Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
EIN TELEBAU AM 1875. Pris yn mlaen Haw$2.50. Pris y DRYCH i Glybiau ..$2 20 m- Pris y DRYCH i Canada .$2 70 Eff" Pris y DRYCH i Gymru 3 50 Anfoner arian mewn Post Office Order neu Registered Letter, neu mewn Draft ar:New York, taladwy i T. J. GRIFFITHS, DRYCH OFFICE, UTICA, N. Y. L B. WILLIAMS, G WA WL-ARL UNYDD, THVCHBEX 77 & 79 GENESEE ST., UTICA, N. Y. Cymerir pob math o arluniau, yn y dull goreu sydd yn bosibl. 8.75tf RHYBUDD.-Dymuna JOHN EMDIN, Tremonydd, A-Ic a'r unig wneuthurwr DBYCHWYDKAU (Specta- cles) yn Utica, alw sylw ei gyfeillion a'r cyhoedd yn gyffredinol, ei fod yn gwarantu pob Spectol a werth- ir yn ei fasnachdy i roddi boddlonrwydd perffaith. Os na bydd yn tlitio y Uygaid, gellir ei newid unrhyw nifer o weithiau. Adgyweirir nen wydrau yn ddest- lus a rhadlawn. Ei fasnachdy o hyn allan yn 9 BAGGS HOTEL, 22-ly Ar waelod Heol Genesee, Utica. Y CANED ON- "DEDWYDDWCH Y NEF," A "LLIW GWYN RHOSYST YR HAF," AC "ARLUN HARDD 0 BREN Y BYWYD." I'w cael ar dderbyniad 25 cents, gan W. E. WILLIAMS, 39tf Kingston, Wis. Gobaith i'r Gwangalon. Os ydych wedl bod yn pesychii er ys hir amser ac yn dechreu anobeithio am wellhad, neu os ydych wedi cael anwyd yn ddiweddar, ewch ar unwaith i store gyfferi C. H. Williamson a'i Gwm., Utica, a cheisiwch botelaid o DR. MOEEIS' SYRUP OF TAR, WILD CHERRY AND HOREIIOUND. Cymerwch ef a byddwch iach. Nid oes un feddyginiaeth arall yn gweithredu mor gyflym ac effeithiol mewn peswch, anwyd, a phob anhwyldeb yn y gwddf, yr ysgyfaint, a'r ddwyfron, a arweiniant i'r darfodedigaeth. Mae canoedd o rai a gredent unwaith eu bod yn ngafael yr afiechyd enbyd hwnw wedi eu hadferu i iechyd trwy arfer y meddyginiaeth rhyfeddol hwn. Efe hefyd yw y meddyginiaeth goreu y gwyddys am dano rhag y Croup, ac nid yw byth yn ffaelu gyda y Whooping Cough. Pris prawf-botelau yw 10 cents. Gwerthir gan y prif gylferwyr yn mhobrhan o'rwlad, ac yn mysg eraill gari Francis Etheridge, Rome, N. Y. ENWAU YR AGERLONGAU A gychwynant o New York yn mis Medi. Agerlongau. Morio. I ba le. Swyddfa N. Y. Adriatic. Hyd 2.. Liverpool 19 Broadway. City of Berlin. Hyd 2.. Liverpool 15 Broadway. Helvetia Hyd 2.. Liverpool 69 Broadway. Ethiopia Hyd 2.. Glasgow. 7 Bowling Green Wyoming Hyd 5.. Liverpool 29 Broadway. Scythia Hyd 6.. Liverpool 4 Bowling Green S. of Virginia. Hyd 6.. Glasgow. 72 Broadway. C.of Richmond Hyd 9.. Liverpool 15 Broadway. Baltic. Hyd 9.. Liverpool 19 Broadway. England Hyd 9.. Liverpool 69 Broadway. Elysia Hyd 9.. Glasgow. 7 Bowling Green Idaho Hyd 12.. Liverpool 29 Broadway. Russia Hyd 13.. Liverpool 4 Bowling Green City of Brussels Hyd 16.. Liverpool 15 Broadway. Britannic Hyd 16.. Liverpool 19 Broadway. Egypt. Hyd 16.. Liverpool 69 Broadway. California Hyd 16. Glasgow 7 Bowling Green Montana Hyd 19.. Liverpool 29 Broadway. Germanic. Hyd 23.. Liverpool 19 Broadway. City of Chester Hyd 23.. Liverpool 15 Broadway. Nevada Hyd 26. Liverpooll29 Broadway.
DYDD IAU, MEDI 23, 1875.
DYDD IAU, MEDI 23, 1875. T. J. GRIFFITHS, Cyhoeddwr. GOLYGWYR, J. W. JONES, J. C. ROBERTS. NiD yw yn hollol sicr eto a ydyw cynal Eisteddfodau ar "grand scale," fel y dy- wedir, yn talu, mewn ystyr arianol. Y newydd diweddaf o Gymru ydoedd, fod Pwyllgor Eisteddfod Pwllheli yn ofni na byddai y derbyniadau yn ddigon i gyfar- fod y treuliadau-er fod y derbyniadau a'r tanysgrifladau yn $10,000. Hyderwn, er hyny, y daw y Pwyllgor allan yn all right. Ni chawsom eto y manylion o Hyde Park; ond deallwn fod derbyniadau yr Eistedd- fod fawreddog hono tua $4,000. Yr oedd y costau, pa fodd bynag, yn fawrion iawn, a thelid $50 y dydd i Carl Zerrahn yn unig, am ei wasanaeth fel beirniad cerddorol.
[No title]
CREA presenoldeb yr areithiwr hyawdl CARL SCIIURZ gynwrf nid bychan yn Ohio; ac yr ydym yn camgymeryd os na bydd i'w resymau cedyrn enill nifer mawr o'r rhai sydd eto yn "cloffi rhwng dau fedd- wl" i roddi eu pleidlais yn wrol dros y tocyn Gwerinol. Ystyria Mr. Schurz y cwestiwn arianol o'r pwysigrwydd mwyaf ar yr adeg bresenol, ac y mae yn bender- fynol o roddi ei holl ddylanwad o blaid yr ochr iawn, o hyn i'r 12fed o Hydref.
[No title]
MAE y newyddion diweddaraf o Texas yn cadarnliau yr hysbysiadau cyntaf am y difrod a achosodd y corwynt a'r llifogydd diweddar yn ngliylchoedd Galveston, ac yn enwedig yn Indianola, lie y lladdwyd dros gant o'r 2,000 trigolion, ac y llwyr ddinystr- iwyd y dref. Difrodwyd hefyd y pentref- ydd Saluria, Cedar Lake, a Matagorda. Gwneir casgliadau yn y prif ddinasoedd drwy y wlad, i leddfu dyoddefiadau y tru- einiaid yn y cymydogaethau hyny; ac yn sicr y maent yn haeddu cydymdeimlad. Y mae dinas Boston, yn enwedig, wedi gwneyd yn ardderchog.
[No title]
CYNALIWYD cyfarfod pur luosog yn y Cooper Institute, New York, un noson yr wythnos ddiweddaf, gan addolwyr arian papyr; ond nis gellir dweyd ei fod yn llwyddiant mewn un modd. Nid yw yn debyg o effeithio er lledaenu yr heresi ar- ianol yn y Dalaeth hon; ac nis gall fod yn ffynonell cysur ac adgyfnerthiad i "Infla- tionists Ohio. Yr oedd disgwyliad mawr y buasai yr apostolion trystfawr Ben But- ler a Wendell Phillips yn bresenol, ond cadwasant hwy draw; a phan roddwyd y penderfyniau yn condemnio pob ymgais i adferu arian caledion o flaen y cyfarfod, ni phasiwyd hwy heb fod canoedd o leis- iau gwrthwynebus yn diaspedain o'r naill gongl i'r llall o'r adeilad.
Y DOSBARTIl GIVEITIIIOL.I
Y DOSBARTIl GIVEITIIIOL. Mae Democratiaid Ohio a Pennsylvania yn dadleu fod yn angenrheidiol chwyddo arian papyr y wlad, er galluogi y meistri i gael arian i dalu am lafur. Caniataer fod hyny yn wirionedd; ond y pwnc ydyw, pa fodd y daw y meistri yn feddianol ar y cefnau gwyrddion, os nad oes ganddynt ddim i'w roddi yn gyfnewid am danynt? Pan oedd y rhyfel yn myned yn mlaen, yr oedd y llywodraeth yn gofyn am agos i holl gynyrcliion y wlad mewn ymborth, dillad, glo, haiarn, copr, plwm, a chyn- yrchion ein llaw-weithteydd, mewn mag- nelau, rhychddrylliau, pylor, pedrolfeni, &c., ac yn talu am y cwbl mewn greenbacks. Fel hyndaeth arian papyr y llywodraeth i gylchrediad buan. Eithr yn awr, nid oes y fath alwad am nwyddau a Ilaf ur, ac nis gellir rhoddi arian papyr y llywodraetli mewn cylchrediad drwy yr un moddion. Addawsom yehydig yn ol ddangos fod arian papyr yn drygu mwy ar y dosbarth gweithiol nag ar neb arall o fewn y wlad- wriaeth, yr hyn yn ddiau sydd amlwg i bawb a ewyllysia weled a deall. Nid ydyw cyflog y gweithiwr ond bychan ar y cyfan, ac mae ansefydlogrwydd gwerth arian papyr, yn fwy niweidiol i'r gweithiwr nag i'r masnachwr cyfoethog. Gall y masnach- wr sefyll colled o amryw sentiau ar y ddolar, o herwydd fod ei elw yn fawr; ond am y gweithiwr, y mae ei gyflog ef mor fychan fel y mae yn ofynol iddo gael pob sent a enilla. Golyger fod gweithiwr yn rhoddi arian.yn yr ariandy cynilo amser yn ol, pan oedd pris yr aur yn $1 10, a bod yn rhaid iddo godi ei arian yn awr i adeiladu ty, neu i brynu darn o dir, tra mae pris yr aur yn $1 17, dyna gqlled iddo yn union- gyrehol o saith sent ar bob dolar, neu $70 ar $1,000. Hysbysir fod yn holl arian- dai cynilo y Talaethau Unedig $1,000,- 000,000 ddechreu Gorphenaf diweddaf; ac mae llawer o'r arian wedi eu rhoddi yn y banciau er cyn dechreu y rhyfel. Yn awr, golyger fod yr oil o'r swm uchod wedi ei roddi yn yr ariandai pan oedd dolar bapyr a dolar aur yn gydwerth, a bod pawb yn codi eu harian heddyw, byddai raid i bob un golli $16 y cant, a $160 y fil, neu$160,- 000,000 ar yr holl swm. Dengys hyn fod arian papyr yn ysbeilio y dosbarth gweithiol i'r swm o gant a thri ugain o fil- iwnau o ddoleri, ar y swm a gynilasant yn unig, heb son am yr aneirif ddulliau eraill y maent yn cael eu liysbeilio. Pa fodd y gall yr un dyn synwyrol edrych ar ansawdd masnach yn y Talaeth- au Unedig ar hyn o bryd, heb weled fel y mae arian papyr dibrisiedig wedi gwywo pob peth? Dyma dros dair blynedd ar ddeg p brawf ar arian papyr, a beth ydyw y canlyniad? Marweidd-dra cyffredinol yn mhob peth, diffyg hyder, ein llaw- weithfeydd yn sefyll, a chanoedd o filoedd o weithwyr allan o waith. Mae adroddiad swyddogol y llywodraeth am fasnach dramor y Talaethau Unedig am 1875, yn profl fod cyflawnder o arian papyr yn meddiant y eyfoethogion yn peri iddynt eu gwastraffu am foethus bethau, nad ydynt yn wir angenrheidiol i fywyd cymedrol a chynil. Tra y mae y boneddigion a'r cyf- oethogion yn porthi balchder, y mae y gweithiwr a'i deulu yn gorfod dioddef eis. iau gwir angenrheidiau bywyd. Dengys y daflen isod y swm a brynwycl o wledydd tramor yn ystod yr amser caled y misoedd diweddaf mewn eydmariaeth i'r hyn a brynwyd y llynedd: Nwyddau. 1874. 1875. Crwynmanflew §848,215$1,513,172 Nwyddau fancy 4,518.987 2,662,107 Gemau, clust-dlysau, &c.. 2,274,790 3.999,593 Sidan a satin 27,850,890 28,885,222 Ffrwythau tramor 8,281,418 12,537,568 Cyfanswm$43,774,300$52,597,662 Sylwer ar y symiau aruthrol yn y golofn olaf, a dalwyd i fyny hyd Gorphenaf, 1875 am foethus bethau perthynol i'r cyfoeth- ogion, sef mwy o$8,623,861 nag a dalwyd z;1 yn 1874. Dyna brawf tu hwnt i bob am- heuaeth na ddylanwadodd yr amser caled ar y dyn cyfoethog, a'r tlawd oedd yn gorfod dioddef. Mae llawer iawn o'r nwyddau uchod yn cael eu smyglo drosodd, a gellir gyda diogelwch osod i lawr fod mwy 0 $10,000,000 wedi eu gwario eleni na'r llynedd am fodrwyau, a gwddfdlysau, gemau, sidanau, &c. Edrycher yn awr faint a wariwyd yn ystod yr un amser am angenrheidiau byw- yd, a chawn weled fod lleihad eleni yn y nwyddau hyny. Nwyddau. 1874. 1875. Pysgod o bob math$3,207,929$3,008,731 Gwydr a llestri 6,257,964 5,805,015 Hal en 2.239,311 1,806,748 Siwgr a threiagl 92,835,287 85,035,993 Glo iiwy, &c. 1,950,425 1,798,689 Coed a dodrefn 11,706,865 8,078,295 Cyfanswm$117,706,881$105,538,471 Gwelir fod y cyfrifon uchod yn dangos lleihad eleni o$12,168,410 mewn petliau gwir angenrheidiol. Dengys y lleihad yn yr halen a ddefnyddiwyd leihad mewn I ymenyn, cig, pysgod, &c., a fwytawyd, yr hyn a arwydda amser caled a' diffyg arian i'w prynu. Hefyd y mae y lleihad mewn coed a dodrefn, yn dangos na adeiladwyd cymaint ag arferol o dai newyddion; ond y mae y lleihad mewn siwgr, a threiagl yn hynod o arwyddocaol, ac yn profl fod teuluoedd y dosbarth gweithiol wedi eu hamddifadu i raddau mawr o rai o brif angenrheidiau bywyd. Dengys yr adrodd- iad fod pobl y Talaethau Unedig wedi defnyddio mwy o siwgr a threiagl yn 1871 -2, nag a ddarfu iddynt yn ystod y tair blynedd diweddaf, o werth agos i $1,000,- 000. Profa hyn fod y caledi yn mhlith y lluaws, y werin yn gyffredinol. Bu llawer mam dan orfod i roddi te a choffl heb siwgr i'w phlant; ac mae y llei- had mawr yn swm y treiagl a ddefnydd- iwyd, yn arwyddo fod llawer wedi bwyta bara sych. Nis gall neb haeru yn ngwyneb y ffeithiau hyn nad ydyw y dosbarth gweithiol wedi gorfod dioddef yn galed oddiwrth ddylanwad gorfaeliaeth, crib- ddeiliaeth ac arian papyr dibrisiedig. Yn ngwyneb yr holl ffeithiau hyn, ceir pobl yn llefain yn barhaus am chwyddo yr arian papyr, tra mae digonedd i'w cael yn y banciau am 1% a 2 y cant! Mae yn am- lwg i bawb fod yr amser yn galetach yn bresenol nag yn 1873 ac 1874, er fod mwy o arian papyr mewn cylchrediad yn 1875 o $44,000,000; eto y mae Democratiaid Ohio, Pennsylvania, &c., yn gwaeddi am ragor. Mae mwy na haner y$44,000,000 uchod, a elwid yn reserve, wedi ei roddi mewn cylch- rediad, ac mae yr amser yn gwaethygu.- Pa fodd, yn enw synwyr cyffredin, y gwell- ha yr amserau wrth chwyddo mwy ar yr arian papyr? Mewn gwirionedd nid oes eisiau mwy o arian yn y wlad; ac mae y rhai a haerant fod panic 1873 wedi ei achosi gan brinder arian yn cyfeiliorni yn fawr. Pe buasai gan yr holl ariandai yn y wlad ddigonedd o greenbacks i dalu yr holl hawliau yn eu her- byn ar y pryd, ni fuasai hyny ond yn unig yn gohirio yr argyfwng dros fyr amser.— Nid ydyw yr amser caled presenol ond cosbedigaeth naturiol am wastralfu cyfalaf, neu arian, fely gwnaeth Jay Cooke & Co., a Ilu mawr o gwmniau rheilffyrdd, Credit Mobilier, &c. Camgymeriad mawr oedd i'r llywodraetli argraffu y fath swm d arian papyr, a gwneyd hwnw yn legal tender, i gymeryd lie yr aur a'r arian; yna daeth yr arian papyr yn rhy rad, a diwerth yn ngol- wg y bobl. Yn 1860 yr oedd yn y wlad $100,000,000 o arian-nodau taladwy yn aur unrhyw amser. Yr oedd y wlad yn myn- ed yn mlaen yn hwylus yr amser hwnw gyda'r swm uchod; a rhifai y boblogaeth 30,000,000. Golyger fod ein poblogaeth yn awr yn 45,000,000, neu fod y boblogaeth mewn 15 mlynedd wedi cynyddu 50 y cant, oni fyddai yr un faint o gynydd yn swm ein harian yn ddigonol i lanw gofynion masnach? Mae genym yn awr $750,000,000 mewn cylchrediad, yn dangos cynydd o 150 y cant mewn 15 mlynedd; ac er y cwbl gofynir am fwy o arian! Hysbysid fod $73,832,100 yn segur yn ariandai New York bythefnos yn ol! Mae digonedd o arian yn y wlad, ac nid oes eisiau er sicrhau llwydd- iant ond doethineb a gonestrwydd wrth eu defnyddio.
MARWOLAETH DR. PRICHARD, LLANGOLLEN.
MARWOLAETH DR. PRICHARD, LLANGOLLEN. Rhydd ein newyddion o Gymru hanes am gwympiad un arall o enwogion Cymru, yn fab pedwar ugain mlwydd oed, sef y Parch. J. PRICHARD, D. D., Llangollen, G. C., un o'r pregethwyr mwyaf parchus yn enwad y Bedyddwyr. Cymerodd hyn le ddydd Mawrth, y 7fed cyfisol, cyn fod neb wedi ymgymodi a"r ffaith alarus fod CYN- DDELW yn gorwedd yn dawel yn Glynceir. iog-lle heb fod yn nepell o Langollen.— Cafodd Mr. Prichard gladdedigaeth hynod o barchus y dydd Gwener canlynol; a bydd ei goffadwriaeth yn fendigedig am. hir am- ser yn Llangollen, lie y bu yn weinidog ffyddlon am haner cant o flynyddoedd. Ganwyd y dyn da hwn yn Llansilian, ger Amlwch Mon, yn y flwyddyn 1795; ac yr oedd yn hanu o'r un teulu a'r Parch. J. Prichard (T. C.), Amlwch. Symudodd o Ynys Mon i Landudno, a hyny pan yn dra ieuanc, a bu yn gweithio o "dan y ddaear" fel mwnwr yno am flynyddoedd rai. Oddi yno aeth i Lerpwl i'r ysgol, a dychwelodd yn ddigon o ysgolhaig y pryd hwnw i gadw ysgol fechan ei hun yn Llandudno, a throdd un o'i ysgolheigion allan i fod yn neb llai na'r Parch. Hugh Jones, Rhuthyn. Bed- yddiwyd ef yn dra ieuane gan y Parch. J. Evans, Llanwydden, yr hwn, cyn hir, a'i lianogodd i ddechreupregethu. "Nis gall- af," meddai yntau. "Tybed," meddai Mr. Evans drachefn, "na elIwch wneyd pregeth cyliyd a phregeth Jonah, a cliael Duw Jonah i'w bendithio!" Cydsyniodd i wneyd cais. Bu yn llwyddianus i foddloni yr eg- lwys. Aeth i Athrofa y Fenni, dan ofal y Parch. Micali Thomas, lie y cydfyfyriai ag ef y Parch. Ellis Evans, Jenkin Thomas, D. Rees, ac craill a droisant allan yn breg- ethwyr defnyddiol. Yny flwyddyn 1823, sefydlodd Mr. Prich- ard yn Llangollen. Dydd Nadolig y flwydd- yn hono yr ordeiniwyd ef yn nghapel Pen- ybryn, pryd y pregethwyd y siars iddo gan J. Edwards, Rhuthyn. Yr oedd y Bedydd- wyr yn llesg a llwyd yn y Llan, felly nis, gellid addaw i'r gweinidog newydd ond 22p yn y flwyddyn; ond 03 oedd hyn yn ychyd- iJ, yr oedd yn fwy o 5p. nag oedd Christ- mas Evans yn gael yn Mon. Gweithiodd ynegniol. Pregethaiarhyd y tai yn y gymydogaeth, ac yn y pentrefi cylchynol, fel y daeth yr achos yn dra blodeuog o dan ei ofal. Pan sefydlwyd athrofa i'r Bedyddwyr yn y Gogledd, yn y flwyddyn 1862, penodwyd ef yn athraw duwinyddol, gyda'r Parch. H. (yn awr Dr.) Jones yn athraw ieithyddol. Yr oedd yn nodedig am ei ofal a'i dynerwch o'r myfyr- wyr, yn gystal a'i awydd gonest am eu gosod ar ben ffordd gwybodaeth a defnydd- ioldeb; a bydd ei enw yn barchus ganddynt tra byddont byw. 0 ran ei ddyn oddiallan, meddai y Dr. Prichard gorff lluniaidd, syth, agos i ddwy lath o hyd; am yr hwn, ar gyfrif ei iechyd gwanaidd, y dysgodd efe fod yn hynod o ofalus ar hyd ei oes. Yr oedd ganddo gred fawr mewn ymdroclii mewn dwfr oer, yr hyn a wnai efe bob boreu, ac hefyd mewn ymarferiadau corfforol. Yr oedd rhywbeth ynddo yn ymddangos yn sych, deddfol, ac arnwythus; ond pa agosaf y dynesid ato, mwyaf naturiol oil yr ymddangosai, a theimlid fod ynddo galon cyfaill a Christ- ion. Ni bu erioed yr hyn a ystyrid yn "bregethwr poblogaidd," amna fedrai na bloeddio na chanu ei bregeth, ond yr oedd ganddo ef, fel pawb eraill, ei hwyl, a phan gaffai afael yn hono, cariai ddylanwad anghyffredm. Fel awdwr ac ysgrifenwr Cymreig, yr oedd yn hynod ddeniadol, a phob amser yn fuddiol ac addysgiadol. Efe a ddechreuodd gyhoeddi Yr Athraw, ac a barhaodd i'w olygu hyd derfyn ei oes. Ysgrifenodd lawer o erthyglau dyddorol i'r unrhyw, a'r Greal, a ddarllenir eto gyda bias. Y llyfrau pwysicaf a gyhoeddwyd ganddo oeddynt, Y Ddau Gyfanwd, Cofiant y Parch. Hugh Williams, Amlwch, a manion eraill teilwng a dyddorol. Yr oedd ei fywyd dichlynaidd yn ei osod yn uchel yn marn pawb, a chyfrifid ei farn yn bwysig ar unrhyw bwnc. Derbyniodd y teitl o D. D. o Goleg Jew- ell, Missouri, yn 1861, ac yr oedd yn gor- wedd yn ddigon esmwyth arno ef; canys ystyrid ef gartref mewn hanesiaeth eg- lwysig, a llenyddiaeth dduwinyddol, ac yr oedd yn dra chyfarwydd yn yr ieithoedd gwreiddiol. A gellir dweyd am dano iddo dreulio bywyd hynod o lafurus a defnydd- iol yn mhob modd, gyda chrefydd a llen- yddiaeth ei enwad.
ETEOLLAD OHIO.
ETEOLLAD OHIO. Ddydd Mawrth, wythnos i'r nesaf, bydd etholiad pwysig Talaeth y Buckeye" yn cymeryd lie, ar ol yr ymdrechfa boethaf a welwyd erioed rhwng y ddwy blaid ar y maes. Y mae y Dalaeth yn ferw gwyllt o'r naill ben i'r llall; a dadleuir hawliau y Gwerinwyr a'r T)emocratiaid gan areith- wyr mwyaf hyawdl y ddwy blaid. Ym- ffrostia Bill Allen a Sam Cary, arweinwyr y Democratiaid, yn y cyhoedd, eu bod yn sicr o 30,000 neu 40,000 o fwyafrif; ond dywedir eu bod yn fwy gochelgar mewn ymddyddanion preifat. O'r ochr arall, y mae y Cad. Hayes yn dra hyderus yr enillir y Dalaeth yn ol i'r rliengoedd Gwerinol, yn enwedig ar ol i'r Anrh. CARL SCHURZ ddyfod i'r maes, i anog y Germaniaid gyda'i hyawdledd arferol, i roddi eu dylanwad fel un gwr o blaid addysg rydd ac arian caledion. Anhawdd dweyd pa fodd y try y frwydr; ond er fod gan y Democratiaid gryn fantais o'u tu, ymddengys fod y Gwer- inwyr yn dyfod i deimlo yn fwy angerddol y naill ddydd ar ol y llall, y ddyledswydd ddifrifol sydd yn gorphwys arnynt yn ngwyneb y peryglon sydd yn eu bygwth, mewn canlyniad i waith y Democratiaid yn myned i gyngrair a'r Pabyddion. Mae eu gwaith yn presenoli eu hunain wrth y mil- oedd yn y eyfarfodydd politicaidd, i wrando ar ddynion cywir a gonest fel Stewart L. Woodford, Hayes, Boutwell, Dawes, a'u cyffelyb, yn dangos nad ydynt yn ddifater am y canlyniad; ac ond iddynt fod yn ffyddlon ar ddydd yr etholiad, gallwn yn hyderus ddisgwyl yr etholir Hayes a'r holl Docyn Gwerinol. Nid yw yn angenrheidiol i ni gymeryd gofod y DRYCH i osod y materion mewn dadl rhwng y ddwy blaid ger bron ein darllen- wyr, yn gymaint a'u bod yn cael pob man- teision i wrando ar yr areithwyr galluog sydd yn dyrcliafu eu lleisiau yn mhob cym- ydogaeth; ond goddefer i ni gyflwyno i'w hystyriaeth, lythyr a dderbyniasom oddi- wrth ein gohebydd llygadgraff, Mr. DAVID F. Lewis, Newburgh, 0.; gan ddweyd ar yr un pryd, ein bod yn cydolygu ag ef yn hollol parth y ddyledswydd arbenig sydd yn gorphwys ar y Cymry i ddyfod allan yn wrol yn erbyn heresi arianol y blaid Ddem- ocrataidd yn Ohio, yn gystal 'ag o blaid y gyfundrefn addysg ardderchog y dangosa y Pabyddion y fath benderfyniad i'w dinystrio. A ganlyn yw apeliad ein goheb- ydd at etholwyr Cymreig y Dalaeth: PWYSIGRWYDD YR ETHOLIAD. Cyfaddefir yn gyffredinol fod yr etholiadau a gy- mcrant le y hydref hwn a'r flwyddyn nesaf o'r pwys- igrwydd mwyaf i ddinasyddion ffyddlon a charwyr rhyddid a chyflawnder yn ein gwlad; ac yn enwedig y mae hyny yn llaith am yr etholiad sydd i gymeryd lie yn Nhalaeth Ohio Hydref 12fed. Y mae yn amlwg .fod un topic neillddol yn cael ei ddal i fyny gan y pleidiau gwleidyddol drwy y wlad yn gyffredinol, a hwnw ydyw y gyfundrefn arianol bresenol, a'r di- wygiadau angenrheidiol ynddi; ond yn Ohio y mae pwnc arall ger bron y bobl, sof cyfundrefn addysg, a pha faint bynag sydd o bwysigrwydd yn y mater cyntaf, ystyriwyf yr olaf yn anrhaethol fwy felly; ac y mae lie i ofni fod sylw rhy ysgafn yn cael ei dalu iddo. Dichon mai yehydig mewn eydmariaeth o'n' cenedl ac eraill sydd yn sylweddoli y ffaith fod y gel- yn nerthol ac ystrywgar y Babaeth yn gwarchae mor agos atom. Gwir fod y fyddin Arabaidd yma bob amser ar y maes Jyn taflu ei harfau dichellgar yn er- byn Protestaniaeth a chyfundrefnau golenedig y byd ICristionogol; ond y mae ar rai adegau yn myned yn eofn a hyf ofnadwy, gan ymwthio i'n canol heb yn wybodini; a dyma engraifft fyw o hyny ger bron pobl Ohio yn bresenol, yn yr ymdrech dieflig i ddym- chwelyd a dinystrio eyfundrefn addysg rydd ein gwlad-y fagwrfa fwyaf gyfaddas ac effeithiol i gyn- yrchu diwylliant meddyliol, moesol a chymdeithasol y tO ieuanc, ag a gariwyd allan mewn unrhyw oes na gwlad erioed. Ond er eymaint ydyw y manteision a'r budd a ddeillia oddiwrth y cyfrwng gogoneddus yma, eto y mae y Pabyddion wedi ymdynghedu i'w ddinystrio; ac y mae hyd yn nod y wasg Babyddol yn dyfod allan y dyddiau yma fel genau eyhoeddus dros yr hen hwdweh íIug sancteiddiol sydd yn dwy- foli ei hun yn Rhufain draw, gan gyhoeddi yr anath- emau duaf ar ein hysgolion, a hyny mor difloesg a'r hen arch humbug ei hunan. Dywedant am ein hys- golion mai olion paganiaeth ydynt, magwrfeydd an- ffveldiaeth, cylundrefnau y diafol, cyfryngau annuw. iol a llygredig, a'r cyffelyb. Ond nid oes eisiau dweyd mai pentau a pharddu Satan a phechod ydyw y cyhuddwyr. Dywedant am y da, drwg yw; ac am eu drwg hwy, da yw. Tebyg iawn mai yr hyn sydd yn peri, iddynt hwy i deimlo mor elynol tuag at ein hys- golion, ydyw fod ynddynt elfenau sydd yn profl yn foddion o wendid i ffydd, egwyddorion ac ysbryd y gyfundrefn Babyddol-fod y goleuni a dderbynia y plant yn ein hysgolion yn ormod o wrthdarawiad a contraat i'r tywyllwch moesol a phydredd yr eg- wyddorion sydd yn dal eu cyfundrefii hwy yn nghyd, ac o herwydd hyny fod yr ieuenctyd yn cael eu henill o radd i radd i gofleidio Protestaniaeth nen wir Gristionogaeth. Y swmbwl gan hyny sydd yn eu blino hwy, plant y butain, yw y syniad a'r ffaith y coilant hwy eu deiliaid, a'r golle d hono i fod yn en- ill i Brotestaniaeth; a thuag at rwystro hyny, gwel- ant mai y ffordd oreu sydd ganddynt i'w wneyd ydyw ymosod ar ein hysgolion-eu rhwygo a'u di- ddymu, os yn bosibl, o fodolaeth- a'r ffordd a gyn- ygiant i gyraedd eu hamcan, ydyw ymgyngreirio o dan aden y blaid Ddemocrataidd. Y maent yn ym- wybodol fod y blaid hono yn ddigon llygredig i ym- uno ag unrhyw symadiad ;a Jdybiant a fyddo yn foddion i'w hethol hwy i allu ac awdurdod gwladol; ie, pa mor afresymol. bynag y byddo; £ ac y mae'r blaid hono, o'r hyn leiaf ei chynrychiolwyr, wedi ym- ddarostwng yn ddiweddar yn Columbus i gydym- ffurflo a dymuniadau corff ac enaid y Babaeth, set pasio y "Geghan's Bill," fel ei gelwir, yr hwn oedd yn cyfateb yn llawn i'w hawliau. Pasiwyd y mcsur uchod o dan yr amod fod holl nerth y Babaeth yn Ohio i gydweithio a thuebu gyda'r blaid Ddemo- crataidd yn yr etholiad dyfodol a phob amser, ac fe wel pawb bellach fod Pabyddiaeth yn gorff ac enaid yn yr ymgyrch presenol, fel y bydd yr etholiad pres- enol yn fath o test vote ar y mater. Bydd canlyniadau yr etholiad felly yn bwysig an- nhraethol, ac y mae galwad anarferol ar i'r blaid Werinol i ddyfod allan y tro hwn mewn cyflawn nerth ar ddydd yr etholiad. Hyderaf na fydd i'r un Cymro sydd a llais ganddo yn yr etholiad i aros gar- tref, nac ychwaith yn anad pob dim i daflu ei bleid- lais dros y blaid Ddemocrataidd; ond yn hytrach taflu pob dylanwad a feddwn yn ei herbyn, gan ystyr- ied yn ddifrifol y bydd pob pleidlais Ddemocrataidd yn gymeradwyaeth a chefnogiad i hawliau yr eglwys Babyddol. Peidied neb a chymeryd ei hudo neu ei ddallu gan yr Inflationists chwaith; oblegid y mae y cyfryw ar eu heithaf yn ceisio argraffu ar feddyliau y bobl eu bod o blaid y gweithwyr, ac mai lies y gweithwyr sydd ganddynt mewn golwgjwrthgeisiocael ychwan.. eg o arian papyr yn y wlad, &c. Hyderaf y bydd i'r fath athrawiaeth gael digon o wrthwynebiad nes y syrthia i'r llawr. Un dwyllodrus a pheryglus i'r wlad ydyw; gadawer i ni;gael arian yn gyfartal yn eu gwerth i'r aur. Cofiwn er pobpeth mai nid Demo- cratiaeth sydd genym i'w wrthwynebu y tro hwn, eithr Pabyddiaeth yn ei gwedd gyfrwysaf. Gwell i ni geisio ei threchu trwy y ballot, na chael ein gor- fodi i wneyd hyny trwy y bullet. Yn wir y mae ar- wyddion bygythiol o hyny. Newburgh, 0. D. F. LEWIS.
DODION G WLEID YBB OL.
DODION G WLEID YBB OL. Yr ETHOLIADAU. nesaf—Ohio ac Iowa, Hydref 12fed Mae Carl Schurz i dra. ddodi naw o areithiau politicaidd yn Ohio, o blaid y Gwerinwyr. Yr oedd yn dechreu nos Lun, yn Cincinnati, a bydd yn ymwel- ed a Toledo, Cleveland, Sandusky, &c. Eg. lur yw fod y gelynion yn ei arswydo, can- ys y maent yn ysgrifenu yn galed yn ei er- byn.Bydd y Seneddwr Dawes yn siarad yn Cincinnati Hydref 9fed Merched yw bron haner y rhai sydd wedi eu penodi yn arolygwyr ysgolion yn Iowa.Tua dwsin o bobl oedd yn bresenol yn Nghynadledd y Dirwestwyr yn Wisconsin, pan benod- asant C. H. Tilden yn ymgeisydd am Lyw- yddiaeth y Dalaeth.Yn ol y San Fran- cisco Alta, saif Deddfwrfa California fel y canlyn: Senedd— Gwerinwyr, 8; Anni. bynwyr, 9; Democratiaid, 23 Y Ty- Gwerinwyr, 11; Annibynwyr, 3; Democ- ratiaid, 67. Mwyafrif Democrataidd, ar joint ballot, 57. Yr oedd nifer y pleidleisiau fely canlyn: Irwin, dem. 61,525; Phelps, gwer. 30,922; Bidwell, Annib. 23,630. Yn ol y cyfrifon diweddaraf o Maine, y mae mwyafrif Connor yn 4,775. Saif y Senedd-Gwerinwyr, 19; Democratiaid, 11; Y Ty-Gwer. 85; Dem. 63; Annibynwyr, 2. Bydd gan y Gwerinwyr fwyafrif o 28 ar joint ballot.Nid gwir fod y Talaethau Gorllewinol yn ffafrio arian papyr. Y mae Illinois, Wisconsin, Minnesota, Michigan, Iowa, Nebraska, Nevada, California ac Oregon, yn iach yn y ffydd, a bydd iddynt ddangos eu hunain felly yn nghynadleddau 1876, os na wrandawant ar y gau athrawon yn y cyfamser.Mae Parson Brownlow, Tennessee, yn priodoli ei hirhoedledd (y mae yn 70 oed) i'w waith yn peidio pleid- leisio gymaint ag unwaith dros y tocyn Democrataidd:Mae Gwerinwyr Mary- land eleni wedi penodi J. Morrison Harris (democrat) yn ymgeisydd am y swydd o Lywodraethwr; ac S. Teackle Wallis (dem- ocrat eto) i fodyn Gyfreithiwr Cyffredinoi, o herwydd eu bod am sicrhau dynion go- nest i swyddi.Penododd Cynadledd Llwyrymwrthodwyr Swydd Oneida y Prof. Charles Avery, o Kirkland, yn ymgeisydd am y Senedd dros y Rhanbarth.Yr An-