Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
Iff ,;0", 'ØRYaL7 ,'<llb: :II'A'@) /"I" W 'k: III)" .;4. WEB JULY JVJSyySP'oi TJZIi. ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
"RHODFEYDD Y BARDD."
"RHODFEYDD Y BARDD." Ar ben boren teg a hafaidd Gyda thoriad gwawr y dydd, Pan mae anian yn dadebru O'i chysgadrwydd tawel, prudd, Daew fachgen dewr yn rhodlo Heirdd feillionog lwybrau'r ardd, Gyda llygad chwiin i ganfod Gwir brydferthwch;—dyna'r bardd. Ymddifyra riiwng y blodau, Sylla ar y lili wen, Sydd yn gwenu ar y rhosyn Tan arianaidd wlith y neii; Gorphwys ar y twmpath gwyrddlas 0 dan gysgod tewfrig lwyn, Tra mae'r awel ber yn chwareu Tanau telyn anian fwyn. Mynych try i'r fonwent dawel, Tan ganghenau'r yweu werdd, Lie mae chwaon lleddf y cyfnos Pel yn suo galar-ererdd; Yma'n ddwysaidd ocheneidia Am wrthrychau hoff ei serch, Ac mewn rhyw deimladau tyner Wyla'n lli ar feddrod merch. Ar adenydd ei ddychymyg Hedeg wna i Asur nen, Gan sylldremu ar ogoniant Natnr, yn y byd uwchben: Eistedd ar y ewmwl bolwyn, Tra y gwibia'i awen lân, Fel angyles trwy y gwagle, Gan wreichioni barddol dan! Sua gerdd yn nghlust y dymestl, L Teithia'n ngherbyd chwyrn y gwynt, Gan ddarlunio ei ryferthwy Ar ei oer ystormus hynt; Cik ddesgrifio y ddaeargryn, Sydd yn ysgwyd daear Duw; Ac mae udgorn croch y rbaiadr Iddo yn fardouiaeth fyw. Ni wna twrf y daran drystiog Ond enynu gwres ei gan, Chwardda ar y fellten fflamgoch Yn ei fforchog dorchog daul Synfyfyria ar weithredoedd lor. drwy heirdd ardaloedd gwawI, Nes bp' enaid yn orlwythog o destunau can a mawl. Youngstown, 0. DAFYDD T GAREG WEN. 'II''
TERFYN RHESWM DYNOL.
TERFYN RHESWM DYNOL. Hheswm dynol heb Ddadguddiad Dwyfol yn fethiant cywilyddus. GAN Y PARCH. R. H. EVANS, HYDE PARK, PA. 1. Heb ddatguddiad oddiwrth Dduw, nis gall meddwl dyn gael un sicrwydd am y peth mwyaf pwysig, sef tynged ei anfarwol enaid. Gwyr yn dda, oblegid mae pob cys- tudd a gofid yn tystio iddo,fod Llywodr- aethwr mawr y bydoedd wedi cael ei ddisr- io ganddo. Gwna cydwybod ei gyhuddo. Mae teimlad o euogrwydd yn beth cyffred, inol. Dyma beth nad yw yn perthyn i un enwad, sect, gwlad, nac oes neillduol, ond i ddynoliaeth yn gyffredinol. Gofyna rhes- wm, A fydd Duw yn ddig fel hyn wrthyf fi am byth? A deimlaf fi y pangfeydd yma am fy mhechodau yn barhaus? A wna trueni fy nghanlyn fel hyn o hyd? A wna fy enaid fodoli o dan ddigofaint Duw yn oes-oesoedd? Neu a gaf fi fy nhaflu gan gollfarn ddwyfol i ddiddymdra? A wna y bedd guddio y rhai wyf yn garu byth o'm golwg? Aydynt hwy wedi peidio a bod? A -nawn ni ddimcyfarfod a'n gilydd eto? A raid i mi roddi bythol ffarwel i fy holl gyfeillion, ac yn mhen ychydig ddyddiau syrthio o fod fy hunan? Yr unig ateb a rydd rheswm i'r gofyniadau pwysig hyn yw, distawrwyddl Pwy all beidio teimlo wrth wrando ar eiriau olaf Socrates—" Yr wyf yn myned allan o'r byd, a chwithau i aros ynddo; ond pa un o honom sydd yn meddu y rhan oreu, sydd ddirgelwch i bawb ond Daw ei hun." Heb Feibl, rhyw ddau ddrychfedd- wl oedd gan y dynion mwyaf gwybodus am yr enaid, sef ei fod yn ysbryd yn crwydro am dragywyddddeb yn y gwagle mawr; neu ei fod yn myned i gorff arall o eiddo ^t?1 neU,fyn- ^ae dyn yn cili° oddi- 71 -y me*d^0 f od y* ysbryd yn dod I gyffyrddiad a Barnwr cyfiawn a sanctaidd; yn hytrach na hyn, mae yn well ganddo fod mewn anifail. Dyma y twyll sydd yn cael ei gredu gan bobl yr India a llawer eraill hyd y dydd hwn. Mor ansicr yw pob peth i bechadur pan yn marw fel hyn! "Dywedwch i mi," meddai Hindoo cyfoethog, yr hwn oedd wedi rhoddi y y cwbl oedd ganddo i'r Bramins oedd yn amgylchu ei wely angau, mewn trefn idd- ,,y ynt gael maddeuant iddo o'i bechodau "beth ddaw o fy enaid ar ol marw?" "Fe â eich enaid," meddent hwythau, i gorff buwch sanctaidd." "Beth wed'yn?" "Fe a. wed'yn i un o'r peunod dwyfol." "Beth wed'yn?" "Fe a wed'yn i flodeuyn." "Dy- wedwch, 0! dywedwch," meddai y cread- ur tlawd, "beth a ddaw o hono yn y di- wedd?" Ond bu farw cyn cael atebiad i'r gofyniad! Nid yw y dynion hyny sydd yn gwrthod athrawiaethau y Beibl yn ein byd ni yr un gronyn callach; le, mewn rhyw ystyr, y maent yn ddylach na thrigolion yr India— maent, lawer o honynt, yn gwadu adgyfod- iad y corff, a rhyw ysbryd noeth crwydr- edig, yn rapio byrddau, ac yn rhwym o redeg dros y byd yn. yr olwg ar ryw groten benffol, neu i wasanaethu ar ryw feddyg cwaceraidd, yw yr oil sydd wedi ei adael o ddyn! Dyma i gyd sydd wedi dyfod o'r dynion mawr fu yn rhodio y ddaear!! Ond eto mae y syniad ynfyd a gwrachaidd yma yn rhesymol wrth y meddwl y gall dyn fod yn gablwr, yn dyngwr, yn gelwyddwr, yn odinebwr, yn lleidr ac yn llofrudd, a myned yn gymwys i fynwes Abraham ar ol rriarw!! 2. Heb ddatguddiad oddiwrth Dduw, mae dynion mor anwybodus pa fodd i fyw ag ydynt pa fodd i farw. Nid oes eisiau ond edrych yn ol ar ofergoelion yr hen Gymry i weled hyn. Yn ol hanesyddiaeth gallwn gasglu eu bod yn cyflawni eu de- fodau crefyddol mewn llwyni cysegredig, yn addoli gau-dduwiau, ac yn poeth-off- rymu gwaed caethion ar eu hallorau. Yr oedd cyfreithiau y gwledydd mwyaf goleu- edig yn ffafrio camwedd. Yn Babilon yr oedd anlladrwydd yn cael ei orfodi ar bob merch. Yr oedd cyf reitiiiau Ilawer gwlad yn gofyn aberthau dynol. Pan oedd Ag- athoclas yn gwarchae ar Carthage, cafodd 300 o blant, o'r teuluoedd mwyaf cyfrifol, eu llofruddio drwy orchymyn y senedd; a gwnaeth 300 o'r trigolion yn ewyllysgar aberthu en hpnain i Saturn. Yr oedd cyf- raith Iihufain yncanintau i rieni ladd eu plant, os byddent yn dewis! Yn Athen, eisteddle llenyddiaeth ac athroniaeth bagan- aidd, os byddai rhyw ddiffyg ar faban, yr oedd yn cael ei ladd! Gwyr pawb sydd wedi darllen eu hanes, fod dysgeidiaeth yr athronwyr hyn yn anfoesol. Cytunent oil mai am chwilio am y da yr oeddynt. Yn awr, edrychwch pa fodd y mae rheswm wedi llwyddo. Gosodai Plato ef yn myd y meddwl; tybiai Aristotle y gellid ei gael mewn egni bywyd, a than ryw amodau penodol yn mhethau y corff. Cymerodd Epicurius gam pellach, a dywedai fod da- ioni i'w gael yn y byd anianol, a'i fod yn gynwysedig mewn defnyddiad doeth o bleserau cnawdol. Nid oedd Plato nac Aristotle wedi rhoddi boddlonrwydd yn eu hesboniadau o'r cysylltiad sydd rhwng Duw a'r greadigaeth. Ymdrechodd y Stoic- iaid lanw y diffyg i fyny; ond i'r dyben yma gwnaethant y Bod Goruchaf yn Dduw corfforol, yr hwn ar yr un pryd sydd yn llawn o fywiogrwydd. Ynddo-y mae pob sylweddau a chynlluniau yn hanfodi; ond eto y mae efe a phob peth yn gorfforol a theimladwy. Dyledswydd uchaf dyn yd- yw ymostwng i'r deddfau sydd yn ei am- gylchynu, a chydnabod nad oes dyben uwch i fywyd nag aberthu ein hunain yn ddeallus iddynt. Ac yn hyn y terfynodd athroniaeth y Groegiaid, gan ddysgu nad oes dim mewn bod ond y byd, ond fod y byd gyda'i ddeddfau yn Dduw, ac mai dy- ledswydd a doethineb dyn ydyw gorwedd i lawr yn ddigyffro, i'w holwynion fyned drosto, fel y gwna yr Hindoo o flaen cer- byd Juggernaut. Yn awr, mae hanesyddiaeth yn cadarn- hau tystiolaeth Paul—"Nad adnabu y byd trwy ddoethineb mo Dduw," a bod "doeth- ineb y byd hwn yn ynfydrwydd," ac nad yw athroniaeth heb air Duw ond gwag dwyll." Gadawodd Duw y byd am bedair mil o flynyddoedd i rodio wrth oleuni na- tur o dan gyfarwyddyd rheswm, fel y bydd- ai i anigonolrwydd rheswm fod yn amlwg i bawb. Yr oedd dynion, er wedi cael eu hamgylchu gan amlygiadau o ddoethineb ddwyfol mewn creadigaeth a rhagluniaeth, yn methu cyraedd gwybodaeth achubol o Dduw. Yr oedd Duw yn datguddio ei hun mewn natur, ond nid oedd dynion o herwydd eu heiddilwch a'u gwrthnysig- rwydd yn ei amgyffred. Parhaent yn ddeillion yn nghanol goleuni. Ynddynt hwy yr oedd y bai, nid yn y datguddiad- "Nid oedd gymeradwy ganddyrj; gadw Duw yn eu gwybodaeth." Yn awr, gan i'r byd trwy ddoethineb fethu adnabod Duw, hyny yw, methu cyraedd gwybod- aeth achubol o hono, Fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu." Ffolineb pregeth;" neu fel y dywed Hodge, "Pregethu ffolineb," sef y groes. Yr oedd athrawiaeth y groes yn ffolineb yn ngolwg dynion, o ganlyniad gwnaeth Duw yn y modd mwyaf effeithiol daflu y gwarth ar ddoethineb ddynol, drwy wneyd athrawiaeth oedd yn marn y byd yn ynfydrwydd, yn foddion iachawdwriaeth i blant dynion. Mae yr Iuddewon yn gof- yn arwydd," meddai yr apostol. Dyma ar- fer yr Iuddewon. Gofynent arwydd am ryw brofion allanol goruwch naturiol—eu demand parhaus oedd, "Pa arwydd yr wyt ti yn ei roddi?" Yr oedd y Groegwyr o'r tu arall yn gofyn doethineb. Yr oeddynt am brofion athronawl. Ni wnaent hwy dderbyn dim heb ei ddeall; yr oedd yn rhaid dwyn y cwbl i dir rheswm, wedi ei ddallu gan bechod ac arferion drwg. Yr oedd athrawiaeth y groes yn wrthodedig gan y naill blaid a'r llall. Nid oedd yn cyfarfod gofynion yr Iuddew na'r Groeg- 11 wr, ond i'r gwrthwyneb, yr oedd i'r Iudd- ew yn dramgwydd. Eu syniad hwy am Fessiah oedd, y buasai yn frenin gogon- eddus a galluog, yn gwaredu a dyrehaf u y genedl. Ac yr oedd cynyg iddynt un wedi ei groeshoelio fel drwgweithredwr yn ber- ffaith insult. I'r Groegiaid yr oedd yr ath- rawiaeth yn ffolineb. Nid oes dim yn syn- iad Rhesymolwyr yn fwy ynfyd na dweyd fod gwaed y groes yn symud pechod, cyn- yrchu rhinwedd, a sicrhau achubiaeth. Y mae dweyd fod Iesu Grist wedi marw dros yr annuwiol, ac iddo ddioddef cosb pech- aduriaid, yn destyn gwawd ganddynt. Ond er cymaint o, wrthwynebu a gwawdio oedd ar athrawiaeth y groes, cafodd y byd dde- all a theimlo fod "ffolineb Duw yn.ddtyeth- acli na dynion, a gwendid Duw yn g^fach na dynion. Yr oedd pret cynyrchu effeithiau nad oedd dim ond gallu dwyfol yn abl i'w gyflawni; ac y mae yr un effeithiau yn cael eu teimlo yn ein dyddiau ni. Mae yn gwneyd dynion yn wirioneddol ddoeth, sanctaidd, cyfiawn a dedwydd. Mae yn gwneyd mwy nag a all- ai doethineb ddynol byth ddychymygu- llawer Hai gyllawni; mae yn dwyn cymysg- 9 I, fa ac anhrefn y byd moesol i'w Ie. Bu doethineb ddynol yn ceisio dwyn pethau i clref n, ond ni wnaethant ond gyril y byd i ragor o anrhefn-" Newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth Hun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar carnol, ac ymlusgiaid. Newidias- wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolas- ant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragywydclol;" a thybient eu bod yn ddoeth wrth wneyd hyny, a'u bod yn gall pan yn actiofel-Syliaid. Rhuf. 1. 18 32. Mae rhyw ddynion am fyw wrth oleuni rheswm; ond y mae yn eu gadael mewn tywyllwch caddugawl wrth farw. Dywed- ai Gibbon, Mae yr oil yn dywyll ac am- heus." Dywedai Hobbes, "J am taking a fearful leap into the dark I" Y styria rhyw ddynion y gallant ymddiried i'w rheswm, ond yn t-imlo fod yn rhaid cael rhyw beth arall i bwyso arno wrth farw. Yr oedd Tom Paine yn galw ar Iesu Grist wrth farw. Dywedai Voltaire wrth ei feddyg- "Rhoddaf i chwi haner yr hyn wyf o werth os rhoddweh i mi chwe' mis o fywyd." Atebai y meddyg, "Mae yn anmhosibl i chwi fyw chwech wythnos." Yna," meddai Voltaire, "mi af i uffern, a chwi- thau gyda mi." Tebyg i hyn mae y dyn- ion sydd yn ymddiried i'w rheswm yn marw. Mor wahanol yw y rhai hypy sydd sydd yn pwyso ar Air Duw. Dywedai John Flavel, Gwn y bydd pob peth yn dda i mi." Knox a ddywedai-11 Byw yn Nghrist, byw yn Nghrist, nid rhaid i gnawd ofni marw." Dr. Goodwin a ddywedai- "Ah! ai dyma yw marw? Yr wyf wedi bod yn dy ofni fel gelyn, ond nid wyt ond cyfaill siriol." Geiriau olaf Dr. Payson oedd, Mae y frwydr wedi ei hymladd- mae y frwydr wedi ei hymladd, a'r fudd- ugoliaeth wedi ei henill-wedi ei henill am byth! Yr wyf yn myned i nofio mewn mor o burdeb, a chariad, a dedwyddwch i dragywyddoldeb. Ffydd ac amynedd, dal- iwch ati." Y CRISTION CREDINIOL. Wrth ddisgyn at y dw'r, Hyd risiau brenin braw, Fe ddeil ei lamp o hyd Yn oleu yn ei law; Gall teulu'r lan, er brig y don, Ei wel'd yn dod wrth lewyrcli hon." i
CALIFORNIA.
CALIFORNIA. ODDIWRTH "OBEDOG 0 FON." SAN FRANCISCO.—Awst 20fed-O diolch! Dyma ni unwaith eto yn mysg Lili y dy- ffrynoedd ac yn sawru arogl y Per-lysiau; wedi gadael aruthredd y mynyddoedd a dychrynfeydd Cape Horn i feddwl bardd- onol ein cyfaill serchog Jerry Watts ym- borthi arnynt. Tybiwn y cymer amser lied faith cyn y bydd ein meddwl wedi anghofio y golygfeydd ardderchog a gawsom ryw brydnawn-ddydd hafaidd ar ddanedd ys- gythrog Double Cape Horn ger Emigrant Gap, mewn dwfr ar ein deulin, mewn flume .yn grogedig wrth raff bydredig, a thua chwe' chant o droedfeddi o ddisgynfa syth odditanom i grombil trochionog y South Youba River. Yr oedd teimlad fel hyn yn deimlad hapus iawn (?). Any how, yr ydym i lawr yn bresenol yn mhlith daear- olion a daearolion bethaii, wedi gadael yr hen Gabintwr mor hapus a bran wedi gwneyd ei nyth yn nghoedwig y lleuad. Cymerasai ryw nerth annaearol i symud yr hen frawd o blith y lloerigion, oblegid ym- ddangosai fod gan y frawdoliaeth y fath afael ynddo fel na feiddiai am un eiliedyn feddwl am eu gadael. Daeth gyda mi at drothwy y drws i ddweyd good bye (nid oedd ganddo yr un pass i ddyfod yn mhell- ach), ac yr oedd yn anfon ei gofion cyn- hesaf at ei gydnabyddion yn myd y cnawd, megis yr anfarwol T. L. Thomas a Chran- ogwen. Rliyfedd y fath olwg sychlyd a chrinedig oedd ar y dyffrynoedd ar ol gadael y myn- yddoedd gorcliuddiedig gan y pinwydd ireidd-dwf, a'r ffrydiau grisialaidd o ddwfr peraidd yn pistyllio o fronau y creigiau. Methiant fu y cnydau yma y flwyddyn hon -tyrnor, sych eto. Rhysedd mawr ydyw codi gwenith yn y D^laeth lioii, mewn manau lie nad yW yn bosibl itrightw y tir. Cafodd m^loedd o ymfudwyr a ddaeth yma o'r Dwyrain a gwledydd eraill siomedig- aeth fawr y gwanwyn diweddaf, a bu i ganoedd o rai a allent droi eu gwynebau yn ol gyda chalonau tristlawn a llogellau gweigion. Cwyna masnachwyr yn San Francisco, fod masnach yn fanveiddiach yma yr haf hwn nag y bu ei's llawer o flynyddoedd. Mae y crochau politicaidd yn ferw gwjdlt yma yn bresenol, a llawer o bleidiau new- yddion yn codi. Mae y Gwerinwyr wedi gosod dynion diail i fyny y waith hon- dynion ag y byddai yn ogoniant i'r w.lad, ac yn lies anrhaethol i bob dinesydd eu cael yn y gwahanol swyddi ag y maent wedi eu penodi i redeg am danynt. Dyna T. G. Phelps, un o hen standards y blaid Werinol; a galluocach a gonestach dyn ni sangodd ddaear California erioed-efe yw yr un penodedig am Lywodraethwr y Dal- ,i aeth, a dylai pob Cymro bleidleisio drosto, oblegid mae Mr. Phelps yn gyfaill trwyadl i'n cenedl ni. Mae yn dda genyf gael y cytleusdra pres- enol i hysbysu fy mrawdoliaeth henlanc yddol, drwy y byd benbaladr, fy mod wedi dyfod i lawr i San Francisco i achub ug- einiau o rai oedd ar fin canu yn iach i'n hurdd anrhydeddus, rhag syrthio dros y dibyn dyrus i fyd y gwyr priod. Yr oedd y rhyw deg yn y ddinas (ac yn eu mysg Gainy) wedi bod yn dra phrysur, ac i raddau helaeth iawn yn Ilwyddianus i ber- swadio llawer o'r hen lanciau mwyaf cad- arn yn y ffydd, mai nid da bod dyn ei hunan. Anhawdd iawn ydyw credu yr Ysgrythyr yna, beth bynag. Teimlwn yn ddiolchgar iawn fod Rhagluniaeth wedi fy arwain i lawr mewn amser cyfaddas i fod yn foddion i arbed ugeiniau rhag syrthio o rengoedd anrhydeddus yr hen lanciau. Anffawd fawr i'r hen lanciau yn y ddinas a fuasai i Gainy anfon Lili y dyffrynoedd i fyny i mi i'r mynyddoedd, oblegid mae'n ddiameu mai yno yr arosaswn dros ddydd- iau fy einioes, yn dotio ar ei phrydferth- weh dihafal. Nid yw hyn ond tamaid i aros pryd; yr wythnos nesaf cewch basta fawr o friw- fwyd o'r Lleuad.
[No title]
—Mae Uehaflys Nevada wedi cadarnhau moesoldeb cyfraith yn gosod dirwy o ltl,- 600 ar bob lie i hapchwareu.
HANES BYWYD
HANES BYWYD HEN BERSON LLANDEDWYDD. GANDDO EF EI HUN. PENO-D, V-Tl Daeth Mr. Richards i edrych am danom dranoeth drachefn, end o herwydd rhes- ymau neillduol nid oeddwn yn lioffi ei fynych ymweliadau. Ar yr un pryd, nis gallaswn wrthod iddo fy nchymdeithas, a'm haelwyd. Chwareu teg iddo, byddai yn talu am ei groesaw trwy ein cynorthwyo yn y weirglodd, neu wrth y ddas wair, a byddai ei ymddiddanion mor ddifyrus fel y byddai yn lleihau ein lludded ninau. Yr unig beth oedd genyf yn ei erbyn yd- oedd ei sylw gormodol o fy merch. Pan y dygai anrheg o rubanau i'r genetliod, hi fyddai yn cael y goreu bob amser. Eisteddasom ar y cae i fwyta ein ciniaw, ac yno yr oeddym ar garped natur yn mwynhau trugareddau syml y nefoedd, a chwedlau ysmala Mr. Richards. I ychwan- egu at ein mwynhad, yr oedd dau aderyn du yn pyncio bob yn ail oddiar wrych cyf- erbyniol. Deuai yntau yr hyf robin goch atom i gasglu y briwsion. Creodd yr ol- ygfa dawel, a'r amgylchiadau hyfryd, ryw deimladau pur farddonol yn mynwesau Maria, Llewelyn a Mr. Richards, a chaf. wyd adolygiad manwl ar athrylith amryw o feirdd enwog y genedl. Adroddai Mr. Richards rai darnau i egluro ei farn am hanfodion barddoniaeth, a mawr ydoedd boddhad fy merch Maria tra yn gwrando arno. Ond gyda hyn aflonyddwyd ar ein heddwch gan ergyd o ddryll, ac i lawr ag un o'r ddau aderyn du, byth i ganu mwy. Awdwr y gyflafan hon ydoedd caplan y Sgweiar. Dychrynodd y cynwrf disymwth hwn fy merched yn ddirfawr, a sylwais ar Maria yn syrthio i freichiau Mr. Richards am ddiogelwch. Erfyniodd y caplan fadd- euant am achosi y fath ddychryn, gan nas gwyddai ein bod mor Pgos. Cymerodd ei eisteddle yn ymyl fy merch ieuangaf, a chytygiodd iddi gyfyicn ei helwri»eth. Bu ar fin gwrthod, oi. 'l darfu i edrychiad ar- wyddocaol oddiwrth ei mam beri iddi dderbyn yr anrheg, er nad yn rhyw ewyll- ysgar iawn. Sibrydai fy ngwraig ei Ila- wenydd, gan sylwi fod Maria wedi cael concwest ar y caplan, megis ag y cafodd ei chwaer ar y Sgweiar. Ond yr oeddwn i yn credu, gyda mwy o reswm, fod ei serch- iadau ar wrthddrych arall. Yr oedd y caplan yn dwyn cenadwri oddiwrth Mr. Thomas, i'r perwyl ei fod yn liwylio cael cwrdd adloniadol, wrth oleu y lloer, ar y gwellt glas, o flaen ein preswylfod y noson hono, a'i fod yn liyderu cael yr liyfrydwch o weled y merched ieuainc yno. 'Gan mai fi a ddygodd y newydd," meddai, "yr ydwyf yn dysgwyl, fel gwobr, gael llaw Miss Maria yn y ddawns." Atebodd fy merch nad oedd ganddi unrhyw wrthwyn- ebiad, os gallai wneyd hyny gydag an- rhydedd; "ond dyma," meddai hi, gan- gyfeirio at Mr. Richards, "foneddwr sydd wedi bod yn gydymaith i mi yn ystod gor- chwylion y dydd, ac y mae yn deg iddo gael cyfranogi o'r difyrweh." Diolchodd Mr. Richards iddi am ei hewyllys da, ond cyflwynodd hi i'r caplan, gan egluro fod ganddo alwad arall ar y pryd. Synais gymaint at ei wrthodiad ef ag a wnaethum ly o'i dewisiad hithau o ddyn tlawd yn hyt- rach na dyn o ragolygon dysglaer. Ond megis ag y mae dynion yn fwy medrus i ganfod rhinweddau merch, felly hefyd y mae merched yn gallu ffurfio barn mwy cywir am danom ninau. Rhywfodd, mae y ddau ryw wedi eu cynysgaeddu a thalent i ffurfio barn briodol y naill am y llall- methant ambell dro. Gyda i Mr. Richards fyned ymaith, a Maria gydsynio i ddawnsio gyda'r caplan, dyma y plant bach yn rhedeg atom i ddweyd fod y Sgweiar wedi dyfod, a llu o bobl i'w ganlyn. Wedi cyraedd y t, dyna lie yr oedd ein meistr, gyda dau o weision a dwy foneddiges, mewn gwisg- oedd ysblenydd, y rhai a gyflwynwyd i'n sylw fel rhai o urddas uchel yn y dref. Gan ein bod yn brin o gadeiriau, cynyg- iodd Mr. Thomas fod i bob boneddwr eis- tedd ar lin boneddiges. Sefais yn ben- derfynol yn erbyn hyn, er holl gilwg fy ngwraig. Anfonwyd Llewelyn i chwilio am fenthyg dwy gadair, ac aeth dau fon- eddwr gydag ef i ymofyn merched ieuainc Plas Newydd i ymuno yn y ddawns. Dylid hysbysu mai ychydig o fercjied