Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

HANES BYWYD HEN BERSON LLANDEDWYDD.

News
Cite
Share

HANES BYWYD HEN BERSON LLANDEDWYDD. GANDDO EF EI HUN. PENOn XL Deallais yn awr fod fy holl areithiau o blaid cymedroldeb, symlrwydd, a boddlon- rwydd, wedi bod yn ddieffaith. Deffroes y cysylltiadau diweddar a'u huwchradd holl falchder cynhenid y teulu, Edrychid ar yr haul fel gelyu i'r croen, ac nid oedd y tain oddi mewn i'w ofni fymryn llai oran ei effeithiau niweidiol ar y wynebpryd. Yr oedd fy ngwraig wedi cael allan hefyd fod cl 1-1 y codi yn rhy foreu yn ddrwg i lygaid fy merched, a bod gweithio ar ol cinio yn cochi eu trwynau, ac yr ydoedd yn hollol argyhoeddedig nad oedd dwylaw byth mor dlysion a plian yn gwneyd dim. Ffarwel, bellach, am orphen crysau, Sami bach a druain bach o'r ddvvy Miss Rowlands, yr oeddynt yn anheilwng o sylw; bywyd uch- el, cymdeithion pendefigaidd, darluniau, barddoniaeth, cerddoriaeth, a'r cyffelyb oeddynt yn awr hoff destynau eu myfjrdod a'u hymddiddanion. Ond gallasem ddal hyn yn weddol oni buasai i hen wracli yn dweyd ffortiwn, ein dyrchafu i ben piuacl cyfoet-h ac anrhyd- edd. Gyda ei bod yn y ty, dyma fy nwy ferch yn rhedeg ataf am swllt bob un, er mwyn croesi ei dwylaw gydag arian. A dweyd y gwir, yr oeddwn wedi llwyr flino a bod yn ddoeth, ac nis gallwn wrthod eu cais, oblegid byddwn yn earn eu gweled yn hapus. Rhoddais iddynt swllt bob un; ond er diogelu cymenad y tenlu, dylwn ar bob cyfrif wneyd yn hvsftys na byddai fy merch- ed un amser heb arian eu hunain, canys byddai fy ngwraig yn rhoddi iddynt gini felen, gyda gorchymyn manwl iddynt beid io ei newid ar gyfrif yn y byd. Wedi idd- ynt fod gyda'rhen bro ffwydes felynddu am ysbaid o amser, deallais wrth eu gwedd ei bod wedi addaw iddynt ryw betliau mawr. Wei, fcrched,' gofynwn, sut y daeth hi yn mlaen? Dewell glywed, Olwen, a gaw- soch chwi werth ceiniog?' Yn wir, fy nliad,' atebai'r eneth, 'yr ydwyf o'r farn ei bod yn ymwnevd a rhyw ysbryd nad yw yn deall, oblegid dywedodd yn bendant fy mod i briodi gyda rhyw sgweier cyn pen y flwyddyn!' Wel. Maria, fy mhlentyn,' meddwn wrth y llall, 'fath wr ydych chwi am gael?' 'Yr wyf amgael arglwydd gyda bydd fy chwaer wedi priodi sgweier.'— Beth,' meddwn, ai dyna'r oil ydych am gael am eich dau swllt 1 Dim ond arglwydd a sgweier am ddau swllt? Y pethau gwir- ion, gallaswn addaw i chwi dywysog ac ymerawdwr am haner yr arian.' Modd bynag, cafodd y datguddiad hwn ddylanwad difrifol arnom, gan i ni bender- fynu ein bod i lenwi cylchoedd uchel yn y byd, a dechreuasom feddwl yn'sobr am y modd goreu i wneyd hyn yn deilwng a phriodol. Milwaith a mwy y gwnaed y sylw, ac yr wyf am ei wneyd unwaith eto, fod adeg 'dysgwyl pethau gwych i ddyfod' yn fwy difyr na'r cwbl o honynt. Yn y naill, yr ydym yn coginio y ddysglaid yn ol ein chwaeth ein hunain; yn y llall, y mae Rhagluniaeth yn ei choginio i ni. An- mhosibl ydyw ail adroddein dychymygion yr adeg yma—yr oedd pob peth yn addaw- ol; a chan fod yr holl blwyf yn gwybod fod y sgweier mewn cariad a fy merch, yr oedd hithau mewn gwirionedd felly ag ef. Yr oedd fy ngwraig hefyd yn cael breu- ddwydion hyfryd dros ben yn y cyfnod yma, a chymerai draft'ertlx i'w hadrodd i ni gyda manylrwydd anarferol. Un noson gwelai arch, yr hyn a arwyddai briodas; noson arall dychymygai weled llogellau ei merched yn llawn o ttyrlingod, arwydd sicr y byddent cyn hir yn llawn o aur. Yr oedd gan y genethod eu hunain eu har- wyddion. Teimlent gusanau dieithr ar eu gwefusau—gwelentfodrwyauyn y ganwyll —pyrsau yn neidio o'r tan—a'r cwlwm pri- odasol, neu yn hytrach arwyddluniau o hono yn ngwaelod pob cwpan de. Dranoeth cawsom air oddiwrth y bon- eddigesau dieithr yn datgan eu gobaith o gael ein gweled yn yr eglwys y Sul canlyn- ol. Deallais wrth ymddygiad fy ngwraig, a fy merched, fod ganddynt amcan i orch- fygu fy holl gyngor trwy wneyd ymddang- osiad ysblenydd yn yr addoliad ar yr ach- lysur hwn. Dechreuwyd yr ymosodiad ar- naf gan fy ngwraig amser te. Pan welodd gyfie lied siriol, ebe hi, Yr ydwyf o'r farn, fy anwylyd, y bydd Ilawer iawn o bobl uchel yn yr eglwys y fory.' 'Dichon hyny wir, fy ngeneth i,' meddwn inau; ond pa un bynag, cewch bregeth.' 'Yr ydwyf yn gwybod yn burion,'ebe hithau; 'ond yr wyf yn meddwl y dylem fyned yno mor drwsiadus ag sydd bosibl, canys pwy a wyr beth all ddigwydd?' 'Yr ydwyf yn canmol eich rhag-ocheliad yn fawr,' atebwn inau;' 'nid oes dim yn fy moddio yn fwy na gwel- ed pawb yn drofnus ac yn weddus yn yr eglwys.' 'Ie,' atebai hithau, 'yr ydwyf yn gwybod hyny; ond dylem fyn'd yno yn deilwng, ac nid fel rhyw ysgubion sydd o'n haingylcli.1 'Yr ydych yn hollol iawn, fy anwylyd,' meddwn, 'yr oeddwn yn myn'd i gynyg yr un peth. Y dull teilwng i fyn- ed yno ydyw myned mor foreu ag sydd bosibl, er mwyn cael hamdden i fyfyrdod cyn dechreu y gwasanaeth.' 'Twt,'gwaedd- ai ar fy nhraws, 'nid dyna oedd fy medd- wl, oud myn'd yno mewn gwisgoedd hardd, a boneddigaidd. Chwi wyddoch fod dwy filltir i'r eglwys, ac nid wyf yn caru gwel- ed fy merched yn lladd eu hunain wrth gerdded. Y mae genym ddau geffyl, sef yr ebol, a Brown, sydd heb wneyd dim ar y ddaear er's mis o amser. Y mae'r ddau wedi myn'd yn ddiog, a phaham na ddylent wneyd rhywbeth am eu tamaid fel ninau? Ac yr wyf yn ddigon siwr ar ol i Llewelyn eu glanhau, yr edrychant lawer gwell na cheffiylau PI as newydd.' Gwrthwynebais y cynllun yn bendant, a dywedais fod cerdded yn llawer mwy boneddigaidd na chludiad mor dlawd. 'Dyna Brown,' medd- wn, 'wedi colli ei lygad, a'r ebol yn fyr o gynffon, ac y maent yn llawn ogastiau ac nid oes genym and un cyfrwy, a pilin ar ein helw. Ond ofer fu fy holl resymau; a boreu dranoeth yr oedd pawb yn hwylio ar gyfer yr orymdaith ogoneddus oedd i gych- wyn amyr eglwys. Gwelwnfod yn well i mi ymlwybro yn araf o'u blaenau, gan eu bod yn addaw dilyn yn ddioed. Disgwyl- iwn am tuag awr am danynt cyn dechreu darllen, a gorfu arnaf er fy ngotld fyn'd trwy yr holl wasanaetli heb eu gweled.— Pan oeddwn ryw haner y ffordd adref yn ol, caufyddwn y teulu yn dyfod i'm cyfar- fod. Yr oedd fy ngwraig, fy mab, a'rddau fychan ar gefn y ceffyi blaenaf, a'm dwy ferch ar get'n y llall. Dechreuais eu hali yr achos, ond buan y cefais allan eu bod wedi cyfarfod a llu o anffodion ar y ffordd. Yn y lie cyntaf yr oedd y ceffvlau yn gwrthod symud modfedd oddiwrth y drvvs, nes y daeth Mr. Richards i'w pwyo a'i ffon am tua dau gant o latlieni. Yn yr ail Ie, tor- odd y pilin oedd gan fy ngwraig ac yr oedd yn rhaid trwsio hwnw. Wedi hyny cymerodd un o'r ceffylau yn ei ben i sefyll yn ilonydd, ac nid oedd na clierydd na chyngor yn tycio i'w symud ymaith am faith amser. Yr oedd yn dda genyf, wedi canfod eu bod yn ddiogel, eu bod wedi bod mor anffodus, gan obeitbio y dysg ostyng- eiddrwydd i fy merched. Dranoeth oedd dydd Calangauaf, achaw- som wahoddiadgan ein cymydog Rowlands i fwynliau rhan o'r diwrnod. Priri y buas- em yn myned yno oni bae am yr anffawd ddydd Sul. Yr oedd hono wedi lladd tip- yn ar ein mawredd, a gwnaethom ein hun- ain yn gartrefol. Yr oedd gwydd a phwd- in yr hen gymydog parehus yn rhagorol; mewn gair, yr oeddynt yn llawer mwy blas- us na'i straeon. Yr oedd y rhai hyny yn ddwl ac yn faith, a'r oil yn dwyn pertliyn- as ag ef ei hun. Yr oeddym wedi chwerth- in atynt o leiaf ddeng waith o'r blaen, ond buom mor gnredig a chwerthin unwaith yn rhagor. Yr oedd Mr. Richards yn un a ddifyrai y cwmni, drwy osod y plant i chwareu mwg- wd yr ieir, tatiu yr esgid, a chwareuon di- niwed o'r natur. Pan ar ganol y campal1 gwladaidd hyn, pwy a ddaethant i'rty ond y ddwy foneddiges ddieithr, Arglwyddes Parry, a Miss Angelina Nicholas Thomson. Tarawyd i oil a syndod, a gradd o gywil- ydd, o herwydd cael ein dal yn y fath ag- weddau anurddasol. Yr oeddynt wedi galw yn ein ty ni, ar ol cly wed lie yr oedd- ym, wedi dyfodar ein holau. Dechreuodd y ddwy siarad am wahanol betliau perthyn- ol i'w cylch hwy, tray gwrandawem ninau gydag edmygedd. Eisteddai Mr. Richards 11 y o tiaen, ac edrychai ar y tan, a sihrydai ar ddiwedd pob brawddeg, Lol i gyd! yr hyn a achosai gryn bryder i ni, rhag y buasai yn achosi tramgwydd i'r boneddigesau; ond rhaid na ddeallent yr ymadrodd, Lol igyd! xlr ol ymddiddan nerth asgwrn yr 6n ar lu- aws o bethau tu liwnt i'n liamgyffredion ni, daethant at bwnc mawr y dydd, sef yr an- hawsder i gael merched inedrus a moesgar i wasanactim. Lol i gyd! Yr oedd cyd- ymaith teuluaidd yr arglwyddes wedi ym- adael i briodi, ac yr oedd yn methu yn glir a tharo ar un arall. Lol i gyd! Yr oedd y cyflog yn ddeg punt ar hugain y flwyddyn: ond yr oedd genethod y dref yn anioddefol i fod mewn ty, pe cawsid hwy am duim.— Lol i gyd' Yr oedd Miss Thomson yn yr un cyfyng- der. Yroedd ganddi dair wedi bod yr han- er blwyddyn tlaenorol, ac yr oedd un o honynt mor dra anibynol fel ag i wrthod gwneyd gwaith plaen am awr yn y dydd. Yr oedd un arall yn gweled pum' punt ar hugain yn rhy ychydig o gyfiog, a bu raid i mi anfon y drydedd ymaitli am fy mod yn ofni ei bod yn caru gyda'r bwtler. 'Y mae rhinwedd yn werth unrhyw arian, ond yn mha le y mae i'w gael ydyw y cwest- iwn.' Lol i gyd! Yr oedd fy ngwraig yn gwrando gyda dyddordeb aryr ymddiddan- ion hyn, gan weled dytodol dedwydd o'i blaen hi a'r teulu. Arwyddodd ei pharod- rwydd idderbyn, y fath amodau ar ran ei merched, a doniol i'w ryfeddu ydoedd ei datganiad o'u galluoedd a'u rhinweddau lluosog ac amrywiol. Edrychai y bonedd- igesau ar eu gilydd am amryw fynydau wedi iddi orphen llefaru. O'r diwedd ym- ostyngodd Miss Angelina Nicholas Tli m- son i sylwi fod y merched ieuainc, mor belled ag yr oedd el chydnabyddiaetli hi yn myned, yn hollol addas i'r sefyllfa; 'ond y mae yn hysbys i chwi,' meddai, gan gyf- arch fy mhriod, 'fod y fath orchwyl pwys- ig yn gofyn mwy o ymcliwiliad nag y mae cytleusderau wedi osod hyd yn hyn yn ein cyraedd, nid am fod genyf unrhyw betrus- der mewn perthynas i'w cymeriad, ond y mae iiurnau yn angenrheidiol; acy maear- ferion ein dosbarth ni yn gofyn am y gofal manylaf.' Lol i gyd! Canmolai y wraig ofal y bendefiges, ac awgrymodd yn ostyngedig y gallai hi noli y cymydogion ar ypwnc; ond dywedai y 11 llall fod hyn yn ddiangenrhaid, gan fod gair ei chefnder Thomas yn ddigonol. a

EHEOLAU BARDDONIAETH.

[No title]

[No title]

I CINCINNATI AC YN OL.