Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

DDYDD MAWRTH.

News
Cite
Share

DDYDD MAWRTH. YR ORSEDD. Agorwyd yr Orsedd am naw o'r gloch yn Castle Square. Ffurfiwyd gorymdaith fawreddog wrth y Guild Hall, yn cael ei blaenori gan seindorf ail fataliwn y Royal Welsh Fusiliers, y brigadwyr tan, a swyddogion y Gorphoraeth, ac aethant tua'r YS'5war yny drefn ganlynol—Cyrgorwyr a Henad- uriaid, y Maer (Mr Issard Da vies), y llywydd am y dydd (Mr Lewis Morris), yr Archdderwydd Clwyd- fardd, a phrif feirdd yr Orsedd, aelodau cymdeith- asau'r Eisteddfod, ac aelodau'r pwyllgor. Am y tro cyntaf yn hanes diweddar yr Orsedd, ymddang- osai'r aelodau mewn gwisgoedd amryliw gwisg- oedd y derwyddon oedd wynion, eiddo'r beirdd oedd las gwan, ac eiddo'r ofyddion yn wyrdd. Gwisgai'r Archdderwydd benguwch arbenig hefyd. Agorwyd yr Orsedd gin Clwydfardd, ac adrodd- odd Dewi Ogwen y weddi—" Dyro, 0 Dduw, dy nawdd," &c. Yna, canwyd pemllion gan Eos Dar, ac adroddwyd englynion gan amryw feirdd. Ddt- ganwyd yr Orsedd yn agored hyd ddydd Iau, pryd y derbynir yr ymgeiswyr llwyddianus am urddau, i'r cylch. Terfynwyd y gweithrediadau drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Y CYFARFOD CYNTAF. Llywydd y cyfarfod ydoedd Mr Lewis Morris, M.A., ac arweinid gan y Parch. J. Cadfan Davies ac Eifionydd. Chwareuwyd detholiad o ddarnau cerddorol gan seindorf y gwirfoddolwyr, a darllen- odd H wfa Môn ei "fer-awdl" ar agoriad yr Eis- teddfod. Can yr Eisteddfod," Rhys ap Goronwy," gan Mr Daniel Price, Dr Roland Rogers yn cyfeilio. Cyflwynwyd y llywydd i'r cyfarfod gan Cadfan, yr hwn a ddywedai fod 11 ilriis oddiar y Ilwyfan yn gofyn paham na wnaed Mr Lewis Morris yn Fardd Llawryfol. Y llywydd a ddywedodd nad oedd am gymeryd ond ychydig o amser, oherwydd credai mai lie i Ion a chau oedd yr Eisteddfod, yn hytrach na lle i dra- ddodi araith hir a sych, yn enwedig yn yr iaith Saesneg. Aed yn mlaen gyda'r eystadleuaethau. Cahu pen- illion gyda'r tanau. Dyfarnwyd Mr Robert Jones (Eos Ataw) Llanerchymedd, yn oreu 0'1 3 ddaeth yn mlaen. Anthem, gyda chyfeiliant i'r organ, geiriau Cymraeg (Hab. iii. 17,18), &c." Gwobr, 8p. 8s. Ym- geisiodd 8. Darllenodd Mr J. H. Roberts ei feirn- iadaeth ef a'i gydreirniaid, sef fod y goreu, Myn- yddfab," yn deilwng o haner y wobr; eithr nis gellid dyfarnu haner y wobr yn ol y rheolau. Yr un modd y bu gyda'r ymgeiswyr ar y Pedwar- awd. Geiriau Siesneg i'w cyfaddasu gan y cyfan- soddwr. Geiriau Cymraeg, Dedwyddwch," allan o "Ddyddanwch yr Aelwyd." Unawd tenor, Bugail yr E yri; gwobr, dwy gini; goreu, Mr Thomas Thomas, Gwrecsam. Beirniadaeth ar y Ddrama Gymreig Owain Tudur o Benmynydd yn Mon." Gwobr zElO a thlws arian. Darllenodd Elis Wyn o Wyrfai y feirniadaeth. Un cyfansoddiad-yn unig a dderbyn- iwyd nid oedd yn werth i'w gymharu a darnau dramayddol Seisnig, ond haeddai'r wobr. Yr awdwr oedd Dr Gurnos Jones, Porthcawl. Mr H Clarence vVhaite a draddododd y feirniad- aeth ar y celfau fel y canlyn :—Group of flowers in water-colours goreu, Miss Davies, Cairo road, Casoewydd ail, C D Williams, West Brompton, Llundam. Monochrome study of a figure in any medium goreu, Miss Hartley, Bangor ail Edith Bellis, Llandudno. Six pen-and-ink sketches of Welsh scenery goreu, B A Williams, Caerfyrddin, ail, C D Williams, West Brompton. Outline draw- ing yn mhresenoldeb y'beirniaid goreu, Christopher Williams, Maesteg: ail, T H Hughes, Llangefni. Water-colour painting o unryw olygfa yn Nghymru: goreu, Miss Maud Salmon, Deganwy, ail, Mirss Kate Hughes, Fronheulog, Abergele. Oil painting o olygfa Gymreig; goreu, Miss Maud Salmon; ail, Parch. John Owen, Bettws-y-Coed. Unawd ar y berdoneg goreu allan o 48 y ymgeis- wyr, heb fod tros 14 oed, Miss Maria Williams, Maesteg. Beirniadaeth ar y Fugeilgerdd goreu, "Llewelyn Goch," sef Mr Isaac Lewis, Porthdinorwig. Beirniadaeth ar y penillion telyo goreu,' Idris,' yr hwn nid atebodd i'w enw. Cystadleuaeth y bedwarawd, The sea hath its Pearls.' Gwober 4p 4s. Goreu, parti Mr Ivor Foster, Tonyrefail, Pontypridd. Unawd contralto, Ye that love the Lord gwobr 2p2s goreu, Miss Gwen Thomas,Caerdydd- Uniwd ar y delyn gan Delynores MeBai. Am gyfieithu At the Eisteddfod ac At the Meeting bield (Lewis Morris) i'r Gymraeg goreu, Mr L. H. Hughes, ysgolfeistr, Llanddeiniolen. Am gyfieithu I The Curse of Pantannas' (Lewis Morris) i'r Gymraeg goreu, Mr William Speak- man, Llythyrdy, Penisa'rwaen. Beirniadaeth ar y traithawd, Barddoniaeth Iolo Goch, gyda nodiadau hanesyddol a beirniadol;' gwobr 50p (gan Gymdeithas yr Eisteddfod); goreu, Mr Charles Ashton, Dinas Mawddwy. Y BRIF GYSTADLEUAETH GORAWL. Y darnau i'w canu ydoedd, All men, all things (Mendelssohn), a'r 'Ynys Wen' (J. H. Roberts). Y gystadleuaeth yn agored i gorau o 120 i 140 o leisiau. Y brif wobr, 150p, gyda medal aur a gwerth 3p o gerddoriaeth i'r arweinydd ail wobr, 25p. Beirniaid, Mri A. J. Caldicott, Mus. Bac., Cantab D. Emlyn Evans, John Thomas (Pencerdd Gwalia), J. H. Roberts (Pencerdd Gwynedd) Mus. Bac., Cantab., a C. F. Lloyd, Mus. Bac., Oxon. Anfonodd y corau canlynol eu henwau i fewn :— Shrewsbury Choral Union (arweinydd, Mr W. D. Phillips), Birkenhead Cambrian Choral Union (Mr D. O. Parry), Cardiff Choral Union (Mr John Davies), Carnarvon Vocal Union (Mr William Jones), Owestry Philharmonic Society (Mr John Roberts), Rhymney United Choir (Mr John Price); a daeth yr oil oddigerth cor Croesoswallt yn mlaen. Oanodd y corau yn y drefn ganlynol 1, Caer-. dydd 2, Birkenhead 3, Caernarfon 4, Rhymni 5, Amwythig. Parhaodd y gystadleuaeth am awr a haner, a bu'r beirniaid tuag ugain munyd yn ym- gynghori, yn ystod yr hyn y teimlid cryn bryder a disgwyliad. Mr J. H. Roberts a draddododd ei feirniadaeth yn Gymraeg. Cyfyngodd ei sylwadau at y dat- ganiad o'r rhangan, yr hon, meddai, a roisai fwyaf o drafferth i'r holl gorau. Ond er fod pob cor wedi rhoddi datganiad da o'r darn, nid oedd yr un ohon- ynt wedi gwneud hyny yn foddhaol. Mr Caldicott a ddywedodd fod y gystadleuaeth yn un wir ddyddorol ac yn dra chaled-mor galed fel y cafodd y beirniaid gryn anhawsder i bwyso'r gwahaniaeth rhwng y naill gor a'r llall. Unwaith o'r blaen yn ystod y dydd, cyfeiriasid at yr an. hawsder i gorau dyeithr, yn canu am y waith gyn- taf yn y Pafilion, allu barnu'n gywir am deithi seiniol yr adeilad. Yn hyn, yr oedd gan Gor Caelnarfon fantais amlwg, a theimlid hyny yn nat- ganiad y cydgan cyntaf, eithr nis gallai ef ddeall pa fodd y gwaethygasant wrth ganu'r ail ddarn. Yr oedd raid i'r beirniaid ymwneud a theilyngdod dau gor lied gyfartal. Gan un o'r ddau yr oedd digonedd o don a bywiogrwydd, ond gosodid gormod o bwys ar y lleisiau nes gwneud i'r don gl}di, a'r canlyniad oedd achosi gwa haniaeth amlwg rhwng ton y lleisiau a thou yr offeryn. Gan y c6r arall yr oedd bywiogrwydd ) mewn undeb a. chanu mewn ton berffaith. Yr oedd y gystadleuaeth rhwng y ddau gor goreu mor galed fel yr oedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy wobr yn hollol annghyfartal i'r gwahaniaeth rhwng y ddau gor. Wedi ystyriaeth fanwl, daethai ef a'i gyd- feirniaid i'r penderfyniad i roi'r wobr gyntaf i gor Rhymni, a'r ail i gor Caerdydd. Derbyniwyd y dyfarniad gyda brwdfrydedd mawr. Ar gynygiad Syr John Puleston ac eiliad Mr. D. R. Parry, diolchvvyd i Mr Lewis Morris am lyw- yddu, ac wedi i Madame Annie Marriott ganu, ter- fynwyd y gweithrediadau. Cynaliwyd cyngherdd yn yr hwyr tan lywydd iaeth y Proff. John Rhys, M.A., Ll.D., pi yd y perfformiwyd Samson Handel gan gor yr Eis- teddfod. DYDD MERCHER. Yn absenoldeb Argl. Penrhyn, cymerodd Mr W. H. Preece y gadair. Arweinid gan Gwynedd a Mabon. Goreu am y gadwyn o englynion i'r "Nod Cyfrin gwobr 3p, Mr R. Jones (Meigant), Caer- narfon. Am y rhangan oreu ar eiriau Long ellcw, Daybreak,' dyfarnwyd y wobr (5 gini) i Mr D. D. Parry, Llanrwst. Unawd bariton, Ah, what a day is this gwobr 2p 2s goreu, Mr Ivor Foster, Dyffryn Rhondda. Cystadleuaeth Corau Merched. Ymgeisiodd corau Maesteg, Porthaethwy, Caergybi, gwent, Lerpwl, Rhyl, Birkenhead, a Gwalia. Dy- tarnwyd y brit wobr i gor Birkentieaa, tan arwein- iad Miss Maggie Evans, a'r ail i gor Rhyl. Arwrgerdd, 'Arglwydd Tennyson,' gwobr, 20p a choron, deg o ymgeiswyr buddugol, Parch Ben Davies, Pant-teg, Y stèllyfera. Yn yr ail gystadleuaeth gorawl, gwobr 50p, a medal arian i'r arweinydd, gyda gw rth 2pogerdd oriaeth, y cor buddugol ydoedd yr Holyhead Har- monic Society (arweinydd, Mr W. S. Owen).

-(\-Yr Ymweliad Brenhinol.

PWLPUDAU CYMREIG, Gorphenaf…

Advertising

Family Notices

YR EISTEDDFOD CENEDLAETHOL…