Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HELYNTION BYWYD EDGAREV ANS…

News
Cite
Share

HELYNTION BYWYD EDGAREV ANS O'R WERN CHWEDL GYMREIG GAN JOHN ABBOT. PENOD IV. Y NODYN GOLLWYD AC A GAFWYD. YR oedd y teulu yn y Wern ar eu traed yn foreu iawn ddycld Sadwrn, a phob un ar eu goreu yn parotoi Edgar a'i ewythr ar gyfer eu taith. Aeth ei dad a'i fam gydag ef i'r orsaf, gan ddymuno iddynt bob llwyddiant. Aeth pob peth yn mlaen yn gvsurus ar y daith. Treuliodd Edgar lawer o'i amser yn darllen llyfr newydd a. brynodd y dydd o'r blaen, a phan wedi blino darllen, ymddyddanai a'i ewythr, neu ynte byddai yn mwynhau y golyg- feydd prydferth mewn natur, yr a'i y rheilffordd drwyddynt. Fel erbyn saith yn yr hwyr, cyr- haeddasant orsaf Branas, lie yr oedd cerbyd yn eu cyfarfod. Gyrasant am ryw chwarter awr, yna safodd y cerbyd o flaen hen balasdy pryd- ferth, a'i amgylchoedd yn cyfateb iddo. Wedi myned i mewn, sylwodd Edgar ei fod wedi ei ddodrefnu yn y modd mwyaf costus a chwaethus ac yn fuan iawn cawsant eu diwallu a'r pethau da ac amrywiol oeddynt wedi eu darparu ar eu cyfer. Wedi gorphen, gofynodd ei ewythr I We], 'y machgen i, beth wyt yn feddwl o dy gartref newydd?' 'Da iawn, yn wir, fy ewythr, mor bell ag yr wyf wedi wel'd. Ond y mae dipyn yn gynar eto i ffurfio barn am y lie. Ond,' ychwanegai Edgar, I 'rwy'n credu y bydda i wrth fy modd yma, pe yn unig yn eich cwmni chwi. Ac mor bell ag y gallaf farnu, dylasai unrhyw uu deimlo yn gartrefol yma. Ond gyda liaw, fy ewythr, a oes genych lawer o gyfeillion yraa ?' N ae oes 'y ngwas i, a goreu po leiaf o'r rhai hyn fydd genych. Wyt ti yn gweled, 'dwy' i ddim wedi anghofio darllon LIyfr Job er's Ilawer dydd. Ac eto, mae yma ddau dri yn d'od ar adegau. Y mae Mr Wilkins y 'ffeirad yn galw weithiau, a hen ffrynd iddo o'r enw Thompson, yn d'od gyda fe yn awr ac yn y man.' Y mae'n debyg fy ewythr, fod Mr Wiikins yn ddyn duwiol, ac yn ddyn dymunol iawn yn ei gwmni.' Wei, ydy' am wn i wel di. Ond 'd wy' ddim yn hidio llawer am dano fe. Mae wedi gadael rhywbeth ar 'y meddwl i, ei fod yn meddwl mwy am ei gyflog, nag am eneidiau y bobl y mae yn bregethu iddi nhw.' I We], wel, f' ewythr, y map yn dangos i fi, ei fod wedi gadael argraff ddrwg iawn ar 'ch .1 meddwl ch'i. Gobeithio eich bodyn camsynied am was yi- Ai,glwydd.' Efallai 'y mod i 'y ngwas i, ac wrth reswm ychydig fydda' i yn 'studio ar ddynion, wel di. Ond dyna, ti gei roi dy farn dy hun arny' nhw heb fod yn hir. Be' gymeri i yfed y machgen i?' Diolch i chi f' ewythr, fydda i byth yn cymeryd dim o'r petha' meddwol. 'Rwy' wedi sylwi ar gynifer sydd yn gwneyd yn d'od yn slafiaid iddo, ac 'r wy' wedi penderfynu na chymeraf ddafn ohono.' Da iawn geny' i glywed, wel'di. 'Does geny' gynyg i'r bechgyn yna sydd yn ffondohono. Er 'y mod i yn brewera, y mae yn ddeng waith gwell geny' am danat yn awr nag o'r blaen. Eltillai dy fod wedi blino, Edgar. Gwell i ni fyn'd i orphwys, ni gawn fwy o amser i siarad ac edrych around eto.' Ac felly y gwnaethant gan ddymutio Nos da,' i'w gilydd. Boreu ddydd Llun aeth Edgar gyda'i ewythr i gael golwg ar y brewery, &c. Pan yn sefyll o flaen y barilau mawrion oedd yno, ni allai lai na meddwl ynddo ei hun y felldith ofnadwy oedd- ynt yn gynwys.' 'Ah,' meddai, ''rwy'dych- ymygu fy mod yn gwei'd gwyneb gwelw a marwol y meddwyn. Calon doredig mam a gwraig, a thrucni plant yn mhob bariL' Wyl- odd yn hidl wrth feddwl am y pethau hyn, a dywedodd, Os galtaf rywsut berswadio fy ewyrth i roi fyny y fasnach uffernol, ni chaiff dim fy rhwystro.' Pan ar ei ffordd adref i dy ei ewythr, bu yn llygild-dyst o ddygwyddiad go ddifrifol. ialac yn debyg i bar o geffylau gleision oedd wedi eu harneso wrth geibyd hardd, i gael eu dychrynu a gwylltio gau rywbetb. Taflwyd y gyrwr oddiar y lox, a gadawsant ef yn ymdrybaeddu yn ei waed ar ochr y ubrdd. 0-welodd Edgar y perygl oedd i rywrai allasent fod yn y cerbyd, ac yn wyneb ei berygl ei hun. Ilhuthrodd at yr awenau, Uusgwyd ef am ryw hyd, ond dal- iodd ei afael ynddynt hyd nes y tawelodd yr anifeiliaid. A phan y safasant, daeth bonedd- iges ganol oed allan o'r cerbyd, a'i gwyneb yn welw wrth sylweddoli ei pherygl, a diolchodd i Edgar yn angherddol am ei wroldeb, gan ddy- rnuno arno i roddi iddi ei gyfeiriad (address). Cynygiodd swm mawr o arian iddo, yr hyn a wrthododd yn foneddigaidd, gan ddyweyd, ei fud ef wedi cael llawn da 1 yn y ffaith ei fod wedi bod yn offerynol i achub ei bywyd. Boreu dranoeth derbyniodd lythyr oddiwrth y foneddiges yn gofyn y ffafr o'i bresenoldeb yn Trillo Hail y diwrnod hwnw am ddau o'r gloch. Yr hyn a wnaeth, a chafodd y derbyniad mwyaf grasol gan y foneddiges. Ymddengys mae gweddw oedd y foneddiges i'r diweddar Ar- glwydd Derwen, ar etifeddiaeth yr hwn oedd holl dref Branas wedi ei hadeiladu, ac ymes- tynai am filldiroedd o gwmpas y dref. Pan aeth Edgar i'r palas, diolchodd y fonedd- iges iddo unwaith yn rhagor am ei wroldeb y diwrnod cynt, a dymunodd arno i enwi unrhyw ffafr y gallasii hi ei roddi iddo, gan y buasai hyny yn bleser calon ganddi fel cydnabydd- iaeth ymarferol am ei wroldeb. Atebodd Edgar yn y nacaol. 'We! dywedai y foneddiges, o hyn allan byddaf yn dal fy hun yn ddyledus i chwi.' Madam,' atebai Edgar, poidiweh ystyried eich arglwyddes i fod o dan unrhyw rwym- edigaeth i mi ni wnaethum ond fy nyledswydd, ac nid oes yr un dyn pan yn gwneyd hyny yn rhoi dyled ar arall, yr hwn y bydd yn achub ei fywyd.' Ond ni foddlonai y foneddiges ar hyn, a thynodd ddarn o bapyr allan o'i chist-ysgrifenu, ac ysgrifenodd a ganlyn amo:- Hyn sydd i sicrhau fy mod i, Ellenor Alberta Campbell, Arglwyddes Derwen, yn rhwymo fy anrhydedd i wneyd unrhyw ff'afr o fewn fy ngal'u, ac o fewn terfynau egwyddor onest, a ddymuna Mr Edgar Evans, ccidwad y papyr hwn.' Seliodd ef, ac estynodd ef trosodd i Edgar, yr hwn a'i derbyniodd braidd yn an. foddlon. Wedi ymddyddan pellach, deallodd Edgar ei bod yn berthynas agos i deulu'r Wilks yn Meirionydd, a pharodd y wybodaeth yma dipyn o ymholiad ynddo ei hun. Tybed y gall fod yn rhyw berthynas i'r scoundrel ieuanc, Maurice Wilks ? Os felly, geill y papyr yma fod o ryw wasanaeth i mi eto yn y dyfodol.' Ond cadwodd y dirgelwch yn hollol iddo ei hun. Pan gyrhaeddodd gartref i dy ei ewythr, yr oedd yn wyth o'r gloch; ac yr oedd yr hen lane wedi colli arno ei hun gan lawenydd a balchder fod ei nai wedi cael gwahoddiad i balas Arglwyddes Derwen. A'i eiriau cyntaf wedi cyrhaedd oeddent- Wyddoeit ti, y ngwas i, 'rwy'n rnyn'd yn falchach ohonot ti bob dydd, a'r Dewydd cyntaf wyf yn ddysgwyl glywed am danat nesaf fydd dy fod wedi dy gyflwyno i'r Teulu Breninol, wel di.' Y mae'n dda genyf, f'ewyrth, fod fy ym- ddygiad yn deilwng o'ch ymddiriedaeth a'ch llawenydd, a fydda' i ond yn rhy falch i barhau ar Iwybr dyledswydd, anrhydedd, ac egwyddor.' Duw fo gyda ti, y ngwas i,' ebai yr hen lane, gan guro ei gefn. 'Ond wel di, Edgar,' meddai, 'mae y ddau foneddwr oeddwn i yn son am danynt y nos o'r blaen yn yr ystafell arall yn awr, a boneddwr arall dyeithr i mi gyda nhw. Dore mewn, mi dy gyflwyna'i di iddy' nhw, wel di.' Aeth y ddau i fewn. Ac wedi i'r ymgyflwyn- iad fyn'd heibio, bu Edgar yn hir yn ceisio barnu cymeriadau yr ymwelwyr wrth eu gwyn ebau a'u siarad. Yr oedd ganddo wybodaeth go eang o'r natur ddynol. Yr oedd wedi gwneyd y wyddor hono yn brif astudiaeth ei fywyd, ac yr oedd yn hynod ddyogcl ei farn, a hyny yn fuan, am gymeriad pob dyn. Yr oedd yr argraff adawodd Mr Wiikins, yr offeiriad, ar ei feddwl, yn debyg i'r hyn a adawodd ar feddwl ei ewythr, sef, ei fod yn ben frawd digon diniwed, ond yn hawdd iawn i'w arwain gan ddyn drwg. Yr oedd y cwn hela' yn cael sylw mwy difrifol ganddo na'i bregetbau, a dwyn cynffon y ilwynog adref ar ddydd yr helfa na dwyn eneidiau at Grist. Pan newidiodd yr Iesu yr Hen Oruchwyliaeth i'r Newydd, gwnaeth bysgotwyr yn bregethwyr. Ond pe yn dygwydd newid yn ol eto, tybiodd Edgar mai Mr Wilkinson fuasai y cyntaf i gael ei droi yn bysgotwr. Yr argraff adawodd Thompson ar ei feddwl oedd ei fod yn ddyn fuasai yn gwerthu ei fam am ddeg-ar-hugain arian, ac am lai, cyn methu. Uchelgais ei fywyd, yn ol tyb Edgar, oedd ymwthio i lewys ei uchafiaid i fod yn off'eryn yn eu dwylaw i gyrhaedd eu ham- canion drwg, ac iddoyntau ymgyfoethogi drwy hyny. Ond am y dyn ieuanc arall, methodd Edgar ar ei oreu a ffurfio barn am dano o gwbl. Yr oedd yn ymddangos iddo ef a mwy o'r benywaidd ynddo nag o'r gwrywaidd. Yr oedd ei lais yn debyg i lais dynes. Pwy, a both allasal fod? Ai detective ydoedd ? N a, ni allai hyny fod, oblegid nid cedd gan dtTyn felly yr uu neges yno o gwbl. Ac eto yr oedd y dyn ieuane menywaidd yma yn treuiio mwy o'i amser mewu ymddyddan a Thompson nag a'r un o'r lleill- IWp,],' meddyliai Edgar, 'rhaid i mi lapio personoliaetb y dyn ieuanc hwn mown dirgel- weh am y presenol, beth bynag.' Ond wrth weled y ddau mewn ymddyddan go ddifrifol &'u gilydd, meddyliodd, hwyracb, y gallai ddadrys ychydig ar y dirgelwch wrth ymuno a hw nt, ac felly symudodd i'r gadair y i'w hymyl, a gofynodd— 'A ydwyf yn ymyryd, foneddigion, wrth ymunu a chwi ?' Dim o gwbl, fy anwyl syr,' atebai Thomp- son 4 yr oeddwn yn rhoi ychydig awgrymiadau i fy Dghyfaill IN-Tr Watkins pa fodd i fyw, a byw yn llwyddianus yn y byd.' Gwers ddefnyddiol iawn,' ebai Edgar, os yn y cyfeiriad iawn, ac o egwyddor dda.' 116, dyna hi,' dywedai Watkins; 'ond yr ydym ni ein dau yn methu cytuno ar y mater yna. A'— 'Fy anwyl syr,'ymyrai Thompson, I yr ydycll- yn siarad am egwyddor ac egwyddor byth a hefyd. 'Does gan egwyddor ddim i wneyd a l!wyrddiant. 'Rwyf wedi gwei'd mwy o'r byd, a dwbl yr hafau a'r gauafau yr ydych ch'i wedi wel'd, a fy mhrofiad i yw, Peidiweh pondro'ch penau yn nghylch dilyn egwyddorion. Yr egwyddor oreu yw hunanfantais. Gofalwch am Number One. Cadwch eich llygaid yn agored. Byddwch ar y ddysgwylfa, a chewch ddigon o agoriadau i lwyddiant yn mhob cyfeiriad.' Ie,' ebai Edgar, ond beth am y byd a ddaw ? Y mae ein tynged ni yno yn dibynu yn hollol ar egwyddor lywodraethol ein bywyd yma.' Byd a ddaw atebai Thompson yn wawdiol. Nid yw hwnw i'w gael ond mewn duwinydd- igeth, ac mae y wyddor hono yn rhy ddisail i fyned i eneidiau dynion o synwyr cyffredio cryf. Dyfeisiwyd hi ar gyfer dosbarth o bobl ofergoelus eu meddwl.' Begio'ch pardwn, Mr Thompson,' dywedai Edgar. Yr wyf yn ofni eich bod yn eymeryd gormod yn ganiataol. Yr wyf fi yn perthyn i'r dosbarth ofergoelus yna o bobl y cyfeiriwch atynt, ac eto, 'rwy'n credu fod genyf ryw gygl- aint o synwyr cyffredin hefyd.' Deallodd Thompson yn y fan nad oedd Y bluen yna yn ateb dim i liw yr afon yr oedd Edgar yn byw ynddi, a threuliodd y gweddiU o'r amser y bu yno i symud yr ymddyddan i gyfeiriad arall, yr hyn a wnaeth yn go gyfrwysgar. 'Caniatewch i mi, Mr Thompson,' gofynai Mr Walking. Nid wyf ond dyn ieuanc, a dibrof- iad, i wynebu byd dyeithr fel hwn. Caniatewch i mi, os gwelwch yn dda, i ofyn, beth oeddech yn olygu wrth yr agorfeydd i lwyddiant?" Golygwn eich bod i gadw eich llygaid yn agored, a cheisio d'od o hyd i'r boneddigio" ieuainc gwylltion. Dyna'r agorfeydd.' Ar hyny, clywyd ergyd ar y drws, a daeth Y gwas a llythyr i fewn, wedi ei gyfeirio i Samuef Thompson, Esq., ac estynodd ef iddo. Wedi iddo edrych dros ei gynwys yn frysiog, gv. euodd yn falch, a dywedodd, Agorfa i mi eto.' Ac allan ag ef.