Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
111'"1 '_(I )f.IHI:J!i"t> YI!l' 'T- J/^ ^~J>' Jiaaiiif&Y* 111Fê! WBBRLY JV&JVSTALER. ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
Dau Ddarlun Serch yn Aros.
Dau Ddarlun Serch yn Aros. Ni welir 61 celfyddyd Trwy gabol marmor gwyn, Na chareg dwy lythyren" I nodi bedd y Glyn;" Ond yno engyl gwynfyd Sy'n gwylied gylch y fan, Lie heddyw'm Gweno huna Tn mynwent oer y Llan. Yn ngwely oer y ddaear, O dan dywarchen werdd— Mae f' anwyl un yn huno, Y laiial 0 ferched cerdd; Bob blwyddyn gwenau Ebriil Sy'n dwyn yr effros man, A thyfant uwch ei beddrod, Ac yma'r adar can. Pan y maluria 'i chalon -Yn mynwes oer y bedd, Yr engyl fydd gwarcheidiol A welant yno,m gwedd; A phan a 'n llvvch f' un inau, Er bod yn mhell o'm gwlad—' Fe welir arlun Gweno Yn aros er pob brad. Yr engyl fo gwarcheidiol, A ddygo'r ddau yn un— (Ni welwyd dau mor debyg Ar allor serch ei hun) A rhoddant i gyd orphwys Yn 11 Nyffryn Conway" hardd- Dan ddarlun y ddwy galon, Ac yna'r ddau a chwardd. Ni welir mwy genfigen Yn gallu rhoddi' throed, Na thwyll a brad cyfeillion(f) Rhai duaf a fu 'rioed; Ond afon Conway 'n slo, A'r glaswellt yma chwardd- TJwch darlun hofE fy Ngweno A darlun bach y bardd. Vtica, N. 1. DWYFOR.
AMRYWIAETH.
AMRYWIAETH. GAN T PARCH. ERASMUS W. JONES. Y CWRDD MAWR."—Yr wythnos ddi- weddaf, cefais y fraint a'r gwir bleser o ym- uno gyda chanoedd o'm cydgenedl mewn rhanau o Gymanfa flynyddol yr Annibyn- wyr. Nid hawdd y gall y rhai hyny a eis- teddant yn wythnosol o dan bregethiad y Gair yn yr iaith Gymraeg ddirnad y pleser a dderbyniais o dan ddyferion y cysegr, tra yn Floyd ac Utica. Dyma oedd y tro cynt- af erioed i mi fod yn y lie blaenaf, hyny yw, yn Floyd Gymreig. Clywais yno chwech o bregethau rbagorol. Yr oedd yno ragor rhwng seren a seren mewn go- goniant; ond yr oedd "ser ei ddeheulaw" oil yn ddisglaer. Mae addoldy yr Anni- bynwyr yn Floyd yn gynllun tra pherffaith o symlrwydd; mae yn glod i'r gymydog- aeth, ac yn brawf o chwaeth uchel y gwei- nidog, yr eglwys a'r gynulleidfa. Cefais y fraint o adnewyddu fy nghyfeillach a'r Parch. John Griffiths a'i deulu. Mae pobl ei ofal yn bobl ei bleser. Cefais y pleser hefyd o ysgwyd llaw am y tro cyntaf, ac ymgomio ychydig a'r hybarch fardd a'r hynafiaethydd, Mr. Richard Williams (Ab Morydd). Bendith ar ei ben yn ei hen ddyddiau! Ni chawsom ond ychydig am- ser gyda'n gilydd; gobeithio y caf ei weled eto cyn pen hir. Clywais fod caredigrwydd Cymry Floyd yn ddiarebol; ac os yw teulu Bryn y gloch" yn engraifft o'r Ileill, mae y dywediad yn wir ei wala. Yn Utica, yr oedd yr ymgynulliad yn lluosog, a'r wein- idogaeth yn rymus; a chredwyf y bydd effeithiau y Gymanfa yn dra bendithiol.— Cefais y pleser a'r anrhydedd o ffurfio ad- nabyddiaeth a brodyr anwyl yn y weinid- ogaeth na welais erioed mo honynt o'r blaen. Bydd swn melus eu gweinidogaeth yn fy nghlustiau am amser maith. Rhwydd hynt i chwi, frodyr anwyl. LLYFRGELL. Ie, foneddigion, llyfrgell yn werth son dani. Un boreu tra yn Trenton, yn mwyn- hau breintiau y Cyfarfod Gwersyllawl (Camp Meeting), neidiais ar fwrdd y cars ar neges fach i Remsen. Tra yno, gelwais gyda'r hen frawd gweinidogaethol, y Parch. John D. Jones. Dyma y tro cyntaf i mi fod yn ei anedd. (Y fi ga'dd y golled). Yr oeddwn wedi clywed lawer gwaith fod gan- ddo gasgliad helaeth o hen lyfrau Cymraeg, a theimlwn awydd neillduol i gael gweled rhai o honynt, ac hefyd gael ychydig ym- gom difyrus gyda Mr. Jones. Disgwyliwn weled rhai ugeiniau o hen lyfrau lied lwyd- ion, yn yr iaith'Gymraeg, heb fawr o dlys- ni allanol yn perthyn iddynt, yn nghyd a rhyw gymysgedd cymedrol o lyfrau yn yr iaith Saesneg. Llanwyd fi a syndod pan arweiniwyd fi i ystafell gerllaw, lie y gwel- wn o fy mlaen lyfrgell helaeth, yn cynwys canoedd ar ganoedd o lyfrau o amrywiol faintioli, wedi eu rhwymo yn y dull goraf a pharchusaf, o waith yr awduron enwocaf yn y ddwy iaith. Mae Mr. Jones yn fedd- ianol ar bron bob cyfrol a ysgrifenwyd ar y Cymry a'r iaith Gymraeg; a mwy na hyny, maent i raddau helaeth wedi eu har- graffu ar ei gof. Dangosodd i mi gyfrol ar ol cyfrol o waith yr hen enwogion—rhai o honynt wedi eu cyhoeddi ganoedd o flyn- yddoedd yn ol. Wedi aros enyd yn yr ys- tafell ar lawr, arweiniwyd fi i oruwch-ys- tafell, ac yma drachefn canfyddais ganoedd o lyfrau Cymreig a Seisonig o'r fath oreu. Mae llyfrgell Mr. Jones, a rhoddi pris cym- edrol arni yn werth o leiaf $1,200. Drwg oedd genyf na fuaswn yn gallu aros yno yn hwy; ond rhaid oedd dychwelyd gyda'r train prydnawnol. Cefais bleser neillduol yn nghwmpeini Mr. Jones, a theimlwn yn barhaus fy mod yn wir 'wrth draed Gamal- iel.' Rhaid i mi farw yn union deg, a'u gadael nhw," meddai yr hen gyfaill, tra yn edrych ar ei lyfrau a gwon serchus. Mae hyn yn wir. Ond credwyf pan yr a Mr. Jones "trwy y pyrth i'r ddinas," y câ y syched naturiol yna am wybodaeth hanes- yddol a enyna ei enaid tra yn yr anial, ei lwyr foddloni-ca ddigonedd o amser i dra- mwyo drwy lyfrgelloedd ysblenydd Gwyn- fa, a llenwi ei enaid a'r gwybodaethau, heb gyfyngu dim ar sain ei foliant am iachawd- wriaeth drwy angau'r groes. "JOLLY TIMES GYDA HERETIC." W el, mae'n wir fod Mr. Herbert yn ei ysgnf ddiweddaf wedi fy snubio o flaen y cyhoedd; ond dylwn fod yn ddiolchgar am iddo gymeryd un math o sylw o fy ysgrif. Mae y brawd yn methu gweled cysondeb rhwng fy mhroffes o gyfeillgarwch person- ol, a fy ymddygiad tuag ato ef yn nyddiau yr Ebion," pan, medd efe, y gwnes fy ngoreu glas i'w fwrw allan o'r Cyfundeb vn roha un y magwyd ef." Yr wyf yn riiwydd gyfaddef, gyda gradd mawr o ble- ser, fy mod wedi gwneyd tipyn o blaid y fath beth; ac os bu dim a ddywedais i yn ystod y deng mlynedd diweddaf, yn Gym- raeg neu yn Saesoneg, yn foddion lleiaf i yru Mr. Herbert allan o Gyfundeb y Wes- leyaid, i Dduw y byddo'r diolch! Pe buas. ai i'r bachgen a fagwyd ar liniau Wesley- aeth gadw at ei addunedau fel aelod a gweinidog, ni fuasai neb yn yr Undeb yn "falchach" o hono nag ysgrifenydd y Hin- ellau hyn. Ond gwelwyd a chlywyd ar ol hyn y bachgen a fagwyd ar liniau yr eg- lwys, ac a sugnodd fronau Wesleyaeth, ar ol tyfu a myn'd yn fawr, yn chwerthin am ben yr hen wraig, ac yn gwawdio yr un a'i magodd, a hyny tu ol i'w chefn. Clywodd yr hen wreigan amryw droion fod ei bach- gen Herbert yn siarad ac yn ysgrifenu peth- au hollol groes i'r ddysgeidiaeth a gafodd gartref. Unwaith neu ddwywaith dangos- odd y fam dipyn bach o spunk yn y Troy Conference, a galwodd y bachgen i gyfrif. Herbert bach," meddai y fam, "ai tyb- ed fy mod yn clywed y gwir yn dy gylch? Rwy'n ofni fod rhyw ddrwg yn rhywle.- Mae nhw yn dweyd wrtha i, 'machgen i,dy fod yn ysgrifenu pethau yn yr iaith arall ag sydd wrth fodd calon Sosiniaid a Deist- iaid. Maeyn anhawdd gan dy fa gredu dy fod ti y-u anad neb wedi llithro oddiwrth y gwirionedd? Beth yw dy atebiad, Her- bert?" "0, fy mam anwyl, peidiwch a'u coelio am fynyd!" llefai Herbert, gan syrthio ar wddf yr hon a'i magodd; mae'n wir fy mod wedi ysgrifenu tipyn o Ebion, ond yr wyf yn gymaint Wesley ag y bum erioed!" Bendith ar dy ben, fy anwyl fachgen," meddai y fam, a dagrau o lawenydd yn llenwi ei llygaid; "mae dy frodyr ryw fodd wedi dy gamgymeryd; a gwell i ti o hyn allan, yn gymaint a bod tuedd yn dy Ebion i gamarwain y darllenwyr, ymatal yn holl- ol oddiwrth y fath bynciau." Os dyna ddymuniad fy mam," meddai Herbert, felly y caiff fod," a therfynodd yr ymholiad mewn tangnefedd. Ond ar ol hyn, aeth Mr. Herbert yn waeth nag erioed, a dangosai ei Ebion mor ol- eu a chanol dydd ei fod yn hollol anghredu yr holl bynciau a ystyrir yn hanfodol gan yr holl enwadau efengylaidd. I mi, yr oedd Mr. Herbert ddeng mlynedd yn ol yn union y peth y mae heddyw. Yr oedd llawer o'm brodyr a'm chwiorydd Cymreig yn ofidus, o herwydd credent fy mod yn camgymeryd; ond erbyn heddyw y mae y prawfiadau yn sicrhau fy mod yn iawn y pryd hwnw. Yn awr, gofynaf yn llygad haul a goleu- ni, o dan y grediniaeth ddiysgog fod Mr. Herbert wedi llwyr wrthod athrawiaeth y Corff, i'r hwn yr oeddym ein dau yn per- thyn, ac wedi mabwysiadu golygiadau a ystyriai y Corff yn heresi, onid oedd yn ddyledswydd arnaf roddi ar ddeall i'r brodyr Seisnig yn Vermont pa fodd yr oedd peth- au yn sefyll? Mae yn eithaf gwir fod gan Mr. Herbert berffaith hawl i gredu a phreg- ethu yr athrawiaethau a welai yn oreu; ond nid oedd ganddo hawl tra yn perthyn i'r Wesleyaid i bregethu ac ysgrifenu Un- dodiaeth ac Universaliaeth. Dylasai, fel gwr gonest, flynyddau yn ol, fynegi i'w frodyr yn Vermont, a phob man arall, ei fod wedi llwyr gyfnewid ei farn, a gadael yr enwad mewn modd tawel a thangnefeddus. Dyma ddigon am byth ar y pen yna; ac ni fuaswn yn son am dano, pe gadawsai Mr. Herbert iddo orphwys. Mae yr hyn oil a wnaeth- um ac a ysgrifenais yn hollol gyson a. chyf- eillgarwch personol-, ac er fy mod wedi cael fy snubio, dyna fel yr wyf yn teimlo eto.— Caiff Mr. Herbert groesaw calon pan ddelo i edrych am danaf; ond yr wyf dipyn yn ansicr yn fy meddwl pa mor belled yr awn i'w gyfarfod. Un gair yn rhagor. Mae Mr. Herbert yn dweyd fy mod yn ei alw yn un o "ffin gywion Crefydd Boston." Gwarchod pawb! Ni ddaeth y fath beth erioed i'm meddwl. Mae yn wir fy mod wedi ysgrifenu y fraw- ddeg; ond pwy all gredu y buaswn yn ys- tyried y Parch. R. L. Herbert yn un o "fan gywion Crefydd Boston?" Dear anwyl! Yn lie bod yn un o'r man gywion," mae ef erbyn hyn yn "hen geiliog." Mae ei splendid crowing, a'i spardynau miniog, yn ddigon o brawf nad ydyw i'w restru mwy- ach yn mhlith y "mfin gywion." Ond er hyny, y mae "mân gywion Crefydd Bos- ton" i'wcanfod yn mhlith ein cenedl. Mae y rhan fwyaf o honynt yn dra ieuainc—nid hir y maent wedi bod allan o'r plisgyn." Ond y mae amrai o honynt eisoes yn de- chreu estyn eu gyddfau i ganu (crow); acer nad yw yr ymgais hyd yma ond rhyw wichiad lied fain, eto mae yn hawdd can- fod eu bod yn treio canu fel Mr. Herbert. Duw o'i ras a gadwo ieuenctyd ein cenedl rhag effeithiau anffyddol "Crefydd Bos- ton." EISTEDDFOD FAWR HYDE PARK. Darllenais yn y DR-icii diweddaf gyda dyddordeb neillduol hanes yr Eisteddfod fawreddog hon. Ni fu ei chyffelyb o'r blaen ar dir America. Mae yr hanes yn y ddwy iaith yn cael ei gludo ar adenydd y gwynt drwy hyd a lied ein gwlad. Erbyn hyn, mae Cymry y fam-wlad, a'r miloedd a drigant yn Lloegr, yn cydlawenychu wrth ddarllen am ragorol ogoniant Eisteddfod Hyde Park. Y fath ydoedd ei nerth, a llawnder y darpariadau, fel y byddai dis- gwyl y fath arddangosiad yn flynyddol yn afresymol. Onid doeth fyddai i ni yn y wlad hon benderfynu cynal un Eisteddfod genedlaethol ar raddfa ysblenydd unwaith bob pedair blynedd? Ni fynwn gael llai o eisteddfodau Ileol nag sydd genym yn awr. Bydded i ni fyned yn miaen yn wrol gyda'r cyfan, a bydded i'r gwobrwyon fod yn barchus. Ond bob pedair blynedd, gad- ewch i ni gael un Eisteddfod, i'r hon y dy- lifa ein cydgenedl wrth y canoedd a'r mil- oedd o bob cwr i'r Undeb. Pwy sydd sydd yn eilio y cynygiad? Lee Centre, Medi 28, 1875.
[No title]
-Bu farw plentyn deunaw mis oed yn Brooklyn y dydd o'r blaen mewn canlyn- iad i fwyta lucifer matche8. Gwnaed pob peth dichonadwy i arbed ei fywyd, ond yn ofer. —Torodd lladron i fasnachdy Marsh, yr oriadurwr, yn Whitestown, ger Utica, yr wythnos ddiweddaf, a lladratasant werth $1,700 o nwyddau. Ond daliwyd hwy yn Oriskany Falls, ac y maent yn ngharchar. Y mae lladron yn lluosog iawn yn nghylch- oedd Utica yn bresenol. —Y mae y "direct cable" o dan For y Werydd wedi tori, ond disgwylir bod yn alluog i'w adgyweirio cyn hir. Mor fuan ag y cymerodd yr anffawd le, cododd llinell yr "Anglo-American" eu prisiau. Bydded i bawb gofio am hyn, a ehefnogi y cwmni newydd, pan adnewyddo ei fasnach.
HEN ADGOFION.
HEN ADGOFION. GAN EGWISYN. Llythyr L Gellir myned i Ddinas Mawddwy, lie rhwng "mynyddoedd creigiog" Meirion- ydd, preswylfa y "Morwynion Glan," o bedwar cyfeiriad, heblaw o'r lleuad; o'r Bala, Athen gwlad y gan, trwy Llanuwch- lyn, ac ar draws Bwlch y Groes, a thrwy Llanymawddwy; o gyfeiriad y Can office trwy ddyffryn coediog Cwm Cewydd; o gyfeiriad Machynlleth trwy Penegoes (yn hytrach, Penegwis, o ba le y cefais i ffug- enw, "tae fater am hyny,") a'r Cemaes, a Cwmllinau, (lie y boglymwyd y "Blodeu" gan fy mrawd, Lewys Glyn Dyfi), a Mall- wyd; ac o gyfeiriad Dolgellau, heibio hen gapel; meddwl i chwi weled mwy o hono, a chael ychwaneg o'i hanes na meidrolion eraill. Ond, yn rhyw fodd neu gilydd, y mae cymydogion i ni yn byw a marw yn ein hymyl, heb i ni wybod nemawr am danynt. Yn wir, mae dyn yn hynod o an- wybodus o hono ei hun. Nid rhyfedd i awdwr y Night Thoughts ddweyd ei fod yn estron iddo ei hun, ac yn ddieithr yn ei gartref. Nid yw yn rhyfedd, ynte, mai ychydig a wyddom am ein cymydogion.— Adwaenwn ganoedd ar ganoedd o berson- au, o ddeg ar hugain i ddeugain mlynedd yn ol, na wn ond y nesaf peth i ddim yn eu cylch yn bresenol. Maent hwy yn tawel huno yn ystafell y meirw, a chwrlid gwyrdd y bedd yn eu cuddio o'n golwg, a chenedlaeth arall wedi cyfodi yn eu lie hwy, a hono yn ein gwthio ni, gweddill yr oes o'r blaen, ar hyd y goriwaered ofnadwy tua glyn terfyniad. Nid oes dim help am dani,—Dyma ffordd yr holl ddaear, a thynged yr holl fyd. Oeddwn! yr oeddwn yn adnabod rhai o'r hen deulu. Blodeu yr anialwch oedd am- bell un o honynt. GanwycU hwy, treulias- ant flynyddoedd yn y byd, a buont farw, heb i odid neb wybod dim yn eu cylch.— Un o honynt oedd EllisRoberts, Tynewydd. Maenllwyd, Cwm Cerist, ger Dinas Maw- ddwy. Un o hen fechgyn hynod yr oes gynt oedd efe. Ysgrifenir ychydig adgof- ion am dano. Hwyrach fod rhai yn yr America yn ei gofio. Gallai yr ychydig grybwyllion canlynol fod o fudd i bawb.— Dilynir y crybwyllion hyn ag adgofion am Hugh Jones, Maesglasau, ac Ismael Jones, yr hen bregethwr hynod gyda'r Methodist- iaid. Gwehydd oedd Ellis Roberts wrth, ei grefft, fel y dywedir. Gweodd ganoedd, os nad miloedd o wlaneni i bobl Dolobran, a Griffith Evans, Pentre Cowarch. Real Welsh flannels oeddynt oil. Yr oedd yn byw mewn ty ar ei ben ei hun, neu dy heb un arall yn agos ato. Gan gofio, yr oedd yno ddau dy o dan yr un to. Mae yn anhawdd penderfynu yn mha un 0 honynt yr oedd yn byw fwyaf. Nid oedd un llofft yn perthyn i'r naill na'r llall. Yr oedd un o'r tai yn cynwys dwy ystafell, sef y gegin a'r siamber. Yma y byddai ef yn bwyta a chysgu. Yr oedd mur cerig rhwng y ddau dy, ac yr oedd yn rhaid myned allan o'r naill cyn y gellid myned i mewn i'r llall. Yn y ty arall yr oedd y gwydd, ac yno y. byddai Ellis Roberts yn gweu. Mae achos lied bwysig, deallwch, yn galw am y fath fanylwch wrth ddesgrifio y ty. Hen dy hen oedd efe erioed, am a wn i. Bu Ellis Roberts yn wr priod ddwy waith. Ei wraig gyntaf oedd mam ei holl blant. Nid wyf yn cofio hono. "Siani" a "Sianw" y gelwid ei wraig ddiweddaf. "Hen ferch ifanc" oedd hi cyn ei phriodi ag Ellis. Buasai yn drosedd ei galw yn Jane neu Jenny. Yr oedd mor gloff, hwyr- ach, a Jacob, ond yn llawer mwy anynad. Yr oedd y "bobol" yn dweyd, beth bynag oedd y gwir, ei bod yn "awff" o anynad; ond nid oes eisiau i chwi ddweyd hyny i neb. Yr oedd cryn dipyn o hynodrwydd yn perthyn i Ellis Roberts. Lwmp o ddyn lied gryno oedd efe. Ychydig oedd y pellder rhwng ei ben a'i ysgwyddau; gor- weddai y naill ar y llall yn mron fel rhad- ell ar dan mawn. Mae'n syndod na fuasai farw o'r Tan-iddwf. Yr oedd bwlch bychan yn un o'i ffroenau. Nid wyf yn cofio ar ba ochr; yr aswy yr wyf yn medd- wl. Blinid ef yn ei flynyddoedd diweddaf gan y diffyg anadl. Dyna'r rheswm, feall- ai, ei fod yn gwisgo mor glyd. Nid wyf fi yn deall athroniaeth pynciau dwfn fel yna. Beth bynag am hyny, yr oedd efe yn gwisgo hyd glydwch. Yr oedd ganddo fath o gob fawr yn amdo dros ei holl wisg. Ei defnydd oedd gwlanen dew, can dewed a gwrthban gwely. Y peth tebycaf iddi a welsoch erioed oedd y smothrock a wisgid gynt gan weision ffermwyr yn y wlad. Yr oedd yn cau yn y ffrynt, a hwd o'r un defnydd dros yr yswydd, cyffelyb i fantelli ein hen neiniau; coffa da am danynt. Yr oeddynt yn hollol debyg i'w gilydd, oddi- eithr yn y lliw. Gwlanen wen dew oedd defnydd amwisg Ellis Roberts. Cyrhaedd- ai o'i wddf hyd ei draed. Dyma ei wisg uchaf yn ystod y tri thymor oeraf, Sul, gwyl, a gwaith-yn y ty, y gwydd, ar y ffordd, ac yn y capel. Yn y capel Wesleyaidd yr arferai Ellis Roberts addoli. Weslead oedd efe. Llaw- er pregeth fendigedig a glywodd gan "Yr Hen Wmffra" (y Parch. H. Humphreys, Utica, N. Y., onide?) a chan eraill. "Yr Hen Wmffra," Dolgellau, oedd prif breg- ethwr y Dinasyddion. Arferent ddweyd wrth eu gilydd yn ami, mai yn eu capel hwy, yn Penygeulan, y traddododd y di- weddar Barch. R. Hughes, W. H. Richards (America ar ol hyny), J. Jones, Woolpach, a H. Humphreys, oil o Ddolgellau, eu preg- ethau cyntaf, a hyny yr un Sul; a diwedd- ent yr hanes trwy ddweyd, "Ac myn jaist i, yr oedd yr Hen Wmffra yn llawn gwell na'r lleill y pryd hwnw, onid oedd o, Huw- cyn a Jack? Be' wyt ti'h dd'yd, Nedw?" Crefyddwyr nodedig o wresog oedd yn y Ddinas yr amser hyny, ac am flynyddoedd wedi'n. Braidd y gallasech glywed gair a ddywedai y gweddiwr neu'r pregethwr, ambell adeg, yn enwedig os byddai yn "un go lew," gan swnyr Amenau a'r diolchiad- au. Yr wyf yn cofio yi hen Dafydd Jones y Pare, yn uchel waeddi, "Diolch byth!'> ryw brydnawn Sabboth, pan oedd Robyn Goch yn sefyll ar ben yr hen frawd. Mae "Amen" a "Diolch" ambell frawd mor sychlyd a brefiad asyn, ac mor anghynes a'r rhew oeraf yn ngwlad yr ia tragwyddol. Yr oedd Ellis Roberts yn wahanol. Yr oedd wedi hir arfer ag enwi y Bod uchaf pan yn molianu fel hyn; a buasai yn hawddach i chwi gario'r "Mynyddoedd Creigiog" ar ben eich bys bach na thynu yr arferiad o hono. Eisteddai gan amlaf yn ymyl drws y set fawr, ar gyfer Evan Hughes, Frondirion. Rhoddai benelin ei fraich dde i bwyso ar ochr y set, a'i ben i bwyso ar ei law. Byddai ei lygaid yn sef- 'ydlog ar y llefarwr, a'i glust yn derbyn pob gair. Hwyrach y byddai eraill yn uchel floeddio eu "Diolch" am ryw fendith; ond dyptaw oedd efe. Er hyny, yr oedd y llygaid serenog, a deigrog, oedd yn ei ben, a symudiad mud ei wefusau, a phethau felly, yn profi fod yna rywbeth yn croni o'i fewn, ac y torai allan yn genllif yn fuan. Wedi i'r llefarwr orphen ei bwnc, ac i ryw flash fflamllyd dori ar feddwl y gwrandawr synedig, neidiai ar ei draed mor chwim-ddisymwth a fllachiad mellten, ac uchel ddywedai, "Wel, D-w mawr! dyma hi! Diolch byth yn dragywydd." Cadwaf yr adgofion goreu hyd y llythyr nesaf. Dyma i chwi un gair am Siani, a barn Ellis am dani hi. Hen ch waer go dda oedd hi wedi'r cwbl. Yr oedd ar y mwyaf o anynad, mae'n wir. Ond yr oedd llawer o rai gwaeth na hi yn y byd, sut bynag.— Aelod hefo'r Annibynwyr oedd, a byddai yn hopian i'r capel ar bwys ei ffynfaglau yn fynychach na llawer. Yr oedd ei chloffni yn rhwystr dirfawr iddi i gyflawni goruchwylion y ty. Eisteddai gryn lawer ar ei hystol dri-throed ar yr aelwyd. "Tan ar lawr" oedd yn nhy Ellis Roberts. Defn ydd y tfin oedd mawn ac ychydig bach o goed. Yr oedd gwerth swllt o goed yn para am flwyddyn! Mae peth wmbredd o ludw yn dyfod oddiwrth y tanwydd yma, fel y gwyr pawb; ODd ni fyddai gwraig y ty yn myned i'r drafferth i'w gario i'r domen bob dydd; cymerai ffordd fwy di- drafferth ato, sef ei ysgubo i'r gornel. Wedi llenwi hono, gwnelai yr un gymwyn- as a'r gornel arall. Byddai ei chlocsau a'i thraed hithau ynddynt, yn lied agos i'r lludw, os nad ynddo. Hi a dreuliodd gan- oedd o oriau yn y lie cynes hwnw. Rhyw foreu, trodd cyfaill i mewn i'r gwehydd-dy i ymweled ag Ellis Roberts; ac wedi cyf- arch gwell i'w gilydd, gofynodd y cyfaill, "Sut mae Siani heddyw, Ellis Rhobat?" "Wel! wel di, mae hiyn olew, 'diolch i ti,"