'r siopau ym Gwelais siop sydd yn cael ei cluidw yn bresen gan frawd i'w dad. Pan aeth o'r pentref hwi wynebu y byd, aeth i Braddock, ger llaw Pitt burg. Cyflogwyd ef mewn stor yno. Yr oec un a elwid Cadben Jones yn swyddog yn gwaith haiarn yn myned i'r siop yma i ymofy myglys. Hoffodd y bachgen Schwab. OynYI iodd waith iddo yn y svvyddfa. Dechrcuod weithio yn y Carnegie Company am 21s j wythnos. Daeth i fyny i fod yn llywydd cwmni dur mwyaf yn y byd. Yr oedd yn oil cyflog aruthrol yn awr. Yr oedd ganddo ge; byd ar y reilffordd at ci IVasanaeth-enwod hwnw ya Loretto. Ond y mae yn debyg ei fo yn rhy wan i ddal y llwyddiant yma. Ma wedi esgeuluso ei hun trwy fyw yn fras ac yfei yn helaeth, hyd nes y mae wedi gorfod ymneill duo. Bu Cadben Jones y cyfeiriais ato y achos llwyddiant Carnegie, ac yn achos dyrct afiad Charles M. Schwab-mae y ddau mew anerchiadau wedi cyfaddef hyny. Scrantoa, Pa. DAVID JONES.

BORO', LLUNDAIN.

Advertising

HELYNTION BYWYD EDGAREV ANS…