Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
L-, T)fl,-NX Mit I
L- T)fl,-NX Mit I Han<?r mir 1 nali "—■■ fiivr^lpn i csfn yr ynfyd,"
CYNADLEDD YN UPFEBN.
CYNADLEDD YN UPFEBN. [Parhad. ] ME. PWNS Waeth "belli a ddy wedir ac a bregetliir yn Ngiiymru, ei plirif bechodau ydynt, balclider, anonestrwydd ac arian- garwch, a'r mwyaf o'r tri ydyw balchder neu hunan-dyb. Wedi i Luciffer orphen, cymerodd Beel- zebub y llawr. Dywedai wrth ei arglwydd- iaeth ei fod yn adnabod llawer o'r Cymry, a'u bod rywbeth yn debyg yn y Talaethau, ond eu bod, fe allai, ychydig yn fwy cen- figenus, a'u bod yn rliy debyg i leidr yn gwaeddi, daliwch y Ileidr, er mwyn iddynt gael cyfle i ddianc yn ddisylw eu hunain. Dywedai eu bod yn gwaeddi Anffyddiaeth, Pabyddiaeth, Heresiaeth, er mwyn rliyw ddybenion neillduol-fod Ilawer o'r ortho- doxiaid yn rhai peryglus i eistedd ar farn; a'u bod yn ddigon bawaidd i fradychu cyfaill, cythraul ac angel am ddolar-nad oeddynt yn ffyddlon i uffern nac i'r nef- oedd. Dywedai ei fod ef wedi bod yn Ifyddlon i'w deyrnas hyd at waed-mai efe a gyn- lluniodd y Gwrthryfel Mawr—fod y Gwrth- ryfel wedi bod yn ogoniant i deyrnas ei fawrliydi, dros dro, ond ei fod wedi myned yn fethiant, trwy i ryddid orchfygu caeth- iwed; ond er i'r Gwrthryfel droi yn feth- hnit, dywedai ei fod ef wedi tynu mSl o'i .y^gerbwd yn ei waitli yn distrywio arian- nudau ariandai neillduol ac yn rhoddi allan y cefn gwyrdd yn eu lie. Pe cadwesid yr arian-nodau eraill mewn cylchrediad, dy- w^dai y buasai raid cadw aur wrth eu cefnau ond wedi rhoddi allan y cefn gwyrdd, fod yr aur wedi syrthio i ddwy- law gwaedlyd speculators, a bod y cefn Swyrdd wedi myned yn feth-dalwr, er fod urddas y Llywodraeth syaa yii lnolio ei pharch, ei gogoniant a'i chyfoeth wrth ei gefn; a'i fod ef yn hyderu y byddai i'r cefn gwyrdd ddwyn ail wrthryfel cyn y penderfynir ef. Dywedai mai efe a ddyfeisiodd y Credit Mobttier Rings, a thwyll ariandai Efrog' Newydd—llygredigaeth y cyllid, y dreth, a'r llythyr-doll. Dywedai fod America y wlad ardderchocaf dan haul, ond ei fod ef yn ei gwneyd yn uffern ar y ddaear, a hyny, trwy anfon twrneiod, bron yn ddi- eithriad, i wneyd y cyfreithiau-eu bod yn eu gwneyd er eu Iles eu hunain—eu bod yn rhoddi trwydded i werthu gwirod, ac yn dirwyo y gwerthwr, ac felly yn gwneyd arian ddwy ffordd. Dywedai mai y ddwy genedl ffyddlonaf yn America ydyw y Gwyddelod a'r Germaniaid—fod eu gwrag- edd yn dwyn eu plant i fyny yn lladron, ac wedi eu dysgu yn lladron, eu bod yn tyfu yn llofruddion a thai-ffaglwyr. Dywedai fod Ilawer o'r Cymry yn rhagrithiol ofn- adwy-fod y cythraul yn ormod o \vr bon- lieddig i wneyd y castiau a wneir ganddynt mewn Eisteddfodau, Cwmniau a gweith- fiiu cyhoeddus. Rhyw hyll greadur Hygredig-ydwyf, A neidiodd fel ewig, Tros fur allan, o dan dig. I ffroenio llygod ffreinig. Y DIAWL.
FFEITHIATJ AC A "fVGRYMIADA…
FFEITHIATJ AC A "fVGRYMIADA U. -Dymuna un 0 ohebwyr Mr. Pwns o'r Ddinas Fyglyd gaelgwybod, a ydyw Gwyn- daf yn ysgrifenu ar brif destyn barddonol yr Eisteddfod yno, fel y mae y si ar led ei fod, ac yntau yn ysgrifenydd y Pwyllgor? Cyhoedda Mr. Pwns oddiar ei orsedd y fo- ment hon, mai anweddaidd, ïe, anghyf- reithlaw yw i swyddogion eisteddfod fydd- ont wrth eu swydd yn gohebu a'r beirniaid, i gystadlu o gwbl. Bydded hyn yn ddeddf y Mediaid a'r Persiaid, fel na ddarostynger urddas yr Eisteddfod. —Yr wyt yn eithaf iawn, lonoron, yn dy ddesgiifiad o'r "Plant Belial" hyny: Plant Belial cystal eu castiau—a'u tad, Ydynt hwy, yn ddiau; Ar ddyn, gwell genyf, o'r ddau, Chwil loddest, na chelwyddau. — Rhyfeddod yn U T K-Solomon heb ond un wraig ac un plentyn. —Gofyna gohebydd—"Pwy ydyw y cym- wysaf i lywyddu Eisteddfod ddyfodol Uti- ca?" Ac ateba—"Thomas L. Thomas. Ond mae'n debyg na chaiff ef, am ei fod yn rhy gymwys; ac ni chaiff 'Gwerfyl' mo honi, am na buasai yn byw yn mhellach, er mwyn talu ei fare iddi! -R. J. L. Price 0 Lundain a ofyna $60,000 am gi sydd ganddo. Digon tebyg fod ganddo fwy 0 arian nag o gwn, ac hwyrach fwy o gwn nag oymenydd. —"Arferai yr hen Rufeiniaid fwyta eu grawn wedi ei ferwi; ni wyddent ddim am bori bara." Ni fuasai neb ond golygydd yn gwisgo y teitl o D. D. yn gallu ysgrifenu brawddeg Gymreig mor glasurol a honyna. —Esgusawd doniol!—Dywed un ddyled- wyr y DRYCH yn S- nas gall dalu am y papyr ar hyn 0 Jbryd, 0 herwydd fod arno eisiau pob sent i harddu ei dy!— Porthi balchder yw peth felyna. — Hysbysa gchebydd fod un Edwin Cynrig Roberts wedi myned a'r "gwahan- gl wyf Patagonaidd" i blith Cymry ardal- oedd Oshkosh, Wis.; ac fod y doctoriaid yn dweyd nad oes dim a vyeJlha y gwahan- glwyfion ond awyr bur gwlad yr addewid. — "Nid yw yn gyfreithlon i ti gario dy wely ar y Babboth," meddai yr Iuddewon wrth y dyn claf a iachawyd o'i anhwyldeb. A dyma fel y mae un pregethwr yn trin y mater yn yr Advent Herald, cyhoeddedig yn Battle Creek, Mich.: Pe mai gwely cyff- redin fuasai gan y dyn claf, buasem yn rlnyym o ddweyd eifod yn tori y Sabboth wrth ei gario ar ei gefn adref. Ond gan y dysgir ni nad oedd ond gwrthban neu rug ysgafn, y mae yr achos yn hollol wahanol. Nid oedd un pechodiblygu hwnw a'i daflu ar ei gcfn, hyd yn nod ar y Sabboth." Y y fatli ddoethineb ddofn! Tybyg iawn yw y syniad i'r hyn a ddywedodd y forvvvn Gymreig hono unwaith er lleihau ei phech- od, ar ol rhoddi genedigaeth i blentyn ang- hyfreithlon, sef 'maiun bychan iawn oedd oP
" AWSTRALIA A'I BUODORION."
AWSTRALIA A'I BUODORION." Y petli hynotaf welais Yn ngwlad Awstralia draw Oedd clarcod siopau Llundain Yn handlo caib arhaw; Canfyddais bethau eraill A'm gyrodd i yn syn, Y dynion oil yn dduon, A'r brain i gyd yn wyn. Cynelid ambell goncert Gan barrots mwyn y fro, Caed cwn i ganu tenor, A'r alto ambell dro; Caed lluaws o asynod Yn barod at y b(iss; Lie liynod yw Awstralia Am glywed lleisiau cas. Un a'u elywodd.
MWY O'R ALLANOL GYDA CIIEEFYDD.
MWY O'R ALLANOL GYDA CIIEEFYDD. Mn. PWNS: Anwyl Ddoethawr! Yn gy- maint a'ch bod cll wi, yn eangder eicli gwybodaeth. dyfnder eich doethineb, ac addfedrwydd eich barn, wedi penderfynu codi eich lief yn erbyn prif bechodau yr oes, a chymeradwyo ac amddiflyn pob da- ionus ddiwygiad, bydded hysbys i chwi, ein bod ninau yn Nlialaeth Missouri yma, yn penderfynu symud yn mlaen gyda'r oes; ac er mwyn i cliwi gael prawf ein bod yn myned riiagom, gallwn eich hysbysu i ni gael cyfarfodydd adroddiadol yma yn ddiweddar, gan Ysgolion Sabbotliol yn y lie. Yr oedd genym groes brydferth, ac ar hono fasgedaid uo afalau ardderchog, a choronau yn grogedig; ac yr oedd y rhai hyn yn cael dylanwad mawr ar y gynull- eidfa, fel y dywedodd rhai fod hwn yn un o'r cyfarfodydd goreu a gynaliwyd yma erioed. Yr ydym hefyd yn meddwl myned yn mlaen yn mbellach, gan addurno pob aelod eglwysig a'r gwahanol rinweddau a gymellir arnynt i'w liarfer; megis fIydd, gobaith, cariad, hunan-ymwadiad, gostyng- eiddrwydd, &c., fel y byddo rhagor rhwng y duwiol a'r annuwiol; o herwydd y mae yn anhawdd eu hadnabod gyda ni yma. Ooboithio ei bod yn well gyda chwi yna, Mr. Pwus. Hefyd, gan fod caethiwed yn beth mor anymunol, a ninau wedi ein galw i ryddid, a chymaint o tnyydd myned o gapel i gapel yn y i'rawdoliaeth, yr ydym o dan angen- rliaid i osod nod ar bob aelod, ac yna ni fydd eisiau i ni mwyach fod mewn petrus- dod. Y mae eisiau mwy o'r allanol yma, Mr. Pwns, a gobeithio na bydd i chwithau ein cyliuddo o Babyddiaeth na Pharise- aeth. JSfkl Pio Nono. !ii1I
Family Notices
GANJVYD- HEEs-Awst 27, yn Columbus, 0., dwy efeilles i Mr. Joliu W. Rees a'i briod; gelwir y naill yn Margaret Ann a'r Hall yn Eliza Alice. NICHOLAS DDTJ. ROBERTS—Medi 5, yn 86 Ross St., Pitts- burgh, Pa., mab i Mr. Thomas Roberts a'i briod; gelwir ef Thomas Davies. PRIOD WYD— WILLTAMS—WILLIAMS—Gorphenaf 9, yn nhy Mr. Thomas Richards, Cataract, Wis., gan y Parch. D. R. YVllliams, Mr. Richard Williams a Miss Ann Williams, y ddau o'r lie ucliod. GRIFFITHS—JoNES—MeheRn 15, gan y Parch. D. E. Pritchard, Rome, N. Y., y Parch. James Grittlths, diweddar o Utica, a Mrs. Jane Jones, o Utica. THOMAS—BONE— Mehefin 7, yn San Francisco, Calif., gan y Parch. Thomas S. Dunn, Mr. Robert T. Thomas, gyut o Racine, Wis., a Miss Mar- tha Bone, gynt o Michigan, yn bresenol yn Damas- cus, Calif. TnmIAs-J ONES- M edi 3, yn ei dy ei hun, gan y Parch. Rees Powell, Troedrliiwdalar, O., Mr. Joseph Thomas a Miss Nellie Jones, y ddau o Radnor. LAWRENCE—DAVIES—Medi 9, yn Syra- cuse, O., yn nhy rhieniy briodast'erch, gan y Parch. John Lloyd, Mr. David Lawrence, mab y Parch. W. Lawrence, a Miss Veturia C. Davies, merch W. Da- vies, y ddau o Syracuse, O. JAMES—ROBERTS—Medi 3, yn Fish Creek, Wis., yn nhy tad y priodfab, Mr. David J. James, gan y Parch. H. M. Pugli, Bangor, Mr. John James a Mrs. Ellen E. Roberts, Bangor. BU FAIiW— LLOYD-Medi 5, yn Minersville, Ohio, ar ol pedwar diwrnod o gystudd caled o'r pleurisy-pneu- monia, Jane Lloyd. merch i'r Parch. John Lloyd, yn 32 mlwydd oed. Claddwyd hi y Sabboth canlynol yn ymyl capel yr Annibynwyr, pryd yr oedd yn bres- enol un o'r torfeydd mwyaf lluosog a welwyd yn y lie. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y brodyr parchus William Rees, T. C., William Lawrence, B., William Edwards, A., a Thomas T. Williams, B. Yn lie symud, yn ol ei bwriad, gyda'i thad i b irth arall o'r Dalaeth i fyw, symudodd i'r byd mawr ysbrydol —angau yn dyryeu pob cynlluniau. jSicl oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnw." CHAPEL—Medi 46, yn Jermyn, Pa., yn ddwy fiwydd a dau fis oed, ar ol byr gystudd, y blod- euyn bach prydferth John Henry, mab i Mr. Henry Chapel a'i briod. Bydded i'w rieni ymdawelu ar ol eu cyntaf-anedig, gan ystyried fod yr Iesu wedi ei gymeryd ato ei hun i baradwys. Cymhwyser nhw a ninau oil i fyned ato. Claddwyd ei weddillion mar- wol y dydd Sadwrn canlynol ar y Ridge. Darllen- wyd a gweddiwyd yn y ty gan Mr. James Griffiths, a gweinyddwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch. Mr. Jenkins, gweinidog yr Annibynwyr. LEMUEL. JAMES. ROBERTS—Medi 10, oddeutu 27 mlwydd oed, yn nhy Mr. Richard Richards, Williamsburg, Iowa, Pierce M. Roberts, brawd-yn-nghyfraith 11 Gwilym Eryri," Milwaukee, Wis., a mab i Mr. Rees Roberts, Bwlch Nant Gwynant, ger Beddgelert, G. C. Ei glefyd oedd y typhoid fever. Dranoeth daeth tyrfa luosog i'w hebrwug tua'r gladdfa, ac nid wyf yn cofio i mi erioed fod mewn claddedigaeth a theim- ladau dwys a galarus yu fwy cyft'redinol yn cael eu hamlygu—er nad oedd un perthynas iddo yn bresen- ol, eto collwyd llawer deigryn ar ei fedd. Gwelwyd yn eglur fod iddo lu o gyfeillion, a'i fod yn ddwfn yn serchiadau pawb. Gweinyddwyd yn y ty, yn y capel ac wrth y bedd gan y Parch. Evan J. Evans. Yr oedd yn ddyn ieuanc tawel, dirodres, diddicheil, pur a gonest. Daeth gyda mi i'r wlad hon chwe blynedd i'r mis diweddaf, a bu yu sefydlog yn i-efydliad Cym- reig Williamsburg er pan yn y wlad. Derbynied Cymrv Williamsburg fy niolehgarweh gwresoeaf am droi allan-braicld fel un gwr—i weinyddu y gym- wynas olaf iddo. Heddwch i'w lwch, a Duw a ddi- ddano ei rieni a'i berthynasau trallodus. ROBERT C. JONES. Dymunir i bapyrau Gogledd Cymru godi yr uchod. EVANs-Medi 21, yn 59 mlwydd a 2 fis oed, William Evans, Kittle Falls, N. Y. Genedigol oedd Mr. Evans o Lanidloes. G. C., a daeth i'r wlad hon yn 1848. Bu yn hyw am dymor yn Oriskany; ond am y 17 mlynedd diweddaf yn Little Falls. Gad- awa wraig a mab i alaru ar ol dyn hynaws a charedig. DAVIEs.-Medi 22, yn 35 mlwydd oed, Ann J., priod WilliamM. Davies, Pleasant St., Utica. Claddwyd hi yn barchus y dydd Sadwrn canlynol. DAVI.ES.—Medi 24, yn Stockton, Calif., Kate Staring, priod Mr. W m. A. Davies, mab hynaf Thus. Davies, Ysw., oriadurwr yn Utica, gan adael i alaru ar ei hoi, ei hanwyl briod, dwy ferch a dau fab —yr hynaf yn swyddog yn myddin Talaetliau Uned- ig. Yr oedd Mrs. Davies oddeutu 46 oed. WiLMAMS—Medi 17, yn West Bangor, Pa., David, unig fab David E ac Elizabeth Williams, yn 16 mlwydd a 9 mis oed. Hebryngwyd ef i dy ei hir gartref y diwrnod canlynol gan dorf luosog, yn cael ei blaenori gan y Temlwyr Da yn eu hurddwisg- oedd. Gweinyddwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan y y Parch. T. Crawford. Yr hyn a fu yn angau' iddo meddir, oedd y typhoid fever. Yr oedd wedi cael y frech goch, yn nghyd a chasgliad poenus ar ei gefa, a'r cyfan ya ystod tair wytnnos o amser. Cafodd gystudd inaith a chaled. am amryw fisoeddddwy flyn- edd yn ol, fel y tybiwyd lawer gwaith ei fod yn nghwr glyn cysgod angau;" ond gwellhaodd yn dda, ac yr oedd yn dilyu ei alwedigaeth er's tua blwyddyn. Yr oedd David Williams yn fachgen ieu- anc gwir ddymnnol, a'i rodiad yn ddiargyhoedd bob amser; ac yr oedd wedi cael i ddwyn i .yny yn "add- y-g ac athrawiaet-h yr Arglwydd" o'i febyd, ac yr oedd yn mlaen ar ei gyfoedion yn gylfredui yn ngwybodaeth y gvvirionedd." Yr oedd ei. golli yn awr, ar ol ei gael o'r blaea megis o safn marwolaeth, yn brofediiiaeth cliwerw i'w rieni a'i chwiorvdd. PENDEHFYNIADAU a basiwyd gan Demi Idris, Rbif. 11,017, 0 A. U. y T. D., ar farwolacth David E. Wil- liams, leu., West Bangor, Pa. Gan i'r Hollalluog Dduw weled yn dfioeth i symud o'n plith ein hanwyl frawd ieuanc, yr ydym fel Cyf- rinfa yn bwriadu i'r hyn a ganlyn fod yn amlygiad 0 n parch tuag ato. 1. Ein bod yn ystyried y brawd David E. Williams yn fachgen ieuanc hynaws, ufudd a ft'yddlon; a bod rhagolygon dysglaer am ddyn da a del'nyddiol, wedi dillauu i ganlyn ei ymadawiad a'r fuchedd hon. 2. Ein bod yn gwisgo ein breinlen ag arwyddion o alar y Gyfrinfa ar ei oJ. 3. Ein bod yn cydymdeimlo yn ddwyB a'i rieni, yn nghyd a'i chwiorydd galarus, yn ngwyneb y brofed- igaeth chwerw o goili yr unig fab a brawd oedd yn y teulu. A'n gweddi yw, am iddynt gael cymorth i ymostwng yn dawel i ewyllys yr Arglwydd. 4. Fod adysgrif a'r penderfyuiadau hyn i'w rhoddi i'w rhieni, yn arwydd o'n parch at y brawd ymadaw- edig, ac o'n cydymdeimlad a hwytuau yn eu galar dwys. 5. Fod y penderfyniadau uchod i'w cyhoeddi yn y papyrau Cymreig Americanaidc, JOHN W. Monitis, ) OWEN C. ROBISUTS, VPwyllgor. DAVID O. WILLIAMS, J
ANERCIUAD DUOS Y LLI.
ANERCIUAD DUOS Y LLI. Cyflwynwyd i ni y penillion ealllynol gan Mrs. W. R. Jones, Court St., Utica, yr hon a'i derbyniodd oddiwrth yr awdwr: 0 frawd a chwaer mae'n hyfryd A dedwydd genyf fi, Gael anfon gair i'ch cyfarch Ar bapyr dros y lli; I dir y pell Orllewin, o Gymru uchel fri, Er pobpeth deittlir ynddi Ei henw sydd yn gu. Dymunwn fod eich iechyd cysur yn parliau, Eich Ifydd a'ch gras ar gynydd Rhag i chwi lwfrhau; Wrth gaei bendithion daear Boed i chwi atjoshau At Iesu yn fwy ffyddlon, Ac felly by ill barhau. Rwyf fi yn awr wrth dewi Yn teiinlo yn lied brudd, Gan awydd cael eich gweled, Ond 0, pa le mae'r dydd; Gobeithio daw er hyny, Er gwaned yw fy Nydd: Yn Nuw o hyd gobeitliiaf, Efe all ddod a'r dydd. Os na cbawn gwrddyd yma Ymdrechwn fyn'd i'r nel', I wlad y pur gymdeithas Sydd yn ei gwmni ef; Dim prudd-der nae amheuon T'n blino byth ni ddaw, Boed i ni oil gael teimlo Nerth gras ei ddehau law. ROBERT ELLIS (Ap Llyfnwy). .H"
YM0FYNIAD AM
YM0FYNIAD AM J ANE DA. VIES, merch Richard E. Davies, 200 Huron Street, Milwaukee, diweddar o Lanegryn, G. C. Genetli tua 18 oed yw, a phan glywyd oddiwrthi ddiweddaf, yr oedd yn aros yn Port Dinorwic, neu Felin Heli, Sir Caernarvon. Mae ei thad wedi clywed fod ewythr a modryb iddi—John ac Ann Humphreys — wedi ei chymeryd i'w cartref yn agos i Merthyr, D. C. Un o Bryn Crug, ger Towyn Meirionydd, yw ei modryb. Carai ei thad gael gair buan yn ei chylch.—Cyfeirier, Richard E. Davies, 200 Huron st., Milwaukee, Wis. [39 EVAN EVANS, mab i John a Catharine Evans, o Ffair Rhos, Ceredigion, D. C. Daeth i'r wlad hon gyda'i rieni yn 1845, a sefydlasant yn Genesee, Wis. Aeth Evan i ffwrdd i Dodgeville ddechreu y gauaf can- lynol, ac ni chlywodd ei rieni air byth byth oddiwrtho drachefn. Yr oedd yr am- ser hwnw tuag ugain oed, yn fachgen cryf, esgyrnog, gwallt gwineu, o daldra cyffred- in, a'i edrycliiad braidd yn drymaidd.— Clywais yn ddiweddar ei fod yn Swydd Jackson, Ohio, tua 15 mlynedd yn ol, ac iddo fyned oddiyno i New Cambria, Mo., a'i fod wedi ymuno a'r fyddin yn amser y rhyfel cartrefol. Os gwyr rhyw un a welo y llinellau hyn ryw beth am dano, carem yn fawr gael gair os ydyw yn fyw. Mae ychydig o eiddo yn dyfod iddo ar ol ei fam. Cyfeiriwch—William Evans, Gene- see.Depot, Waukesha Co., Wis. 40-42 MOSES T. ROBERTS, dyn trwchus ac o bryd goleu. Aeth 0 Chapmansville ar foreu y fourth of July diweddaf gan adael ei wraig a dau 0 blant, a cheisio myned i ffwrdd gyda gwraig dyn arall, ond meth- odd yn ei amcan ar y pryd, gan i'r wraig newydd fethu a gwneyd ei hun yn barod ar yr un adeg. Ond y farn gyffredin yw, eu bod gyda'u gilydd eto. Daeth Moses T. Roberts i'r wlad hon oddeutu naw mlyn- edd yn ol, 0 LlanByfni. G. C., ac ymsefydl- odd yn Chapmansville, Northampton Co., Pa. Os oes rhywun yn gwybod ei hanes, bydded iddynt hysbysu hyny. Cyfeirier Catharine Roberts, Chapmansville, North- ampton Co., Pa. 40-42.
Advertising
R ISLEY, STODDARD & MATTESON, ATTORNEYS AND COUNSELLORS AT LAW Mather Block, Cor. Bleecker & Genesee, Utica. E. H. RISLEY, D. C. STODDARD, M. A. MATTESON. H. A. POWELL, ATTORNEY AT LAW, RHIF. 520 MONTGOMERY STREET, SAN FRANCISCO. "S,1 Y 3000 GET THE BEST Itetfs kMfd Diction My. 10,000 Words and Meanings not in other Dictionaries. 3,000 ENGRAVINGS; 1,840 PAGES QUARTO. PRICE 8512. Webster now is glorious-it leaves nothing to be V V desired. [Pres. Raymond, Yassar College. very scholar knows the value of the work. h [IV. II. I'rescott, the Historian. Believe it to be the most perfect dictionary of the language. [Dr. J. G-. Holland. Superior in most respects to any other known to me. [George P. Marsh. rp he standard authority for printing in this office. X [A. H. Clapp, Government Printer. xcels all others in giving and deflning scientific Li terms. [President Hitchcock. Remarkable compendium of human knowledge. JT\' [ W. S. Clark, Preset Agricultural College. THE BEST PRACTICAL ENGLISH DICTIONARY EX- TANT."— London Quarterly Review, October, 1873. A NEW FEATURE. To the 3,000 ILLUSTRATIONS heretofore in Web- ster's Unabridged we have recently added four pages of COLOREO ILLUSTRA.TION8. engraved expressly for the work at large expense. ALSG Webster's National Pictorial Dictionary. 1,040 Pages Octavo. 600 Engravings. Pricet-5. THE NATIONAL STANDARD. PROOE—20 TO JL. The sales of Webster's Dictionaries throughout the country in 1873 were 20 times as large as the sales of any other Dictionaries. In proof, we will send to any person, on application, the statements of more than 100 Booksellers, frotu every section of the country. Published by G. & C. MERRIAM, Springfield, Mass. Sold by all Booksellers. PRICE, TWENTY-FIVE CENTS. 1EWSPAPES A W W ? ADVERTISING. NINETY-NINTH EDITION. Containing a complete list of all the towns in the United States, the Territories and the Dominion of Canada, having a population greater than 5,000 ao cording to the last census, together with the names of the newspapers having the largest local circula- tion in each of the places named. Also, a catalogue of newspapers which are recommended to advertis- ers as giving greatest value in proportion to prices charged. Also, all newspapers in the United States and Canada printing over 5,000 copies each issue. Also, all the Religious, Agricultural, Scientific and Mechanical, Medical, Masonic, Juvenile, Education- al, Commercial, Insurance, Real Estate, Law, Sport- ing, Musical, Fashion, and other special class jour- nals; very complete lists. Together with a complete list of over 300 German papers printed in the United States. Also, an essay upon advertising; many ta- bles of rates, showing the cost of advertising in va- rious newspapers, and everything which a beginner in advertising would like to know. Address GEO. P. ROWELL & CO., 37 41 Park Row, New York. McKOWN' A'I GrWM., 6 WHITESBORO ST., UTICA, N. Y. Yn y masnachdy hwn ceir amrywiaeth mawr o Ddrychau (Looking Glasses), MOULDINGS GOREUREDIG, FFRAMIAU, DAR- LUNIAU, &C., &C. Am brisiau rhesymol. 20t LLINELL Y WHITE STAR. Agerlongau yn cario Llythyrgodau y T. U. o NEW YORK BOB DYDD SADWRN. o LIVERPOOL BOB DYDD IAU. Pris yn y Caban o$70 i $100, mewn aur. SteeraGe mewn arian papyr. AGENTS YN UTICA-GATN L. FAY, 1 Bagg's Hotel. a P. J. NICQUADF, Steam Woolen Mills. 18'ly MORTGAGE FORECLOSURE AND SALE.— Whereas default has been made in the pay- ment of the money secured by a mortgage dated the 7th day of May, 1872, executed by William Beckwith and Catharine A. Beckwith his wife, of the city of Utica, county of Oneida, and State of New York, to Thomas Molloy, of the same place, to secure the payment of five hundred dollars, in three years from the 7th day of June, 1872, with interest from the date of mortgage payable on the 7th days of June and December of each year; which said mortgage, with the power of sale therein contained, was duly re- corded in the Clerk's Office of said county of Oneida, in Book No. 191 of Mortgages, on page 329, on the 15th day of May, 1872, at 10%, o'clock, A. M.; and whereas the amount claimed to be due upon said mortgage, at the time of the first publication of this notice, is the sum of five hundred and eight dollars and thirty-two cents, to wit, $500 of principal and $8.32 of interest; which is the whole amount claimed to be unpaid on said mortgage; and no suit or pro- ceeding having been instituted at law or inequity to recover the debt now claimed to be due upon said mortgage, or any part thereof; now, therefore, no- tice is hereby given, that by virtue of the power of sale contained in said mortgage, and duly recorded as aforesaid, and in pursuance of the stature in such case made and provided, the said mortgage will be foreclosed by a sale of the premises therein de- scribed, at public auction, at the front door of the Court House, in the city of Utica, in said county of Oneida, on the 30th day of November, 1875, at 10 o'clock in the forenoon of that day. The mortgaged premises are described in said mortgage as follows: "All that certain piece of land lying and being in the city of Utica aforesaid, and bounded as follows, viz: Beginning at a point on the northerly side of West Bridge street, ninety feet southerly from Hopper street; .from thence running northerly at right angles with West Bridge street, (now Park Avenue), along the easterly side of R. W. Roberts' lot, 95 feet; thence north-easterly at right angles with Hopper street, along the side of the lot of Isaac Osgood 20 feet; thence south-easterly and paralled with Hopper street, 15 feet along the side of said Osgood's lot; thence northerly at right angles to Hopper street, 30 feet; thence easterly along the line of said street 15 feet to Eleazer Ray's lot; thence south-westerly along the westerly line of said Ray's lot 30 feet: thence south-easterly along the south- westerly line of said Ray's lot about 76 feet to West Bridge street (now Park Avenue), and from thence south-westerly along the line of said street 40 feet to the place Of beginning. Being the same premises conveyed to said William Beckwith by Albert Walker by Warranty Deed, dated May 1, 1867, and recorded in the Clerk's office of said county May 31, 1867, in Book of Deeds 279, "page 434. THOMAS MOLLOY, Mortgagee. J. F. HURLEY, Att'y for Mortgagee, Utica, N. Y. Dated the 2d day of September, 1875. 36,13t HUGH R. JONES. BENJ. A. JONES. CAMBRIAN HOUSE. s. w: Corner Montgomery a Broadway, SAJY FRANCISCO, CALIF. JONES BROTHERS, PROPRIETORS. Single Rooms, per week From$2 00 to $3 00 Lodgings, per night 50 cents Board with Lodgings, per week,$5 00 to $6 00 Board, per day$1 00 ROOMS WITH OR WITHOUT BOARD. VU- This House has been refittedjwith new Spring Beds and Mattresses, which makes it ONE OF THE BEST LODGING HOUSES IN THE CITY. 44'74t Eisteddfod DalaathoJ Wisconsin. A GYNELIR YN MILWAUKEE, RHAGFYR 25, 1875. LLYWYDD Y DYDD-Parch. Lewis Meredith (Lewis Glyn Dyii). v Is-LYWYDD-Pareb. Humphrey P. Howells. SWYDDOGION Y PwYM.GOR—Dywydd, Parch H P. Howells; Is-lywydd, Parch. John J. Roberts Trv- sorydd; Robert J. Owens, Ysw., 313 Claybourn St Milwaukee. TEST YN ATT, &C.: TRAETHODAU. Gwobr. 1. Ar Chwaetheg (Aesthetics)$30 00 2. Ar Dylanwad Cred ar Wareiddiad 20 00 3. Brawdgarwch. Cyfyngedig i rai heb enill n'r blaen. 10 00 Ail oreu 5 00 BARDDONIAETH. 1. Awdl ar unrhyw destyn, heb ei tnvobrwyo na'i chyhoeddi yn flaenorol. Cyfyngedig i rhwng 300 a 400 llinell Tlws a 30 00 2. Pryddest Goffadwriaethol i'r diweddar Da- vid E. Evans, Oshko?h 20 00 3. Deuddeg EnglynCotiadwriaethol i'r diwedd- ar Barch. D. Price tDewi Dinorwig). 10 00 4. Can i'r Ardd 5 00 5. Hir a Thoddaid Beddarsraff i'r diweddar Barch. D. Williams, Chicago 5 00 6. Englyn i'r Bywydfad. Gwobr gan Dr. D. C. Davies, Columbus 2 00 7. Englyn Talcen Slip i'r Ianci 2 00 CERDDORIAETH. 1. Anthem ar unrhyw eiriau, heb ei gwobrwyo na'i chyhoeddi. Cyfyngedig i rhwng 80 a 100 o fanau 30 00 2. Ton Gynnlleidfaol ar yr emyn "By gariad Iesu sydd yn awr," &c 5 00 ADRODDIADAU. 1. "Marl ae Edwyn," o Caniadan Hiraethog, t. d. 123 a 124. yn dechreu E roi Mair ar lawer min." ac yn diweddu '■ u'i had- wyth ar ol Edwyn" 2 00 2. I fercbed, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," Ceiriog, o Oriau'r Hwyr 2 00 DATGANIAETH. 1. I'r Cor a gitio oreu "Dnliwn gyffes ein gob- aith," o Telvn vr Undeb. 40 00 A Baton gwerth $10 i'r Arweinydd. 2. I'r Cor, heb fod dan 12 mewn rhif, a gano oreu y don "Seymour," o Xelyn yr Undeb 10 00 3. I'r 8 a ganont oreu '"The Ruined Chapel," o'r Arion 10 00 4. Fr 4 a ganont oreu "Good Night, Beloved," gan Ciro Pensuti 5 00 5. I'r 2 a ganon t oreu Flow gently Deva," gan J ohn Parry 4 00 6. I'r ferch a gano oreu "Angels ever bright and fair," Handel 2 00 7. I'r mab a gano oreu Y Gadlef Gymreig," o Songs of Wales, B. Richards 2 00 Gellir cael y darnau Seisnig gan Hempstead, Mil- waukee; neu gan Lyon & ilealey, Chicago. BEIKNIAID. Y Traethodau—Rhif. 1 a 2, Proif. Llewelyn J. Evans Lane Seminary; Rhif. 3, Parch, john J. Roberts, Columbus, Wis. Y Farddoniaeth-Oddieithr Rhif. 2, Parch, D. Davies (Dewi Emlyn). Y Bryddest Gofifadwriaethol—Mr. R. Prichard (Rhis- iart Ddn o Fon). Yr Anthem a'r Don—Mr. W. Aubrey Powell (Pen- cerdd). Y Datganu—William James, Ysw., Hudson, yn cael ei gynorthwyo gau ddau berson a nodir eto. AMODAU. 1. Rhaid i'r holl gyfansoddiadau fod yn Haw yr Ysgrifeuydd Gohebol erbyu Tachwedd 13. 2. Bydd hawl gan y Beirniaid i ranu y gwobrwyon, neu eu hatal, os lilt fydd teilyngdod. 3. Bydd y cyfansoddiadau gwobrwyedig yn eiddo y Pwyllgor. 4. Rliald ilr buddugwyr fod yn yr Btsieddfpd, an- fon cynrychiolwyr, neu anfon eu henwau i'r Ysarlf- enydcl cyn Rliagfyr 20. 5. Rhaid i'r cystadleuwyr mewn adrodd a datganu anfon en henwau i law erbyn Rliagfyr 20. 6. Disgwylir i'r Corau, &c., fydd yn cystadlu, was anaethu yn y Cyngerdd. 7. Bydd hawl gan aelodau y Pwyllgor i gystadlu, oddieithr y duau Ysgrifenydd. W. W. ROWLANDS, Cambria, Wis., Ysg. Cofnodol. JOHN R. JONES, Hendref, isg. Gohebol, 33-40 Box 52, Cambria, Wis. SLAM BANG- A'N DULL 0 WERTHU. Best A Sugar 10% New Raisins 12 New Currants. 8 New Citron 40 NewPrnnes.14 Best Saleratus. 8 Best Starch 8 Dizon's Stove Polish 5 Washing Crystals 3 Tip-top Molasses 60 (Good as you can buy at 65, 70 or 75) Nice Drip Syrup 75 Best Tomatoes, per can 20 Ca.mdenSugai-Com,percan..SO Soaps cheaper than dirt. Kerosene Oil 15 5 gallons for 60c. Best No. 1 Mackerel per kit.2 00 10 lbs. kits Mackerel 85 Best Codfish 6M Best Rio Coffee 25 Best New Orleans Molasses. 85 Broken Leaf Japan. 40 Tio-top Green, Black and Jap. 75 Splendid Green, Black and Jap 75 Extra choice Green and Black 1 00 The very best Japan 1 00 The very best Eng. Breakfast.1 00 Yr ydym yn gwerthu Te o 15 i 25c y pwys yn is nag un Masnachdy Te arall yn y ddinas. Dim Chrwrm a Darluniau. Yr ydym yn parhau i gerdded oddiam- gylch gydag ysglodyn mawr ar ein hysgwydd. Tal yn dda ibawb ddelio yn y masnachny hwn. 41'741y BUTLER & HAMILTON. Gwesty Cymreig i Y u Stars and Stripes," JOHN J. LEWIS, Perchenog, 109 FRANKLIN AYE., SCRANTON, PA. Mae Mr. Lewis yn Gymro parchus o Ddehendir Cymru, ac wedi agor Gwesty Cymreig yu y Rhif. uchod, yr hwn sydd o fewn CAN' LLATH i Orsaf y Del. Lack. & Western R. R. Bwriada gadw ty re- spectable, lie y ceir pob ymgeledd angenrheidiol ar deithwyr, mewn dull gwir Gymroaidd a lletygar, am y prisiau mwyaf rhesymol yn y ddinas. Ni raid i'r mwyaf moesol a rhinweddol betruso dim am gymer- lad y Ty. Cofied y Cymry ar daith, gefnogi 25,ly MR. A MRS. LEWIS. ~V7" PH(ENIX MUTUAL LIFE INS. CO.-Dengys JL pedwaread adroddiad ar hugain blynyddol y Cwmm awn, yr hwn sydd newydd ei gylioeddi, fod ol-eiaao (assets) y Cwmni wedi cynyadu yn ystod 1S74 o$9,074,864.31 i$10 105,613.84, cynydd 0 $1,030,- 762.50; a'r gweddill o $875,000 i $1,127,400.84, cynydd o 252,400.84. Yr oedd y derbyniadau yn$3,376,- 354.97, a'r llogranau (dividends) yn$929,970.43, yr hyn a ddengys ein bod wedi dychweJyd i'n policy- holders 27>^ y cant o'n derbyniadau am 1874 mewn llograniu. Dywed yr Hartford Times am Mawrth 6ed: "Gallwn ddyweyd yn ddibetrus fod hwn yn swm mwy y cant oiogranau nag a wnaed gan un- rhyw Gwmni Bywyd V swiriol arall yn y wlad ar boli- des o'r un oed & premium." Wrth gymeryd i mewn golledion a gwaddoliadau oeddynt wedi cyraedd aeddfedrwydd, yr ydym wedi dychwelyd i'n policy- holders dros 54 y cant o'n derbyniadau am 1874. Yn ystod y tair blynedd diweddaf, ar gyfartaledd, mae y Phoenix wedi dychwelyd i'w pholicy-holders bob blwyddyn dros 55 y cant o'i holl dderbyniadau, yr hyn sydd yn gofnodiad heb ei ail. Mae ei thelerau yd isel aïpllOticies yn haelfrydig, ac mae yn un o'r cwmniau cryfaf a mwyaf poblogaidd yn y wlad. L. T. SYMONDS, Goruch.CyfE. 36 165 Genet ee St., Utica, N. Y.